Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Ystradowen – Dathlu’r 40 Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ar   y   14eg   o   Orffennaf   2018   mi   wnaeth   llond   maes   parcio   o   Gymry   brwd   gasglu   ger   parc   Ystradowen   er mwyn   ail   gerdded   taith   gyntaf   Cymdeithas   Edward   Llwyd   40   mlynedd   yn   ôl.   Yn   ein   plith   oedd   Alun   Wyn Bevan      a   Ceri   Thomas   (ysgrifennydd   aelodaeth   a   thrysorydd   cyntaf   Y   Gymdeithas).   Braf   iawn   eu   gweld achos   roedden   nhw   ar   y   daith   gyntaf.   Mae’n   siŵr   roedd   eu   calonnau   nhw   yn   llawn   balchder   bod   y   daith syml,   ddiymhongar   hwnnw   wedi   datblygu   i   fod   yn   fudiad   mor   fawr   a   phwysig   i’n   cenedl.   Roedden   ni’n   falch iawn   i   groesawu   Iona,   Cadeiryddes   y   Gymdeithas   a’i   ffrind   Mair   a   oedd   wedi   dod   yr   holl   ffordd   o   Lanrwst   i fod   efo   ni.   Roedd   rhaid   tynnu   llun   wrth   gwrs,   ond   sut   i   gael   pawb   i   mewn,   diolch   byth   nid   fi   cafodd   y cyfrifoldeb! Ffwrdd   a   ni   i   lawr   ffordd   gul   at   bont   dros   yr   afon   Twrch   a   chasglu   yng   ngheg   llwybr   yr   hen   reilffordd   a   oedd yn   dilyn   yr   afon.   Dyma   le   cawsom   dipyn   o   wybodaeth   oddi   wrth   Liz.   Doth   fan   mawr   Yodel   i   stop   wrth   ein hochr   a   gofynnodd   y   gyrrwr   os   allwn   ni   symud   er   mwyn   iddo   fynd   heibio.   Mi   wnaeth   rywun   ddweud   wrtho yn   reit   barchus   y   bydd   o’n   cael   gwell   hwyl   tasa   fo’n   mynd   i   fyny   ‘r   ffordd.   Wel,   “If   you   can   help   somebody   ....” ynte! Cyn   bo   hir   cyrhaeddom   ni   llecyn   agored   ar   lan   yr   afon   ac   roedd   gen   i   syniad   reit   gryf   o   ‘deja   vu’,   methu   deall. Wedyn   sylweddolais   fod   i   wedi   gwneud   y   daith   o’r   blaen   ond   wedi   dechrau   o   Gwm   Twrch.   O   leiaf   y   tro   yma fydda i’n annhebygol o fynd ar goll! Cyrraedd   pont   dros   yr   afon   ac   Arwel   Michael   yn   esbonio   pam   nad   oedd   y   bont   a   thrac   y   rheilffordd   yn   fwy syth.   Os   oedd   trên   yn   cyrraedd   y   bont   yn   rhy   gyflym   ac   allan   o   reolaeth   mi   fydd   y   wagenni   yn   diweddaru   yn yr   afon   yn   hytrach   na   dinistrio’r   bont.   Llawer   rhatach   i   gael   y   wagenni   allan   o’r   afon   na   rhoi   stop   i’r   gwaith tra oedd pont arall yn cael ei adeiladu! Call ynte! A   dyma   ni   wedyn   wedi   cyrraedd   gweddillion   y   gweithle,   odyn   calch   sylweddol   a   simdde   dal,   un   o’r   ddau oedd   ar   y   safle   yn   wreiddiol.   Mae’n   bwysig   bod   olion   ein   hen   ddiwydiannau   yn   aros   neu   bydd   ein   hanes   yn atgof.   Roedd   hysbysfwrdd   yn   dangos   llun   o   sut   oedd   pethau.   Lle   prysur   dros   ben   ond   erbyn   hyn   yn   llecyn tawel a dim ond yr afon, adar ac ambell i ddafad i dorri’r distawrwydd. Braf iawn. Ond does dim amser i aros fan hyn mae yna daith i gwblhau felly dewch hogiau a gennod, ymlaen a ni! Heibio   adfeilion   hen   fferm   Cyllie   a   thipyn   o   ddringo   tan   i   ni   gyrraedd   trac   yn   mynd   i’r   dde.   Dyma   le   oedd siawns   i   rai   cwtogi’r   daith   a   throi   am   adref   ac   ar   ôl   dweud   ein   ffárweliau   ac   edrych   ymlaen   at   eu   gweld   nhw eto   yn   y   dyfodol   aethon   ni   ymlaen   i   ddilyn   yr   afon   unwaith   eto.   Er   roedden   ni’n   agos   iawn   at   yr   afon   roedd yr   afon   yn   bell   i   ffwrdd,   roedden   ni’n   cerdded   wrth   ochr   y   ceunant   a’r   afon   yn   bell   oddi   tannom   yn   cuddio   yn y   coed.   Ar   lwybr   cul   roedd   rhaid   i   ni   gerdded   un   ar   ôl   y   llall,   ac   roedden   ni   mewn   byd   hollol   wahanol   i’r   byd dydd Llun i ddydd Gwener arferol. Roedd pob cornel yn arwain at olygfa eang a newydd. Dim   ond   canran   bach   iawn   o’r   boblogaeth   sydd   yn   cael   y   fraint   i   flasu’r   fath   deimlad,   am   hynny   mae   diolch i’r grŵp bychan a wnaeth gerdded yr un llwybr 40 mlynedd yn ôl!. Mae’r   afon   yn   fwy   gweladwy   erbyn   hyn   a   hen   gorlannau   i’w   gweld   yn   bell   islaw   ar   ochr   yr   afon   a   hen   fferm Dorwen i’w weld yn y pellter. Ond   erbyn   hyn   mae   pobl   yn   dechrau   meddwl   am   eu   cinio   a   dyma   ni   yn   anelu   at   ben   Derlwyn   Isaf.   Mae cymylau   gwyn   wlân   cotwm   wedi   datblygu   yn   yr   awyr   i   roi   cysgod   croesawgar   i   ni   pob   hyn   a   hyn.   Mor   braf oedd   ymlacio   a   gweld   tirlyn   Cymru   o’n   cwmpas   ond   mae   amser   yn   tueddu   carlamu   ymlaen   heb   i   rywun sylweddoli.   Mi   wnaeth   Eirian   benderfynu   o   achos   y   diffyg   amser   a’r   gwres   troi   yn   ôl   am   Ystradowen.   Dyma ni   yn   dilyn   ffordd   yr   hen   dramffordd   trwy   erwau   o   blu’r   gweinydd   i   gyrraedd   y   lôn   garw   uwchben   y   gwaith galch.   Mewn   dim   o   amser   roedden   ni’n   ôl   wrth   y   ceir,   pawb   llawn   balchder   o   orffen   y   daith   bwysig   yma.   Cyn y   diolchiadau   arferol   a   chawn   ni   roi   diolch   mawr   i   Dafydd   Dafis   a’r   teithwyr   cyntaf   a   wnaeth   y   daith   yna   40 mlynedd    yn    ôl.    Hebddyn    nhw    bydd    ein    hiaith    yn    wannach    a’n    Sadyrnau    yn    llawer    llai    pleserus    a chymdeithasol. Diolch   i   Eirian   am   yr   holl   waith   paratoi   ac   am   rannu   ei   wybodaeth   am   yr   ardal   yma   sydd   mor   agos   at   ei galon.
Geirfa Balchder - pride Diymhongar - humble Llecyn - a spot, place Annhebygol - unlikely Gweddillion - remains Gweithle - site (working site) Odyn calch - lime kiln Simdde dal - tall chimney Diwydiant - Industry Hysbysfwrdd - information board Adfeilion - remains Cwtogi - to cut, shorten Ceunant - ravine, gorge Oddi tannom - below us Canran bach - a small percentage Gweladwy - visible Corlan (nau) - sheep fold(s) Gwlân cotwm - cotton wool Tramffordd - tramway Erwau - acres Plu’r gweinydd - cotton grass Lon garw - rough lane Gwaith galch - limeworks
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Ystradowen – Dathlu’r 40 Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ar   y   14eg   o   Orffennaf   2018   mi   wnaeth   llond   maes   parcio o   Gymry   brwd   gasglu   ger   parc   Ystradowen   er   mwyn   ail gerdded     taith     gyntaf     Cymdeithas     Edward     Llwyd     40 mlynedd   yn   ôl.   Yn   ein   plith   oedd   Alun   Wyn   Bevan      a   Ceri Thomas   (ysgrifennydd   aelodaeth   a   thrysorydd   cyntaf   Y Gymdeithas).   Braf   iawn   eu   gweld   achos   roedden   nhw   ar   y daith   gyntaf.   Mae’n   siŵr   roedd   eu   calonnau   nhw   yn   llawn balchder   bod   y   daith   syml,   ddiymhongar   hwnnw   wedi datblygu   i   fod   yn   fudiad   mor   fawr   a   phwysig   i’n   cenedl. Roedden   ni’n   falch   iawn   i   groesawu   Iona,   Cadeiryddes   y Gymdeithas   a’i   ffrind   Mair   a   oedd   wedi   dod   yr   holl   ffordd o   Lanrwst   i   fod   efo   ni.   Roedd   rhaid   tynnu   llun   wrth   gwrs, ond   sut   i   gael   pawb   i   mewn,   diolch   byth   nid   fi   cafodd   y cyfrifoldeb! Ffwrdd   a   ni   i   lawr   ffordd   gul   at   bont   dros   yr   afon   Twrch   a chasglu    yng    ngheg    llwybr    yr    hen    reilffordd    a    oedd    yn dilyn   yr   afon.   Dyma   le   cawsom   dipyn   o   wybodaeth   oddi wrth   Liz.   Doth   fan   mawr   Yodel   i   stop   wrth   ein   hochr   a gofynnodd   y   gyrrwr   os   allwn   ni   symud   er   mwyn   iddo   fynd heibio.   Mi   wnaeth   rywun   ddweud   wrtho   yn   reit   barchus   y bydd   o’n   cael   gwell   hwyl   tasa   fo’n   mynd   i   fyny   ‘r   ffordd. Wel, “If you can help somebody ....” ynte! Cyn   bo   hir   cyrhaeddom   ni   llecyn   agored   ar   lan   yr   afon   ac roedd    gen    i    syniad    reit    gryf    o    ‘deja    vu’,    methu    deall. Wedyn   sylweddolais   fod   i   wedi   gwneud   y   daith   o’r   blaen ond   wedi   dechrau   o   Gwm   Twrch.   O   leiaf   y   tro   yma   fydda i’n annhebygol o fynd ar goll! Cyrraedd   pont   dros   yr   afon   ac   Arwel   Michael   yn   esbonio pam   nad   oedd   y   bont   a   thrac   y   rheilffordd   yn   fwy   syth. Os   oedd   trên   yn   cyrraedd   y   bont   yn   rhy   gyflym   ac   allan   o reolaeth   mi   fydd   y   wagenni   yn   diweddaru   yn   yr   afon   yn hytrach    na    dinistrio’r    bont.    Llawer    rhatach    i    gael    y wagenni   allan   o’r   afon   na   rhoi   stop   i’r   gwaith   tra   oedd pont arall yn cael ei adeiladu! Call ynte! A   dyma   ni   wedyn   wedi   cyrraedd   gweddillion   y   gweithle, odyn   calch   sylweddol   a   simdde   dal,   un   o’r   ddau   oedd   ar   y safle    yn    wreiddiol.    