Gydangilydd.cymru
Fy enw i ydy Rob Evans, mi ges i fy ngeni yn Llanallgo ger Moelfre ar Ynys Môn felly Cymraeg yw fy iaith gyntaf. Roedden ni’n byw mewn rheithordy mawr ac yn yr ardd o flaen y roedd hen ganon o longddrylliad y Royal Charter. Ar noson Guto Ffowc roedden ni’n llenwi’r faril efo Vesuvius fountains a mathau eraill o dân gwyllt a chael ein mesmereiddio gan y lliwiau yn llifo allan. Ffordd dda i fwydo dychymyg ifanc. Symudon ni i Saundersfoot yn ne sir Benfro pan o’n i’n 10 mlwydd oed a gan fod yr ardal yna yn hollol Seisnig wnaeth fy Nghymraeg ddechrau rhydu. Mynd i’r ysgol ramadeg yn Ninbych y Pysgod ond doeddwn i ddim yn rhy hoff o astudio felly wnes i adael pan o’n i’n 16 i weithio ym manc y National Provincial ond ar ôl 3 mlynedd symudais i Birmingham i weithio fel archwilydd yn y Trysordy ond yn diflasu ar ôl 3 mlynedd gan holl arafwch y lle. Mynd i weithio yn Austin Morris yn Longbridge wedyn ond doedd pethau ddim llawer gwell yna chwaith. Blwyddyn fel cyfrifydd gyda gwerthwyr tai yn Kidderminster, naw mis gyda chyfrifydd siartredig cyn dechrau fy musnes fy hun fel argraffwr a rhedeg y cwmni tan i mi ymddeol 32 o flynyddoedd wedyn. Rhywbryd pan o’n i yn fy 30au dechreuais i boeni am fy Nghymraeg rhydlyd ond mi wnes i ei hailddysgu wrth ddarllen llyfrau Cymraeg i blant a hefyd gwrando’n astud ar Radio Cymru. Pan o’n i
wedi dysgu digon fel ‘na wnes i ymuno a chwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol yng Nghanolfan Iaith Gregynog yng nghanolbarth Cymru. Wedyn nes i fwynhau gweithio fel tiwtor dosbarth nos yn Llanandras, Weobley a Llandrindod. Roeddwn i’n gwneud llawer o waith gyda dysgwyr, trefnu teithiau cerdded a chyhoeddi cylchgrawn misol o’r enw ‘Y Wennol’. Yn y pendraw mi wnes i ymddeol a symud yn ôl i Gymru a gan fy mod i’n hoff iawn o gerdded nes i ddechrau tynnu lluniau. Treuliais lawer o amser yn yr Alban cyn sylweddoli bod pawb yn mynd yno i dynnu lluniau ac yn anwybyddu Cymru felly cyfunais fy hun i dynnu lluniau yng Nghymru yn unig. Yma yn Abertawe mae llawer o lefydd hyfryd sydd yn hawdd eu cyrraedd, ar yr un ochr mae Penrhyn Gwyr a’r ochr arall mae ardal y rhaeadrau ym mhen pellaf Cwm Nedd. Bannau Brycheiniog wedyn a sir Benfro dim ond awr i ffwrdd. Erbyn hyn mae gen i gamperfan ac mae hi’n braf iawn teithio o gwmpas Cymru i fwynhau harddwch y wlad gorau yn y byd! Gobeithio y cewch chi werth allan o’r wefan yma. Rob Evans.
Amdanaf
i gysylltu, fy nghyfeiriad e-bost yw bobwennol@ntlworld.com
Fy enw i ydy Rob Evans, mi ges i fy ngeni yn Llanallgo ger Moelfre ar Ynys Môn felly Cymraeg yw fy iaith gyntaf. Roedden ni’n byw mewn rheithordy mawr ac yn yr ardd o flaen y roedd hen ganon o longddrylliad y Royal Charter. Ar noson Guto Ffowc roedden ni’n llenwi’r faril efo Vesuvius fountains a mathau eraill o dân gwyllt a chael ein mesmereiddio gan y lliwiau yn llifo allan. Ffordd dda i fwydo dychymyg ifanc. Symudon ni i Saundersfoot yn ne sir Benfro pan o’n i’n 10 mlwydd oed a gan fod yr ardal yna yn hollol Seisnig wnaeth fy Nghymraeg ddechrau rhydu. Mynd i’r ysgol ramadeg yn Ninbych y Pysgod ond doeddwn i ddim yn rhy hoff o astudio felly wnes i adael pan o’n i’n 16 i weithio ym manc y National Provincial ond ar ôl 3 mlynedd symudais i Birmingham i weithio fel archwilydd yn y Trysordy ond yn diflasu ar ôl 3 mlynedd gan holl arafwch y lle. Mynd i weithio yn Austin Morris yn Longbridge wedyn ond doedd pethau ddim llawer gwell yna chwaith. Blwyddyn fel cyfrifydd gyda gwerthwyr tai yn Kidderminster, naw mis gyda chyfrifydd siartredig cyn dechrau fy musnes fy hun fel argraffwr a rhedeg y cwmni tan i mi ymddeol 32 o flynyddoedd wedyn. Rhywbryd pan o’n i yn fy 30au dechreuais i boeni am fy Nghymraeg rhydlyd ond mi wnes i ei hailddysgu wrth ddarllen llyfrau Cymraeg i blant a hefyd gwrando’n astud ar Radio Cymru. Pan o’n i wedi dysgu digon fel ‘na wnes i ymuno a chwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol yng Nghanolfan Iaith Gregynog yng nghanolbarth Cymru. Wedyn nes i fwynhau gweithio fel tiwtor dosbarth nos yn Llanandras, Weobley a Llandrindod. Roeddwn i’n gwneud llawer o waith gyda dysgwyr, trefnu teithiau cerdded a chyhoeddi cylchgrawn misol o’r enw ‘Y Wennol’. Yn y pendraw mi wnes i ymddeol a symud yn ôl i Gymru a gan fy mod i’n hoff iawn o gerdded nes i ddechrau tynnu lluniau. Treuliais lawer o amser yn yr Alban cyn sylweddoli bod pawb yn mynd yno i dynnu lluniau ac yn anwybyddu Cymru felly cyfunais fy hun i dynnu lluniau yng Nghymru yn unig. Yma yn Abertawe mae llawer o lefydd hyfryd sydd yn hawdd eu cyrraedd, ar yr un ochr mae Penrhyn Gwyr a’r ochr arall mae ardal y rhaeadrau ym mhen pellaf Cwm Nedd. Bannau Brycheiniog wedyn a sir Benfro dim ond awr i ffwrdd. Erbyn hyn mae gen i gamperfan ac mae hi’n braf iawn teithio o gwmpas Cymru i fwynhau harddwch y wlad gorau yn y byd! Gobeithio y cewch chi werth allan o’r wefan yma. Rob Evans.
Amdanaf
i gysylltu, fy nghyfeiriad e-bost yw bobwennol@ntlworld.com
Gydangilydd.cymru