Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Rhondda Fach Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dyw’r ap dw i’n defnyddio ar hyn o bryd i fy hysbysu am y tywydd i ddod ddim mor effeithiol na’r un gynt. Mae’n dangos cymylau llwyd ond heb dangos dopyn o law yn disgyn oddi arnynt. Felly ar yr edrychiad cyntaf mae rhywun yn meddwl mai tywydd dwl ond sych sydd o’i flaen. Ond nid dyna’r gwir, mae rhaid edrych yn is i lawr er mwyn gweld pa mor debyg yw hi i fwrw glaw. Dydw i ddim yn or-hoff o’r ap newydd yma. Byddech chi’n gofyn rŵan pam yn y byd nes i newid ap? Dyna’r cwestiwn dw i’n gofyn hefyd ac mae’r stori’n rhy hir i’w adrodd fan hyn. I ateb eich cwestiwn nesaf dw i wedi methu ailddarganfod yr ap roeddwn i’n defnyddio gynt. Weithiau dw i’n casáu’r dechnoleg newydd yma! Am hanner awr wedi chwech bore dydd Sadwrn doedd dim rhaid i mi gael ap er mwyn gwybod beth oedd y tywydd yn gwneud tu allan. Roedd sŵn curo ffyrnig ar y ffenest yn dweud wrthyf yn glir roedd hi’n tywallt y glaw a storom Eric yn pwysleisio hyn wrth roi egni i’r glaw wneud ymdrech go dda i gracio’r ffenestri - a finnau wedi bod yn edrych ymlaen gymaint at daith Glyn Hughes yn ardal y Rhondda Fach. Lwcus iawn wnaeth y glaw clirio a’r gwynt gostegu dipyn yn yr awr nesaf. Cyrraedd Parc Gwledig Barry Sidings a gweld yr ‘usual suspects’ yn prysur roi eu sgidiau ymlaen, deuddeg ohonom ni y tro yma. (A gyda llaw pwy oedd y dyn yma a wnaeth sefydlu'r parc yma dwedwch? Dydw i ddim wedi dod ar draws dyn o’r enw Barry Sidings mewn unrhyw lyfr hanes dw i wedi darllen). Ffwrdd â ni tuag at Borth a Glyn yn tynnu ein sylw at yn y pellter, oedd yn gartref i Guto Nyth Bran. o’r enw Nyth Bran siŵr o fod! Heibio Canolfan Treftadaeth Rhondda wedyn a chroesi’r afon a nes ymlaen gweld yr hen ffatri ble roedd Corona yn cael ei gynhyrchu. Roedd hyn yn fy atgoffa o’r cyfnod pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain ac yn gweld hysbysebion am ddiod Idris yn yr orsafoedd tanddaearol. Roedd diod Idris yn debyg i Gorona ond gyda gwreiddiau yn ardal Cader Idris. Ai ymdrech fawr i anelu’r Cymry oddi wrth y ddiod gadarn oedd sefydlu’r diodydd yma neu dim ond gweld cyfle i dorri syched? Sefyll ar bont uwchben y ffordd fawr wedyn a Glyn yn dangos mai dyma yw’r lle ble mae cymoedd Rhondda Fawr a Fach yn dod at ei gilydd. Ia, dyna gwm y Rhondda Fawr yn mynd i’r chwith a’r Rhondda Fach yn mynd i’r dde. Dyma’r fath o beth y byddech yn anwybyddu’n llwyr heb rywun yn tynnu’ch sylw ato. Mae’r pethau yma yn bwysig er mwyn i chi cael teimlad o’r tirlun cyn yr holl ddatblygiadau. Cyrraedd pwynt ble oedden ni’n gallu gweld tref ar ei ben ei hun tu draw i Ynyshir. Tref fechan wedi ei wasgu gan ochrau cwm ac yn edrych yn gyfforddus ac yn glud. Dyma Wattstown neu ‘Y Cwtsh’ fel mae pobl leol yn ei alw, disgrifiad da hefyd. Dilyn llwybr trwy’r cwm a gweld yr awyr yn dywyll tu ôl i ni. Wel o leiaf na fydden ni’n wynebu’r glaw. Ond na wnaeth hi fwrw glaw, nid i ddechrau beth bynnag. Roedd natur wedi penderfynu taflu cesair atom ni felly i fyny â’r hwds i’n gwarchod ac roedden ni’n ddiolchgar doedd dim rhaid i ni ddioddef poen cesair ar ein hwynebau. Gadael yr holl dai a dilyn y Rhondda Fach trwy’r coed a dyma ni'n gallu gweld pa mor gul yw’r cwm. Er enw’r afon yw’r Rhondda Fach dyw hi ddim mor fechan â hynny ac roedd anawsterau o gael y glo o’r pyllau ac i lawr y cwm yn amlwg. Roedd trac yr hen reilffordd ar ochr arall yr afon a doedd y llwybr roedden ni’n cerdded ddim yn eang o gwbl. Problem fwyaf y datblygwyr oedd bod yr afon wedi hen hawlio ei le yn barod ac roedden nhw’n gorfod gwneud eu gorau efo’r gofod oedd ar ôl. Allan o’r coed a chyrraedd Glynrhedynog a gweld cae rygbi Ferndale RFC. Meddwl am dipyn a sylweddoli mai dyna yw enw Cymraeg am Ferndale. Roeddwn i wedi cael ‘electric light moment’! Cerdded i fyny i ganol y dref a chael argraff dda. Ymweld â Pharc y Darren wedyn a cherdded o gwmpas y llyn. Oherwydd amser y flwyddyn doedden ni ddim yn gweld y lle ar ei orau. Rhaid gwneud nodyn i ymweld â’r lle mewn tywydd gwell. Yn ôl at y ceir wrth ddefnyddio’r bws a theimlo’n ddiolchgar mod i wedi cyrraedd ‘rhyw oed’. Diddorol iawn oedd gweld trefi’r cwm allan o ffenestri’r bws. Taith arbennig, unwaith eto roedd Glyn wedi gwneud gwaith trylwyr er ein mwyn ni. Pawb wedi elwa o’r holl wybodaeth ac wedi cael mwynhad dros ben. Mawr ddiolch i Glyn am y gwaith paratoi. Ac unwaith eto, diolch yn fawr i bawb am eu cwmni. Geirfa Hysbysu – to inform Edrychiad cyntaf – first sight Pa mor debyg – how likely Ffyrnig – furiously Pwysleisio – to emphasise Gostegu –to lower, to calm down Canolfan Treftadaeth – Heritage Centre Cynhyrchu – to produce Cyfnod – period Gorsafoedd tanddaearol – underground stations Gwreiddiau – roots Diod cadarn – strong drink Tynnu sylw at – draw attention to Tirlun – lanscape Datblygiadau – developments Clud – cosy Gwarchod – to protect Anawsterau – difficulties Pwll, pyllau – pit, pits Datblygwyr – developers Argraff da – a good impression Rhyw oed – a certain age Er ein mwyn ni – on our behalf
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen