Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llwybr Cynwch a’r Cyffiniau Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd I chi i lawr yn y De yma sydd wedi drysu am fy mod i ddim yn ysgrifennu am y daith yn ardal Talyllychau a gaf fi esbonio. Roeddwn i wedi cael fy nhemtio i gerdded efo ein cyd-aelodau yn y Gogledd Orllewin achos roedd eu taith nhw yn ardal Dolgellau. Mae gan fy nheulu gysylltiad cryf efo’r dre achos roedd fy Mam yn un o’r wyth chwaer a chafodd eu geni yn Siop Newydd. Doedd dim brodyr, meddyliwch am fy Nhaid druan yn gorfod cael ei sbwylio gan wyth o ferched a gwraig hefyd. Roedd o wrth ei fodd dw i’n siŵr. I Ddolgellau roedden ni’n mynd ar wyliau, doedd neb yn mynd dramor adeg hynny a beth bynnag does unlle gwell yn y byd ‘na Gogledd Cymru. Dw i’n cofio cael ein rhoi ar y trên yn orsaf Dolgellau a chael reid i Bwll Penmaen ble roedd Wncl George yn gweithio yn y bocs signal. Roedden ni’n treulio’r dydd yna a fynta yn rhoi’r sialens i ni drio dynnu’r lifrau i newid y points. Doedden ni ddim yn ddigon cryf o bell ffordd. Yn y dyddiau yna doedd gennym ni ddim car felly doedden ni ddim yn adnabod yr ardal mor dda â hynny. Roedd cael y cyfle i gerdded ar stad Nannau yn rhy werthfawr i golli. Roedd yn bosib gwneud popeth mewn un diwrnod ond benderfynais aros mewn gwesty ar gyrion Fairbourne ar y noson gynt. Felly am tua hanner dydd mi wnes i adael Abertawe a mwynhau diwrnod heulog ar y ffordd i’r Gogs. Heibio Caerfyrddin ac anelu at Synod Inn, Machynlleth ac wedyn dilyn yr arfordir trwy Aberdyfi a Thywyn tan gyrraedd Fairbourne. Popeth yn mynd yn dda hyd at bont Ddyfi achos roedd seiclwyr yn dŵad o gyfeiriad Corris ac yn mynd ymlaen i Aberdyfi. Dydw i ddim eisio cwyno ond, er mwyn diogelwch, dylen nhw wedi cael stiwardiaid i wneud yn siŵr bod nhw’n gallu croesi’r ar draws y drafnidiaeth yn ddiogel, doedd dim llawer o siâp arnyn nhw. Yr holl ffordd wedyn i Aberdyfi roedd grwpiau o hanner dwsin ar y ffordd. Doeddwn i ddim ar frys ac yn seiclwr fy hun ond mae llawer o bobl ar ormod o frys ac yn gwneud pethau gwirion. Wir, dw i ddim yn cael grwmp. Roedden nhw ar daith o Wolverhampton i Aberdyfi er mwyn codi arian at elusen, pellter o 100 milltir felly maen nhw’n haeddu clod. Roedd Aberdyfi yn llawn o’r seiclwyr cynnar a chefnogwyr ar ochrau’r ffordd. Roedden nhw wedi cael diwrnod sych a heulog a gobeithio roedd pawb wedi mwynhau. Mae’r golygfeydd ar y darn o Aberdyfi i Dywyn yn ardderchog ond does dim llawer o siawns tynnu eich llygaid oddi ar y ffordd. Mae’r opsiwn o fynd ar y trên yn apelio ataf fi, rhywbryd eto hwyrach. Roeddwn i wedi bwcio ystafell yng ngwesty Einion yn Friog ac mae’n rhaid i mi ddweud roeddwn i’n amheus pan welais i’r lle. Ond dim ond o achos mae o reit ar ochr y ffordd, tu mewn mae’r lle yn lân ac yn daclus a’r gwely yn gyfforddus. Es i i’r King George III ym Mhwll