Dolennau Cyswllt
Grwpiau Cerdded
Cymdeithas Edward Llwyd
Rhaglenni’r teithiau
Mwynhewch ein cefn gwlad, a gweld ein byd natur, gwnewch ffrindiau newydd a mwynhewch hyn i gyd yn
yr iaith Gymraeg. Meddyliwch, mae fel cael Sadwrn Siarad pob dydd Sadwrn mewn llefydd prydferth dros
ben. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i weld beth sydd ar gael.
Gogledd orllewin http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-gogledd-orllewin/
Gogledd dwyrain http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-gogledd-ddwyrain/
Y De a’r Canolbarth http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-de/
Clwb Mynydda Cymru
http://www.clwbmynyddacymru.com/Rhaglen.htm
Grwpiau Dysgu
Mae grwpiau cryf a brwdfrydig ochr arall i’r ffin
Derby Welsh Learners Circle
http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/
Welsh Club Preston
https://welshclubpreston.org/
Cyrsiau Cymraeg
Say Something in Welsh
https://www.saysomethingin.com/welsh/landing
A group of us were speaking to Welsh learners recently in order to help them practice. I spoke to one who
seemed very confident and had a good vocabulary. I asked him how long he had been learning and he said
“Since last September.” which meant he had only been learning for six months. He learnt his Welsh from
this site, although he had had a great deal of support from fellow workers at the DVLA. So if you really want
to learn Welsh at your own pace, in your own home, give it a try, keep at it and enjoy.
Yn ddiweddar roedd grŵp ohonon ni yn siarad efo dysgwyr er mwyn rhoi dipyn o ymarfer iddyn nhw. Mi wnes i
siarad ag un a oedd yn dangos hyder ac efo geirfa dda. Gofynnais iddo ers pryd oedd o wedi bod yn dysgu “Ers
mis Medi” medda fo, hynny yw dim ond chwe mis. Mi wnaeth o ddysgu trwy'r wefan yma, er cafodd o lawer o
gefnogaeth gan ei gydweithwyr yn y DVLA. Felly os dach chi wir am ddysgu Cymraeg adref ac yn eich amser eich
hun, ewch amdani, cadwch ati a mwynhewch.
Adnoddau i Ddysgwyr
Pan o’n i’n byw yn Lloegr ac eisiau cael fy Nghymraeg yn ôl roedd rhaid i mi ddibynnu ar ddarllen llyfrau i blant yn
eu harddegau a gwrando ar Radio Cymru. Fy mhroblem oedd doeddwn i ddim yn deall hanner o beth oeddwn i’n
darllen a llai byth o beth oeddwn i’n clywed ar Radio Cymru. Gan oeddwn i wir yn desprêt i gael fy Nghymraeg yn
ôl mi nes i ddal ati, recordio rhaglenni ar dâp a chwarae’r tâp pob tro o’n i yn y car. Credwch fi roedd hi’n beth
anodd i wneud. Maen nhw’n dweud os dach chi eisiau dysgu Ffrangeg yn gyflym mai’r ffordd gorau i’w wneud yw
byw yn Ffrainc am gyfnod a thrwytho’ch hyn yn yr iaith. Pam na allech chi wneud hynny yng Nghymru? Achos yr
iaith Saesneg dach chi’n clywed trwy’r amser. Beth yw’r ateb? Creu eich awyrgylch Cymraeg eich hunain wrth gwrs.
Dyddiau yma mae gan bron pawb ffon symudol sydd fel cyfrifiadur bach twt a gallech chi ddefnyddio clustffonau
er mwyn creu byd bach preifat. Er mwyn llenwi eich byd newydd efo’r iaith Gymraeg ewch i
https://www.bbc.co.uk/programmes/p02nrvyj/episodes/downloads
Ewch yna rŵan a byddech chi’n gweld faint o adnoddau gwerthfawr sydd ar gael i chi yn rhad ac am ddim!
Ydych chi’n ysu am ysgrifennu rywbeth?
Dach chi’n poeni am sillafu, treigladau a phroblemau fel a yw’r gair yna yn fenywaidd neu yn wrywaidd? A ydy
hynny yn gwneud i chi ail feddwl am ysgrifennu hanes eich bywyd? Mae help ar gael. Mae Canolfan Bedwyr ym
Mhrifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen o’r enw Cysill Ar-lein. Ewch at y wefan a gwnewch ‘cut and paste’ o beth
dach chi wedi ysgrifennu a bydd Cysill yn eich helpu.
https://www.cysgliad.com/cysill/arlein/Default.aspx
Dolennau Cyswllt
Grwpiau Cerdded
Cymdeithas Edward Llwyd
Rhaglenni’r teithiau
Mwynhewch ein cefn gwlad, a gweld ein byd natur,
gwnewch ffrindiau newydd a mwynhewch hyn i gyd yn yr
iaith Gymraeg
Gogledd orllewin
http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-
gogledd-orllewin/
Gogledd dwyrain
http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-
gogledd-ddwyrain/
Y De a’r Canolbarth
http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-
de/
Clwb Mynydda Cymru
http://www.clwbmynyddacymru.com/Rhaglen.htm
Grwpiau Dysgu
Mae grwpiau cryf a brwdfrydig ochr arall i’r ffin
Derby Welsh Learners Circle
http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/
Welsh Club Preston
https://welshclubpreston.org/
Cyrsiau Cymraeg
Say Something in Welsh
https://www.saysomethingin.com/welsh/landing
A group of us were speaking to Welsh learners recently in
order to help them practice. I spoke to one who seemed
very confident and had a good vocabulary. I asked him
how long he had been learning and he said “Since last
September.” which meant he had only been learning for
six months. He learnt his Welsh from this site, although
he had had a great deal of support from fellow workers
at the DVLA. So if you really want to learn Welsh at your
own pace, in your own home, give it a try, keep at it and
enjoy.
Yn ddiweddar roedd grŵp ohonon ni yn siarad efo dysgwyr
er mwyn rhoi dipyn o ymarfer iddyn nhw. Mi wnes i siarad
ag un a oedd yn dangos hyder ac efo geirfa dda. Gofynnais
iddo ers pryd oedd o wedi bod yn dysgu “Ers mis Medi”
medda fo, hynny yw dim ond chwe mis. Mi wnaeth o ddysgu
trwy'r wefan yma, er cafodd o lawer o gefnogaeth gan ei
gydweithwyr yn y DVLA. Felly os dach chi wir am ddysgu
Cymraeg adref ac yn eich amser eich hun, ewch amdani,
cadwch ati a mwynhewch.