Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau
Doeddwn i ddim yn disgwyl bod dan gymaint o bwysau, wedi’r cwbl roeddwn i wedi gwneud y daith llawer gwaeth o’r blaen - taith o Abertawe i Langynidr. Doedd dim ond rhaid i mi anelu at Ferthyr, cadw at ffordd Blaenau’r Cymoedd tan gyrraedd y troad i’r chwith ac wedyn dilyn y ffordd dros y mynydd a disgyn i lawr yn syth i’r pentref. Bydd hi’n siŵr o fod yn hawdd wedyn i gyrraedd yr Ysgol Gynradd, ond doedd pethau ddim mor syml â hynny. Roedd grŵp o bobl wedi rhoi gwahoddiad i mi siarad efo nhw am ‘Smyglwyr ar Gwyr’ ac roedd popeth yn digwydd am 7.30. Rhaid bod yna tipyn bach cyn hynny er mwyn cysylltu’r gliniadur gyda’r taflunydd, ond dim ond tua deg munud oedd eisiau. Gan fy mod i’n tueddu poeni am fod yn hwyr i unrhyw achlysur roeddwn i wedi gadael Abertawe  efo digon o amser sbâr a doedd dim rhaid rhuthro gormod. Roedd y siwrne trwy Gwm Nedd yn bleser llwyr gan fod lleuad lawn, glas o fy mlaen i, gresyn nad oedd gennyf i naill amser na chamera efo fi. Ond mae’r llygad fel lens camera a gan roedd y lleuad yn syth o fy mlaen i mi fydda i’n cofio’r achlysur am byth. Cyrraedd cyrion Merthyr mewn digon o amser ac yn edrych ymlaen at y siwrne i lawr y mynydd i Langynidr ac efallai cael y siawns i aros rywle ac edmygu’r olygfa ond, er o’n i’n cadw llygad manwl ar yr arwyddion, welais i ddim byd a chyn bo hir dyma fi’n cyrraedd y cylchdro lle mae’r ffordd yn mynd i lawr heibio Clydach a tuag at Y Fenni. Roeddwn i wedi colli amser erbyn hun ac yn dechrau poeni. Doeddwn i ddim yn deall sut wnes i golli’r troad ond mae ‘na lawer o waith wedi cael ei wneud ar y ffordd yn ddiweddar. Beth bynnag roedd hi’n rhy hwyr i droi yn ôl a bydd rhaid i mi gyrraedd y pentref o gyfeiriad arall. O’r fan hynny mae gwaith mawr yn cael ei wneud ar y ffordd ac mae ffordd dros dro wedi cael ei wneud felly mae’n gul ofnadwy ac wrth i mi orfod gwneud y daith yn y tywyllwch roedd hi’n anghyfforddus dros ben. Dw i’n siŵr bod y siwrne yn ddigon anodd yng ngolau dydd! O’r diwedd, i lawr yn y gwaelod, welais i’r troad roeddwn i eisiau ac roedd hi’n rhyddhad pur i adael y ffordd hunllefus yna. Ond doeddwn i ddim yn gyfarwydd â’r ffordd o’n ni arno rŵan ac roedd amser yn mynd yn brin ofnadwy. Gwnes i gyrraedd cyffordd - a ydw i’n mynd i’r chwith neu i’r dde? Roedd synnwyr cyffredin yn dweud i’r chwith ac roedd siop hefyd i’w weld yn y pellter felly bydd siawns i mi gadarnhau a thawelu fy meddwl. Parciais a mynd i mewn, roedd dyn o dras Indiaid yna yn gwenu arnaf fi “Excuse me,” medda fi “am I on the right road for Llangynidr?” Edrychodd arnaf fi a dweud “I’m sorry, I’ve only been here a week.” Ond dw i’n meddwl gwnaeth o weld y panig ar fy wyneb ac estynnodd ei ffon symudol allan o’i boced ac ar ôl i mi sillafu ‘Llangynidr’ iddo wnaeth ei App Sat Nav gadarnhau  cywirdeb y ffordd. “ Thanks very much” medda fi “and welcome to Wales!” Ar ôl sbel mi wnes i gyrraedd Llangynidr ond doedd dod ar draws yr ysgol ddim mor hawdd ond roedd llawer o bobl yn cerdded ar y pafin efo fflach lampau. Stopiais a gofyn “Excuse me, but could you tell me where the Primary School is?” “Ah, you’ve just missed it” medden nhw “go back and take the next turn on the right.”  “Are you going to the talk?” gofynnais, ac ar ôl iddyn nhw gadarnhau dywedais “I’m your speaker!” Cyrhaeddais yr ysgol efo deg munud yn sbâr ac yn fuan iawn roedd popeth wedi ei osod ac roeddwn i’n barod i siarad. Doeddwn i ddim wedi sylwi ar yr holl bobl yn cyrraedd tra oeddwn i’n brysur ond pan edrychais i fyny roedd tua hanner cant o bobl yna. Brensiach annwyl, dyma fi wedi cyrraedd ‘Y Big Time’ rŵan! Cawson ni lawer o hwyl a chwestiynau diddorol wedyn. Mae’r rhan pan mae pobl yn gofyn cwestiynau yn bleser dros ben ac mae’r ateb dach chi’n rhoi yn denu gwybodaeth oddi wrthyn nhw, hyn i gyd yn ychwanegu at eich gwybodaeth eich hun am y pwnc. Roedd gymaint o bobl yn dod ataf fi i siarad wedyn yn gwneud hi’n anodd clirio fy mhethau. Mi wnes i fwynhau yn arw ond roedd rhaid meddwl am anelu at adref. Y camgymeriad wedyn nes i oedd wrth adael yr ysgol. Doedd dim ond dau ddewis - troi i’r chwith neu i’r dde, yn anffodus es i i’r chwith a dyma fi yn cyrraedd pen rhyw cul-de-sac. Yn amlwg i’r dde oedd y dewis iawn. Doeddwn i ddim am drio mynd dros y mynydd i gyrraedd ffordd Blaenau’r Cymoedd y tro yma yn hytrach es i i gyfeiriad Aberhonddu ac i wneud yn siŵr o’r ffordd ar y dechrau mi wnes i ddefnyddio’r SatNav. Dydw i ddim yn poeni beth mae pobl yn dweud am y sustem mae’n ddefnyddiol iawn pan dach chi ar eich pen eich hun ac yn y tywyllwch.  Cyn bo hir roeddwn i yn Nhalybont ac yn sicr o’r ffordd yn ôl. Wedi troi o ffordd osgoi Aberhonddu i’r A470 tuag at Ferthyr roeddwn i’n gweld bod topiau’r Bannau yn wyn efo eira ac o fewn milltir o’r Storey Arms roedd hi’n bwrw eira go iawn. Petaswn i’n mynd ar y ffordd arferol, hynny yw ar yr A4059 i Benderyn mi faswn i ar ffordd dipyn yn uwch ac efallai bydd yr eira yn waeth felly penderfynais gadw ar yr A470 a throi i fyny tuag at Hirwaun nes ymlaen. Weithiau mae bod yn fentrus yn wirion. Roedd hi bron yn 10.30 erbyn i mi gyrraedd adref a phan agorais y drws glywais oglau bara wedi cael ei bobi. Dyna pryd nes i gofio roeddwn i wedi gwneud bara yn hwyr yn y bore (dim ond y toes dw i’n gwneud yn y teclyn ac wedyn pobi’r bara mewn tuniau yn y popty). Roeddwn i wedi mynd am dro tra oedd y toes yn cael ei wneud ac wedi anghofio’n llwyr erbyn i mi gyrraedd yn ôl. Agorais ben y teclyn a dyma le oedd y toes wedi codi a llifo dros y pan ac yn edrych yn drist dros ben. Wel, chi’n gweld mi ges i fy ngeni ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan oedd popeth yn brin felly mae’n gas gen i wastraffu pethau ond yn amlwg roedd hi’n rhy hwyr i wneud dim am y peth ac roedd rhaid cofio trio achub pethau yn y bore. A dyma fi rŵan, pedwar o’r gloch y prynhawn wedyn. Ar ôl casglu’r toes, ei siapio, rannu mewn tuniau, rhoi math o cic-start iddo yn y popty a gadael popeth yn yr ystafell haul am y diwrnod dw i’n meddwl bod popeth yn iawn. Mae wedi bod yn y popty am yr amser iawn, braidd yn fflat ond, wrth ei thorri mewn hanner mae’r tu fewn yn edrych yn dderbyniol. Mae wedi bod yn bedwar awr ar hugain diddorol a chyffroes a dw i’n eistedd yn gyfforddus yn fy nghadair yn y gwres. Dw i’n ddiogel. Tydi bywyd yn braf!
Er Hynny i Gyd - Tydi Bywyd yn Braf!
Geirfa
Cysylltu’r gliniadur - connecting the laptop Taflunydd - projector Rhuthro - to rush Gresyn - a pity Achlysur - occasion Cyrion - outskirts Cadw llygad manwl - a watchful eye cylchdro - roundabout Ffordd dros dro - temporary road Cul ofnadwy - very narrow
Golau dydd - daylight Rhyddhad pur - a pure relief Ffodd hunllefus - a nightmare road Cyffordd - junction Tawelu fy meddwl - to ease my mind Fflach lampau - flashlamps, torches Cadarnhau - to confirm Bod yn fentrus - to be adventurous Toes - dough Derbyniol - acceptable
Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl Gwrandewch
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau

Cysylltu’r gliniadur - connecting the laptop Taflunydd - projector Rhuthro - to rush Gresyn - a pity Achlysur - occasion Cyrion - outskirts Cadw llygad manwl - a watchful eye cylchdro - roundabout Ffordd dros dro - temporary road Cul ofnadwy - very narrow Golau dydd - daylight Rhyddhad pur - a pure relief Ffodd hunllefus - a nightmare road Cyffordd - junction Tawelu fy meddwl - to ease my mind Fflach lampau - flashlamps, torches Cadarnhau - to confirm Bod yn fentrus - to be adventurous Toes - dough Derbyniol - acceptable
Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen Gwrandewch