Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llangain Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Am un rheswm neu’r llall nid ydw i wedi cael y siawns i werthfawrogi’r Gwanwyn am ychydig o flynyddoedd. Mi oedd amser pan oedd gen i ryddid i fynd ble bynnag a phryd bynnag. Ond pan mae’ch rhieni’n mynd yn hŷn mae cyfrifoldeb yn clicio i mewn. Doeddwn i ddim yn cwyno. O’r holl dymhorau, y Gwanwyn yw’r ffefryn i mi. Y dyddiau’n ymestyn a’r teimlad bod y byd yn deffro, yr eirlys, cennin Pedr, briallu a phob planhigyn arall yn cadw llygaid ar y gwres er mwyn amseru’r amser iawn i dorri drwodd. Mae gen i gof melys o grwydro llwybr arfordir sir Benfro a gweld carped o sêr y gwanwyn, ffacbys a chlustogau Fair. O am gael y dyddiau yna’n ôl! Ar ddechrau’r wythnos roeddwn i’n prysur ysgrifennu ac yn methu rhoi geiriau gyda’i gilydd a phenderfynu mynd am dro. Es i i Ilston ar Gŵyr achos tu ôl i’r eglwys mae afon yn llifo trwy’r coed a charped o arlleg yr arth ym mhob man os dach chi’n lwcus efo’ch amseru. Fel mae’n digwydd roedd yr amser yn berffaith ac mi ges i awr o grwydro’n hamddenol ar ddiwrnod braf ac oglau’r garlleg yn llenwi fy ffrwynau. Roedd y camera’n brysur! A wyddoch chi be? Ar ôl dychwelid doedd dal dim clem gen i sut i fynegi beth roeddwn i eisiau dweud. Ta waeth, ces i amser braf. Doth dydd Sadwrn yn ei dro a thaith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd, y tro yma yn ardal Llangain, Peter Evans oedd yn arwain. Mi oedd y maes parcio’n llawn pan nes i gyrraedd ond mi nes i stwffio’r fan rhwng car Alan a’r clawdd. 26 dw i’n meddwl oedd yn cerdded ac ar ôl cael dipyn o hanes yr ardal gan Peter roedden ni ar y ffordd. Cyn dim amser roedden ni’n cerdded trwy’r coed, dail ffres anaeddfed yn rhoi gwyrddni glân uwchben carped o las. Roedd y lle yn llawn clychau’r gog! Mi roedd cornel arbennig roedd Peter yn awyddus i ddangos i ni ac felly aethon ni i lawr llwybr prydferth iawn. Dyna ni yn mwynhau’r llwybr hyfryd yna ond yn sydyn dyma fo’n dod yn ôl efo gwên fawr ar ei wyneb. A oedd o wedi dewis y llwybr anghywir tybed? Nag oedd siŵr, gwên o bleser oedd o’n dangos, yn sicr nid gwên o euogrwydd! I lawr trwy’r coed a’r clychau’r gog tan i ni gyrraedd y lôn fawr ble wnaeth gyrrwr amyneddgar aros er mwyn i ni groesi. Diolch yn fawr iddo! I mewn i’r coed ar yr ochr arall rŵan a hyd yn oed mwy o glychau’r gog. Roedd y camera’n clicio a finnau wrth fy modd. Trwy gae wedyn a oedd yn barod i gael ei dorri ar gyfer silwair wedyn cyn cyrraedd lôn a llwybr ceffyl a oedd yn glir o geffylau, diolch byth. Cael picnic yng nghornel cae wrth ochr un o goetennau Arthur. Y cwbl allwn i ddweud yw os oedd Arthur yn taflu’r garreg fawr yna fel coetan roedd yn siŵr o fod yn gawr o ddyn! Cyn bo hir wnaethon ni gyrraedd man ble roedden ni’n cael golygfa wych i gyfeiriad tref Gaerfyrddin a thu draw. At y ffordd fawr wedyn am ychydig o lathenni cyn dilyn y llwybr yr ochr arall i’r gwrych, cyrraedd y coed, llenwi’r ysgyfaint er mwyn dringo’r stepiau a sylwi bod cymaint ohonom ni’n aros i edmygu prydferthwch y clychau’r gog. Wel, does dim rhaid bod ar frys nag oes? Rhwng gweld carpedi o arlleg yr arth ar Gŵyr dechrau’r wythnos a’r clychau’r gog ddoe dw i wedi cael wythnos arbennig. Un peth arall hefyd mae hi’n brynhawn Sul erbyn hyn a chyn i mi ddechrau ysgrifennu’r darn yma roeddwn i wedi eistedd i lawr ac ysgrifennu’r hen ddarn yna roedd yn rhoi trafferth i mi. Mae hynny’n profi bod Cymdeithas Edward Llwyd nid yn unig yn eich dysgu am fyd natur a chadw chi’n heini. Allech chi ddweud bod y Gymdeithas fel Syryp of Figs i ‘Writer’s Block’ Diolch yn fawr i bawb am eich cwmni a’ch sgyrsiau diddorol ond yn enwedig i Peter am drefnu’r daith, y tywydd, y blodau gwych ac am gadw ni’n ddiogel ar daith ysblennydd.
Geirfa Rhyddid – freedom Cyfrifoldeb – responsibility Eirlys – snowdrops Cennin Pedr – daffodils Briallu – primroses Amseru – to time Torri trwodd – to break through Sêr y Gwanwyn – Spring squill Ffacbys - vetch Clustogau Fair – thrift Garlleg yr arth - ramsons Ffrwynau – nostrils Wyddoch chi be? – do you know what? Mynegi – to express (a thought) Ta waeth – whatever Anaeddfed – immature, Young Gwyrddni – green-ness Clychau’r gog – bluebells Silwair – silage Coetan – quoit Llenwi’r ysgyfaint – fill the lungs
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen