Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Llanfihangel Rhos y Corn Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Y tro cyntaf i mi fod ar daith Cymdeithas Edward Llwyd dim ond tua 5 milltir oedd y daith ac mi oedd fy nghyhyrau’n dweud y drefn wrtha i am ddyddiau wedyn. Wrth i’r wythnosau fynd heibio a’r cyhyrau’n cryfhau dw i wedi ymdopi â thipyn bach mwy o bellter, tydi chwech, saith o filltiroedd ddim yn ddrwg, wyth? Wel dw i ar y ffin efo wyth. Cyn i chi ddweud, dw i’n gwybod fy mod i’n wimp ar hyn o bryd, ond dw i’n symud ymlaen. Roedd ein taith yn ardal Llanfihangel Rhos y Corn wedi cael ei hysbysu fel 9 milltir ac roeddwn i bron yn ansicr, ond mae’n rhaid rhoi hwb i’r ffin! Fy mhroblem fawr oedd y tymheredd - dach chi wedi sylweddoli pa mor boeth mae hi wedi bod yn ddiweddar? Dw i ddim yn dda pan mae hi’n boeth! Efallai ni fydd hi mor bell. Ar un adeg roeddwn i’n seiclo efo grŵp bob wythnos ac yn gwneud 50 i 60 milltir pob dydd Mercher a llawer gwaith roedden ni’n seiclo yn yr ardal yma, neis iawn ond dim mor bleserus a cherdded yn bell oddi ar y ffordd. Dyma oedd wedi fy ngwthio i fynd ar y daith – ac i weld ffrindiau hefyd wrth gwrs. Tua deng munud wedi deg roeddwn i wedi cyrraedd New Inn ac wedi troi i’r lôn gul i gyrraedd y man cychwyn. Roeddwn i’n dechrau poeni mod i ar y ffordd anghywir achos dim ond fi oedd ar y lôn ond yn sydyn welais i ddrysau cefn llawer o geir yn pwyntio tuag at yr awyr. Roedd hyn yn golygu naill rywun oedd yn gwerthu ceir oedd yna neu cerddwyr brwd y Gymdeithas. Gan oedd y lle dipyn bach yn ddiarffordd i rywun oedd yn gobeithio gwneud ei ffortiwn wrth werthu ceir roedd yn debyg mod i ar y ffordd iawn. Roedd y man cychwyn ar ben y byd, golygfeydd hir i bron pob cyfeiriad a thyrbinau gwynt yn mwynhau segurdod tra bod y paneli solar yn cymryd eu tro i gyfrannu tuag at ein hanghenion trydanol. Dim cwmwl yn yr awyr. Cyfnod o glymu careiau, cymdeithasu a chloncian wedyn tan i Alun Jones cael ni at ein gilydd er mwyn siarad â ni am yr ardal a’r coedwigoedd enfawr sydd wedi bod mor bwysig dros wahanol gyfnodau ein hanes. Coed pinwydd erbyn hyn ond bydd hynny yn debyg o newid yn raddol wrth i goed collddail cael eu plannu i gymryd eu lle. I lawr â ni ar un o lwybrau’r goedwig ac yn gwerthfawrogi’r cysgod o dan y coed, a dyna sut oedd pethau, cerdded i mewn ac allan o’r haul. Roedden ni’n cadw ein hunain yn hapus wrth anwybyddu’r ffaith roedden ni’n dilyn yr afon Marlais i lawr ac i lawr. Bydd yr afon yn lwcus wrth gwrs achos mi fydd hi’n mynd ymlaen yn is ac yn is ond ar ryw