Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Taith Gerdded yn Y Fenni Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd
Weithiau maen gwell peidio cymryd llawer o sylw o’r tywydd, meddyliwch am wythnos diwethaf a‘r holl heip am Y Beast From The East a’r eira pitw cawsom ni. Dydd Sadwrn y 10fed o Fawrth yr addewidion oedd glaw tan 1.00 wedyn ysbeidiau heulog, felly roedd pethau dipyn bach yn hanner a hanner. Ond dw i’n mwynhau teithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd achos maen nhw’n mynd a fi i lefydd nad ydw i wedi treulio llawer o amser ynddyn nhw o’r blaen ac yn cael tipyn o hanes lleol ar yr un pryd, siawns i sgwrsio yn Gymraeg efo pobl ddiddorol hefyd. Gan fy mod i’n credu does dim y fath beth a thywydd gwael dim ond dillad anaddas ni dyle dair awr o gawodydd amharu ar ddiwrnod o bleser, wrth gwrs bydda i’n mynd. Roedd y daith yn ddechrau yn Y Fenni ac yn mynd mewn cylch i fyny Pen y Fal ble fydden ni’n cael gweld golygfeydd gwych, gwobr gwerth ennill yn wir!  Gosod y SatNav cyn cychwyn, nid achos nad ydw i’n gwybod lle mae’r Fenni ond er mwyn y rhan olaf o’r siwrne lle fydd rhaid  i mi ddarganfod y maes parcio, mae hefyd yn sicrhau fy mod i’n cyrraedd mewn pryd. Dyma fi wedi mynd heibio Merthyr ac yn rhedeg i mewn i niwl eithaf trwchus, efallai bydd dim golygfeydd  wedi’r cwbl. Gyda gwyrthiau’r SatNav m wnes i gyrraedd y maes parcio mewn digon o amser ac wrth lwc, maen rhad ac am ddim heblaw am ar ddydd Mercher – mae arbed tair punt un rhoi wên ar fy wyneb. Mae pob dim yn help fel mae Tesco yn honni! Roedd wyth ohonom ar y daith, roedd Helen Morgan yn tywys ac yn fuan iawn roeddem ar y ffordd trwy strydoedd cefn y dref i gyfeiriad y bryn enwog  ar y cyrion. Aethon ni heibio Chain Road, enw od iawn am ffordd ond dyna ble roedd y tyrpeg a chadwyn oedd yn cael ei defnyddio yma i rwystro’r ffermwyr a phorthmyn rhag mynd heibio cyn talu’r doll. Aethom ymlaen ar ffordd eithaf serth rhwng cloddiau uchel, eto dyma oedd un arall o ffyrdd y porthmyn. Roedd Chain Road yn mynd i Henffordd a’r ffordd roeddem ni’n cerdded yn dod o’r gogledd tua’r Fenni. Cyn bo hir roeddem wedi gadael y ffordd ac yn mynd trwy’r coed, hen goed derw wedi tyfu’n fyr ond yn llydan ac ia, roedd y niwl dal gyda ni felly roedd popeth yn edrych yn rhithiol. Sut alla i ddisgrifio’r llwybr dwedwch? Mae hynny'n hawdd, alla i wneud hynny  mewn dau air – mwdlyd a dwfn, ar ben hynny roedd hi’n glawio ond ymlaen roedden ni’n mynd, nid yw glaw yn mynd i’n stopio ni. Beth wnaeth stopio ni beth bynnag oedd  y ffaith roedd hi’n amser i ni eistedd i lawr i gael ein brechdanau. Roedd y merched wedi paratoi am bob posibilrwydd a chyn i’r bwyd cael ei dynnu allan ddoth y matiau allan iddyn nhw eistedd arnynt, rhan bwysig iawn mewn pob ruchsach. Allech chi weld yn y llun mae’r dynion yn gorfod sefyll tra bod y merched yn