Mae’n    bwysig    bod    olion    ein    hen ddiwydiannau    yn    aros    neu    bydd    ein    hanes    yn    atgof. Roedd   hysbysfwrdd   yn   dangos   llun   o   sut   oedd   pethau. Lle   prysur   dros   ben   ond   erbyn   hyn   yn   llecyn   tawel   a   dim ond     yr     afon,     adar     ac     ambell     i     ddafad     i     dorri’r distawrwydd. Braf iawn. Ond    does    dim    amser    i    aros    fan    hyn    mae    yna    daith    i gwblhau felly dewch hogiau a gennod, ymlaen a ni! Heibio   adfeilion   hen   fferm   Cyllie   a   thipyn   o   ddringo   tan   i ni   gyrraedd   trac   yn   mynd   i’r   dde.   Dyma   le   oedd   siawns   i rai   cwtogi’r   daith   a   throi   am   adref   ac   ar   ôl   dweud   ein ffárweliau   ac   edrych   ymlaen   at   eu   gweld   nhw   eto   yn   y dyfodol   aethon   ni   ymlaen   i   ddilyn   yr   afon   unwaith   eto.   Er roedden   ni’n   agos   iawn   at   yr   afon   roedd   yr   afon   yn   bell   i ffwrdd,    roedden    ni’n    cerdded    wrth    ochr    y    ceunant    a’r afon   yn   bell   oddi   tannom   yn   cuddio   yn   y   coed.   Ar   lwybr cul   roedd   rhaid   i   ni   gerdded   un   ar   ôl   y   llall,   ac   roedden   ni mewn    byd    hollol    wahanol    i’r    byd    dydd    Llun    i    ddydd Gwener   arferol.   Roedd   pob   cornel   yn   arwain   at   olygfa eang a newydd. Dim   ond   canran   bach   iawn   o’r   boblogaeth   sydd   yn   cael   y fraint   i   flasu’r   fath   deimlad,   am   hynny   mae   diolch   i’r   grŵp bychan   a   wnaeth   gerdded   yr   un   llwybrau   40   mlynedd   yn ôl!. Mae’r   afon   yn   fwy   gweladwy   erbyn   hyn   a   hen   gorlannau i’w    gweld    yn    bell    islaw    ar    ochr    yr    afon    a    hen    fferm Dorwen i’w weld yn y pellter. Ond   erbyn   hyn   mae   pobl   yn   dechrau   meddwl   am   eu   cinio a   dyma   ni   yn   anelu   at   ben   Derlwyn   Isaf,   erbyn   hyn   roedd cymylau   gwyn   wlân   cotwm   yn   yr   awyr   yn   rhoi   cysgod croesawgar   i   ni   pob   hyn   a   hyn.   Roedd   yr   amser   wedi mynd   heibio   ac   mi   wnaeth   Eirian   benderfynu   o   achos diffyg   amser   a’r   gwres   troi   yn   ôl   am   Ystradowen.   Dyma   ni yn    dilyn    ffordd    yr    hen    dramffordd    trwy    erwau    o    blu’r gweinydd   i   gyrraedd   y   lon   garw   uwchben   y   gwaith   galch. Mewn   dim   o   amser   roedden   ni’n   ôl   wrth   y   ceir,   pawb llawn    balchder    o    orffen    y    daith    bwysig    yma.    Cyn    y diolchiadau   arferol   a   chawn   ni   roi   diolch   mawr   i   Dafydd Dafis   a’r   teithwyr   cyntaf   a   wnaeth   y   daith   yna   40   mlynedd yn    ôl.    Hebddyn    nhw    bydd    ein    hiaith    yn    wannach    a’n Sadyrnau yn llawer llai pleserus a chymdeithasol. Diolch   i   Eirian   am   yr   holl   waith   paratoi   ac   am   rannu   ei wybodaeth am yr ardal yma sydd mor agos at ei galon.
Geirfa Balchder - pride Diymhongar - humble Llecyn - a spot, place Annhebygol - unlikely Gweddillion - remains Gweithle - site (working site) Odyn calch - lime kiln Simdde dal - tall chimney Diwydiant - Industry Hysbysfwrdd - information board Adfeilion - remains Cwtogi - to cut, shorten Ceunant - ravine, gorge Oddi tannom - below us Canran bach - a small percentage Gweladwy - visible Corlan (nau) - sheep fold(s) Gwlân cotwm - cotton wool Tramffordd - tramway Erwau - acres Plu’r gweinydd - cotton grass Lon garw - rough lane Gwaith galch - limeworks