adeg mi fydd rhaid i ni ddweud ffarwel a dechrau dringo. Dyma ni yn croesi’r bont ac yn cael cipolwg agos ar yr afon, cael mwynhad wrth bwyso ar ochr y bont a thrio cadw ein llygaid oddi ar y ffordd ymlaen yn mynd yn uwch i fyny ochr arall y cwm. Anadl ddofn a ffwrdd â ni, gweld Mam a merch yn dod i lawr tuag atom ni, y ferch yn eistedd yn gyfforddus ar ferlen Shetland a’r fam yn arwain merlen tipyn mwy o faint. Cyrraedd Keepers Lodge a chymryd mantais o’r byrddau wedi eu gosod yn y cysgod o dan y coed. Pawb yn gytûn mai dyma oedd y lle i gael picnic. Croesi’r ffordd wedyn a mynd un ar ôl y llall am sbel tan gyrraedd rhan agored lle oedd y coed wedi cael eu torri lawr a mwynhau'r haul poeth unwaith eto ac yn sydyn cael ein hunain yng Ngwernogle. Dyna ble oedden ni’n sefyll a mwynhau cysgod wrth y bont yn cael clonc a gwelsom ni ddynes yn sefyll yng nghanol y ffordd yn edrych arnom ni mewn syndod (Does dim tebygrwydd gweld llawer o HGVs yng Ngwernogle!). Mi wnaeth y sgwrs ddechrau efo hi’n gofyn i ni ai’r Gymraeg oedden ni’n siarad, mor falch oedd hi pan wnaethon ni gadarnhau hynny. Hi, meddai, oedd yr unig berson ar ôl yn y pentref oedd yn siarad Cymraeg. Tristwch ofnadwy ac yn tanlinellu bod rhaid i ni wneud popeth allwn ni i gael ein tir yn ôl, mae'n mynd yn hwyr! Ar ôl fy mhrofiad efo’r grŵp seiclo roeddwn i’n gwybod yn iawn beth oedd rhyngom ni a’n ceir sef allt serth ofnadwy, ond doedden ni ddim yn mynd ar y ffordd ond ar lwybr trwy’r coed. O leiaf roedd cysgod ond er hynny roedd y llwybr yn serth a dw’n i ddim am y lleill ond roedd fy nghorff i wedi cynhesu felly pen i lawr a chadw i fynd oedd y peth gorau. Ac wrth gwrs yn y pen draw mae rhywun yn cyrraedd. Ro’n i’n gwybod mai dros 9 milltir oedd y daith ond yn siomedig dim ond 9.6 milltir, basa wedi bod yn grêt i wneud yr holl 10milltir. Dydw i ddim o ddifri, nid yng ngwres dydd Sadwrn beth bynnag. Mi wnes i ddewis y ffordd hir i fynd adref achos jest cyn Alltwalis mae ‘na garej sydd yn gwerthu diodydd ysgafn ac o’n i’n ffansïo potel o Ffanta oren pefriog. Mewn deg munud roeddwn i yno, dewisaf, talais ac, yn ôl yn y fan, agorais y botel ac yfais ei chwarter. Dyna oedd teimlad da, yr hylif oer yn mynd i lawr fy ngwddw a’r zing yn adnewyddu pob cyhyr, yn sydyn roeddwn i’n teimlo fel y boi unwaith eto. Hynny yw tan i mi drio sefyll ar fy nhraed wrth gyrraedd y tŷ! Diolch yn fawr iawn i Alun am sefyll yn y bwlch ac am ein harwain ni yn ddiogel yn ôl at ein ceir ac am yr holl wybodaeth ar hyd y daith. Ac yn olaf diolch i chi gyd am eich cwmni ar y daith. Hwyl am y tro!
