Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Mynydd y Grug Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ein taith yn y De dydd Sadwrn diwethaf oedd o Dretomas, i ben Mynydd y Grug, ac yn ôl wrth gwrs. Glyn Hughes oedd ein harweinwr ac roedd o wedi gwneud gwaith ymchwil ddofn i mewn i hanes yr ardal. Yn anffodus roedden ni’n cerdded yn y niwl am yr hanner cyntaf ac roedd llawer o lefydd mwdlyd, er mi ydan ni wedi gweld gwaeth yn yr wythnosau diwethaf. Deg ohonom ni oedd yn cerdded ac roedd cyfle i ni ymestyn ein cyhyrau am yr awr gyntaf. Roedd pawb wedi gwneud yn dda ac yn hapus iawn i gyrraedd ben y mynydd a chymryd mantais o’r cerrig mawr er mwyn eistedd yn gyfforddus i fwyta’n picnic. Er doedd dim gobaith gweld yr olygfa o’n cwmpas roedd rhaid cerdded i ben y mynydd. Pam? Achos roedd o yna, wrth gwrs. Roedd y lle yn ardal braf iawn i glywed adar dw i’n siŵr ond yr unig sŵn oedden ni’n clywed oedd sŵn y beiciau modur wrth iddyn nhw gael hwyl yn sgramblo dros y tipiau glo. Roedd beicwyr eraill hefyd ond roedden nhw wedi defnyddio eu hegni ei hunain i gyrraedd y lle. A dyma’r lle wnaethon ni gael cip o haul wan trwy’r niwl a theimlo’r gobaith o dipyn mwy o gynhesrwydd a gwell welededd. Cerdded heibio pitstop y beicwyr wedyn. Coed mawr binwydd ar y dde a mynydd o wastraff glo ar ein chwith tan gyrraedd lle agored. Wnaethon ni synnu gweld gyr o wartheg yn y pellter, ia, yn y pellter achos yn sydyn roedd y niwl wedi clirio ac roedden ni’n dechrau teimlo gwres ar ein cefnau. Dyma ble roedd Glyn yn gallu trosglwyddo ei wybodaeth i ni, ble oedd yr holl byllau glo a’r tipiau. Gwyrddni oedden ni’n gweld ac mae’n syndod pa mor gyflyn mae natur yn newid y tirlun. Cawsom hanes anwadalwch yr afon Rhymni a’i fethiant penderfynu'r ffordd gorau i’r môr. Roedden ni ar y ffordd i lawr erbyn hyn ac mor braf oedd gweld tair o farchogion ifanc yn mwynhau'r awyr iach. Cyn bo hir roedden ni ar y lôn unwaith eto ac yn anelu at Fedwas a chael hanes Guto Nyth Bran wrth sefyll yn yr union le wnaeth o ennill ei ras olaf. Roedd Guto yn enwog yn ei amser ac roedd yn curo pob un oedd yn rasio yn ei erbyn, doth yr amser pan nad oedd neb yn fodlon gystadlu. Ei gariad Siân oedd ei asiant a rheolwr ond heb gystadleuaeth wnaeth o ymddeol, ond dim ond tan iddyn nhw glywed am Dywysog Bedwas. Wnaeth o ddod allan o’i ymddeoliad a rhedeg ras o 12 milltir rhwng Casnewydd a Bedwas yn erbyn y Tywysog a’i guro ar yr allt serth olaf. Roedd Siân wrth ei bodd a wnaeth ei guro ar ei gefn i’w longyfarch ond roedd hyn yn ormod a syrthiodd i’r llawr a marw. Roedden ni’n sefyll wrth ochr giât yr eglwys ac edrych i lawr yr un allt serth yna ble wnaeth Guto ennill ei ras olaf, y ras tyngedfennol yna. Dyna deimlad. Taith fer yn ôl at ein ceir a dyna ni. Diolch yn fawr i Glyn am rannu ei holl wybodaeth a’n tywys ni’n ddiogel o’r niwl i’r goleuni!
Geirfa Gwaith ymchwil ddofn - deep research Ymestyn ein cyhyrau - stretch our muscles Egni - energy Cynhesrwydd - warmth Gwelededd - visibility Pinwydd - pine Gyr o wartheg - herd of cows Trosglwyddo - to transfer Gwyrddni - greenness Tirlun - landscape Anwadalwch - fickleness Yn fodlon cystadlu - willing to compete Llongyfarch - to congratulate Tyngedfennol - fatal O’r niwl i’r goleuni - from the mist to the light
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen