Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Y Ffordd i Mwmbwls (Ond nid ar y ffordd arferol) Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dydd Sadwrn y 31ain o Fawrth oedd hi ac roedd ein taith yn dechrau yn fy ardal i, hanner milltir i lawr y ffordd fel mae’n digwydd, ac felly roedd rhaid i mi gerdded. Roedd hynny‘n golygu mi fydda i wedi cerdded milltir mwy ‘na phawb arall erbyn y diwedd. Dim ond eisiau dweud ydw i. Maes parcio Parc Gwledig Cwm Clun oedd y man cyfarfod ac mi oedd wyneb newydd efo ni. Croeso mawr i Allison sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ac wedi cyrraedd y pwynt lle mae hi’n barod i ymuno a’r byd Cymraeg. Roeddwn i’n disgwyl cerdded ffordd ro’n i’n hadnabod yn dda. Ond mewn pum munud o ddechrau roedden ni wedi croesi’r llwybr beicio ac yn cerdded i fyny llwybr serth trwy’r coed ble roedd hen ffordd a wnaeth fynd a ni i Gastell Clun, hen gartref y teulu Vivian. Mae’r adeilad erbyn hyn wedi ei droi i fflatiau moethus. Cyn bo hir roedden ni ym Mharc Clun, ‘gardd’ yr hen deulu ond erbyn hyn yn agored i bawb. Roedd y coed ceirios yn dechrau blodeuo a hynny yn arwydd bod dyddiau heulog y Gwanwyn ar stepen ein drws. Cerdded i lawr i’r gwaelod ac wedyn dilyn yr afon at y giât a ffordd Mayals. Croesi’r ffordd a throi i’r dde a cherdded ar lon nad oeddwn i’n gwybod oedd yno a dod ar draws tŷ ysblennydd efo’r enw ‘Splendido’ a golygfa arbennig o’r bae cyfan. Petaswn i’n byw yna mae’n siŵr y bydda i’n sefyll wrth y ffenest trwy’r amser. Pethau’n hollol wahanol drws nesaf, tŷ mawr wedi gweld amser gwell ac ar werth felly, os dach chi’n arbennig o handi efo DIY, dyma’ch cyfle. Mae hen gyfaill i ni gyd yn byw drws nesaf, tŷ cyfoes, allan o’r ffordd ac yn dangos yr enw ‘Sycharth’. Mae Owain yn ôl! Wnaeth y lon fynd a ni drwy gae a thipyn o goed, lle ddigon cyffredin tan i Liz esbonio ei bod yn faenor i Abaty Cwm Nedd. Roedd gwartheg y mynachod yn bwydo ar y gwair fan hyn, yn sydyn nad oedd y cae yn gyffredin ei olwg bellach. Mae gwybodaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr. Disgyn i lawr trwy’r stad cyngor tan i ni gyrraedd tafarn y West Cross ond fel pobl glan a sobor aethon ni heibio i eistedd wrth y traeth i gael ein picnic. Delwedd gyfoes o’r hen dripiau’r ysgol Sul! Trwy’r coed wedyn a chlywed oglau garlleg gwyllt a dim syndod chwaith achos roedd y llawr yn llond Garlleg yr Arth. Mewn wythnos bydden nhw yn eu blodau, rhaid i mi gofio! Heibio rhandiroedd a chyrraedd Castell Ystum Llwydiarth yn sefyll yn gadarn ac yn cadw llygaid ar y bae’ ac yn sylweddoli dyna pam mae’r rhandiroedd yma, wrth gwrs. Roedd rhaid bwydo’r milwyr! Heibio’r castell a dilyn llwybr cul yn mynd tu ôl i res o dai cyn cyrraedd ffordd a throi i’r dde. Doeddwn i ddim yn siŵr ble yn union o’n i erbyn hyn ond yn raddol mi wnes i ddechrau sylweddoli. Yn sydyn dyma Liz yn mynd a ni rhwng tai unwaith eto i ddringo (unwaith eto) i ryw ffordd arall. Roeddwn i wir ar goll erbyn hyn ac yn dechrau wir gwerthfawrogi gwybodaeth Liz. Cyrraedd mynwent Ystum Llwydiarth, mynwent enfawr yn ffitio i mewn i fowlen o gwm cudd wedi ei hen lenwi efo beddau erbyn hyn, beddau o bob faint ac o bob math, beddau diymhongar pobl gyffredin a beddau gormodol pobl bwysig. Dyma le wnaeth Liz dangos i ni esiampl o Fyceliwm, yn fyr, y rhwydwaith o wreiddiau sydd yn ymestyn i bob lle ac yn sicrhau bod popeth sydd yn marw yn pydru lawr er mwyn cadw'r pridd yn ffrwythlon. Mae holl fyd o Fyceliwm dan ein traed, cofiwch hynny pan dach chi’n gweld ffwng a madarch y tro nesaf. Mae lefel arall i’r fynwent ond yn hollol wahanol ei olwg, beddau cyfoes y tro yma wedi ei osod yn daclus mewn rhesi, cyferbyniad llwyr i’r hen ran o’r fynwent. Liz yn dweud wrthon ni nad oes modd sicrhau plot o flaen llaw achos mae popeth yn dilyn y drefn ‘First Come, First Served’. Roedd Liz wedi gwneud yn dda tan hyn ond y gwir yw onid ydy o’n fwy cywir i ddweud mai’r drefn yw ‘First Gone, First Served’. Mae’n ddrwg gen i, dw i ddim ond yn tynnu coes a dw i’n bedant ofnadwy! Disgyn i lawr wedyn i adael y fynwent ond gweld gatiau mawr i fynwent yr Iddewon. Roedd arwyddion arnyn nhw i ddweud bod y fynwent er cof am y rhai druan a wnaeth ddioddef yr Holocaust yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyfnod ofnadwy a chywilyddus a gobeithio bydd y byd ddim yn gweld y fath beth eto. Erbyn hyn roedd amser yn mynd yn brin i mi achos roedd cyngerdd Gŵyl Ddewi ymlaen yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ac yn dechrau am 7.00. Dyma fi yn dweud ‘Hwyl’ i’r lleill ac yn troi am adref. Dw i’n siŵr y bydd Allison eisiau i mi ddweud diolch drosti i bawb roedd wedi sgwrsio â hi a gwneud yn siŵr nad oedd hi’n teimlo’n ddiarth. Oddi wrtha i, diolch i bawb am y cwmni, y siawns am bedwar awr o ddefnyddio ein hiaith hyfryd ac yn enwedig, diolch yn fawr i Liz am daith ddiddorol dros ben ac am fy addysgu am fy Ninas Fabwysiedig.
Geirfa
Parc Gwledig Cwm Clun - Clyne Valley Country Park Castell Clun - Clyne Castle Moethus - luxurious Coed Ceirios - Cherry trees Stepen ein drws - our doorstep Ysblennydd - splendid Tŷ cyfoes - modern house Maenor - manor Delwedd gyfoes - modern image Garlleg yr Arth - ramsons (wild garlic) Rhandiroedd - allotments Castell Ystum Llwydiarth - Oystermouth castle Yn raddol - gradually Gwerthfawrogi - to appreciate
Gwybodaeth - knowlege Bowlen o gwm cudd - bowl shaped hidden valley Beddau diymhongar - modest graves Beddau gormodol - extravagent graves Rhwydwaith - network Gwreiddiau - roots Pydru lawr - to rot down Ffrwythlon - fertile Ffwng - fungi Madarch - mushrooms Beddau cyfoes - modern graves Cyferbyniad llwyr - extreme contrast Cywilyddus - shameful Dinas fabwysiedig - adopted city
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Y Ffordd i Mwmbwls (Ond nid ar y ffordd arferol) Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dydd Sadwrn y 31ain o Fawrth oedd hi ac roedd ein taith yn dechrau yn fy ardal i, hanner milltir i lawr y ffordd fel mae’n digwydd, ac felly roedd rhaid i mi gerdded. Roedd hynny‘n golygu mi fydda i wedi cerdded milltir mwy ‘na phawb arall erbyn y diwedd. Dim ond eisiau dweud ydw i. Maes parcio Parc Gwledig Cwm Clun oedd y man cyfarfod ac mi oedd wyneb newydd efo ni. Croeso mawr i Allison sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ac wedi cyrraedd y pwynt lle mae hi’n barod i ymuno a’r byd Cymraeg. Roeddwn i’n disgwyl cerdded ffordd ro’n i’n hadnabod yn dda. Ond mewn pum munud o ddechrau roedden ni wedi croesi’r llwybr beicio ac yn cerdded i fyny llwybr serth trwy’r coed ble roedd hen ffordd a wnaeth fynd a ni i Gastell Clun, hen gartref y teulu Vivian. Mae’r adeilad erbyn hyn wedi ei droi i fflatiau moethus. Cyn bo hir roedden ni ym Mharc Clun, ‘gardd’ yr hen deulu ond erbyn hyn yn agored i bawb. Roedd y coed ceirios yn dechrau blodeuo a hynny yn arwydd bod dyddiau heulog y Gwanwyn ar stepen ein drws. Cerdded i lawr i’r gwaelod ac wedyn dilyn yr afon at y giât a ffordd Mayals. Croesi’r ffordd a throi i’r dde a cherdded ar lon nad oeddwn i’n gwybod oedd yno a dod ar draws tŷ ysblennydd efo’r enw ‘Splendido’ a golygfa arbennig o’r bae cyfan. Petaswn i’n byw yna mae’n siŵr y bydda i’n sefyll wrth y ffenest trwy’r amser. Pethau’n hollol wahanol drws nesaf, tŷ mawr wedi gweld amser gwell ac ar werth felly, os dach chi’n arbennig o handi efo DIY, dyma’ch cyfle. Mae hen gyfaill i ni gyd yn byw drws nesaf, tŷ cyfoes, allan o’r ffordd ac yn dangos yr enw ‘Sycharth’. Mae Owain yn ôl! Wnaeth y lon fynd a ni drwy gae a thipyn o goed, lle ddigon cyffredin tan i Liz esbonio ei bod yn faenor i Abaty Cwm Nedd. Roedd gwartheg y mynachod yn bwydo ar y gwair fan hyn, yn sydyn nad oedd y cae yn gyffredin ei olwg bellach. Mae gwybodaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr. Disgyn i lawr trwy’r stad cyngor tan i ni gyrraedd tafarn y West Cross ond fel pobl glan a sobor aethon ni heibio i eistedd wrth y traeth i gael ein picnic. Delwedd gyfoes o’r hen dripiau’r ysgol Sul! Trwy’r coed wedyn a chlywed oglau garlleg gwyllt a dim syndod chwaith achos roedd y llawr yn llond Garlleg yr Arth. Mewn wythnos bydden nhw yn eu blodau, rhaid i mi gofio! Heibio rhandiroedd a chyrraedd Castell Ystum Llwydiarth yn sefyll yn gadarn ac yn cadw llygaid ar y bae’ ac yn sylweddoli dyna pam mae’r rhandiroedd yma, wrth gwrs. Roedd rhaid bwydo’r milwyr! Heibio’r castell a dilyn llwybr cul yn mynd tu ôl i res o dai cyn cyrraedd ffordd a throi i’r dde. Doeddwn i ddim yn siŵr ble yn union o’n i erbyn hyn ond yn raddol mi wnes i ddechrau sylweddoli. Yn sydyn dyma Liz yn mynd a ni rhwng tai unwaith eto i ddringo (unwaith eto) i ryw ffordd arall. Roeddwn i wir ar goll erbyn hyn ac yn dechrau wir gwerthfawrogi gwybodaeth Liz. Cyrraedd mynwent Ystum Llwydiarth, mynwent enfawr yn ffitio i mewn i fowlen o gwm cudd wedi ei hen lenwi efo beddau erbyn hyn, beddau o bob faint ac o bob math, beddau diymhongar pobl gyffredin a beddau gormodol pobl bwysig. Dyma le wnaeth Liz dangos i ni esiampl o Fyceliwm, yn fyr, y rhwydwaith o wreiddiau sydd yn ymestyn i bob lle ac yn sicrhau bod popeth sydd yn marw yn pydru lawr er mwyn cadw'r pridd yn ffrwythlon. Mae holl fyd o Fyceliwm dan ein traed, cofiwch hynny pan dach chi’n gweld ffwng a madarch y tro nesaf. Mae lefel arall i’r fynwent ond yn hollol wahanol ei olwg, beddau cyfoes y tro yma wedi ei osod yn daclus mewn rhesi, cyferbyniad llwyr i’r hen ran o’r fynwent. Liz yn dweud wrthon ni nad oes modd sicrhau plot o flaen llaw achos mae popeth yn dilyn y drefn ‘First Come, First Served’. Roedd Liz wedi gwneud yn dda tan hyn ond y gwir yw onid ydy o’n fwy cywir i ddweud mai’r drefn yw ‘First Gone, First Served’. Mae’n ddrwg gen i, dw i ddim ond yn tynnu coes a dw i’n bedant ofnadwy! Disgyn i lawr wedyn i adael y fynwent ond gweld gatiau mawr i fynwent yr Iddewon. Roedd arwyddion arnyn nhw i ddweud bod y fynwent er cof am y rhai druan a wnaeth ddioddef yr Holocaust yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyfnod ofnadwy a chywilyddus a gobeithio bydd y byd ddim yn gweld y fath beth eto. Erbyn hyn roedd amser yn mynd yn brin i mi achos roedd cyngerdd Gŵyl Ddewi ymlaen yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ac yn dechrau am 7.00. Dyma fi yn dweud ‘Hwyl’ i’r lleill ac yn troi am adref. Dw i’n siŵr y bydd Allison eisiau i mi ddweud diolch drosti i bawb roedd wedi sgwrsio â hi a gwneud yn siŵr nad oedd hi’n teimlo’n ddiarth. Oddi wrtha i, diolch i bawb am y cwmni, y siawns am bedwar awr o ddefnyddio ein hiaith hyfryd ac yn enwedig, diolch yn fawr i Liz am daith ddiddorol dros ben ac am fy addysgu am fy Ninas Fabwysiedig.
Geirfa
Parc Gwledig Cwm Clun - Clyne Valley Country Park Castell Clun - Clyne Castle Moethus - luxurious Coed Ceirios - Cherry trees Stepen ein drws - our doorstep Ysblennydd - splendid Tŷ cyfoes - modern house Maenor - manor Delwedd gyfoes - modern image Garlleg yr Arth - ramsons (wild garlic) Rhandiroedd - allotments Castell Ystum Llwydiarth - Oystermouth castle Yn raddol - gradually Gwerthfawrogi - to appreciateGwybodaeth - knowlege Bowlen o gwm cudd - bowl shaped hidden valley Beddau diymhongar - modest graves Beddau gormodol - extravagent graves Rhwydwaith - network Gwreiddiau - roots Pydru lawr - to rot down Ffrwythlon - fertile Ffwng - fungi Madarch - mushrooms Beddau cyfoes - modern graves Cyferbyniad llwyr - extreme contrast Cywilyddus - shameful Dinas fabwysiedig - adopted city