Gydangilydd.cymru
Penmaen, Bro Gwyr Ar foreau Sadwrn pan mae aelodau’r Gymdeithas yn agor y llenni a gweld awyr las heb yr un cwmwl mae eu calonnau’n codi. Er eu bod nhw i gyd (bron) yn hapus i gerdded ym mhob tywydd (bron) mae’r profiad yn llawer gwell pan mae’r haul yn tywynnu. Ond ym mis Ionawr mae’n rhaid cofio gwirio cyflwr y car achos mae noson glir yn golygu noson oer, hynny yn ei dro yn golygu car wedi ei orchuddio dan rhew. Rhaid i mi gyfaddef yn syth mod i wedi anghofio gwneud hynny ond doedd dim problem achos roedd y daith yn fy milltir sgwâr ac, am unwaith doeddwn i ddim yn brin o amser. Mae ein taith ni heddiw yn mynd i fod llawn pleser. Y maes parcio ger eglwys Penmaen oedd y man cyfarfod ac mi oedd tua ugain wedi troi fyny. Richard Davies oedd yn ein harwain. Roedd y cymal cyntaf yn mynd â ni i ben Cefn Bryn ac wrth gyrraedd y pen roedd olygfa wych o Fae Oxwich fel bwa o’n blaenau, môr las a thraeth melyn, ardderchog. A dyna ble fydden ni ar gymal olaf ein taith. Hyfryd o fyd! Cerdded ymhellach cyn cyrraedd man ble roedd rhaid disgyn i lawr tuag at Nicholaston a dyma le cawsom ni flas o realaeth y daith yma. Os dach chi’n cofio roedd ein taith ni yn ardal Llanymddyfri wythnos diwethaf yn wlyb ofnadwy dan draed o achos yr holl law roedd wedi bod. Doedd y glaw bron ddim wedi stopio ers hynny. Mae’n wir beth maen nhw’n dweud ‘I’r pant y rhed y dŵr’ a phan mae rhywun yn cerdded y llwybrau maen nhw’n creu pantiau, ac i ble mae’r dŵr yn mynd? I’r llwybrau, wrth gwrs! Roedd y llwybr wedi datblygu i fod yn afon fwdlyd a llithrig. Gwaeth byth mi oedd lawer o eithin ar yr ochrau ac wrth wneud ein gorau i osgoi’r mwd roedden ni’n cael ein pigo yn ddidrugaredd. Y pellach i lawr roedden ni’n mynd y wlypach oedd hi. Roedden ni mor falch o gyrraedd y diwedd a chael yr holl beth drosodd! Cyrraedd y ffordd fawr a cherdded trwy stad Pen-rhys, heibio adfeilion y castell a’r i gyrraedd safle’r hen felin a’r llyn ble roedden nhw’n cadw’r pysgod, llyn grwn wedi ei rannu i bedwar gylchran. Yn anffodus roedd y llyn wedi cael ei orchuddio gan yr isdyfiant, ond roedd adfeilion y felin yn glir i weld. Fyny’r allt wedyn at eglwys Sant Andrew ble roedd llawer o wynebau gwastad i ni eistedd arnynt i fwynhau ein picnic. Pleser mawr oedd bod yn y tawelwch a’r haul cynnes. Tawel iawn yw’r ardal o gwmpas yr eglwys, yn yr holl amser aeth ddim un car heibio a’r unig sŵn i glywed oedd cân yr adar. Ond roedd daith i orffen ac ar ôl ein gorffwys roedden ni’n barod i fynd. Doedden ni, yn ein diniweidrwydd, heb syniad beth oedd yn ein blaenau ac yn poeni dim, ar y pryd. Efo’r holl law dros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn aeaf gwlyb ofnadwy. Mae’r caeau yn methu cael gwared â’r dŵr yn ddigon cyflym felly mae’n sefyll ar wyneb y caeau, o dan y wyneb mae’r pridd fel sbwng. Mae eich traed yn suddo i’r mwd wrth bob cam ac ar waelod y caeau, ble mae’r dŵr yn casglu mae’r sefyllfa yn llawer gwaeth. Roedd hen gân Flanders and Swann yn fy meddwl, dach chi’n cofio? Yn amlwg roedd eraill yn cael atgofion melys o wrando ar ‘Uncle Mac’ ar foreau Sadwrn eu plentyndod. Yng nghanol yr holl straffaglu clywais lais clir yn canu ‘Mud, mud, glorious mud!’ Wel ia, ond dim cweit yn ‘glorious’! Dw i’n meddwl dim ond un person a wnaeth syrthio, y tric oedd gwylio beth roedd y cerddwr o’ch blaen yn wneud. Roeddwn i’n dilyn Garfield pan wnaethon ni gyrraedd nant fechan, dim trafferth iddo fo, dw i’n dal yn cofio'r ffordd osgeiddig wnaeth o neidio i’r ochr arall. Eesi, peesi, o’n i’n meddwl heb aros digon o amser i sylweddoli bod coesau Garfield yn llawer hirach na fy nghoesau i. Mi wnaeth fy nhroed dde gyrraedd yr ochr arall ond nid mor bell a wnaeth coes dde Garfield. Wrth sylweddoli fy mod i wedi camfarnu’r sefyllfa ac nad oedd gen i unrhyw reolaeth ar bethau roedd rhaid derbyn beth oedd ffawd yn taflu ataf. Yn reddfol nes i gryfhau fy ngafael ar y camera yn fy llaw chwith a disgyn ar fy ochr dde ac i drio sicrhau doedd neb wedi sylwi nes i godi’n syth. Popeth yn iawn! Allan i’r cae nesaf rŵan mewn pryd i weld tri o’n haelodau yn cerdded i ffwrdd o’r ffens ar yr ochr ar ôl achub dafad a oedd wedi bod yn ddigon twp i gael ei phen yn styc yn y weiar netin. Go dda nhw! Roedd dau gae i groesi rŵan, wedyn trwy’r coed. Erbyn hyn roeddwn i wedi penderfynu malio dim am y mwd ond mi oedd rywun yn mwynhau! Roedd Robin Goch yn ein dilyn ni o gangen i gangen ac wrth ei fodd efo’r adloniant. Ond yn y pendraw mae popeth yn dod i ben ac ar ôl dilyn llwybr tu ôl i ryw hen adeilad roeddwn i wedi cyrraedd y lôn go iawn i weld y rhai cyntaf yn pwyso yn erbyn y wal efo wynebau llawn gwên. Yr olaf i gyrraedd oedd Alan Williams a wnaeth ddod i’r golwg mewn ffordd ddramatig i gymeradwyaeth mawr. Wrth i bawb distewi wnaeth godi ei fraich a phwyntio i’r dde a chyhoeddi “Ydach chi’n sylweddoli bod eglwys Sant Andrew ychydig bach i fyny’r ffordd yma!” Digon gwir ond roedden ni i gyd yn gwybod bydd hynny ddim wedi bod gymaint o hwyl a phwy fydd wedi achub y ddafad wedyn? Hamddenol iawn oedd y daith dros draeth Oxwich yn yr haul a’r gwres, ein ‘sgidiau yn gymharol lân a’r mwd wedi ei hen anghofio. Roedd hi fel diwrnod o haf. Bach o her ar ôl y twyni tywod i ddringo at y ceir ond yn sicr bydd pawb wedi cael noson dda o gwsg neithiwr. Un peth mae’n rhaid i mi ddweud cyn y diolchiadau. Ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys y bore yma roedd trafodaeth am y gair Cymraeg am ‘countersink’, peidiwch â gofyn pam, ond mi nes i dderbyn yr her o ddefnyddio’r gair mewn adroddiad. Tipyn o her achos dydy o ddim yn air sydd yn codi’n aml. Beth bynnag mi wnes i ddod ar draws y cyfieithiad - gwrthsoddi ond dw i wedi methu cynnwys y gair yn yr adroddiad yma - tan rŵan. A dyna chi, y gair Cymraeg am countersink - gwrthsoddi. Cofiwch hynny! Diolch yn fawr iawn i Richard am daith i herio’r cyhyrau, profi ein sgidiau, ein swyno efo’r golygfeydd a’r cyfle i gerdded traeth Oxwich yn haul cynnes mis Ionawr. Diolch i bawb am eu cwmni, am y doniolwch a’r hwyl. Geirfa Fy milltir sgwâr – my local area Cymal cyntaf – first stage Fel bwa – curved Blas o realaeth – taste of reality Eithin – gorse Didrugaredd – merciless Gwlypach – wetter Cylchran – segment Gorchuddio – covered Isdyfiant – undergrowth Gorffwys – rest Diniweidrwydd – naivety, innocence Sbwng – sponge Atgofion melys – sweet memories Straffaglu – to struggle Gosgeiddig – graceful Camfarnu’r sefyllfa – to misjudge the situation Yn reddfol – instinctively Cryfhau fy ngafael - strengthen my grip Malio dim – to care less Cymeradwyaeth – applause Cyhoeddi – to proclaim Hamddenol – leisurely Twyni tywod – sand dunes Derbyn yr her – to accept the challenge Gwrthsoddi – countersink I’r pant y rhed y dŵr this is a saying, literally it means ‘the water runs to the hollows’ but it is used in such ways as ‘the rich get richer’.