Penmaen am bryd o fwyd, y bwyd yn iawn ond dim Cymraeg i glywed gwaetha’r modd. Gwely cynnar i mi wedyn ar ddiwedd diwrnod hir. Ces i frecwast da iawn, Ffwl Welsh baswn i wedi dweud ond roedd y perchennog yn mynnu ei alw yn Ffwl English achos doedd dim bara lawr. Mae’n drist bod perchnogion ein gwestyau ddim yn fodlon mabwysiadu Cymreictod - pam bod rhaid cyfeirio at Ffwl English yng Nghymru. Mi ddylai’r ymwelwyr cael y syniad bod Cymru’n wahanol er, efallai, bod cynnwys y brecwast yr un fath. Dw i yn cael grwmp rŵan! Wel digon am hyn beth am y daith? Mi wnaethon ni gyfarfod ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol sydd ar y ffordd i Lanfachreth a phan oedd pawb wedi cyrraedd aethon ni dros y ffordd i ddechrau ein taith. Roedden ni’n anelu at gopa Moel Offrwm ac aethon ni’n uchel iawn ond mynd o gwmpas y copa oedd y llwybr. Rhys Gwynn, warden y Parc Cenedlaethol oedd ein tywysydd ac fel byddech chi’n disgwyl roedd e’n ‘gwybod ei stwff’ ac os oedd rhywun yn poeni am ansawdd yr awyr iach roedd ganddo’r ateb yn syth. Mi wnaeth o dynnu ein sylw at gen oedd yn tyfu ar hen onnen a dyw’r fath yna o gen ddim ond yn tyfu pan nad oes llygredd yn yr awyr. Felly os oedd rywun yn poeni am safon awyr iach Cymru, a doedd neb wrth gwrs, roedd y sicrwydd yna wedi eu tawelu. Yn fuan roedden ni allan o’r coed ac yn edrych dros bentref Llanfachreth a’r mynyddoedd tu ôl yn diflannu’n raddol yn y niwl a’r cymylau. Roedd fy nychymyg yn dweud wrthyf y bydd golygfa arbennig o’r fan hyn ar ddiwrnod clir er nad oedden ni wedi cyrraedd y pen eto. Nes ymlaen wnaeth ein sylw droi at flodyn bychan oedd yn tyfu ar hen dwmpath morgrug, roedden nhw mor fychan roedd yn hawdd sathru arnyn nhw. Mae gen i gywilydd nad ydw i’n cofio’r enw ond o hyn ymlaen mi fydda i’n trio cymryd sylw o beth sydd ar y llawr. Roedd rhaid aros pob hyn a hyn er mwyn gwerthfawrogi’r olygfa ac ar yr un pryd cael gafael at ein hanadl unwaith eto. Wrth fynd heibio’r copa a chyrraedd yr ochr arall wnaeth Rhys ddweud wrthon ni fod ni’n sefyll ar safle hen gaer, yn amlwg pan mae rhywun yn dangos i chi ond hawdd iawn i fynd heibio ar eich pen eich hun heb sylwi. Mae'n rhaid bod yn fwy gwyliadwrus! Yn y fan hyn roedd olygfa arbennig o’r afon Mawddach yn gwneud ei ffordd droellog tuag at y môr. Gwelsom ni’r haul hefyd yn tywynnu’n siriol dros Ddolgellau, unlle arall, dim ond Dolgellau. Mae’n amlwg bod y dref yn lawn o bobl gyfiawn! Amser cael ein picnic rŵan ac roedd cysgod ymysg y creigiau yn creu lle arbennig i mi ddod i adnabod rhai o’m cyd gerddwyr. Hyd yn hyn roedden ni wedi bod yn lwcus efo’r tywydd er roedd pethau ar fin newid ond roedd y tywydd yn ddigon caredig i roi amser i ni orffen ein bwyd. Chwarae teg! Doedden ni ddim ond wedi cerdded am ryw bum munud cyn i’r glaw trwm ddechrau a ninnau’n prysur greu ein llwybr ein hunain trwy’r rhedyn er mwyn cyrraedd y llwybr newydd oedd wedi cael ei greu i arwain o’r maes parcio hyd at Lyn Pwll y Gele. Erbyn hyn roedd amser yn mynd yn brin i mi achos roedd gen i siwrne o dair awr yn ôl i Abertawe o’m mlaen i. Felly mi nes i a phedwar o’r merched fynd yn ôl at y maes parcio tra aeth y lleill ymlaen at Lyn Pwll y Gele. Dw i’n deall roedd rhaid iddyn nhw hefyd droi yn ôl cyn cyrraedd y llyn. Er y tywydd, a dim ond tua’r diwedd aeth pethau’n annifyr, roedd hi wedi bod yn ddiwrnod pleserus - cerdded mewn ardal wahanol a chyfarfod pobl newydd. Braf iawn. Roedd y ffordd yn ôl yn reit dawel ac roeddwn i yn Abertawe tua hanner awr wedi pump. Diolch i Rhys am ein tywys ac am roi’r holl wybodaeth ddifyr i ni, mi nes i ddysgu bod rhaid i mi anelu at lawer mwy o edrych o gwmpas a chael hyd yn oed mwy o bleser wrth gerdded trwy ein cefn gwlad. Diolch i chi gyd am eich croeso a dw i’n edrych ymlaen at gerdded eto efo chi yn y dyfodol.
Geirfa Wedi drysu - confused, perplexed Trafnidiaeth - traffic Cael grwmp - to have a grump Elusen - charity Hwyrach - perhaps Perchennog - owner Mynnu - to insist Mabwysiadu - to adopt Ansawdd - quality Cen - lichen Onnen - ash tree Diflannu’n raddol - to disappear gradually Twmpath morgrug - anthill Hen gaer - old hill fort Gwyliadwrus - observant Ffordd droellog - winding way Tywynnu’n siriol - cheerfully shining Pobl cyfiawn - righteous people Rhedyn - bracken Annifyr - unpleasant, miserable
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Llwybr Cynwch a’r Cyffiniau Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd I chi i lawr yn y De yma sydd wedi drysu am fy mod i ddim yn ysgrifennu am y daith yn ardal Talyllychau a gaf fi esbonio. Roeddwn i wedi cael fy nhemtio i gerdded efo ein cyd-aelodau yn y Gogledd Orllewin achos roedd eu taith nhw yn ardal Dolgellau. Mae gan fy nheulu gysylltiad cryf efo’r dre achos roedd fy Mam yn un o’r wyth chwaer a chafodd eu geni yn Siop Newydd. Doedd dim brodyr, meddyliwch am fy Nhaid druan yn gorfod cael ei sbwylio gan wyth o ferched a gwraig hefyd. Roedd o wrth ei fodd dw i’n siŵr. I Ddolgellau roedden ni’n mynd ar wyliau, doedd neb yn mynd dramor adeg hynny a beth bynnag does unlle gwell yn y byd ‘na Gogledd Cymru. Dw i’n cofio cael ein rhoi ar y trên yn orsaf Dolgellau a chael reid i Bwll Penmaen ble roedd Wncl George yn gweithio yn y bocs signal. Roedden ni’n treulio’r dydd yna a fynta yn rhoi’r sialens i ni drio dynnu’r lifrau i newid y points. Doedden ni ddim yn ddigon cryf o bell ffordd. Yn y dyddiau yna doedd gennym ni ddim car felly doedden ni ddim yn adnabod yr ardal mor dda â hynny. Roedd cael y cyfle i gerdded ar stad Nannau yn rhy werthfawr i golli. Roedd yn bosib gwneud popeth mewn un diwrnod ond benderfynais aros mewn gwesty ar gyrion Fairbourne ar y noson gynt. Felly am tua hanner dydd mi wnes i adael Abertawe a mwynhau diwrnod heulog ar y ffordd i’r Gogs. Heibio Caerfyrddin ac anelu at Synod Inn, Machynlleth ac wedyn dilyn yr arfordir trwy Aberdyfi a Thywyn tan gyrraedd Fairbourne. Popeth yn mynd yn dda hyd at bont Ddyfi achos roedd seiclwyr yn dŵad o gyfeiriad Corris ac yn mynd ymlaen i Aberdyfi. Dydw i ddim eisio cwyno ond, er mwyn diogelwch, dylen nhw wedi cael stiwardiaid i wneud yn siŵr bod nhw’n gallu croesi’r ar draws y drafnidiaeth yn ddiogel, doedd dim llawer o siâp arnyn nhw. Yr holl ffordd wedyn i Aberdyfi roedd grwpiau o hanner dwsin ar y ffordd. Doeddwn i ddim ar frys ac yn seiclwr fy hun ond mae llawer o bobl ar ormod o frys ac yn gwneud pethau gwirion. Wir, dw i ddim yn cael grwmp. Roedden nhw ar daith o Wolverhampton i Aberdyfi er mwyn codi arian at elusen, pellter o 100 milltir felly maen nhw’n haeddu clod. Roedd Aberdyfi yn llawn o’r seiclwyr cynnar a chefnogwyr ar ochrau’r ffordd. Roedden nhw wedi cael diwrnod sych a heulog a gobeithio roedd pawb wedi mwynhau. Mae’r golygfeydd ar y darn o Aberdyfi i Dywyn yn ardderchog ond does dim llawer o siawns tynnu eich llygaid oddi ar y ffordd. Mae’r opsiwn o fynd ar y trên yn apelio ataf fi, rhywbryd eto hwyrach. Roeddwn i wedi bwcio ystafell yng ngwesty Einion yn Friog ac mae’n rhaid i mi ddweud roeddwn i’n amheus pan welais i’r lle. Ond dim ond o achos mae o reit ar ochr y ffordd, tu mewn mae’r lle yn lân ac yn daclus a’r gwely yn gyfforddus. Es i i’r King George III ym Mhwll Penmaen am bryd o fwyd, y bwyd yn iawn ond dim Cymraeg i glywed gwaetha’r modd. Gwely cynnar i mi wedyn ar ddiwedd diwrnod hir. Ces i frecwast da iawn, Ffwl Welsh baswn i wedi dweud ond roedd y perchennog yn mynnu ei alw yn Ffwl English achos doedd dim bara lawr. Mae’n drist bod perchnogion ein gwestyau ddim yn fodlon mabwysiadu Cymreictod - pam bod rhaid cyfeirio at Ffwl English yng Nghymru. Mi ddylai’r ymwelwyr cael y syniad bod Cymru’n wahanol er, efallai, bod cynnwys y brecwast yr un fath. Dw i yn cael grwmp rŵan! Wel digon am hyn beth am y daith? Mi wnaethon ni gyfarfod ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol sydd ar y ffordd i Lanfachreth a phan oedd pawb wedi cyrraedd aethon ni dros y ffordd i ddechrau ein taith. Roedden ni’n anelu at gopa Moel Offrwm ac aethon ni’n uchel iawn ond mynd o gwmpas y copa oedd y llwybr. Rhys Gwynn, warden y Parc Cenedlaethol oedd ein tywysydd ac fel byddech chi’n disgwyl roedd e’n ‘gwybod ei stwff’ ac os oedd rhywun yn poeni am ansawdd yr awyr iach roedd ganddo’r ateb yn syth. Mi wnaeth o dynnu ein sylw at gen oedd yn tyfu ar hen onnen a dyw’r fath yna o gen ddim ond yn tyfu pan nad oes llygredd yn yr awyr. Felly os oedd rywun yn poeni am safon awyr iach Cymru, a doedd neb wrth gwrs, roedd y sicrwydd yna wedi eu tawelu. Yn fuan roedden ni allan o’r coed ac yn edrych dros bentref Llanfachreth a’r mynyddoedd tu ôl yn diflannu’n raddol yn y niwl a’r