Gelliswick i Sandy Haven
Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd
Alan
Williams
oedd
yn
arwain
ein
taith
heddiw,
un
oedd
o
am
wneud
llynedd
ond
roedd
y
tywydd
gwlyb
wedi
achosi
iddo
ail
drefnu
er
mwyn
ein
diogelwch.
A
dyma
heddiw
oedd
y
wobr
am
i
ni
fod
mor
amyneddgar
am
flwyddyn
gron.
Diwrnod
sych
a
chynnes
gydag
awel
ysgafn
o’r
môr.
Braf
iawn
oedd
bod
yn
sir Benfro ar ôl wythnos hir!.
Cyn
i
ni
ddechrau
roedd
Mal
wedi
dweud
bod
teulu
ein
ffrind
diweddar
Gareth
Beynon
wedi
rhoi
ei
lyfrau
Cymraeg
iddo
er
mwyn
i
ni
gyd
cael
ein
dewis.
Roedd
hyn
yn
beth
arbennig
o
dda
iddyn
nhw
wneud,
cyfle
i
ni
roi
rhywbeth
ar
ein
silff
lyfrau
er
cof
am
ffrind
annwyl.
Dw
i’n
siŵr
bydd
nifer
o
deithiau’r
dyfodol
yn
tarddu o’r llyfrau. Diolch yn fawr iddyn nhw.
Y
man
cyfarfod
oedd
y
maes
parcio
ym
Mae
Gelliswick
ar
ochr
ogleddol
y
Cleddau
ac
roedd
13
o
aelodau
ar
y
daith.
O’m
blaenau
ni
roeddem
yn
gallu
gweld
glanfa
enfawr
y
South
Hook
Terminal
a
thancer
olew
yn
aros
yn
amyneddgar
wrth
ei
hochr
yn
cael
ei
odro’n
sych
o
nwy
o
Kuwait.
Dechrau
ar
y
daith
a
chyn
dim
roeddem
yn
cerdded
o
dan
strwythur
y
lanfa
-
dim
barbeciws
yn
fan
hyn
os
gwelwch
yn
dda!.
Wrth
feddwl
am
yr
holl
sôn
am
ynni
glân
y
dyddiau
yma
tybed
pa
bryd
bydd
yr
holl
ddiwydiant
ar
lannau’r
Cleddau’n diflannu?
Golygfeydd
gwych
tuag
at
Benrhyn
Dale
a’r
clogwyni’n
llawn
lliwiau
blodau’r
tymor.
Llawer
glwstwr
o
Glustog
Fair
efo’r
rhan
ar
ochr
y
môr
wedi
cael
ei
losgi
gan
y
gwyntoedd.
Gwrychoedd
crebachlyd
o’r
Ddraenen
Wen
wedi
ei
orchuddio
gan
we
a
lindys
i’w
weld
ym
mhob
man
yn
cysgu’n
sownd
ar
ôl
llenwi
eu
boliau ar y dail diflanedig.
Sandy
Haven
yn
dod
i’r
golwg
rŵan
a
phawb
yn
ddiolchgar
i
bwy
bynnag
oedd
wedi
gosod
tri
bwrdd
yno
i
ni.
Pan
dw
i’n
dweud
‘gosod’
nid
yw
hynny
yn
golygu
bod
lliain
wen
arnyn
nhw
wrth
gwrs,
dim
ond
bod
y
byrddau
yno!
Mwynhau
distawrwydd
y
traeth
wedyn
gyda
hyd
yn
oed
y
llanw
heb
ddigon
o
frys
i
gilio,
dŵr
clir
a’r
gwymon
oddi
dano
yn
wyrdd
llachar.
Ychydig
iawn
o
gychod
oedd
yma,
pob
un
yn
aros
yn
amyneddgar
am
y
fordaith
nesaf.
Doedd
dim
mwy
na
13
o
bobl
o
gwmpas,
pob
un
yn
aelod
o
Gymdeithas
Edward
Llwyd.
Ond
roedd
rhaid
mynd
ymlaen
a
dyma
ni
yn
gwneud
ein
ffordd
ar
lôn
gul
yng
nghanol
awr
frys yr ardal. Llawer gwaith roedd rhaid anadlu i mewn i osgoi cael ein taro gan ddrychau ystlys.
Cyrraedd
pentref
Herbrandston
a
phicio
i
mewn
i
weld
yr
eglwys
sydd
yn
amlwg
yn
cael
ei
edrych
ar
ei
hol
gan
y
pentrefwyr.
Un
peth
nodedig
am
yr
eglwys
a’r
pentref
yw’r
ffaith
nad
oes
cofgolofn
ar
gyfer
y
Cyntaf
na’r
Ail
Ryfel
Byd.
Y
rheswm
yw
nad
oedd
y
pentref
wedi
colli
un
o’i
bentrefwyr
yn
yr
un
na’r
llall.
Un
o
ddim ond dau yng Nghymru sydd wedi bod mor ffodus.
Tipyn
o
daith
ar
ochr
y
ffordd
fawr
ond
ar
y
trac
beicio
cyn
gwneud
ein
ffordd
i
lawr
y
cwm
ac
yn
ôl
at
y
ceir.
Wyth
ohonom
ni
yn
aros
yn
amyneddgar
am
y
pump
olaf.
Yn
ôl
pob
sôn
roedd
ryw
goeden
wedi
trio
sibrwd
rhywbeth
yng
nghlust
Eirian
ond
doedd
o
ddim
wedi
deall
yn
iawn
beth
oedd
y
neges.
Bydden
ni
byth yn gwybod!
Diolch
yn
fawr
i
Alan,
a
Jackie
mae’n
siŵr,
am
fod
mor
benderfynol
o
gynnal
y
daith
yma.
Taith
bleserus dros ben a chwmni da – fel arfer. Diolch i bawb!
Geirfa
Am flwyddyn gron – for a whole year
Ochr ogleddol – the north side
Glanfa – wharf, jetty
Godro’n sych – to milk dry
Ynni glân – clean energy
Clogwyn – cliff
Blodau’r tymor – the season’s flowers
Clwstwr – clump, cluster
Clustof Fair – thrift
Gwrychoedd crebachlyd – stunted bushes
Draenen wen – hawthorn
Gorchuddio – covered
We – web
Lindys – caterpillars
Cysgu’n sownd – fast asleep
Boliau – stomachs
Diflanedig – disappearing
Gosod – to place or to lay
Heb ddigon o frys – without enough of a hurry
Cilio – to retreat
Gwymon – seaweed
Oddi dano – underneath
Gwyrdd llachar – bright green
Mordaith – voyage
Awr frys – rush hour
Anadlu i fewn – to breathe in
Drychau ystlys – wing mirrors
Peth nodedig – a notable thing
Yr un na’r llall – the one or the other
Yn ôl pob sôn – by all accounts
Sibrwd – whisper*
*Don’t worry – if you weren’t with us you wouldn’t understand this!