Gydangilydd.cymru
Ystradgynlais Yr wythnos yma doedd dim rhaid i mi godi’n gynnar achos mae Ystradgynlais bron ar stepen y drws. Fel llawer o bobl dw i wedi mynd heibio llawer gwaith ac mewn gormod o frys i gymryd y troad nesaf ar y gylchfan er mwyn gweld beth mae’r dref yn cynnig. Ar ddiwedd y daith cerddon ni’n ôl trwy ganol y dref a ches i fy synnu ar yr ochr orau. Ond peidiwch â chymryd y troad yna dim ond er mwyn mynd trwodd, bydd neb yn eich diolch chi am hynny. Ewch pan mae gennych chi amser i dreulio ac i werthfawrogi beth sydd ar gael. Y man cyfarfod oedd wrth yr hen waith haearn yn Ynysgedwyn ac roedd 26 neu mwy wedi troi i fyny yn cynnwys teulu’r arweinydd Arwel Michael. Cawsom dipyn o hanes y diwydiant haearn cyn i ni gychwyn a sut oedd George Crane a David Thomas yn y 19 ganrif wedi gwneud gwaith arloesol er mwyn cynhyrchu haearn wrth ddefnyddio anthracite. Ymlaen â ni wedyn ar lwybr wrth ochr yr afon Tawe ac at Barc y Diamond ble roedd cofeb i’r glowyr a wnaeth peryglu eu bywydau ac iechyd yn y diwydiant dros y blynyddoedd. O gwmpas y parc roedd byrddau gwybodaeth am yr holl byllau yn yr ardal. Unwaith eto, fel yn y Rhondda wythnos diwethaf mae popeth o’n cwmpas yn wyrdd ac yn daclus. Ymlaen o’r parc ac yn dringo bryn crwn, gweiriog roedd rhaid cael esboniad ein bod ni yn cerdded ar un o’r tipiau gwastraff. Roedd blodau gwyllt o’n cwmpas a’r gwenyn yn brysur yn casglu paill, roedd y lle wir yn hymian! Trwy gaeau a choed wedyn i gyrraedd yr hen reilffordd sydd bellach yn drac seiclo a gwneud nodyn yn fy mhen i’w ddilyn rywbryd. Erbyn hyn roedden ni’n edrych i lawr ar Ystradgynlais a chefn mawr Y Cribarth yn codi ar yr ochr draw, lwcus iawn bod ni’n cael diwrnod clir a braf. Anodd iawn dychmygu sut oedd pethau yn y gorffennol. Roedd yr amser yn mynd heibio a’r teimlad bydd brechdan, o unrhyw fath, yn cael croeso ond roedd cynnig Arwel ddim cweit yn siwtio - roedd y lle yn y cysgod ac mae pawb yn gwybod mai pobl yr haul ydym ni! Mae pob arweinydd da efo ‘plan B’ i fyny ei lewys a, chwarae teg mi wnaeth Arwel brofi heb amheuaeth ei fod o’n un o’r gorau. Roedd y lle, nid yn unig yn yr haul ond un efo golygfa wych hefyd. Disgyn trwy’r coed a, hyd y gwn i, neb wedi cofio eu cyfri. Peth da i ddweud y gwir achos bydd siŵr o fod anghytuno ar y nifer a hynny yn golygu bydd rhaid gwneud yr holl beth eto. Wrth ddod allan o’r coed roedd siafft awyr uchel ar ein chwith, un ysblennydd yn ei amser ond yr iorwg wedi dechrau ennill y frwydr erbyn hyn. Dod allan wrth ochr y ffordd fawr a gorfod croesi a mynd dros sticill ar yr ochr draw a chael teimlad cryf o deja vu. Mis Mehefin diwethaf roedd Mary a Garfield wedi ein harwain ar daith yn ardal Llangadog ac roedd rhaid i ni groesi ffordd brysur a mynd dros sticill. Dim byd yn od yn hynny ond ym mis Mehefin roedd rali yn mynd ymlaen ac roedd ceir Ferrari yn rhuo heibio, yr un peth y tro yma heblaw mai ceir Audi oedden nhw y tro yma Beth nesaf? Rŵan mae’r llwybr yn troelli i fyny trwy’r coed ac mae’n serth ofnadwy ond pawb yn cyrraedd y diwedd yn ddiogel. Roedd un yn y pellter ac roeddwn i’n dechrau meddwl ei fod mewn lle diarffordd ond wedyn, wrth i ni nesáu roedd mwy o dai yn dod i’r golwg. Roedden ni'n anelu at ben pellaf Cwmgïedd ac mewn dim o amser roedden ni’n syllu ar fan geni Arwel. Ond dim plac glas! Mae Cwmgïedd yn stribyn o bentref hardd, lle tawel, llawn heddwch ond ym mis Awst 1942 yng nghanol yr ail ryfel byd mi wnaeth ffilm, The Silent Village, gael ei greu, un oedd yn adlewyrchu beth ddigwyddodd i gymuned Lidice yn Tsiecoslofacia. Does dim digon o le yma i adrodd yr holl hanes ond yn fras cafodd Reinhard Heydrich, dyn uchel iawn yn yr SS, ei lofruddio ym mhentref Lidiceac fel cosb cafodd holl ddynion Lidice eu saethu a’r gwragedd a phlant cael eu danfon i’r gwersylloedd crynhoi. Am y wybodaeth lawn ewch at Y trosedd yn erbyn pobl Lidice – https://en.wikipedia.org/wiki/Lidice_massacre Reinhard Heydrich – https://en.wikipedia.org/wiki/Operation_Anthropoid Gweld y ffilm – https://www.youtube.com/watch?v=SE9MLxf1kZk Ar y troad i mewn i’r pentref mae bwrdd gwybodaeth er cof am bobl Lidice a choeden gellyg wedi ei phlannu. Mae cysylltiad wedi cael ei sefydlu rhwng y pentref a Tsiecoslofacia. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen yr hanes. Yn ôl at y dref unwaith eto, mwynhau heddwch gerddi Parc yr Orsedd ac yn ôl at y ceir. Mae llawer o bethau am y daith nad ydw i wedi trafod achos problemau efo fy nghof ond cawsom daith ddiddorol dros ben a diolch mawr i Arwel a John am ein haddysgu a’n diddori ni. Mae'n rhaid talu clod hefyd i Gyngor y Dref am sicrhau nad ydym yn anghofio’r gorffennol tra bod ni’n rhuthro i ddyfodol hollol wahanol. Croeso’n ôl Arwel a hefyd i Liz, iechyd da i’r dyfodol i chi’ch dau. Fel pob tro, diolch yn fawr i bawb am eu cwmni difyr. Geirfa Synnu ar yr ochr orau - to be pleasantly surprised Hen waith haearn - old ironworks Gwaith arloesol - pioneering work Byrddau gwybodaeth - information boards Gweiriog - grassy Casglu paill - collecting pollen Siafft awyr - air shaft Iorwg - ivy Stcill - style (one you climb over!) Lle diarffordd - remote place Adlewyrchu - to reflect Gwersylloedd crynhoi - concentration camp Coeden gellyg - pear tree