cymylau. Roedd fy nychymyg yn dweud wrthyf y bydd golygfa arbennig o’r fan hyn ar ddiwrnod clir er nad oedden ni wedi cyrraedd y pen eto. Nes ymlaen wnaeth ein sylw droi at flodyn bychan oedd yn tyfu ar hen dwmpath morgrug, roedden nhw mor fychan roedd yn hawdd sathru arnyn nhw. Mae gen i gywilydd nad ydw i’n cofio’r enw ond o hyn ymlaen mi fydda i’n trio cymryd sylw o beth sydd ar y llawr. Roedd rhaid aros pob hyn a hyn er mwyn gwerthfawrogi’r olygfa ac ar yr un pryd cael gafael at ein hanadl unwaith eto. Wrth fynd heibio’r copa a chyrraedd yr ochr arall wnaeth Rhys ddweud wrthon ni fod ni’n sefyll ar safle hen gaer, yn amlwg pan mae rhywun yn dangos i chi ond hawdd iawn i fynd heibio ar eich pen eich hun heb sylwi. Mae'n rhaid bod yn fwy gwyliadwrus! Yn y fan hyn roedd olygfa arbennig o’r afon Mawddach yn gwneud ei ffordd droellog tuag at y môr. Gwelsom ni’r haul hefyd yn tywynnu’n siriol dros Ddolgellau, unlle arall, dim ond Dolgellau. Mae’n amlwg bod y dref yn lawn o bobl gyfiawn! Amser cael ein picnic rŵan ac roedd cysgod ymysg y creigiau yn creu lle arbennig i mi ddod i adnabod rhai o’m cyd gerddwyr. Hyd yn hyn roedden ni wedi bod yn lwcus efo’r tywydd er roedd pethau ar fin newid ond roedd y tywydd yn ddigon caredig i roi amser i ni orffen ein bwyd. Chwarae teg! Doedden ni ddim ond wedi cerdded am ryw bum munud cyn i’r glaw trwm ddechrau a ninnau’n prysur creu ein llwybr ein hunain trwy’r rhedyn er mwyn cyrraedd y llwybr newydd oedd wedi cael ei greu i arwain o’r maes parcio hyd at Lyn Pwll y Gele. Erbyn hyn roedd amser yn mynd yn brin i mi achos roedd gen i siwrne o dair awr yn ôl i Abertawe o’m mlaen i. Felly mi nes i a phedwar o’r merched fynd yn ôl at y maes parcio tra aeth y lleill ymlaen at Lyn Pwll y Gele. Dw i’n deall roedd rhaid iddyn nhw hefyd droi yn ôl cyn cyrraedd y llyn. Er y tywydd, a dim ond tua’r diwedd aeth pethau’n annifyr, roedd hi wedi bod yn ddiwrnod pleserus - cerdded mewn ardal wahanol a chyfarfod pobl newydd. Braf iawn. Roedd y ffordd yn ôl yn reit dawel ac roeddwn i yn Abertawe tua hanner awr wedi pump. Diolch i Rhys am ein tywys ac am roi’r holl wybodaeth ddifyr i ni, mi nes i ddysgu bod rhaid i mi anelu at lawer mwy o edrych o gwmpas a chael hyd yn oed mwy o bleser wrth gerdded trwy ein cefn gwlad. Diolch i chi gyd am eich croeso a dw i’n edrych ymlaen at gerdded eto efo chi yn y dyfodol.
Geirfa Wedi drysu - confused, perplexed Trafnidiaeth - traffic Cael grwmp - to have a grump Elusen - charity Hwyrach - perhaps Perchennog - owner Mynnu - to insist Mabwysiadu - to adopt Ansawdd - quality Cen - lichen Onnen - ash tree Diflannu’n raddol - to disappear gradually Twmpath morgrug - anthill Hen gaer - old hill fort Gwyliadwrus - observant Ffordd droellog - winding way Tywynnu’n siriol - cheerfully shining Pobl cyfiawn - righteous people Rhedyn - bracken Annifyr - unpleasant, miserable