Gydangilydd.cymru
Llangadog Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd ein taith dydd Sadwrn yn dechrau wrth y bont sydd yn croesi’r afon Sawdde ar gyrion Llangadog. Er roedd y tywydd braidd yn amheus i ddechrau, roedd pawb yn hapus nad oedd glaw wrth ystyried y dyddiau cynt. Llawer o geir yn y man cyfarfod, ceir cyfarwydd a llawer anghyfarwydd hefyd. A fydd llawer o gerddwyr newydd yn ein mysg heddiw? Ond na, roedd rhai pobl yna am reswm arall. Roedd merched yn cystadlu yn yr OVO Energy Cycling Tour 2019 ac yn mynd heibio nes ymlaen ar y ffordd o Gaerfyrddin i Barc Gwledig Pembre. 79 milltir yn gyfan gwbl ac yn anelu at Fethlehem wrth i ni ddechrau ar ein taith. Mary a Garfield Rees oedd ein harweinwyr, wel Mary oedd ein harweinydd go iawn. Roedd gan Garfield y swydd bwysig o edrych ar ôl cefn y grŵp. Felly ffwrdd â ni, croesi’r ffordd ac anelu at ochr oedd wedi cael ei adeiladu ar feili’r hen gastell sydd erbyn hyn wedi diflannu o dan y coed. Yn fuan iawn roedden ni’n hollol ymwybodol ein bod ni yng ngwlad y ceffylau, ceffylau o safon uchel hefyd. Ar ôl croesi ychydig o gaeau roedden ni’n ôl ar lôn dawel am sbel cyn ymuno â llwybr trwy hen goed Caer Bedw. Roedd rhaid mynd un ar ôl y llall gan fod y llwybr yn gul ac yn naturiol roedd hi’n wlyb dan draed ar ôl yr holl law yn ddiweddar. Doedd dim rhaid poeni am hynny achos ar ôl cerdded trwy wair hir y caeau roedd ein sgidiau’n wlyb beth bynnag. Gan ein bod ni i gyd yn gerddwyr cyfrifol ac yn gwisgo sgidiau cerdded go iawn roedd ein traed yn sych. Roedd llawer o farcutiaid cochion yn hedfan yn hamddenol yn yr awyr, dim syndod wrth feddwl bod yr orsaf bwydo mor agos yn Llanddeusant. Allan o goed Caer Bedw, croesi’r afon a cherdded trwy’r caeau am sbel cyn mynd i mewn i goed Tanerdy a dod allan nes ymlaen mewn lle delfrydol i gael pryd o fwyd. Roedden ni ar dir Plas Glansefin ac roedd plas yma tua mil o flynyddoedd yn ôl. Mae sôn bod Marchel, mam Brychan Brycheiniog Sant, brenin Brycheiniog wedi aros yma efo’i mintai o 300 ar eu ffordd i Iwerddon. Ond nid ydym yn sôn am y plas presennol, mae hwn yn fwy adnabyddus am le i ddathlu priodas. Ar ein ffordd unwaith eto a chyfle i mi ddweud bod llawer o’n teithiau yn cynnwys heriau a hwyl ond y tro yma roedd yr her ei hun yn dipyn o hwyl. Ar ôl amser o gerdded yn hamddenol hapus trwy gaeau ac yn ymwybodol o ryw aderyn ysglyfaethus yn hedfan uwch ein pennau ac yn cadw llygaid barcud arnom, dyma ni yn dod ar draws afon. Ar ei ben ei hun does dim byd annisgwyl am hyn ond y tro yma doedd dim pont. Beth i’w wneud? Roedden ni wedi cerdded yn bell dros hanner ffordd felly doedd mynd yn ôl ddim yn opsiwn. Roedden ni wedi cael rhybudd o flaen llaw wrth gwrs a bron pawb wedi dod â bagiau plastig efo nhw. Bagiau o bob math yn hysbysebu Lidl, Aldi a hyd yn oed whisgi Penderyn. Bydd gwisgo'r rhain dros ein sgidiau yn cadw ni’n sych. Ond roedd yr arbrawf hwn yn profi un peth. Mae maint eich bagiau yn bwysig! Roedd fy magiau i braidd yn fyr ac roedd rhaid croesi’r afon yn fy nghwrcwd er mwyn cadw’r bagiau i fyny. Roedd rhan fwyaf o’r cwmni yn defnyddio bagiau sbwriel, rhai glân, wrth gwrs, ac yn gallu croesi’r afon gydag urddas. Ond mae adloniant yn bwysig ac roeddwn i’n hapus i chwarae rhan a rhoi gwên ar wynebau pawb. Ond roedd un person, yn amlwg un oedd wedi hen arfer a cherdded trwy ddŵr a dim angen bag. Iddo fo wnaeth y dyfroedd rannu a cherddodd drosodd heb gymorth bag o gwbl. A phwy oedd o? Cymerwch un cam ymlaen Alan Williams! Mynd trwy fferm wedyn a dod ar draws gŵydd Canada yn nofio ar y llyn ac yn galaru am ei phartner â oedd ar goll. Galaru’n uchel hefyd, neu oedd hi ddim ond yn cwyno am ein bod ni wedi ei styrbio ar brynhawn Sadwrn? Hawdd iawn yw mynd heibio rywbeth heb sylweddoli bod yna hanes ond roedd Mary yna unwaith eto i sicrhau ein bod ni’n cymryd sylw. Roedd tair hen goeden mewn rhes ac yn agos at ei gilydd. Hawdd iawn cymryd yn ganiataol mai’r ddraenen wen oedden nhw. Ond na, wrth edrych yn fwy manwl roedd y dail yn hollol wahanol, masarn bychain oedden nhw a, gan fod nhw mor agos at ei gilydd mae’n debyg iddyn nhw wedi bod yn ddarn o lwyn yn wreiddiol. Wrth eu hochr roedd hen goeden yn dal i sefyll ond heb ganol iddi. Wrth adael y llecyn hwn wnaethon ni sylweddoli bod un o’n nifer ar goll. Pwy oedd wedi dianc? Ac yna gwelsom Eirian yn dod i’r golwg o ganol y goeden! Erbyn hyn roedden ni ar gyrion Llangadog unwaith eto ac mewn deg munud roedden ni’n ôl wrth ein ceir. Roedd y merched wedi hen seiclo heibio, wedi dringo’r mynydd a mwynhau’r ffordd droellog i lawr i Brynaman ac ymlaen i Pembre. A ni, yn hapus iawn ein byd ar ôl daith llawn gwybodaeth, hwyl a chlonc. Mawr ddiolch i Mary a Garfield am yr holl waith baratoi ac am ein cadw’n ddiogel trwy’r holl daith. Diolch i bawb, unwaith eto am y cwmni diddorol. Geirfa Parc Gwledig Pembre - Pembrey Country Park Beili – Bailey Barcud coch – Red Kite Gorsaf bwydo - feeding station Mintai – troop (bodyguards) Adnabyddus – well known Her – challenge Aderyn ysglyfaethus – bird of prey Annisgwyl – unexpected Arbrawf – experiment Yn fy nghwrcwd – bent double Urddas – dignity Dyfroedd – waters Rhannu – to divide Gŵydd Canada – Canada Goose Galaru – to mourn Styrbio – to disturb Mewn rhes – in a line Cymryd yn ganiataol – to take for granted Draenen wen – hawthorn Edrych yn fwy manwl – to look closer Masarn bychain – field maples Llwyn – hedge Llecyn – a spot, a place Dianc – to escape