Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Yn ôl Yn ôl
Ysgolion Cymraeg Mae ein hysgolion yn gwneud gwaith arbennig gyda’n plant ifanc, does dim ond rhaid i chi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd i deimlo hynny, plant ifanc yn hapus i sefyll ar lwyfan i adrodd, canu neu chwarae offeryn. Mae’n gwneud i chi deimlo mor falch ond ar yr un pryd dyn ni’n beirniadu’r plant am siarad Saesneg tu allan i’r ysgol ond chwarae teg, pan maen nhw du allan maen nhw mewn byd Saesneg, byd mor wahanol i’r un dyn ni’n cofio o’n plentyndod. Dyna sut fydd pethau tan i ni newid y cydbwysedd. Rhaid creu sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn cael ei glywed yn fwy aml du allan i’r ysgol. Gyda dyfalbarhad a gweithio gyda’n gilydd mi fydd hyn yn digwydd yn naturiol, ond yn y tymor hir. Rhieni plant yr ysgolion Cymraeg Mae’n braf iawn gwybod bod gymaint o rieni di-gymraeg yn awyddus i anfon eu plant i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hyn yn dangos eu cefnogaeth tuag at yr iaith. Gwnewch bob ymdrech i ddod i’w hadnabod nhw a dangos cyfeillgarwch tuag atyn nhw. Yn amlwg maen nhw’n gefnogol o’r iaith, efallai y bydden nhw’n penderfynu dysgu. Gwnewch mwy o bethau trwy gyfrwng yr iaith Mae llawer ffordd i fwynhau’r iaith. Os dach chi’n mwynhau cyngherddau neu’r theatr cofiwch fod cyngherddau a dramâu gwych trwy Gymru gyfan ac os dach chi’n gwybod am y llefydd Cymraeg eu hiaith i fwyta ac i aros ynddynt bydd trip o un pegwn i’r llall o’n gwlad ddim yn eich poeni chi. Gwrandewch mwy ar Radio Cymru, gwyliwch mwy o S4c, maen nhw’n rhan bwysig o’n Gymreictod. Siaradwyr Gwadd Mae pob cymdeithas angen siaradwyr gwadd, dyna yw eu henaid ond does gennym ni ddim digon o bobl sydd yn fodlon ddod i siarad, er ei fod yn waith pleserus dros ben ac yn arbennig o effeithiol er mwyn codi eich hyder. Hyd y gwn i does dim rhestr gyhoeddus ar gael neu, os oes mae rhywun yn cadw’n ofnadwy o dawel amdano, felly chi’r ysgrifenyddion sydd yn darllen hyn pan dach chi’n cael siaradwyr gofynnwch a fydden nhw’n fodlon cael eu henwau ar y safle yma. Mae hyn yn cynnwys busnesau sydd yn fodlon anfon siaradwyr hefyd. Beth am gael math o ddosbarth uwch i ddysgwyr i roi hyfforddiant iddyn nhw siarad yn gyhoeddus, mae dysgwyr yn gwneud tiwtoriaid arbennig o dda. Mae’n siŵr y bydden nhw’n gwneud siaradwyr gwadd arbennig hefyd. Creu Cymuned Cytûn Meddyliwch yn ôl at yr hen ddyddiau pan oedd gennym ni cymunedau lle'r oedd pawb yn adnabod ei gilydd yn eu cylch. Efallai nad ydy hi’n bosib i ail greu hynny ond allwn ni greu cymunedau sydd yn adnabod eu hunain yn llawer gwell, cymunedau lle mae mewnfudwyr yn cael mwy o adnabyddiaeth o’n ffordd Gymraeg o fyw ac felly ddim yn gweld y Gymraeg fel bygythiad. A ninnau, y Cymry, wrth agor y drws i bwy bynnag sydd eisiau dysgu Cymraeg, yn gweld y mewnfudwyr yna fel asedau i gryfhau’r iaith. Cofiwch os bydd y nifer o siaradwyr i lawr yn 2023 heb i ni allu dangos ryw fath o gynllun sydd yn debyg o weithio mi fydd pwysau ofnadwy i dorri’r gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg a fydd hynny yn drychineb ofnadwy. Dydy’r cynllun yma ddim yn mynd i fod yn faich mawr, does dim rhaid gweithio dydd a nos - dim ond mwynhau eich Cymreictod, cynnwys dysgwyr yn weithgareddau eich cymdeithasau a chael pleser wrth siarad yr iaith. Beth amdani - mae pob dim yn help!
Ymlaen Ymlaen
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau
Siaradwyr Gwadd Mae pob cymdeithas angen siaradwyr gwadd, dyna yw eu henaid ond does gennym ni ddim digon o bobl sydd yn fodlon ddod i siarad, er ei fod yn waith pleserus dros ben ac yn arbennig o effeithiol er mwyn codi eich hyder. Hyd y gwn i does dim rhestr gyhoeddus ar gael neu, os oes mae rhywun yn cadw’n ofnadwy o dawel amdano, felly chi’r ysgrifenyddion sydd yn darllen hyn pan dach chi’n cael siaradwyr gofynnwch a fydden nhw’n fodlon cael eu henwau ar y safle yma. Mae hyn yn cynnwys busnesau sydd yn fodlon anfon siaradwyr hefyd. Beth am gael math o ddosbarth uwch i ddysgwyr i roi hyfforddiant iddyn nhw siarad yn gyhoeddus, mae dysgwyr yn gwneud tiwtoriaid arbennig o dda. Mae’n siŵr y bydden nhw’n gwneud siaradwyr gwadd arbennig hefyd. Creu Cymuned Cytûn Meddyliwch yn ôl at yr hen ddyddiau pan oedd gennym ni cymunedau lle'r oedd pawb yn adnabod ei gilydd yn eu cylch. Efallai nad ydy hi’n bosib i ail greu hynny ond allwn ni greu cymunedau sydd yn adnabod eu hunain yn llawer gwell, cymunedau lle mae mewnfudwyr yn cael mwy o adnabyddiaeth o’n ffordd Gymraeg o fyw ac felly ddim yn gweld y Gymraeg fel bygythiad. A ninnau, y Cymry, wrth agor y drws i bwy bynnag sydd eisiau dysgu Cymraeg, yn gweld y mewnfudwyr yna fel asedau i gryfhau’r iaith. Cofiwch os bydd y nifer o siaradwyr i lawr yn 2023 heb i ni allu dangos ryw fath o gynllun sydd yn debyg o weithio mi fydd pwysau ofnadwy i dorri’r gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg a fydd hynny yn drychineb ofnadwy. Dydy’r cynllun yma ddim yn mynd i fod yn faich mawr, does dim rhaid gweithio dydd a nos - dim ond mwynhau eich Cymreictod, cynnwys dysgwyr yn weithgareddau eich cymdeithasau a chael pleser wrth siarad yr iaith. Beth amdani - mae pob dim yn help!
Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen