Gydangilydd.cymru
Lle Cyfleus ar Ganol y Siwrne Mi wnaeth rhywbeth wneud i mi gofio am le bwyta yn Ffwrnais, gogledd Ceredigion wythnos yn ôl. Roedd y bwyd yn arbennig, bwyd cartref go iawn, roedd Radio Cymru ymlaen a llawer o Gymraeg yn cael ei chlywed, hafan o Gymreictod yng nghanol byd oedd yn mynd yn fwy Seisnigaidd bob blwyddyn. Mi wnaeth y lle gau, nid achos roedden nhw’n gwneud colled, yn hytrach roedd perchnogion yr adeilad wedi penderfynu ei newid i fod yn fythynnod i osod dros yr haf. Roedd hyn yn golled fawr i lawer o bobl yr ardal a hefyd iddyn nhw oedd ar y siwrne o un pegwn o’n gwlad i’r llall. Mi oeddwn i’n trio meddwl faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r lle gau ac mi wnes i sylweddoli mae wedi bod tuag ugain mlynedd. Mae’n eich dychryn pa mor gyflym mae amser yn mynd heibio! A beth oedd hyn wnaeth achosi i fy meddwl grwydro’n ôl? Wel, roedden ni wedi penderfynu cael ychydig o ddyddiau yn sir Fôn a bore dydd Sul diwethaf roedden ni ar y ffordd. Dw i wedi gwneud y siwrne llawer gwaith a does dim cymhlethdod, dim gormod o drafnidiaeth ac ar ddiwrnod braf mae golygfeydd ardderchog - yr unig beth yw bod y siwrne yn hir, o leiaf pedair awr ac mae angen brêc. Dw i’n falch o ddweud mod i wedi dod ar draws lle arbennig i dorri’r siwrne, ble mae’r Gymraeg i’w chlywed a llawer o’r Cymry Newydd yna yn sgwrsio’n hyderus efo’i gilydd. Dw i wedi gweld y lle o’r blaen ond heb aros, fydda i ‘n galw i mewn pob tro o hyn ymlaen. A ble mae’r lle yma? Yn Nhre’r-ddôl, ychydig o filltiroedd i’r dde o Fachynlleth. Yr enw yw Cletwr. Mae digon o le i barcio, mae’r caffi yn lân ac yn olau a dewis da ar y fwydlen. Mae siop ar un pen sydd yn gwerthu bob math o gynnyrch Cymru a chornel yn y caffi i ddiddori plant. Mae wir yn lle i dreulio hanner awr o fwynhad ar ganol siwrne hir. Menter y gymuned yw hi ac yn lle arbennig, lle sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda. I ddysgu rhagor am y lle cliciwch ar <http://cletwr.org/en/project.php> ond yn llawer pwysicach peidiwch â mynd heibio y tro nesa dach chi ar siwrne hir. Fyddech chi ddim yn difaru! Roedden ni’n aros yng Ngwesty’r Gazelle ar ochr gogleddol yr afon Menai <https://www.robinsonsbrewery.com/gazellehotel/> a wnaethon ni gyrraedd cyn iddi nosi, diolch byth am hynny. Mae’r ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares yn brysur ac yn llawn gyrwyr sydd yn adnabod y ffordd yn well na fi. Hawdd iawn yw hi i fynd heibio’r troad, troad sydd yn dynn iawn. Allech chi ddychmygu felly'r rhes hir o geir tu ôl i mi a’u gyrwyr yn ysu am gyrraedd adref ar ôl diwrnod hir o waith. Chwarae teg roedden nhw’n amyneddgar iawn, wnaethon nhw ddioddef mewn tawelwch beth bynnag! Roeddwn i wedi cael bwyd yn y Gazelle llawer gwaith ac wedi ei roi ar y rhestr o lefydd i brofi lletygarwch, cawsom ni ddim ein siomi. Roedd yr ystafell yn dda a’r gwely mor gyfforddus mi wnes i gysgu’n llawer gwell nag arfer, brecwast swmpus a blasus i ddechrau’r diwrnod. Roedd y perchennog yn siarad Cymraeg, felly pob blwch wedi ei dicio! Roedd y tywydd yr union fath byddech yn disgwyl ym mis Rhagfyr, hanner a hanner o law ac ysbeidiau sych ac aethon ni i weld goleudy Penmon, Moelfre, Din Llugwy a Llanallgo ar y diwrnod cyntaf. Ar yr ail ddiwrnod wnaethon ni fethu gweld arch carreg Siwan yn eglwys Biwmares a hefyd goleudy Ynys Lawd ond doedd hynny ddim byd i wneud â’r tywydd. Doedd dim posibilrwydd mynd i mewn i eglwys Biwmares achos roedd y giatiau ar glo a phan wnaethon ni gyrraedd y troad tuag at y goleudy roedd y ffordd ar gau o achos gwaith cynnal a chadw. Bron i ni gyrraedd Ynys Llanddwyn ond roedd y llanw yn dechrau llenwi a doedd dim ond amser i ni gyrraedd gwaelod y grisiau o’r traeth. Aethon ni’n ôl i’r ochr arall a gwylio’r llanw yn creu ynys, ar yr un pryd wnaeth yr awyr glirio a threulion ni amser yn gwylio’r awyr yn cael ei lliwio gan fachlud yr haul cyn gwneud ein ffordd trwy’r coed pîn ac yn ôl at y car. Siwrne’n ôl adref y diwrnod wedyn a chael y pleser o fwynhau Cletwr unwaith eto. Cofiwch alw! Geirfa O un pegwn i’r llall - from one end to the other Cymhlethdod - complication Trafnidiaeth - traffic Cymry Newydd - those who have learnt Welsh (and stop being modest!) Troad - a turning Tynn iawn - very tight Lletygarwch - hospitality Swmpus - hearty Cynnal a chadw - repair and maintenance
Gydangilydd.cymru
Lle Cyfleus ar Ganol y Siwrne Mi wnaeth rhywbeth wneud i mi gofio am le bwyta yn Ffwrnais, gogledd Ceredigion wythnos yn ôl. Roedd y bwyd yn arbennig, bwyd cartref go iawn, roedd Radio Cymru ymlaen a llawer o Gymraeg yn cael ei chlywed, hafan o Gymreictod yng nghanol byd oedd yn mynd yn fwy Seisnigaidd bob blwyddyn. Mi wnaeth y lle gau, nid achos roedden nhw’n gwneud colled, yn hytrach roedd perchnogion yr adeilad wedi penderfynu ei newid i fod yn fythynnod i osod dros yr haf. Roedd hyn yn golled fawr i lawer o bobl yr ardal a hefyd iddyn nhw oedd ar y siwrne o un pegwn o’n gwlad i’r llall. Mi oeddwn i’n trio meddwl faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r lle gau ac mi wnes i sylweddoli mae wedi bod tuag ugain mlynedd. Mae’n eich dychryn pa mor gyflym mae amser yn mynd heibio! A beth oedd hyn wnaeth achosi i fy meddwl grwydro’n ôl? Wel, roedden ni wedi penderfynu cael ychydig o ddyddiau yn sir Fôn a bore dydd Sul diwethaf roedden ni ar y ffordd. Dw i wedi gwneud y siwrne llawer gwaith a does dim cymhlethdod, dim gormod o drafnidiaeth ac ar ddiwrnod braf mae golygfeydd ardderchog - yr unig beth yw bod y siwrne yn hir, o leiaf pedair awr ac mae angen brêc. Dw i’n falch o ddweud mod i wedi dod ar draws lle arbennig i dorri’r siwrne, ble mae’r Gymraeg i’w chlywed a llawer o’r Cymry Newydd yna yn sgwrsio’n hyderus efo’i gilydd. Dw i wedi gweld y lle o’r blaen ond heb aros, fydda i ‘n