Geirfa Gwthio - to push Diarffordd - remote Segurdod - idleness Clymu careiau - tying shoelaces Coed pinwydd - pine trees Coed colldail - deciduous trees Cipogwg - glance Anadl ddofn - deep breath Merlen Shetland - Shetland pony Mewn syndod - in surprise Tanlinellu - to underline Diodydd ysgafn - soft drinks Pefriog - fizzy Hylif oer - cold liquid Cyhyr - muscle Teimlo fel y boi - feeling great
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Llanfihangel Rhos y Corn Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Y tro cyntaf i mi fod ar daith Cymdeithas Edward Llwyd dim ond tua 5 milltir oedd y daith ac mi oedd fy nghyhyrau’n dweud y drefn wrtha i am ddyddiau wedyn. Wrth i’r wythnosau fynd heibio a’r cyhyrau’n cryfhau dw i wedi ymdopi â thipyn bach mwy o bellter, tydi chwech, saith o filltiroedd ddim yn ddrwg, wyth? Wel dw i ar y ffin efo wyth. Cyn i chi ddweud, dw i’n gwybod fy mod i’n wimp ar hyn o bryd, ond dw i’n symud ymlaen. Roedd ein taith yn ardal Llanfihangel Rhos y Corn wedi cael ei hysbysu fel 9 milltir ac roeddwn i bron yn ansicr, ond mae’n rhaid rhoi hwb i’r ffin! Fy mhroblem fawr oedd y tymheredd - dach chi wedi sylweddoli pa mor boeth mae hi wedi bod yn ddiweddar? Dw i ddim yn dda pan mae hi’n boeth! Efallai ni fydd hi mor bell. Ar un adeg roeddwn i’n seiclo efo grŵp bob wythnos ac yn gwneud 50 i 60 milltir pob dydd Mercher a llawer gwaith roedden ni’n seiclo yn yr ardal yma, neis iawn ond dim mor bleserus a cherdded yn bell oddi ar y ffordd. Dyma oedd wedi fy ngwthio i fynd ar y daith ac i weld ffrindiau hefyd wrth gwrs. Tua deng munud wedi deg roeddwn i wedi cyrraedd New Inn ac wedi troi i’r lôn gul i gyrraedd y man cychwyn. Roeddwn i’n dechrau poeni mod i ar y ffordd anghywir achos dim ond fi oedd ar y lôn ond yn sydyn welais i ddrysau cefn llawer o geir yn pwyntio tuag at yr awyr. Roedd hyn yn golygu naill rywun oedd yn gwerthu ceir oedd yna neu cerddwyr brwd y Gymdeithas. Gan oedd y lle dipyn bach yn ddiarffordd i rywun oedd yn gobeithio gwneud ei ffortiwn wrth werthu ceir roedd yn debyg mod i ar y ffordd iawn. Roedd y man cychwyn ar ben y byd, golygfeydd hir i bron pob cyfeiriad a thyrbinau gwynt yn mwynhau segurdod tra bod y paneli solar yn cymryd eu tro i gyfrannu tuag at ein hanghenion trydanol. Dim cwmwl yn yr awyr. Cyfnod o glymu careiau, cymdeithasu a chloncian wedyn tan i Alun Jones cael ni at ein gilydd er mwyn siarad â ni am yr ardal a’r coedwigoedd enfawr sydd wedi bod mor bwysig dros wahanol gyfnodau ein hanes. Coed pinwydd erbyn hyn ond bydd hynny yn debyg o newid yn raddol wrth i goed collddail cael eu plannu i gymryd eu lle. I lawr â ni ar un o lwybrau’r goedwig ac yn gwerthfawrogi’r cysgod o dan y coed, a dyna sut oedd pethau, cerdded i mewn ac allan o’r haul. Roedden ni’n cadw ein hunain yn hapus wrth anwybyddu’r ffaith roedden ni’n dilyn yr afon Marlais i lawr ac i lawr. Bydd yr afon yn lwcus wrth gwrs achos mi fydd hi’n mynd ymlaen yn is ac yn is ond ar ryw