eistedd yn gyfforddus, a oes neges yna tybed? Gyda llaw a ydw i wedi dweud wrthoch chi ei bod hi’n bwrw glaw? Wedi ein bwydo roedd rhaid mynd ymlaen unwaith eto a dyn ni’n dechrau sylwi bod yr awyr yn dechrau dangos ychydig o olau ac mae'r gwynt yn clirio’r niwl. A brensiach annwyl beth mae’r Fenni yn gwneud yn y fan yna? Roedd y niwl wedi achosi i ni golli pob synnwyr cyfeiriad ac roedd rhaid aros am ychydig o eiliadau er mwyn gwneud synnwyr o’r peth. I lawr trwy goed unwaith eto ond y tro yma doedden nhw ddim mewn niwl felly nes i grwydro ar fy mhen fy hun am ychydig o funudau i dynnu lluniau. Cyn bo hir roeddem yn ôl ar y Tarmac a’r haul yn dod allan a phan dach chi’n cael haul ar ôl glaw mae ansawdd y golau yn wahanol, mae popeth yn fwy clir a’r lliwiau yn fwy llachar. Cofiwch hynny!Ar ôl dweud diolch i Helen am daith bleserus a gwerth ei wneud er y tywydd a diolch i bawb am eu cwmni roedd hi’n amser droi am adref a, efo gwên ar fy wyneb dw i’n ôl ar y ffordd, haul yn fy llygaid ond mor falch wnes i’r penderfyniad i fynd.
Geirfa
Pen y Fal - the Sugarloaf Niwl - mist Eithaf trwchus - quite thick Arbed - to save Honni - to claim, allege Tyrpeg - turnpike, toll gate Cadwyn - chain Clawdd, cloddiau - bank, dyke
Porthmon (porthmyn pl) - drover Llydan - wide Rhithiol - ghostly Ruchsach - rucksack Brensiach annwyl (Gog) - good heavens Synnwyr cyfeiriad - sense of direction Ansawdd - quality Llachar - bright
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Taith Gerdded yn Y Fenni Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd
Weithiau maen gwell peidio cymryd llawer o sylw o’r tywydd, meddyliwch am wythnos diwethaf a‘r holl heip am Y Beast From The East a’r eira pitw cawsom ni. Dydd Sadwrn y 10fed o Fawrth yr addewidion oedd glaw tan 1.00 wedyn ysbeidiau heulog, felly roedd pethau dipyn bach yn hanner a hanner. Ond dw i’n mwynhau teithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd achos maen nhw’n mynd a fi i lefydd nad ydw i wedi treulio llawer o amser ynddyn nhw o’r blaen ac yn cael tipyn o hanes lleol ar yr un pryd, siawns i sgwrsio yn Gymraeg efo pobl ddiddorol hefyd. Gan fy mod i’n credu does dim y fath beth a thywydd gwael dim ond dillad anaddas ni dyle dair awr o gawodydd amharu ar ddiwrnod o bleser, wrth gwrs bydda i’n mynd. Roedd y daith yn ddechrau yn Y Fenni ac yn mynd mewn cylch i fyny Pen y Fal ble fydden ni’n cael gweld golygfeydd gwyll, gwobr gwerth ennill yn wir!  