Gydangilydd.cymru
Penmaen, Bro Gwyr Ar foreau Sadwrn pan mae aelodau’r Gymdeithas yn agor y llenni a gweld awyr las heb yr un cwmwl mae eu calonnau’n codi. Er eu bod nhw i gyd (bron) yn hapus i gerdded ym mhob tywydd (bron) mae’r profiad yn llawer gwell pan mae’r haul yn tywynnu. Ond ym mis Ionawr mae’n rhaid cofio gwirio cyflwr y car achos mae noson glir yn golygu noson oer, hynny yn ei dro yn golygu car wedi ei orchuddio dan rhew. Rhaid i mi gyfaddef yn syth mod i wedi anghofio gwneud hynny ond doedd dim problem achos roedd y daith yn fy milltir sgwâr ac, am unwaith doeddwn i ddim yn brin o amser. Mae ein taith ni heddiw yn mynd i fod llawn pleser. Y maes parcio ger eglwys Penmaen oedd y man cyfarfod ac mi oedd tua ugain wedi troi fyny. Richard Davies oedd yn ein harwain. Roedd y cymal cyntaf yn mynd â ni i ben Cefn Bryn ac wrth gyrraedd y pen roedd olygfa wych o Fae Oxwich fel bwa o’n blaenau, môr las a thraeth melyn, ardderchog. A dyna ble fydden ni ar gymal olaf ein taith. Hyfryd o fyd! Cerdded ymhellach cyn cyrraedd man ble roedd rhaid disgyn i lawr tuag at Nicholaston a dyma le cawsom ni flas o realaeth y daith yma. Os dach chi’n cofio roedd ein taith ni yn ardal Llanymddyfri wythnos diwethaf yn wlyb ofnadwy dan draed o achos yr holl law roedd wedi bod. Doedd y glaw bron ddim wedi stopio ers hynny. Mae’n wir beth maen nhw’n dweud ‘I’r pant y rhed y dŵr’ a phan mae rhywun yn cerdded y llwybrau maen nhw’n creu pantiau, ac i ble mae’r dŵr yn mynd? I’r llwybrau, wrth gwrs! Roedd y llwybr wedi datblygu i fod yn afon fwdlyd a llithrig. Gwaeth byth mi oedd lawer o eithin ar yr ochrau ac wrth wneud ein gorau i osgoi’r mwd roedden ni’n cael ein pigo yn ddidrugaredd. Y pellach i lawr roedden ni’n mynd y wlypach oedd hi. Roedden ni mor falch o gyrraedd y diwedd a chael yr holl beth drosodd! Cyrraedd y ffordd fawr a cherdded trwy stad Pen- rhys, heibio adfeilion y castell a’r i gyrraedd safle’r hen felin a’r llyn ble roedden nhw’n cadw’r pysgod, llyn grwn wedi ei rannu i bedwar gylchran. Yn anffodus roedd y llyn wedi cael ei orchuddio gan yr isdyfiant, ond roedd adfeilion y felin yn glir i weld. Fyny’r allt wedyn at eglwys Sant Andrew ble roedd llawer o wynebau gwastad i ni eistedd arnynt i fwynhau ein picnic. Pleser mawr oedd bod yn y tawelwch a’r haul cynnes. Tawel iawn yw’r ardal o gwmpas yr eglwys, yn yr holl amser aeth ddim un car heibio a’r unig sŵn i glywed oedd cân yr adar. Ond roedd daith i orffen ac ar ôl ein gorffwys roedden ni’n barod i fynd. Doedden ni, yn ein diniweidrwydd, heb syniad beth oedd yn ein blaenau ac yn poeni dim, ar y pryd. Efo’r holl law dros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn aeaf gwlyb ofnadwy. Mae’r caeau yn methu cael gwared â’r dŵr yn ddigon cyflym felly mae’n sefyll ar wyneb y caeau, o dan y wyneb mae’r pridd fel sbwng. Mae eich traed yn suddo i’r mwd wrth bob cam ac ar waelod y caeau, ble mae’r dŵr yn casglu mae’r sefyllfa yn llawer gwaeth. Roedd hen gân Flanders and Swann yn fy meddwl, dach chi’n cofio? Yn amlwg roedd eraill yn cael atgofion melys o wrando ar ‘Uncle Mac’ ar foreau Sadwrn eu plentyndod. Yng nghanol yr holl straffaglu clywais lais clir yn canu ‘Mud, mud, glorious mud!’ Wel ia, ond dim cweit yn ‘glorious’! Dw i’n meddwl dim ond un person a wnaeth syrthio, y tric oedd gwylio beth roedd y cerddwr o’ch blaen yn wneud. Roeddwn i’n dilyn Garfield pan wnaethon ni gyrraedd nant fechan, dim trafferth iddo fo, dw i’n dal yn cofio'r ffordd osgeiddig wnaeth o neidio i’r ochr arall. Eesi, peesi, o’n i’n meddwl heb aros digon o amser i sylweddoli bod coesau Garfield yn llawer hirach na fy nghoesau i. Mi wnaeth fy nhroed dde gyrraedd yr ochr arall ond nid mor bell a wnaeth coes dde Garfield. Wrth sylweddoli fy mod i wedi camfarnu’r sefyllfa ac nad oedd gen i unrhyw reolaeth ar bethau roedd rhaid derbyn beth oedd ffawd yn taflu ataf. Yn reddfol nes i gryfhau fy ngafael ar y camera yn fy llaw chwith a disgyn ar fy ochr dde ac i drio sicrhau doedd neb wedi sylwi nes i godi’n syth. Popeth yn iawn! Allan i’r cae nesaf rŵan mewn pryd i weld tri o’n haelodau yn cerdded i ffwrdd o’r ffens ar yr ochr ar ôl achub dafad a oedd wedi bod yn ddigon twp i gael ei phen yn styc yn y weiar netin. Go dda nhw! Roedd dau gae i groesi rŵan, wedyn trwy’r coed. Erbyn hyn roeddwn i wedi penderfynu malio dim am y mwd ond mi oedd rywun yn mwynhau! Roedd Robin Goch yn ein dilyn ni o gangen i gangen ac wrth ei fodd efo’r adloniant. Ond yn y pendraw mae popeth yn dod i ben ac ar ôl dilyn llwybr tu ôl i ryw hen adeilad roeddwn i wedi cyrraedd y lôn go iawn i weld y rhai cyntaf yn pwyso yn erbyn y wal efo wynebau llawn gwên. Yr olaf i gyrraedd oedd Alan Williams a wnaeth ddod i’r golwg mewn ffordd ddramatig i gymeradwyaeth mawr. Wrth i bawb distewi wnaeth godi ei fraich a phwyntio i’r dde a chyhoeddi “Ydach chi’n sylweddoli bod eglwys Sant Andrew ychydig bach i fyny’r ffordd yma!” Digon gwir ond roedden ni i gyd yn gwybod bydd hynny ddim wedi bod gymaint o hwyl a phwy fydd wedi achub y ddafad wedyn? Hamddenol iawn oedd y daith dros draeth Oxwich yn yr haul a’r gwres, ein ‘sgidiau yn gymharol lân a’r mwd wedi ei hen anghofio. Roedd hi fel diwrnod o haf. Bach o her ar ôl y twyni tywod i ddringo at y ceir ond yn sicr bydd pawb wedi cael noson dda o gwsg neithiwr. Un peth mae’n rhaid i mi ddweud cyn y diolchiadau. Ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys y bore yma roedd trafodaeth am y gair Cymraeg am ‘countersink’, peidiwch â gofyn pam, ond mi nes i dderbyn yr her o ddefnyddio’r gair mewn adroddiad. Tipyn o her achos dydy o ddim yn air sydd yn codi’n aml. Beth bynnag mi wnes i ddod ar draws y cyfieithiad - gwrthsoddi ond dw i wedi methu cynnwys y gair yn yr adroddiad yma - tan rŵan. A dyna chi, y gair Cymraeg am countersink - gwrthsoddi. Cofiwch hynny! Diolch yn fawr iawn i Richard am daith i herio’r cyhyrau, profi ein sgidiau, ein swyno efo’r golygfeydd a’r cyfle i gerdded traeth Oxwich yn haul cynnes mis Ionawr. Diolch i bawb am eu cwmni, am y doniolwch a’r hwyl. Geirfa Fy milltir sgwâr – my local area Cymal cyntaf – first stage Fel bwa – curved Blas o realaeth – taste of reality Eithin – gorse Didrugaredd – merciless Gwlypach – wetter Cylchran – segment Gorchuddio – covered Isdyfiant – undergrowth Gorffwys – rest Diniweidrwydd – naivety, innocence Sbwng – sponge Atgofion melys – sweet memories Straffaglu – to struggle Gosgeiddig – graceful Camfarnu’r sefyllfa – to misjudge the situation Yn reddfol – instinctively Cryfhau fy ngafael - strengthen my grip Malio dim – to care less Cymeradwyaeth – applause Cyhoeddi – to proclaim Hamddenol – leisurely Twyni tywod – sand dunes Derbyn yr her – to accept the challenge Gwrthsoddi – countersink I’r pant y rhed y dŵr this is a saying, literally it means ‘the water runs to the hollows’ but it is used in such ways as ‘the rich get richer’.