Gydangilydd.cymru
Y Wiwer Goch Dw i wedi bod i ffwrdd yn y Gogledd unwaith eto. Os dach chi wedi bod yn dilyn y straeon hyn byddech yn gwybod mod gen i garafán statig ger Porthmadog. Mae dipyn o bellter i fynd am ychydig o ddyddiau ond mae’n werth gwneud y siwrne. Dw i’n cael y cyfle i grwydro llefydd, wel nid newydd, ond llefydd nad ydw i wedi dod i adnabod gymaint â hynny. Mi benderfynais beidio cael teledu yna felly mae gen i lawer o amser i ddarllen ac ysgrifennu. Am ychydig o fisoedd rŵan dw i wedi bod yn cynnig erthyglau i bapurau bro Cymru ar gyfer Cymdeithas Edward Llwyd, llawer ohonyn nhw’n derbyn, dw i’n falch o ddweud. Mae hyn yn dipyn o ymrwymiad ond rywsut mae syniad yn dod i fy mhen pob mis ond peth peryg iawn bydd cymryd hynny’n ganiataol. Mae’r erthygl ar gyfer mis Chwefror yn barod i fynd a dw i wedi cael syniadau ar gyfer misoedd Mawrth ac Ebrill. Allaf fi ysgrifennu'r rhain ble bynnag ydw i ar y pryd ond mae rhaid cael llun. Dyna oedd yr her ar y diwrnod cyntaf. Roedd rhaid cael llun o’r crëyr glas ac un o’r crychydd a ro’n i’n gwybod ble i fynd i’w cael - ochr y Fenai yn ardal Caernarfon. Parcio’r car cynnes wrth ochr y foryd ac agor y drws i’r oerfel a’r gwynt, roedd y llanw’n uchel. Petaswn i’n grëyr glas efo coesau main, hir byswn i ddim yn treulio llawer o amser yn sefyll mewn dŵr dwfn chwaith - doedd dim un i’w weld! Cerddais heibio’r castell i ble roeddwn i wedi gweld y crychydd o’r blaen ond yn amlwg roedd hwnnw wedi penderfynu aros yn y gwely hefyd, call iawn. Ro’n i’n gwybod beth roedden nhw’n gwneud ond beth oeddwn i’n mynd i wneud? Edrychais o gwmpas a sylwi bod Ynys Môn dros yr afon - a ydw i’n haeddu cael fy sbwylio? Ydw siŵr! Yn ôl at y car, croesi Pont Britannia ac anelu at y maes parcio er mwyn cerdded i lawr trwy Goed Cyrnol i Rodfa’r Belgiaid. Roedd y diwrnod dal yn dywyll a’r crëyr glas a’r crychydd eto heb godi er roedd hi bron yn hanner dydd erbyn hyn ond mae’n bob tro yn braf cerdded ar ochr y Fenai. Yn sydyn mi wnaeth yr haul ddarganfod twll yn y cymylau ac Ynys yr Eglwys a’r eglwys yn cael ei thrawsnewid yn y golau llachar. Aeth hyn ymlaen am tua hanner awr a ches i hwyl fawr efo’r camera ond yn y pendraw y cymylau enillodd. Roeddwn i wedi cael gwir fwynhad ac yn cerdded yn ôl trwy’r coed ffawydd yn ôl at y car pan yn sydyn welais i fflach o goch yng ngil fy llygad, brensiach - gwiwer goch! Dylwn i ddim wedi synnu wrth gwrs achos roeddwn i’n gwybod bod y wiwer lwyd wedi hen bacio’i bag ac encilio i’r byd mawr dros y bont. Siawns dda i’r wiwer goch ffynnu ac yn amlwg mae wedi cymryd mantais o hynny. Roedd hi ryw bellter i ffwrdd ac yn gwibio yma ac acw ond sefais yn stond. Doth yn agosach a ches i un llun derbyniol dan yr amgylchiadau. Edrychais i ffwrdd i osod y camera yn iawn ond yn yr eiliadau hynny roedd o wedi diflannu. Y tro nesaf byddaf yn gosod y camera yn iawn o flaen lla w . Y diwrnod wedyn, sef y dydd Llun roeddwn i yna ond doedd yr adar ddim i weld unwaith eto ond ces i hwyl yn sefyll yn stond a gweld y wiwer yn gwibio rhwng coeden ffawydd a’r bocs mes. Roedd o’n rhedeg i fyny’r bonyn, sefyll ar lwyfan o flaen y bocs, agor y caead a stwffio’i ben i mewn, wedyn yn ôl ar y llwyfan efo’r fesen yn ei ddwylo. Roedd ei ystum yn gweiddi, sbïwch! Tynnwch lun! Mae gen i ddigon o amser i gael llun o’r crëyr glas neu’r crychydd ond y wiwer fydd yn y papurau bro mis Mawrth. Blwyddyn Newydd Dda! Geirfa Cynnig – to offer Derbyn – to accept Ymrwymiad – commitment Syniad – idea Cymryd yn ganiataol – take for granted Ar y pryd – at the time Her – challenge Crëyr glas heron Crychydd – egret Moryd – estuary Haeddu – to deserve Anelu – to aim Darganfod – to discover Trawsnewid – to transform Llachar – bright Coed ffawydd – beech trees Cil fy llygad – the corner of my eye Gwiwer goch – red squirrel Encilio – to retreat Gwibio – to dash Yn stond – perfectly still Amgylchiadau – circumstances Gosod y camera – to set the camera Ystum – posture Sbïwch! – look!