Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Robotiaid amharchus wedi glanio Pethau roedden ni’n darllen am mewn llyfr ffuglen oedd robotiaid blynyddoedd yn ôl ynte? (ia, dw i’n gwybod, dw i’n mynd yn ôl at yr hen ddyddiau unwaith eto. Ond chwarae teg, erbyn hyn mae mwy o ddyddiau tu ôl i mi nag sydd o flaen!). Rhyw bethau roeddech chi’n gweld yn y comics wrth ochr Dan Dare a Digby - brensiach, dach chi’n cofio nhw hefyd? Blynyddoedd wedyn roedd y Daleks efo’u lleisiau od yn achosi i’n plant wylio’r teledu wrth guddio tu ôl i’r soffa. Yn araf bach mae ein diwydiannau mawr fel y nhw sydd yn adeiladu ceir neu beiriannau golchi ac yn y blaen wedi mecaneiddio’r ffordd o roi pethau at ei gilydd. Erbyn hyn mae pethau wedi cyrraedd lefel soffistigedig dros ben a rhannau’n cael eu weldio gyda'i gilydd gan gynnau sparcllyd yn symud o un lle i’r llall, pob weld yn union y lle iawn ac o’r safon uchaf. Tydi pethau wedi newid! Doedd pobl ddim yn mynd dramor ar wyliau yn y 50au ar 60au ac, i ni beth bynnag, doedd dim angen mynd i unlle achos roedden ni’n byw yn y lle'r oedd pawb yn dŵad ar wyliau. Roedd ein gwyliau ni’n wahanol achos roedd Dad yn gwneud swop efo ficer arall, locum tenens oedden nhw’n galw hynny. Un tro aethon ni i Bebbington, Cilgwri - lle hollol wahanol i Sir Fôn. Roedd Dad wedi trefnu dau ymweliad i ni, y cyntaf yn iard adeiladu llongau Cammel Laird, lle swnllyd byddarol efo dynion ym mhob man yn gosod rifetau. Doeddwn i erioed wedi gweld y fath ffordd o weithio, roedd yn agoriad llygad ac yn gyffroes dros ben. I goroni’r ymweliad roedd long yn cael ei lansio a dw i’n cofio’n glir rhyw ddynes bwysig ar stondin yn dweud yn uchel a gyda drama “I name this ship Stanvak India, God bless all who sail in her.” Gwnaeth hi ollwng y botel o Siampên ond wnaeth y botel ddim torri ac roedd rhaid iddi roi swing arall iddi. Tydi technoleg yn wych! Dw i newydd ddod ar draws dudalen ar y am y llong yna a alla i ddweud wrthoch chi mai tancer olew oedd hi yn perthyn i gwmni Esso a dyddiad y lansiad oedd 17eg Awst 1954. Yr ail ymweliad oedd i ffatri Meccano yn Lerpwl a gweld merched yn eistedd wrth ochr belt symudol a cheir rasio Dinky yn mynd heibio. Roedd un yn codi tegan ac yn rhoi dab o baent binc ar wyneb y gyrrwr. Roedd yr un nesaf yn rhoi dab o baent coch ar ei ben er mwyn gwneud helmed. Yr un lliw yn yr un lle ar bob car pob awr, pob dydd. Am ffordd o ennill cyflog! Agoriad lygad i mi unwaith eto, doedd neb yn gwneud y fath beth yn Sir Fôn. Roedd y ffatri yn gweiddi am robotiaid. Un o’r pethau alla i ddim gwneud hebddo yw’r peiriant coffi sydd yn y gegin, mae’r siot o gaffîn dw i’n cael yn fy mhaned espresso pob bore yn setio fi i fyny am y diwrnod ac, o bryd i’w gilydd bydda i’n cael un arall. Dim gormod neu bydd fy ngwallt yn dechrau sticio’i fyny. Er mor hoff yr ydw i o’r teclyn o achos safon ddibynadwy'r coffi mae’n gallu bod yn reit gwta, amharchus ac yn anfoesgar. Mae negeseuon yn dod ar y sgrin fach yn rheolaidd ac mae'n gwrthod mynd ymlaen tan i mi ei ufuddhau. Pethau fel “FILL TANK”, EMPTY GROUNDS CONTAINER”, “FILL BEANS CONTAINER”. Does dim “Os gwelwch yn dda” na chwaith “Diolch yn fawr” ar ôl i mi ufuddhau. Ond nid dyna yw’r gwaethaf! Mae’r gorchymyn pob tro mewn priflythrennau ac mae hynny’n golygu bod y peiriant yn GWEIDDI ARNAF FI! Dydw i ddim eisiau i rywun neu rywbeth weiddi arnaf fi beth cyntaf yn y bore. Yr unig beth alla i ddweud yw - os oes rhaid i ni gael y pethau yma i wneud pob dim drosom ni pam na chawn ni tipyn bach o barch? A thra mod i wrthi ac yn codi stêm - pam na chawn ni’r negeseuon yma yn Gymraeg?
Geirfa Ffuglen – fiction Diwydiannau – industries Ymweliad – visit Byddarol – deafening Lansio – to launch Belt Symudol – moving belt Tegan - toy Ennill cyflog – to earn a wage Cwta – sharp Amharchus – disrespectful Anfoesgar – impolite Yn rheolaidd – regularly Ufuddhau – to obey
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen