Yr MBA Gymreig
Gofynnwch
i
rywun
beth
mae’r
talfyriad
MBA
yn
golygu
a
bydden
nhw’n
eich
ateb
gyda
‘Master
of
Business
Administration’
ac
mae’n
hollol
gywir.
Dyna
yw’r
prif
gymhwyster
yn
y
byd
busnes
mawr
ac
mae’n
gymhwyster sydd yn agor drysau, drysau sydd ar gau i ni, y bobl gyffredin.
Ond
os
dw
i’n
dweud
wrthoch
chi
bod
gan
bob
un
ohonon
ni
sydd
yn
siarad
Cymraeg
MBA
hefyd
ond
i
ni
mae’r
talfyriad
yn
golygu
‘Mantais
Busnes
Arbennig’
(USP,
Unique
Selling
Point
yn
Saesneg)
ac
os
yw’r
rhai
ohonon
ni
sydd
yn
rhedeg
busnes
yn
defnyddio
ein
MBA
bydden
ni’n
gallu
llwyddo
lle
mae’r
lleill
heb
yr MBA yn methu.
Yn
y
byd
Seisnig
mae
pawb
yn
chwilio
am
ei
USP
(Unique
Selling
Point)
ac
os
ydyn
nhw’n
llwyddo
i
greu
un
wrth
gael
peiriant
neu
wasanaeth
newydd
maen
nhw
ar
y
blaen,
am
ychydig
o
amser.
Wedyn
mae’r
gystadleuaeth
yn
gorfod
dal
i
fyny
gyda
nhw
a
pan
maen
nhw’n
dal
i
fyny
maen
nhw’n
gyfartal
unwaith
eto.
Mae’r
USP
yn
bwysig
iawn
ond,
mewn
amser
mae’r
gystadleuaeth
yn
dal
i
fyny
achos,
yn
syml,
dim
ond
buddsoddi
yn
yr
un
peiriannau
neu
newid
y
ffordd
o
wasanaethu
sydd
rhaid.
Iawn,
dw
i’n
gwybod
bod
hynny yn gwneud pethau yn swnio’n syml iawn ond gobeithio eich bod chi’n gweld y pwynt
Dwedwch
fod
ni’n
rhedeg
gwesty
neu
fusnes
gwely
a
brecwast,
os
dyn
ni’n
gall
mi
fydden
ni’n
ddechrau’r
proses
o
chwilio
am
ein
MBA.
Mae'n
rhaid
i
ni
feddwl
os
oes
anghenion
arbennig
gan
ganran
fawr
ohonyn
nhw
sydd
yn
ymweld
â’n
gwlad.
Beth
am
y
Cymry
Cymraeg?
Allwn
ni
gynnig
gwasanaeth
arbennig
iddyn
nhw,
gwasanaeth
sydd
yn
brin
iawn,
gwasanaeth
trwy
gyfrwng
yr
iaith
Gymraeg.
Mae
hynny’n
MBA
ac
yn
fwy
pwysig
dydy
o
ddim
yn
dibynnu
ar
rywbeth
allech
chi
brynu,
maen
rhan
o’n
sgiliau
arbennig
ni.
Does
neb
yn
gallu
dwyn
y
fantais
hynny
oddi
wrthon
ni
heb
iddyn
nhw
fynd
trwy’r
proses
o
ddysgu’r
iaith
a
chynnig
gwasanaeth
Gymraeg.
Wrth
wneud
hynny
mi
fydden
nhw’n
cyfrannu
at
wneud
yr
iaith yn gryfach ac mae’r iaith yn ennill.
Mae
llawer
o’r
Cymry
wedi
symud
allan
o
Gymru
a
phob
tro
maen
nhw’n
dod
yn
ôl
ar
wyliau
maen
nhw’n
teimlo
mwy
a
mwy
fel
dieithriaid.
Petaswn
ni’n
gallu
creu
sefyllfa
lle
maen
nhw’n
teimlo’n
fwy
cartrefol yma tybed fydden nhw’n teimlo fel symud yn ôl wrth iddyn nhw ymddeol.
Cryfhau’r
iaith
yng
Nghymru
a
chael
mwy
o’r
Cymry
Cymraeg
i
symud
yn
ôl
-
bydd
hynny
yn
gwneud
gwahaniaeth ar yr ochr orau.
Felly
os
dach
chi’n
rhedeg
gwesty
neu
le
gwely
a
brecwast
ac
yn
gallu
cynnig
gwasanaeth
Cymraeg,
dwedwch hynny ar eich gwefan - efallai bod rhywun yn chwilio amdanoch chi!
Ac anfonwch eich manylion i mi er mwyn i mi eich cynnwys ar y rhestr!