Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llwyr Angidy, Tyndyrn Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ar ôl daith bleserus yr wythnos diwethaf yn fy ardal fy hun roeddwn i wir yn edrych ymlaen at ein taith gerdded yr wythnos yma, enw’r daith oedd Llwyr Angidy yn ardal Tyndyrn. Cafodd ei ddisgrifio fel hyn - “Cylchdaith gymedrol 5 milltir ar hyd Afon Angidy yn un o gymoedd mwyaf diwydiannol Prydain yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mewn cydweithrediad a ‘Chepstow Walkers are Welcome’”. Roeddwn i wedi ymweld â’r Abaty ac wedi cael pryd o fwyd yn nhafarn yr Angor llawer gwaith ond, a oeddwn i’n ‘nabod y lle a’r ardal? Nag oeddwn wir, byth wedi bod dros yr afon a byth wedi crwydro’r llwybrau felly, gwybod llawer dim am y lle. Ond heddiw roedd cyfle i ddechrau dysgu’r hanes ac roeddwn i wrth fy modd. Mae Tyndyrn yn dipyn o bellter o Abertawe felly roedd rhaid cael brecwast cynnar er mwyn gadael y tŷ erbyn 8.30. Roeddwn i wedi paratoi brechdan gaws a photel o sgwash lemwn, wedi pacio’r gaiters newydd, yn y gobaith y bydd hi’n fwdlyd, ac yn barod i fynd. Gosod y SatNav i wneud yn siŵr bod gen i ddigon o amser ac i ffwrdd a fi. Roedd hi’n bwrw glaw yn drwm, tybed faint o bobl fydd yn troi i fyny? Stopio ar y ffordd allan o’r ddinas er mwyn llenwi’r tanc a dyma fi ar y draffordd a’r weipars yn mynd ffwl pelt, am dywydd! Heibio Port Talbot wedyn a’r weipars yn dechrau fy mesmereiddio ac yn sydyn nes i ddod allan o ‘peilot awtomatig’ wrth sylweddoli fy mod i wedi gadael fy nghôt adref. Edrych ar y glaw, na dim ond ffŵl fydd yn mynd ymlaen heb ei gôt ac roedd rhaid i mi droi oddi ar y draffordd wrth ymyl Porthcawl ac anelu am adref. Am Iolyn ynte! Dach chi’n gwybod beth yw ystyr Iolyn? Doeddwn i ddim chwaith tan i fy nhad unwaith dweud wrtha i am yr amser pan oedden nhw’n gorfod chwilio am dŷ. Ar ôl byw mewn tai efo enwau (sef ‘ YFicerdy’ ac ‘Y Persondy’) am gymaint o amser roedden nhw’n meddwl am enw i’r tŷ newydd. Enw Dad oedd Glyn ac enw Mam oedd Iola ac felly wrth gyfuno'r ddau enw a thaflu ychydig o lythrennau i ffwrdd wnaethon nhw ddod at yr enw Plas Iolyn. Siwtio i’r dim! Ond roedd fy Nhad yn reit wybodus ac ar ôl ystyried y peth am sbel mi wnaeth o newid ei feddwl achos os dach chi’n chwilio am y gair Iolyn yn y geiriadur mi fyddech chi’n gweld mai'r gair Cymraeg am ‘nincompoop’ yw Iolyn. Pan wnaethon nhw ddod ar draws tŷ a oedd wrth ei boddau mi wnaethon nhw setlo ar yr enw oedd yna yn barod sef 3 Flemish Close! Mae’n hanner awr wedi hanner dydd erbyn hyn, tybed sut mae pethau yn mynd yn Nhyndyrn? Dw i newydd gofio nid y tro yma yw’r tro cyntaf i mi anghofio fy nghôt chwaith achos llynedd roeddwn i ar y ffordd i’r gogledd yn y camperfan. Wrth fynd heibio Trawsfynydd mi nes i sylweddoli roedd fy nghôt yn dal yr hongian ar y peg adref ac roedd rhaid i mi fynd i siop ym Mhorthmadog i brynu un newydd. Amser hynny nes i benderfynu cadw'r gôt yna yn y camperfan, jest rhag ofn ynte. Yn anffodus yn yr wythnosau diwethaf dw i wedi bod yn paratoi am grwydro o gwmpas Cymru unwaith eto ac wedi gwagio’r fan er mwyn i bopeth gael ‘airing’. Roedd y gôt sbâr ar y peg adref hefyd! Iolyn dwbl dw i’n meddwl! Ond o leiaf dw i wedi cael rhywbeth i sgwennu amdano!
Geirfa Cydweithrediad - co-operation Traffordd - motorway Am dywydd! - what weather! Cyfuno’r ddau enw - combine the two names Ystyried - to consider Rhag ofn - in case Gwagio - to empty
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen