Eisteddfod Llanrwst
Aethoch
chi
i
Eisteddfod
Llanrwst?
Wel
es
i
a
chael
llawer
o
fwynhad
hefyd.
Roedden
ni
wedi
cael
tair
noson
yn
yr
Oakley
Arms
ym
Maentwrog
ac
wedi
cael
ein
plesio
yn
syth
gan
sylweddoli
bod
rhan
fwyaf
o’r
staff
yn
siarad
Cymraeg.
Dyw
Maentwrog
ddim
yn
bell
o
Lanrwst,
dim
ond
siwrne
o
ryw
dri
chwarter
awr
a
dyna
ni
yng
nghanol
yr
holl
siacedi
hi-viz
yn
pwyntio
ni
tuag
at
ein
slot
yn
y
maes
parcio.
Ia,
roedd
y
caeau
braidd
yn
wlyb
ond
dim
difrod
i
wyneb
y
cae
i
achosi
problemau
nes
ymlaen.
Cyrraedd
y
maes,
prynu
tocyn
a
chwilio
am
y
babell
len
lle
bydd
Geraint
Jenkins
yn
siarad
am
Iolo
Morgannwg.
Os
dach
chi’n
ddarllenwyr
ffyddlon
byddech
chi’n
cofio
fy
mod
i
newydd
ddarllen
llyfr
Gareth
Thomas,
Myfi
Iolo.
Roeddwn
i
mor
falch
mod
i
wedi
achos
roedd
hynny’n
sicrhau
mod
i’n
cael
llawer
o
werth
wrth
wrando
ar
yr
araith.
Prynais
ei
lyfr
Y Ddigymar Iolo Morgannwg ac mi fydda i’n sicr o ysgrifennu pwt am y llyfr nes ymlaen.
Aethon
ni
i
babell
Shw
mae,
shw
mae
sydd
ar
gyfer
dysgwyr
ond
cyn
i
mi
son
am
hynny
a
gaf
i
ddweud
wrthoch
chi
am
y
daith
i
Faentwrog
ar
y
dydd
Mawrth.
Roeddwn
i’n
gwrando
ar
raglen
Aled
Huws
‘Yn
y
Bore’
ac
roedd
slot
ble
roedd
sgyrsiau
ar
gael
efo
tri
o
ddysgwyr
o
dramor,
un
o’r
Almaen,
un
o’r
Ffindir
ac
un
arall
o’r
Eidal.
Beth
oedd
yn
syfrdanol
am
bob
un
oedd
bod
nhw
wedi
dysgu
mor
gyflym
ac
nad
oedd
dim byd yn y sgyrsiau i chi feddwl nad siaradwyr o’r crud oedden nhw.
Beth
bynnag
yn
ôl
at
yr
Eisteddfod
ac
yn
y
babell
Shw
mae,
shw
mae
dyn
ni’n
cael
ein
cyflwyno
i’r
pedwar
sydd
wedi
cyrraedd
rownd
derfynol
Dysgwr
y
Flwyddyn.
Roedd
pob
un
yn
ei
dro
yn
dod
ar
y
llwyfan
ac
yn
dweud
wrthon
ni
am
eu
cefndir,
pam
a
sut
oedden
nhw
wedi
dysgu
Cymraeg
a
sut
roedden
nhw
wedi
cyrraedd safon mor uchel. Dyma hanes y pedwar.
Gemma
Owen
-
yn
wreiddiol
o
Poole
ac
erioed
wedi
clywed
Cymraeg
tan
glywed
dau
gystadleuydd
yn
ei
siarad
ar
Big
Brother.
Aeth
hi
i
Brifysgol
Lerpwl
i
astudio
parafeddyginiaeth
ac
yna
cyfarfod
ei
darpar
ŵr.
Aeth
ati
i
ddysgu
gan
ddefnyddio’r
wefan
‘Say
Something
in
Welsh’.
Erbyn
hyn
mae
hi’n
gweithio
fel
paramedrig yng ngorsaf ambiwlans Llanrwst ac yn mwynhau siarad efo cleifion yn yr iaith Gymraeg
Grace
Emily
Jones
-
yn
wreiddiol
o
Seland
Newydd
lle
wnaeth
hi
gyfarfod
ei
darpar
ŵr
tra
oedd
hi’n
lapio
gwlân
i
Llion,
cneifiwr
o
Nebo.
Eto
roedd
hi
wedi
defnyddio’r
wefan
‘Say
Something
in
Welsh’.
Mae
ganddi
hi
radd
mewn
chwaraeon
ac
addysg.
Ar
ôl
chwarae
pêl-rwyd
gyda
thîm
merched
y
Bala
aeth
ymlaen
i hyfforddi tîm merched dan 18 oed Clwb Rygbi Nant Conwy - trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs.
Paul
Huckstep
-
o
dde
Lloegr
yn
wreiddiol
a
dyna
ble
wnaeth
o
ddysgu
Cymraeg
wrth
ddefnyddio’r
wefan
‘Say
Something
in
Welsh’
-
mae
hyn
i
gyd
yn
‘dweud
rhywbeth’
am
y
wefan
yma.
Gwnaeth
o
symud
i
Benmachno
ble
wnaeth
o
ymuno
â’r
dosbarth
nos
oedd
yn
cael
ei
gynnal
yn
y
dafarn.
Mae
wedi
cael
cefnogaeth
fawr
gan
bobl
y
pentref
ac
erbyn
hyn
mae’n
aelod
o’r
côr
lleol
ac
yn
llywodraethwr
yn
yr
ysgol
gynradd. Mae dysgu Cymraeg wedi ei helpu i fod yn rhan o’r gymuned. Sefyllfa ‘win win’ go iawn ynte!
Fiona
Collins
–
cyn
athrawes
yn
gweithio
fel
chwedleuwraig
ac
yn
adrodd
chwedlau,
mythau
a
hanes
i
blant
ac
i
oedolion.
Mae’n
credu
bod
chwedloniaeth
Cymru
yn
bwysig
ac
wedi
sefydlu
Caffi
Stori
sydd
yn
denu
criw
o
bobl
yn
fisol
i
chwedleua,
adrodd
barddoniaeth
neu
ganu.
Mi
wnaeth
hi
ddechrau
dysgu
Cymraeg yn 1999 ac erbyn hyn yn teimlo ddigon o hyder i gystadlu am Ddysgwr y Flwyddyn.
Y
peth
sydd
yn
gyffredinol
am
bob
un
o’r
ymgeiswyr
yw
bod
nhw’n
wreiddiol
o
ochr
arall
i’r
ffin.
Hefyd
bod
tri
ohonyn
nhw
wedi
dysgu
wrth
ddefnyddio’r
wefan
www.saysomethingin.com/welsh/course1.
Mae’n
rhaid
i
ni
fod
yn
ddiolchgar
iawn
bod
rhai
o’r
bobl
sydd
yn
dewis
symud
i
Gymru
yn
fodlon
dysgu'r
iaith
a
chyrraedd
safon
mor
uchel.
A’r
wefan
Say
Something
in
Welsh?
Pam
bod
nhw’n
cael
gymaint
o
lwyddiant?
Efallai
am
eu
bod
nhw’n
cynnig
cyrsiau
allech
chi
ddechrau
yn
syth,
heb
orfod
aros
tan
y
flwyddyn
nesaf.
Efallai
hefyd
am
nad
oes
toriad
dros
wyliau,
efallai
bod
y
toriadau
yn
torri’r
momentwm
a’r
dysgwyr
yn
rhoi’r
gorau
iddi
‘n
rhy
fuan.
Efallai
hefyd
am
eu
bod
nhw’n
trefnu
llawer
o
ddigwyddiadau
i’r
dysgwyr.
Pwy
ag
ŵyr? Beth bynnag mae ganddyn nhw rywbeth arbennig dros ben.
Yn
y
pen
draw
Fiona
wnaeth
ennill,
llongyfarchiadau
mawr
iddi
a
gobeithio
y
bydd
hi’n
mwynhau'r
flwyddyn i ddod.
Geirfa
Araith – lecture
Rownd derfynol – final round
Parafeddyginiaeth – paramedicine
Darpar ŵr – soon-to-be husband
Cleifion – patients
Cneifiwr – shearer
Llywodraethwr – (school) governor
Chwedleuwraig – story teller
Chwedleua – to tell stories
Ymgeiswyr - contestants