galw i mewn pob tro o hyn ymlaen. A ble mae’r lle yma? Yn Nhre’r-ddôl, ychydig o filltiroedd i’r dde o Fachynlleth. Yr enw yw Cletwr. Mae digon o le i barcio, mae’r caffi yn lân ac yn olau a dewis da ar y fwydlen. Mae siop ar un pen sydd yn gwerthu bob math o gynnyrch Cymru a chornel yn y caffi i ddiddori plant. Mae wir yn lle i dreulio hanner awr o fwynhad ar ganol siwrne hir. Menter y gymuned yw hi ac yn lle arbennig, lle sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda. I ddysgu rhagor am y lle cliciwch ar http://cletwr.org/en/project.php ond yn llawer pwysicach peidiwch â mynd heibio y tro nesa dach chi ar siwrne hir. Fyddech chi ddim yn difaru! Roedden ni’n aros yng Ngwesty’r Gazelle ar ochr gogleddol yr afon Menai https://www.robinsonsbrewery.com/gazellehotel/ a wnaethon ni gyrraedd cyn iddi nosi, diolch byth am hynny. Mae’r ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares yn brysur ac yn llawn gyrwyr sydd yn adnabod y ffordd yn well na fi. Hawdd iawn yw hi i fynd heibio’r troad, troad sydd yn dynn iawn. Allech chi ddychmygu felly'r rhes hir o geir tu ôl i mi a’u gyrwyr yn ysu am gyrraedd adref ar ôl diwrnod hir o waith. Chwarae teg roedden nhw’n amyneddgar iawn, wnaethon nhw ddioddef mewn tawelwch beth bynnag! Roeddwn i wedi cael bwyd yn y Gazelle llawer gwaith ac wedi ei roi ar y rhestr o lefydd i brofi lletygarwch, cawsom ni ddim ein siomi. Roedd yr ystafell yn dda a’r gwely mor gyfforddus mi wnes i gysgu’n llawer gwell nag arfer, brecwast swmpus a blasus i ddechrau’r diwrnod. Roedd y perchennog yn siarad Cymraeg, felly pob blwch wedi ei dicio! Roedd y tywydd yr union fath byddech yn disgwyl ym mis Rhagfyr, hanner a hanner o law ac ysbeidiau sych ac aethon ni i weld goleudy Penmon, Moelfre, Din Llugwy a Llanallgo ar y diwrnod cyntaf. Ar yr ail ddiwrnod wnaethon ni fethu gweld arch carreg Siwan yn eglwys Biwmares a hefyd goleudy Ynys Lawd ond doedd hynny ddim byd i wneud â’r tywydd. Doedd dim posibilrwydd mynd i mewn i eglwys Biwmares achos roedd y giatiau ar glo a phan wnaethon ni gyrraedd y troad tuag at y goleudy roedd y ffordd ar gau o achos gwaith cynnal a chadw. Bron i ni gyrraedd Ynys Llanddwyn ond roedd y llanw yn dechrau llenwi a doedd dim ond amser i ni gyrraedd gwaelod y grisiau o’r traeth. Aethon ni’n ôl i’r ochr arall a gwylio’r llanw yn creu ynys, ar yr un pryd wnaeth yr awyr glirio a threulion ni amser yn gwylio’r awyr yn cael ei lliwio gan fachlud yr haul cyn gwneud ein ffordd trwy’r coed pîn ac yn ôl at y car. Siwrne’n ôl adref y diwrnod wedyn a chael y pleser o fwynhau Cletwr unwaith eto. Cofiwch alw! Geirfa O un pegwn i’r llall - from one end to the other Cymhlethdod - complication Trafnidiaeth - traffic Cymry Newydd - those who have learnt Welsh (and stop being modest!) Troad - a turning Tynn iawn - very tight Lletygarwch - hospitality Swmpus - hearty Cynnal a chadw - repair and maintenance