Gydangilydd.cymru

Ein cymunedau yn newid

“Maen nhw wedi symud i mewn a does dim ots ganddyn nhw am ein hen ffordd Gymreig o fyw, mae’n cymdeithas ni yn newid yn llwyr!” Efallai'r rheswm nad ydyn nhw’n poeni am ein ffordd o fyw yw dydyn nhw ddim yn gwybod dim byd amdano, dydy o ddim fel eu bod nhw wedi symud i rywle tu allan i’r Deyrnas Unedig. Tybed beth fydd yn digwydd petasem ni’n cael dathliad o’n Cymreictod yn ein hardaloedd yn flynyddol, a gwneud hynny mewn ffordd y bydd pawb yn gallu mwynhau. Rhywbeth fel cyngerdd, ‘does dim byd fel cerddoriaeth i gael pawb at ei gilydd. Os yw’r gerddoriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg fel bod pawb yn gallu canu gyda’r côr ar adegau a’r cyflwyniad yn ddwyieithog hefyd mi fydd rywbeth o’r fath yn creu cyfleoedd gwych i gael cymunedau wrth ei gilydd ac yn creu’r syniad bod yr iaith Gymraeg yn perthyn iddyn nhw hefyd. Efallai bydd rhai ohonyn nhw yn awyddus i ymuno a’r côr, os ydy’r côr yn brin o aelodau. Mae llawer o bethau gwirion yn cael eu dweud yn y papurau cenedlaethol sydd yn tanseilio sefyllfa’r iaith ac mae hynny’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus yn aml. Wrth gael y neges i fewnfudwyr eu bod nhw yn gallu cael mwynhad allan o’r iaith hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu ei siarad mi fydda ni yn creu llais cryfach yn erbyn ei gelynion. Mi fydd hynny yn gam fawr i’r cyfeiriad iawn. Gwneud y mewnfudwyr yn gartrefol yw’r unig ffordd ymlaen - maen nhw wedi dewis dod yma i aros, mae’n syniad da i gael nhw i deimlo bod croeso iddyn nhw yma. Wrth gyflwyno’r iaith iddyn nhw mewn ffordd bleserus maen debyg bydd llawer ohonyn nhw’n meddwl am ddysgu’r iaith. Does dim byd i’w golli!

Ein cymunedau yn newid

“Maen nhw wedi symud i mewn a does dim ots ganddyn nhw am ein hen ffordd Gymreig o fyw, mae’n cymdeithas ni yn newid yn llwyr!” Efallai'r rheswm nad ydyn nhw’n poeni am ein ffordd o fyw yw dydyn nhw ddim yn gwybod dim byd amdano, dydy o ddim fel eu bod nhw wedi symud i rywle tu allan i’r Deyrnas Unedig. Tybed beth fydd yn digwydd petasem ni’n cael dathliad o’n Cymreictod yn ein hardaloedd yn flynyddol, a gwneud hynny mewn ffordd y bydd pawb yn gallu mwynhau. Rhywbeth fel cyngerdd, ‘does dim byd fel cerddoriaeth i gael pawb at ei gilydd. Os yw’r gerddoriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg fel bod pawb yn gallu canu gyda’r côr ar adegau a’r cyflwyniad yn ddwyieithog hefyd mi fydd rywbeth o’r fath yn creu cyfleoedd gwych i gael cymunedau wrth ei gilydd ac yn creu’r syniad bod yr iaith Gymraeg yn perthyn iddyn nhw hefyd. Efallai bydd rhai ohonyn nhw yn awyddus i ymuno a’r côr, os ydy’r côr yn brin o aelodau. Mae llawer o bethau gwirion yn cael eu dweud yn y papurau cenedlaethol sydd yn tanseilio sefyllfa’r iaith ac mae hynny’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus yn aml. Wrth gael y neges i fewnfudwyr eu bod nhw yn gallu cael mwynhad allan o’r iaith hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu ei siarad mi fydda ni yn creu llais cryfach yn erbyn ei gelynion. Mi fydd hynny yn gam fawr i’r cyfeiriad iawn. Gwneud y mewnfudwyr yn gartrefol yw’r unig ffordd ymlaen - maen nhw wedi dewis dod yma i aros, mae’n syniad da i gael nhw i deimlo bod croeso iddyn nhw yma. Wrth gyflwyno’r
Gydangilydd.cymru