Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Merthyr Tewdrig Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd   Richard   Davies   yna   i   groesawu   pawb   wrth   iddyn   nhw   gyrraedd   y   man   cyfarfod   gyferbyn   â’r dafarn   Miller’s   Arms   ym   Merthyr   Tewdrig   ac   roedd   rhai   o’r   ‘usual   suspects'   yna   yn   barod.   Ond   tra   o’n   i’n cyflwyno   fy   hun   iddo   mi   wnaeth   pawb   ddiflannu,   tybed   a   oedd   hynny   o   achos   rywbeth   oeddwn   i   wedi dweud?      Na,   ddwedodd   Richard   roedden   nhw   wedi   cymryd   y   cyfle   i   gael   paned   cyn   dechrau’r   daith.   Es   i   i ymuno   a   nhw   ond   doedd   dim   espresso   ar   y   fwydlen,      o   leiaf   ces   i’r   pleser   o   wrando   ar   ‘Mine   Host’   yn clodfori’r gymuned mae o’n rhan ohono. Gyda   llaw,   yr   wythnos   diwethaf   ces   i   lythyr   oddi   wrth   Fudiad   i   Sicrhau   Gwirionedd   ym   Mhob   Stori, MISGYMS,   maen   nhw   wedi   darllen   rhai   o’r   straeon   yma   ac   yn   amau   nad   wyf   yn   poeni   llawer   am   y   gwir weithiau.   Rwtsh   llwyr   wrth   gwrs   ond   gan   y   bydden   nhw’n   cadw   llygaid   ar   fy   ngeiriau   euraidd   o   hyn   ymlaen well i mi eich rhybuddio a’ch atgoffa nad aur yw popeth melyn. Roedden   ni’n   croesawu   aelod   newydd,   Sam,   dysgwraig   o   Fanceinion   yn   wreiddiol.   Croeso   eto   I   Wil, dysgwr o Wokingham a gerddodd efo ni yn Graig Cefn Parc wythnos ddiwethaf. Yn   ôl   at   hanes   y   daith   ac   fel   o’n   i   wedi   dweud   roedd   y   daith   yn   cychwyn   ym   Merthyr   Tewdrig,   yr   enw   Saesneg yw   Mathern   a   wnaeth   Richard   esbonio   pwy   oedd   Tewdrig.   Roedd   o’n   frenin   dros   Glywysing   (ardal   Gwent)   yn ystod   y   5ed   neu   6ed   ganrif,   mi   wnaeth   o   ymwrthod   â'r   goron   er   mwyn   ymddeol   yn   gynnar   i   dreulio   mwy   o amser   yn   ei   ardd.   Ei   fab   Meurig   wnaeth   ei   ddilyn   ac   mi   wnaeth   popeth   gweithio   allan   yn   dda   tan   i’r Sacsoniaid    sbwylio    popeth    wrth    godi    arfau    yn    erbyn    Meurig.    Roedd    rhaid    i    Tewdrig    ddod    allan    o’i ymddeoliad   er   mwyn   sicrhau'r   deyrnas.   Gyda’i   gilydd   wnaethon   nhw   ennill   y   frwydr   ond   bu   farw   Tewdrig. Mae   fwy   o’r   stori   yma .   Digon   i   ddweud   yma   yw   wnaeth   esgyrn   Tewdrig   gael   eu   claddu   yn   yr   eglwys   wnaeth Meurig   godi   er   cof   am   ei   Dad   ac   mae   ffynnon   yn   y   pentref   wedi   ei   enwi   ar   ei   ôl,   sef   Ffynnon   Tewdrig,   wrth gwrs! Ymlaen   â   ni   trwy   ddolydd   a   chael   ein   hunain   yn   cerdded,   yn   ofalus,   ar   gyrion   cwrs   golff,   dod   allan mewn   maes   parcio   a   dilyn   y   ffordd   i   hen   eglwys   Sant   Pierre   a   chael   eistedd   dan   ywen   fawr   yn   heddwch   y fynwent   am   bum   munud.   Hyn   i   gyd   tu   fewn   i   eiddo   gwesty   mawr      Marriott   St   Pierre.   Ymlaen   a   heibio’r   cwrs pytio,   yn   ofalus,   wrth   gwrs,   trwy   ddolydd   llawn   blodau   tan   i   ni   gyrraedd   hen   felin   dŵr   Mathern   a   gweld gweddillion   yr   hen   olwyn   dan   yr   iorwg.   Trwy   fwy   o   ddolydd   eto,   croesi   ffordd,   dros   gamfa   bron   anweledig   a thrwy gae o rêp a oedd ar y pryd yn prysur ddatblygu’r hadau gyda chymorth haul poeth. Pentref   Pwllmeyric   oedd   nesaf,   pentref   bach   prydferth,   bron   pob   tŷ   yn   ‘fwthyn’   o   wahanol   ddisgrifiad. Yn   fwy   cywir   ‘cottage’   wrth   gwrs.   Er   mor   brydferth   oedd   y   lle,   roedd   ffordd   prysur   iawn   yn   rhedeg   trwyddo, cymaint   oedd   y   prysurdeb   roedd   rhaid   aros   am   sbel   i   ni   gael   croesi.   Ymlaen   â   ni   i   bentrefan   Mounton   ag eglwys   fechan   Sant   Andoenus   a   dyma   ble   wnaethon   ni   aros   i   gael   ein   picnic,   nid   yn   yr   eglwys   ond   tu   allan rhag   ofn   i   chi   gamddeall.   Roedden   ni   yna   am   o   leiaf   chwarter   awr   ond   dw   i   ddim   yn   cofio   bod   unrhyw   gar wedi pasio heibio, tawelwch braf. Cyn   hir   roedden   ni   yng   nghanol   Great   Barnets   Wood   ac   yn   mwynhau   cysgod   o’r   gwres.   Roedd   coed Ffawydd   tal   ac   urddasol   o’n   cwmpas   a   stribedi   o   olau’r   haul   yn   goleuo’r   llawr.   Mae   gan   natur   ddawn arbennig   i   greu   harddwch!   Ac   os   oedd   y   cwpl   oedd   yn   mwynhau'r   diwrnod   yng   nghanol   y   cae   blodau   ar gyrion   y   coed   yn   meddwl   nad   oedden   ni   wedi   ei   gweld   nhw   mae’n   rhaid   iddyn   nhw   feddwl   eto   -   mwynhad hollol ddiniwed dw i’n prysur ychwanegu. Braf bod yn ifanc! Tipyn   o   wybodaeth   rŵan   a   hefyd   ymddiheuriad.   Roedd   y   cwestiwn   wedi   codi   am   y   gair   Cymraeg   am ‘billhook’   a   Dilwyn   yn   dweud   mai   bilwg   (au)   yw’r   gair   ym   Mhontarddulais   beth   bynnag.   Ar   ôl   cael   cyngor Bruce   dw   i’n   falch   i   ddweud   bod   Dilwyn   a   Phontarddulais   yn   hollol   gywir.   Ond   rŵan   dw   i’n   gorfod   dweud mea   culpa   achos   y   gair   cywir   am   layby   yw,   wrth   gwrs,   cilfach.   A   dyma   fi   wedi   defnyddio   tair   iaith   mewn   un frawddeg, Cymraeg Lladin a Saesneg! Da ‘te! A   thra   oeddech   chi’n   darllen   y   datganiad   yna   dyma   ni   wedi   cyrraedd   drws   cefn   y   Millers   Arms   unwaith eto   ond   mi   awn   ni   trwy’r   drws   ffrynt   er   mwyn   prynu   rhywbeth   hir   ac   oer   i   fwynhau   yn   yr   ardd   tra   bod   ni’n cael dipyn o glonc. Gobeithio   bod   Sam   wedi   mwynhau   ein   cwmni   digon   i’w   themtio   yn   ôl   i   fwynhau   mwy   o   deithiau   yn   y dyfodol. Diolch   yn   fawr   i   Richard   am   ein   tywys   ni   trwy   wlad   brydferth,   am   hanes   Tewdrig   a’r   ffynnon   ac   am drefnu’r tywydd mor dda. Diolch yn fawr i bawb am y cwmni difyr.
Geirfa Clodfori - to sing praise Geiriau euraidd - golden words Ymwrthod â’r goron - to abdicate Codi arfau - to raise arms Teyrnas - kingdom Dolydd - meadows Ar gyrion - on the edge of Ywen - yew tree Cwrs pytio - putting green Gweddillion - remains (of) Iorwg - ivy Bron anweledig - almost invisible Rêp - oil seed rape Pentrefan - hamlet Camddeall - to misunderstand Coed ffawydd - beech trees Urddasol - dignified Ymddiheuriad - apology Datganiad - statement
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Geirfa Clodfori - to sing praise Geiriau euraidd - golden words Ymwrthod â’r goron - to abdicate Codi arfau - to raise arms Teyrnas - kingdom Dolydd - meadows Ar gyrion - on the edge of Ywen - yew tree Cwrs pytio - putting green Gweddillion - remain (of) Iorwg - ivy Bron anweledig - almost invisible Rêp - oil seed rape Pentrefan - hamlet Camddeall - to misunderstand Coed ffawydd - beech trees Urddasol - dignified Ymddiheuriad - apology Datganiad - statement