Gosod y SatNav cyn cychwyn, nid achos nad ydw i’n gwybod lle mae’r Fenni ond er mwyn y rhan olaf o’r siwrne lle fydd rhaid  i mi ddarganfod y maes parcio, mae hefyd yn sicrhau fy mod i’n cyrraedd mewn pryd. Dyma fi wedi mynd heibio Merthyr ac yn rhedeg i mewn i niwl eithaf trwchus, efallai bydd dim golygfeydd  wedi’r cwbl. Gyda gwyrthiau’r SatNav m wnes i gyrraedd y maes parcio mewn digon o amser ac hei lwc, maen rhad ac am ddim heblaw am ar ddydd Mercher – mae arbed tair punt un rhoi wên ar fy wyneb. Mae pob dim yn help fel mae Tesco yn honni! Roedd wyth ohonom ar y daith roedd Helen Morgan yn tywys ac yn fuan iawn roeddem ar y ffordd trwy strydoedd cefn y dref i gyfeiriad y bryn enwog  ar y cyrion. Aethon ni heibio Chain Road, enw od iawn am ffordd ond dyna ble roedd y tyrpeg a chadwyn oedd yn cael ei defnyddio yma i rwystro’r ffermwyr a phorthmyn rhag mynd heibio cyn talu’r doll. Aethom ymlaen ar ffordd eithaf serth rhwng cloddiau uchel, eto dyma oedd un arall o ffyrdd y porthmyn. Roedd Chain Road yn mynd i Henffordd a’r ffordd roeddem ni’n cerdded yn dod o’r gogledd tua’r Fenni. Cyn bo hir roeddem wedi gadael y ffordd ac yn mynd trwy’r coed, hen goed derw wedi tyfu’n fyr ond yn llydan ac ia, roedd y niwl dal gyda ni felly roedd popeth yn edrych yn rhithiol. Sut alla i ddisgrifio’r llwybr dwedwch? Mae hynny'n hawdd, alla i wneud hynny  mewn dau air – mwdlyd a dwfn, ar ben hynny roedd hi’n glawio ond ymlaen roedden ni’n mynd, nid yw glaw yn mynd i’n stopio ni. Beth wnaeth stopio ni beth bynnag oedd  y ffaith roedd hi’n amser i ni eistedd i lawr i gael ein brechdanau. Roedd y merched wedi paratoi am bob posibilrwydd a chyn i’r bwyd cael ei dynnu allan ddoth y matiau allan iddyn nhw eistedd arno, rhan bwysig iawn mewn pob ruchsach. Allech chi weld yn y llun mae’r dynion yn gorfod sefyll tra bod y merched yn eistedd yn gyfforddus, a oes neges yna tybed? Gyda llaw a ydw i wedi dweud wrthoch chi ei bod hi’n bwrw glaw? Wedi ein bwydo roedd rhaid mynd ymlaen unwaith eto a dyn ni’n dechrau sylwi bod yr awyr yn dechrau dangos ychydig o olau ac mae'r gwynt yn clirio’r niwl. A brensiach annwyl beth mae’r Fenni yn gwneud yn y fan yna? Roedd y niwl wedi achosi i ni golli pob synnwyr cyfeiriad ac roedd rhaid aros am ychydig o eiliadau er mwyn gwneud synnwyr o’r peth. I lawr trwy goed unwaith eto ond y tro yma doedden nhw ddim mewn niwl felly nes i grwydro ar fy mhen fy hun am ychydig o funudau i dynnu lluniau. Cyn bo hir roeddem yn ôl ar y Tarmac a’r haul yn dod allan a phan dach chi’n cael haul ar ôl glaw mae ansawdd y golau yn wahanol, mae popeth yn fwy clir a’r lliwiau yn fwy llachar. Cofiwch hynny!Ar ôl dweud diolch i Helen am daith bleserus a gwerth ei wneud er y tywydd a diolch i bawb am eu cwmni roedd hi’n amser droi am adref a, efo gwên ar fy wyneb dw i’n ôl ar y ffordd, haul yn fy llygaid ond mor falch wnes i’r penderfyniad i fynd.
Geirfa
Pen y Fal - the Sugarloaf Niwl - mist Eithaf trwchus - quite thick Arbed - to save Honni - to claim, allege Tyrpeg - turnpike, toll gate Cadwyn - chain Clawdd, cloddiau - bank, dyke Porthmon (porthmyn pl) - drover Llydan - wide Rhithiol - ghostly Ruchsach - rucksack Brensiach annwyl (Gog) - good heavens Synnwyr cyfeiriad - sense of direction Ansawdd - quality Llachar - bright