Mewnfudwyr Does dim amheuaeth bod ein cymunedau yn dioddef achos bod cymaint o bobl yn symud i mewn i’r wlad ond mae’n rhaid bod yn realistig, Mae’n digwydd. Ond eto mae’n rhaid chwilio am bethau cadarnhaol a’r peth mwyaf yw bod llawer ohonyn nhw yn awyddus i ddysgu Cymraeg – fel rydym wedi gweld yn barod roedd 16,375 o bobl yn dysgu ym mlwyddyn 2015/6 a llawer o’r ffigwr yna wedi symud i mewn. Dydy dysgu iaith ddim yn hawdd er rydym ni gyd yn ddigon clyfar i wneud hynny yn gynnar iawn yn ein bywyd. Mae pobl yn dweud bod y Gymraeg yn iaith anodd i ddysgu ond a ydy hi’n fwy anodd nag unrhyw iaith arall? Faint ohonyn nhw sydd yn dweud hynny am y rheswm nad ydyn nhw yn gallu ynganu Ll, Ch ac yn cael trafferth i rowlio'r‘r’. Mae’r ffaith bod rhai geiriau yn yr iaith heb lafariad fel ‘cwrw’ yn anodd iddyn nhw er does dim llafariad yn y geiriau ‘why’, ‘try’ a ‘fly’ chwaith. Ar ben hynny mae rhai o’n henwau llefydd yn hollol annealladwy iddyn nhw. Mae’n siŵr bod hyn yn dipyn o embaras pan maen nhw’n gofyn y ffordd ac felly yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus efo’r iaith. Pam na allwn ni gael cyrsiau byr er mwyn i, bwy bynnag sydd eisiau, ddysgu ein gwyddor ac elfennau ynganu. Os ydyn nhw’n dod dros yr anhawster yna tybed faint mwy bydd yn fodlon dechrau dysgu? Ond nid mater o gael mwy o bobl i ddysgu’r iaith yw hi, yn ogystal â hynny mae’n beth da i gael mwy o ddealltwriaeth am yr iaith a chael cydymdeimlad tuag at yr iaith. Pob hyn a hyn mae’r papurau cenedlaethol yn ysgrifennu pethau cas am yr iaith ac rydym ni sydd ag agwedd gwahannol tuag ati yn gweld beth maen nhw’n ysgrifennu yn hollol ddi-sail. Mi fysa’n braf iawn, trwy greu dealltwriaeth, magu cefnogwyr hyd yn oed yn y rhai sydd a ddim diddordeb i ddysgu’r iaith. Felly mae’n bwysig i gael mwy o gefnogwyr yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Yn ôl Ymlaen Ymlaen Yn ôl

Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen