Gydangilydd.cymru
Penrhyn Dale Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Nid dydd Sadwrn oedd y tro cyntaf i mi gael trafferth cyrraedd Dale mewn pryd i ymuno ag aelodau’r Gymdeithas ar daith. Llynedd roedd Alan yn arwain taith ac, er fy holl ymdrechion roeddwn i bum munud yn hwyr, pawb wedi hen fynd. Pan oedd Mam a Dad yn byw yn St Florence, ger Dinbych y Pysgod, dim ond tuag awr oedd y siwrne wythnosol i’w gweld nhw yn cymryd. Dw i’n trio anelu at gyrraedd y man cyfarfod tua hanner awr cyn y dechrau a’r tro yma wnes i adael y am 8.40. Roeddwn yn sicr bydd hyn yn ddigon o amser ond cael a chael oedd hi - cyrhaeddais am 10.29. Beth sydd yn bod efo fi? Roedd balchder yn y fantol hefyd achos ar y dydd Sadwrn blaenorol nad oeddwn wedi cyrraedd y man cyfarfod o gwbl ar ôl treulio o leiaf ugain munud yn crwydro’r lonydd cymhleth yn ardal Llanddunwyd. Yn y diwedd roedd rhaid derbyn fy mod i a’r holl dechnoleg gyfoes wedi cael ein trechu. Yn ôl at yr wythnos yma, yn y man cyfarfod mae’r amser yn tynnu at 10.30 a dim golwg ohono i a phawb mewn panig. Yn llythrennol ar y funud olaf dyma fi’n cyrraedd a gweld rhyddhad ar wynebau fy hen ffrindiau. Yn reddfol wnaeth bawb ddod at ei gilydd mewn cymeradwyaeth. Da iawn y dyn yna! Gareth Jones oedd yn ein harwain a chasglwn o flaen y traeth iddo gyflwyno i ni tipyn o hanes y pentref poblogaidd yma, pentref sydd ddim yn deffro tan 10.00 y bore yn ôl pob sôn. Ymlaen â ni i ddilyn llwybr yr arfordir ar ein siwrne i Benrhyn Santes Anne a chael sicrhad gan Gareth mai dyma’r unig ‘peth dringo’ ar y daith. Wel Gareth ddown i’n ôl i drafod hynny nes ymlaen! Mae’r lôn yn dilyn yr arfordir a phob hyn a hyn roedd golygfeydd gwych i’w gweld trwy’r coed. A ydw i eto wedi dweud wrthych ein bod ni wedi bod yn ffodus i gael diwrnod braf? Nac ydw? Iawn, dyma fi felly - roedden ni wedi bod yn ffodus iawn i gael diwrnod braf iawn! Gan ein bod ni’n cerdded ar lannau aber y ddau Gleddau, aber sydd wedi cael canmol gan y Llyngesydd Nelson, mae olion adeiladau amddiffynnol yn frith o’n cwmpas. Pethau hanesyddol ydyn nhw, wrth gwrs, yn ein dyddiau heddychlon ni hamdden a masnach sydd yn bwysig. Mae tanceri olew a’r tancer nwy enfawr i’w gweld yn y pellter. Cyn bo hir bydden ni’n gweld y llong fferi o Rosslare yn cyrraedd. Ond maen nhw rhywsut yn gweithio yn y cefndir, beth sydd yn symud trwy’r amser yw cychod bach yr ymwelwyr yn mwynhau’r pleser sydd ar gael yn y wlad gorau yn y byd! Bron wedi cyrraedd Penrhyn Santes Ann ac mae Gareth yn ein harwain i lawr at y traeth. Dyma gawsom hanes Harri Tudur yn glanio gyda’i lynges o Ffrainc i ddechrau ei daith trwy Gymru hyd at Bosworth ac ymlaen i Lundain i gael y goron a dechrau llinell y Tuduriaid. Uwchben y bae, ar ochr cae o farlys euraidd mae cofeb yn sefyll yn ddiymhongar i atgoffa pawb o’r achlysur pwysig yn hanes Prydain a’r Cymry. Ymlaen tuag at y goleudy a hen fythynnod Gwylwyr y Glannau, sydd bellach yn dai gosod. Dyma oedd yr ail ‘beth dringo’. Yr un roedd Gareth wedi cadw’n dawel amdano. Ond, pwy sy’n cwyno! Cyn i ni adael roedd darn o ddaeareg i’w weld. Roeddwn i wedi ei weld o’r blaen, roedd y tywodfaen coch, a oedd yn lafa ar y pryd wedi ei ‘rewi’ mewn siâp cragen malwen enfawr. Arwydd effeithiol iawn i ddechrau dangos sut wnaeth ein planed cael ei ffurfio. Yn anffodus mae natur yn creu ond hefyd yn dinistrio achos roedd tirlithriad wedi danfon y ‘gragen’ i lawr i waelod y clogwyn. Heb y darn yma roedd y clogwyn, er yn ddiddorol, wedi colli’r canolbwynt a oedd yn gwneud yr holl beth mor arbennig. Trueni ynte! Ymlaen ar lwybr yr arfordir eto ac anelu at Dale a’r ceir. Taith bleserus a diddorol iawn ar ddiwrnod braf, criw da o gerddwyr fel arfer. Diolch iddyn nhw am eu cwmni. Ond yn enwedig diolch i Gareth am yr holl waith baratoi, y gwaith ymchwil, trefnu tywydd braf ac am drosglwyddo i ni gymaint o wybodaeth ddiddorol ar hyd y daith. O.N. Cyn i mi anghofio, ar ddechrau’r daith tynnais fy nghamera allan o’r bag ac, wrth drio tynnu’r llun cyntaf, sylweddolais doedd dim cerdyn côf ynddo - dim cerdyn, dim lluniau. Gwnes apêl yn y gobaith roedd gan rywun gerdyn sbâr a daeth Alan i’r adwy yn syth a chael fi allan o drwbl. Mawr ddiolch Alan! Geirfa Ymdrechion – attempts Cael a chael – touch and go Yn y fantol – in the balance Blaenorol – previous Llanddunwyd – St Donats Wedi cael ein trechu - been defeated Yn llythrennol – literally Rhyddhad – relief Yn reddfol – instinctively Cymeradwyaeth – applause Canmol – praise Llyngesydd – Admiral Dyddiau heddychlon – peaceful times Barlys euraidd – golden barley Diymhongar – modest Gwylwyr y Glannau – Coastguards Tai gosod – summer lets Tywodfaen coch – red sandstone Cragen malwen – snail Shell Tirlithiad - landslide