Gydangilydd.cymru
Parc Coetir, Mynydd Mawr Doedd dim llawer o bellter i gyrraedd y daith yr wythnos yma, yn wir beth oedd yn cymryd rhan fwyaf o’r amser oedd cyrraedd gyrion Abertawe. Roedd y draffordd yn dawel a Cross Hands dim ond deg munud i ffwrdd. Roedd y man cyfarfod tu draw i’r dref ac roeddwn i wedi darganfod y lle ar yr OS ac roedd llun o’r map yn fy mhen. Roeddwn i wedi synnu wrth weld yr arwydd, braidd yn rhy gynnar o’n i’n meddwl. Ond wrth syllu i lawr y trac a gweld yr holl geir efo’r drysau cefn yn pwyntio at yr awyr roeddwn i’n sicr mod i yn y lle iawn. Roedd tua phedwar neu bump o geir yna yn barod ac mewn dim roedd mwy a mwy yn cyrraedd tan i ni lenwi’r maes parcio’n llawn. Ac eto roedd y ceir yn cyrraedd! Dyma le poblogaidd i bobl leol mynd â’i gŵn am dro, ar ôl i ni lenwi'r maes parcio dw i’n siŵr iddyn nhw ein gweld ni fel pla o locustiaid! Roedd 26ain ohonom ni ar y daith. Mary a Garfield Rees oedd yn ein harwain. Yn ei phlentyndod roedd Mary yn byw yn agos iawn, mor agos roedd hi’n gallu pwyntio at yr union dŷ. Doedd dim llawer o wynt ond roedd hi’n reit oer tra bod ni’n aros am y cychwyn, popeth yn iawn unwaith i ni ddechrau cerdded. Mae’r parc yn cynnwys 270 erw ac wedi ei greu allan o’r tir diffaith ar ôl yr holl byllau glo yn yr ardal. Llawer o goed conwydd ond mae coed derw yn ennill tir hefyd. Felly dechrau ar y llwybr, dros y bryn, ymlaen trwy dipyn o goed a chyn bo hir roeddwn ni ar y llwybr beicio (Sustrans 47) rhwng Llanelli a Cross Hands. Ro’n i’n gwybod mod i wedi bod ar y trac yma o’r blaen ond roedd popeth yn anghyfarwydd i mi a fy mhen mewn dryswch llwyr. Dim ond pan wnaethon ni gyrraedd Y Tymbl wnaeth popeth gwneud synnwyr. Peth od iawn yw colli pob synnwyr cyfeiriad. O’r diwedd roeddwn i’n gwybod lle o’n i! Roedd cerflun yn Y Tymbl i ni edmygu, cerflun o Jac Tŷ Isaf. Roedd o’n un o arweinyddion Terfysg Beca a oedd yn mynd o gwmpas yn llosgi tollbyrth. Rhywbeth hollol anghyfreithlon i wneud wrth gwrs ond roedd y werin bobl yn dioddef o bawb yn cymryd mantais ohonyn nhw. Cymaint felly iddyn nhw deimlo doedd ganddyn nhw ddim dewis ond gweithredu. Ychydig iawn o bobl cafodd eu dal ond, yn anffodus mi wnaeth rywun fradychu Jac a chafodd ei ddedfrydu i’w alltudio i Tasmania am 20 mlynedd. Ni welodd ei wraig na’i blant byth eto. Cyfnod eithriadol o greulon. Dilyn ffordd yr hen reilffordd am sbel, gadael a dilyn trac trwy’r coed. Diolch byth roedd Mary yn ein harwain a Garfield wrth ein cefnau i gadw ni wrth ein gilydd. Allan o’r coed a dyna oedd lle braf i eistedd ar ochr y ffordd i gael ein picnic ac achosi mawr syndod i ryw ddyn yn mynd heibio mewn 4x4! Darn bach ar ochr y B4317 wedyn ac ymuno a’r hen reilffordd ddiwydiannol rhwng Drefach a Cydweli. O dan yr isdyfiant roedd y cledrau yn dal yna ond anodd iawn oedd cael llun. Cawsom y fraint o wrando ar Mal yn dweud hanes y rheilffordd a datgelu i ni roedd dros gant o byllau glo yma pan oedd y diwydiant yn ei anterth. Mae pethau’n gallu newid yn sydyn iawn! Cyrraedd Pont y Felin a chyn hir cyrraedd ochr gorllewinol y Parc unwaith eto, mewn dim o amser roedden ni yn ôl wrth y ceir. Diolch yn fawr iawn i Mary a Garfield am daith bleserus a diddorol. Os gaf i ddweud wrth y ddau ohonoch chi eich bod chi wedi llwyddo i fynd â ni trwy ardal a oedd, hyd yn oed yn anghyfarwydd i Eirian! Diolch o galon. Diolch i Mal hefyd am ein haddysgu am y gwaith oedd yn yr ardal mor ddiweddar ond bellach wedi diflannu – diddorol dros ben. Ac i bawb arall diolch am y cwmni difyr. Ôl nodyn, cyn i mi adael a phan wnaeth y radio dod ymlaen yn y car roedd yr anthem genedlaethol yn cael ei chanu a chofiais fod ein tîm yn chwarae yn erbyn y Barbariaid. Roeddwn i wedi anghofio gosod y peiriant i’w recordio. Diolch byth doeddwn i ddim yn bell o adref a wnes i wrando ar y sylwebaeth yn ystod y siwrne. Roedd y sgôr yn gyfartal erbyn i mi gyrraedd a dw i mor falch nes i ddim colli cais anhygoel Ken Owens. Roedd Rory Best wedi taflu’r bêl i’r llinell ond wedi mynd drostyn nhw. Ken wedi sylwi ac wedi gweithredu’n gyflyn, dal y bêl a mynd am y llinell. Felly diolch hefyd i Rory! Geirfa Erw – acre Coed conwydd – fir trees Coed derw – oak trees Ennill tir – making progress Anghyfarwydd – unfamiliar Dryswch llwyr – complete confusion Synnwyr cyfeiriad – sense of direction Cerflyn – carving Edmygu – to admire Terfysg Beca – Rebecca Riots Tollbyrth – toll gates Gwerin bobl – the ordinary people Cymryd mantais – to take advantage Bradychu – to betray Deddfrydu – to be sentenced Alltudio – transportation Isdyfiant – undergrowth Cledrau – rails Sylwebaeth – commentary