adeg mi fydd rhaid i ni ddweud ffarwel a dechrau dringo. Dyma ni yn croesi’r bont ac yn cael cipolwg agos ar yr afon, cael mwynhad wrth bwyso ar ochr y bont a thrio cadw ein llygaid oddi ar y ffordd ymlaen yn mynd yn uwch i fyny ochr arall y cwm. Anadl ddofn a ffwrdd â ni, gweld Mam a merch yn dod i lawr tuag atom ni, y ferch yn eistedd yn gyfforddus ar ferlen Shetland a’r fam yn arwain merlen tipyn mwy o faint. Cyrraedd Keepers Lodge a chymryd mantais o’r byrddau wedi eu gosod yn y cysgod o dan y coed. Pawb yn gytûn mai dyma oedd y lle i gael picnic. Croesi’r ffordd wedyn a mynd un ar ôl y llall am sbel tan gyrraedd rhan agored lle oedd y coed wedi cael eu torri lawr a mwynhau'r haul poeth unwaith eto ac yn sydyn cael ein hunain yng Ngwernogle. Dyna ble oedden ni’n sefyll a mwynhau cysgod wrth y bont yn cael clonc a gwelsom ni ddynes yn sefyll yng nghanol y ffordd yn edrych arnom ni mewn syndod (Does dim tebygrwydd gweld llawer o HGVs yng Ngwernogle!). Mi wnaeth y sgwrs ddechrau efo hi’n gofyn i ni ai’r Gymraeg oedden ni’n siarad, mor falch oedd hi pan wnaethon ni gadarnhau hynny. Hi, meddai, oedd yr unig berson ar ôl yn y pentref oedd yn siarad Cymraeg. Tristwch ofnadwy ac yn tanlinellu bod rhaid i ni wneud popeth allwn ni i gael ein tir yn ôl, mae'n mynd yn hwyr! Ar ôl fy mhrofiad efo’r grŵp seiclo roeddwn i’n gwybod yn iawn beth oedd rhyngom ni a’n ceir sef allt serth ofnadwy, ond doedden ni ddim yn mynd ar y ffordd ond ar lwybr trwy’r coed. O leiaf roedd cysgod ond er hynny roedd y llwybr yn serth a dw’n i ddim am y lleill ond roedd fy nghorff i wedi cynhesu felly pen i lawr a chadw i fynd oedd y peth gorau. Ac wrth gwrs yn y pen draw mae rhywun yn cyrraedd. Ro’n i’n gwybod mai dros 9 milltir oedd y daith ond yn siomedig dim ond 9.6 milltir, basa wedi bod yn grêt i wneud yr holl 10milltir. Dydw i ddim o ddifri, nid yng ngwres dydd Sadwrn beth bynnag. Mi wnes i ddewis y ffordd hir i fynd adref achos jest cyn Alltwalis mae ‘na garej sydd yn gwerthu diodydd ysgafn ac o’n i’n ffansïo potel o Ffanta oren pefriog. Mewn deg munud roeddwn i yno, dewisaf, talais ac, yn ôl yn y fan, agorais y botel ac yfais ei chwarter. Dyna oedd teimlad da, yr hylif oer yn mynd i lawr fy ngwddw a’r zing yn adnewyddu pob cyhyr, yn sydyn roeddwn i’n teimlo fel y boi unwaith eto. Hynny yw tan i mi drio sefyll ar fy nhraed wrth gyrraedd y tŷ! Diolch yn fawr iawn i Alun am sefyll yn y bwlch ac am ein harwain ni yn ddiogel yn ôl at ein ceir ac am yr holl wybodaeth ar hyd y daith. Ac yn olaf diolch i chi gyd am eich cwmni ar y daith. Hwyl am y tro!
Geirfa Gwthio - to push Diarffordd - remote Segurdod - idleness Clymu careiau - tying shoelaces Coed pinwydd - pine trees Coed colldail - deciduous trees Cipogwg - glance Anadl ddofn - deep breath Merlen Shetland - Shetland pony Mewn syndod - in surprise Tanlinellu - to underline Diodydd ysgafn - soft drinks Pefriog - fizzy Hylif oer - cold liquid Cyhyr - muscle Teimlo fel y boi - feeling great