Gydangilydd.cymru
Rhondda Fawr a Fach Ar ôl fis o segurdod a’r cyhyrau wedi cael y cyfle i ymlacio a slacio, mynd yn fflopi a slopi roedd angen ychydig o her. Felly beth oedd gan Gymdeithas Edward Llwyd i’w gynnig i diwnio’r peiriant yma dw i‘n galw’n gorff? Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi ateb, cwestiwn rhethregol oedd hynny. Beth oedd ar y rhaglen oedd taith yn dechrau o Rondda Fawr a dros y mynydd i gael golwg oddi uchod o’r Rondda Fach a cherdded ymlaen at y ceir. Gan fy mod i’n ‘ddyn dŵad’ fan hyn yn y de mae’r cymoedd yn dal i fod yn dipyn o gyfrinach i mi. Diolch i’r Gymdeithas mae gen i ychydig mwy o wybodaeth erbyn hyn ond mae llawer mwy i ddysgu, ond mae’r dysgu yn gyffro pleserus. Mi nes i benderfynu gyrru trwy Gwm Nedd i Hirwaun a thros y mynydd i gyrraedd Cwm Rhondda o gyfeiriad y gogledd. Nes i sicrhau bod gen i ddigon o amser i aros am ychydig i fwynhau'r olygfa i’r gogledd o’r man uchaf. Roedd y bore’n glir a’r hael yn crwydro trwy’r tirlun o’m mlaen i - ardderchog! Roedd Eirian wedi cael yr un syniad hefyd. Wrth adael y gilfach roeddwn i du ôl i dri o seiclwyr ac roedd rhaid i mi gadw’n ôl am sbel ond wrth gyrraedd pen yr allt sylweddolais y bydden nhw’n cael mwynhad yn rasio i lawr i’r gwaelod. Doedd dim ond yn deg i adael iddyn nhw fynd o'm mlaen. Cawson nhw hwyl hefyd ac ar un adeg roedden nhw wedi cyrraedd cyflymder o 45 m.y.a.! Dewr iawn, baswn i wedi bod yn gwasgu’r breciau ychydig mae’n rhaid i mi gyfaddef. Roedd ganddyn nhw apwyntiad am baned yn y caffi cyntaf yn Nhreherbert a dw i’n siŵr bydden nhw wedi siarad yn hir am y wefr o deimlo’r gwynt yn eu hwynebau'r holl ffordd i lawr. Cyrraedd y man cyfarfod a doedd dim syndod mai ychydig iawn oedd wedi troi i fyny. Roedden ni’n ymwybodol bod gorymdaith Yes Cymru yn digwydd ym Merthyr y bore yma. Yn ôl Wales Online roedd 5,200 yn cerdded. Ond dim ond chwech oedd yn cerdded efo ni yn cynnwys ein harweinydd Glyn Hughes. Mae Glyn yn adnabod yr ardal yn dda ac yn hapus iawn i’n haddysgu. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod diddorol. Roedden ni wedi cael ein rhybuddio o flaen llaw bod y rhan gyntaf yn mynd i fod yn serth ac yn hir ond roedd llawer o gyfleoedd i aros a throi’n ôl i edmygu’r olygfa. Yn y cymoedd mae llawer o hanes wedi cael ei guddio gan natur gyda thipyn o gymorth gan law dyn. Roedd Glyn yn gallu esbonio i ni ble oedd y pyllau glo a pha rai o’r bryniau oedd yn hen dipiau. Mae’r holl fudred a diwydiant wedi mynd a’r cymoedd yn wyrdd unwaith eto. Yn y pendraw natur sydd yn ennill bob tro. Roedden ni’n dringo am ryw awr cyn i ni gyrraedd y tyrbinau gwynt enfawr a oedd yn troi mor benderfynol. O’r topiau roedd llawer i’w weld i bob cyfeiriad. Mae ein byd yn gaeth i ynni ac mae rhaid i ni ei gael o rywle. Wrth sefyll fan hyn a dychmygu sut oedd pethau pan oedd ein hynni yn dod o dan y ddaear, mae’n rhaid i mi ddweud bod cael ynni o’r gwynt yn llawer gwell Doedden ni ddim yn hir yn croesi i fod uwchben y Rhondda Fach a dyma ni yn edrych i lawr at flaen y cwm a phentref Maerdy neu Foscow Fach yn gorwedd yn glyd o’n blaenau. Mae gweld y pentrefi yma o uchder yn dangos yn glir sut mae’r cymunedau wedi cael eu gwasgu i mewn i ofod cyfyng. Cerdded ymlaen ychydig ac edrych i lawr at Flaenllechau wedyn Glynrhedyn a oedd wedi bod yn ddigon lwcus i fwynhau mwy o le. Ar ochr ddeol Glynrhedyn mae’r cwm yn mynd yn gul ofnadwy - ‘Cwm culach na cham geiliog’. Wrth edrych i lawr ar Glynrhedyn o’r uchder roedd y tai yn edrych fel oedden nhw’n trio gwasgu trwy’r culder er mwyn dianc i’r byd mawr, fel dŵr yn rhedeg trwy dwmffat. Cyrraedd Penprys wedyn ac edrych dros y cwm at fryn efo pen crwn, dyma oedd domen gwastraff pwll glo Tylorstown. Erbyn hyn roedd yn edrych mor naturiol. Tybed a oedd cynllun cyfrinachol yma i greu mynyddoedd uwch a mwy ysblennydd na’r rhai yn y gogledd? Dim gobaith gwboi, dim ffiars o beryg! Yn Penprys roedden ni’n edrych i lawr ar Lwynypia, Blaen Clydach, Cwm Clydach a Thonypandy heb lawer o ofod rhyngddyn nhw a dyma ni’n sylweddoli ein bod ni bron wedi cwblhau’r cylch. Dim ond cerdded i lawr y ffordd rŵan ac roedden ni’n ôl wrth y ceir ac i mewn â ni i’r Ganolfan Chwaraeon i gael rhywbeth i dorri’n syched a chael dipyn o glonc. Diolch yn fawr i Glyn am ei holl waith baratoi ac am rannu ei wybodaeth werthfawr efo ni. I mi yn bersonol mae darn arall o jig-so'r cymoedd wedi disgyn i’w le, a diolch yn fawr iawn i’r lleill am eu cwmni difyr. Taith arbennig! Geirfa Segurdod – inaction Cwestiwn rhethregol – rhetorical question Golwg oddi uchod – bird’s eye view Dyn dŵad – a newcomer Man uchaf – highest point Tirlun – landscape Cilfach – lay-by Gwefr – thrill Gorymdaith – parade, protest march Rhybuddio – to warn Llaw dyn – the work of man Budred – dirtiness Tyrbinau gwynt – wind turbines Yn gaeth i ynni – addicted to energy Gofod cyfyng – tight space Cwm culach na cham ceiliog – a valley narrower than a cockrell’s stride Culder – narrowness Twmffat – funnel Tomen gwastraff – waste tip Dim gobaith gwboi – no chance mate Dim ffiars o beryg – no way Cwblhau’r cylch – to complete the circle
Gydangilydd.cymru
Rhondda Fawr a Fach Ar ôl fis o segurdod a’r cyhyrau wedi cael y cyfle i ymlacio a slacio, mynd yn fflopi a slopi roedd angen ychydig o her. Felly beth oedd gan Gymdeithas Edward Llwyd i’w gynnig i diwnio’r peiriant yma dw i‘n galw’n gorff? Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi ateb, cwestiwn rhethregol oedd hynny. Beth oedd ar y rhaglen oedd taith yn dechrau o Rondda Fawr a dros y mynydd i gael golwg oddi uchod o’r Rondda Fach a cherdded ymlaen at y ceir. Gan fy mod i’n ‘ddyn dŵad’ fan hyn yn y de mae’r cymoedd yn dal i fod yn dipyn o gyfrinach i mi. Diolch i’r Gymdeithas mae gen i ychydig mwy o wybodaeth erbyn hyn ond mae llawer mwy i ddysgu, ond mae’r dysgu yn gyffro pleserus. Mi nes i benderfynu gyrru trwy Gwm Nedd i Hirwaun a thros y mynydd i gyrraedd Cwm Rhondda o gyfeiriad y gogledd. Nes i sicrhau bod gen i ddigon o amser i aros am ychydig i fwynhau'r olygfa i’r gogledd o’r man uchaf. Roedd y bore’n glir a’r hael yn crwydro trwy’r tirlun o’m mlaen i - ardderchog! Roedd Eirian wedi cael yr un syniad hefyd. Wrth adael y gilfach roeddwn i du ôl i dri o seiclwyr ac roedd rhaid i mi gadw’n ôl am sbel ond wrth gyrraedd pen yr allt sylweddolais y bydden nhw’n cael mwynhad yn rasio i lawr i’r gwaelod. Doedd dim ond yn deg i adael iddyn nhw fynd o'm mlaen. Cawson nhw hwyl hefyd ac ar un adeg roedden nhw wedi cyrraedd cyflymder o 45 m.y.a.! Dewr iawn, baswn i wedi bod yn gwasgu’r breciau ychydig mae’n rhaid i mi gyfaddef. Roedd ganddyn nhw apwyntiad am baned yn y caffi cyntaf yn Nhreherbert a dw i’n siŵr bydden nhw wedi siarad yn hir am y wefr o deimlo’r gwynt yn eu hwynebau'r holl ffordd i lawr. Cyrraedd y man cyfarfod a doedd dim syndod mai ychydig iawn oedd wedi troi i fyny. Roedden ni’n ymwybodol bod gorymdaith Yes Cymru yn digwydd ym Merthyr y bore yma. Yn ôl Wales Online roedd 5,200 yn cerdded. Ond dim ond chwech oedd yn cerdded efo ni yn cynnwys ein harweinydd Glyn Hughes. Mae Glyn yn adnabod yr ardal yn dda ac yn hapus iawn i’n haddysgu. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod diddorol. Roedden ni wedi cael ein rhybuddio o flaen llaw bod y rhan gyntaf yn mynd i fod yn serth ac yn hir ond roedd llawer o gyfleoedd i aros a throi’n ôl i edmygu’r olygfa. Yn y cymoedd mae llawer o hanes wedi cael ei guddio gan natur gyda thipyn o gymorth gan law dyn. Roedd Glyn yn gallu esbonio i ni ble oedd y pyllau glo a pha rai o’r bryniau oedd yn hen dipiau. Mae’r holl fudred a diwydiant wedi mynd a’r cymoedd yn wyrdd unwaith eto. Yn y pendraw natur sydd yn ennill bob tro. Roedden ni’n dringo am ryw awr cyn i ni gyrraedd y tyrbinau gwynt enfawr a oedd yn troi mor benderfynol. O’r topiau roedd llawer i’w weld i bob cyfeiriad. Mae ein byd yn gaeth i ynni ac mae rhaid i ni ei gael o rywle. Wrth sefyll fan hyn a dychmygu sut oedd pethau pan oedd ein hynni yn dod o dan y ddaear, mae’n rhaid i mi ddweud bod cael ynni o’r gwynt yn llawer gwell Doedden ni ddim yn hir yn croesi i fod uwchben y Rhondda Fach a dyma ni yn edrych i lawr at flaen y cwm a phentref Maerdy neu Foscow Fach yn gorwedd yn glyd o’n blaenau. Mae gweld y pentrefi yma o uchder yn dangos yn glir sut mae’r cymunedau wedi cael eu gwasgu i mewn i ofod cyfyng. Cerdded ymlaen ychydig ac edrych i lawr at Flaenllechau wedyn Glynrhedyn a oedd wedi bod yn ddigon lwcus i fwynhau mwy o le. Ar ochr ddeol Glynrhedyn mae’r cwm yn mynd yn gul ofnadwy - ‘Cwm culach na cham geiliog’. Wrth edrych i lawr ar Glynrhedyn o’r uchder roedd y tai yn edrych fel oedden nhw’n trio gwasgu trwy’r culder er mwyn dianc i’r byd mawr, fel dŵr yn rhedeg trwy dwmffat. Cyrraedd Penprys wedyn ac edrych dros y cwm at fryn efo pen crwn, dyma oedd domen gwastraff pwll glo Tylorstown. Erbyn hyn roedd yn edrych mor naturiol. Tybed a oedd cynllun cyfrinachol yma i greu mynyddoedd uwch a mwy ysblennydd na’r rhai yn y gogledd? Dim gobaith gwboi, dim ffiars o beryg! Yn Penprys roedden ni’n edrych i lawr ar Lwynypia, Blaen Clydach, Cwm Clydach a Thonypandy heb lawer o ofod rhyngddyn nhw a dyma ni’n sylweddoli ein bod ni bron wedi cwblhau’r cylch. Dim ond cerdded i lawr y ffordd rŵan ac roedden ni’n ôl wrth y ceir ac i mewn â ni i’r Ganolfan Chwaraeon i gael rhywbeth i dorri’n syched a chael dipyn o glonc. Diolch yn fawr i Glyn am ei holl waith baratoi ac am rannu ei wybodaeth werthfawr efo ni. I mi yn bersonol mae darn arall o jig-so'r cymoedd wedi disgyn i’w le, a diolch yn fawr iawn i’r lleill am eu cwmni difyr. Taith arbennig! Geirfa Segurdod – inaction Cwestiwn rhethregol – rhetorical question Golwg oddi uchod – bird’s eye view Dyn dŵad – a newcomer Man uchaf – highest point Tirlun – landscape Cilfach – lay-by Gwefr – thrill Gorymdaith – parade, protest march Rhybuddio – to warn Llaw dyn – the work of man Budred – dirtiness Tyrbinau gwynt – wind turbines Yn gaeth i ynni – addicted to energy Gofod cyfyng – tight space Cwm culach na cham ceiliog a valley narrower than a cockrell’s stride Culder – narrowness Twmffat – funnel Tomen gwastraff – waste tip Dim gobaith gwboi – no chance mate Dim ffiars o beryg – no way Cwblhau’r cylch – to complete the circle