Gydangilydd.cymru
Llanfair Isgoed Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dyna le o’n i yn ysgrifennu adroddiad i’n papur bro, Wilia, roedd hi’n gynnar iawn ar fore dydd Sadwrn a finnau’n clywed y glaw tu allan. Ysgrifennu am ein taith yn ardal Aberaman o’n i a byddech chi oedd ar y daith a chi sydd wedi bod mor garedig i ddarllen yr adroddiad ar y wefan yma yn cofio roedd y daith yn un eithaf gwlyb. Mae’n wir i ddweud ein bod ni wedi cael tywydd gwlyb am sbel erbyn hyn ond sut ffordd arall budd ein cronfeydd dŵr yn llenwi? Mewn ychydig o oriau bydda i ar y ffordd i Lanfair Isgoed ac yn barod iawn i brofi tywydd tebyg unwaith eto. Bydd rhai ohonoch chi yn meddwl fy mod i’n hollol wallgof a dylwn i wybod yn well erbyn hyn ond beth bynnag yw’r tywydd, cyn belled â’n bod ni’n gwisgo dillad addas bydden ni’n iawn. Tybed faint fydd ar y daith heddiw? Roedd rhan fwyaf o’r siwrne ar y draffordd a’r drafnidiaeth yn ysgafn, digon hawdd. Y pum milltir olaf basa wedi bod yn anodd heb gymorth y ddynes amyneddgar sydd yn cuddio tu ôl i’r forden flaen. Fi oedd y cyntaf i gyrraedd a’r man cwrdd oedd dafarn y Woodlands. Doedd dim llawer o le i barcio a nes i ddefnyddio maes parcio’r dafarn dros dro tan i mi ffeindio rywle gwell. Yn y pendraw parcion ni ar ochr ffordd gyfleus i lawr y ffordd o’r dafarn. Roedd 14 ohonon ni yn barod i fynd, pawb efo ei dillad dal dŵr ac i ffwrdd â ni heibio’r dafarn, edmygu’r briallu a’r eirlysiau yn tyfu ar yr ochrau. Ie wir, mi fydd y Gwanwyn yn cyrraedd cyn bo hir. I fynnu’r allt, wedyn troi i mewn i’r coed i weld ‘hen’ adeiladau to gwellt. Cerdded trwy gae serth a bod yn ddiolchgar sylweddoli bod golygfa dda o bont Hafren tu ôl i ni, dw i’n sôn am y cyraeddiadau ar ddiwrnod gwell wrth gwrs, ond hyd yn oed trwy’r niwl roedd dim cuddio gosgeiddigrwydd y bont. Trwy goed unwaith eto a’r sgerbydau’n creu delweddau rhithiol yn y niwl. Roedd y llwybr yn fwdlyd mewn mannau ac mi wnaeth y gobaith bydd neb yn syrthio croesi fy meddwl. Pawb yn iawn hyd yn hyn. Allan o’r coed bedw arian a gweld maen hir trwy’r niwl a nifer o gerrig tebyg yn gorwedd ar y llawr. Dyma oedd cylch cerrig Mynydd Llwyd ac mae angen llawer o ddychymyg i drio ail greu yn y meddwl sut oedd pethau yn nyddiau’r cerrig. Cyn bo hir roedden ni’n cerdded i lawr trwy goed unwaith eto, hen waliau wedi eu gorchuddio gyda mwsogl trwchus ar ein chwith, y llwybr yn anodd mewn llefydd ond pawb yn iawn hyd yn hyn. Richard yn dweud wrthon ni roedd y Normaniaid yn defnyddio’r hen goedwig er mwyn hela. Dod ar draws lle cyfleus i gael ein prydiau bwyd a siawns i mi grwydro dipyn ac edmygu rhai o’r coedd enfawr o gwmpas, rhai wedi cael ei docio llawer dros y blynyddoedd ac wedi tyfu llawer o foncyffion o’r herwydd. Rhyddhad oedd cyrraedd trac caled i gerdded arno ac yn sydyn gweld teuluoedd a chŵn ar dro, maes parcio hyd yn oed. Dyn yn gofyn i ni os oedden ni’n grŵp cerdded, rhaid bod naill hynny neu deulu enfawr, ond wnaethon ni gadarnhau ac ychwanegu mai grŵp Cymraeg oedden ni. Dyna sgwrs yn dechrau, roedd o’n ysu am ddysgu Cymraeg ac yn difaru nad oedd wedi cael y siawns i ddysgu’r iaith yn yr ysgol. Gobeithio bydd yn cofrestru i ddysgu ym mis Medi. Roedd rhaid i ni adael yn rhy fuan neu bydden ni wedi colli gweddill y grŵp. Pob lwc iddo. Roedd y llwybr rŵan yn dilyn ochr y ffordd ac yn y llaca unwaith eto, gan ein bod ni wedi cael dipyn o drafodaeth am wahanol eiriau am fwd a phawb wedi gwirioni ar y gair llaca mae rhaid i mi ei ddefnyddio. Ar hyd y daith dw i wedi eich sicrhau doedd neb wedi syrthio a dw i’n siŵr bod hynny wedi bod yn rhyddhad mawr i chi, ond mae trwbl ar y ffordd. Roedd y llwybr wedi mynd yn ddwfn a finnau’n dilyn Huw a fynta wedi dewis cerdded ar y darn gwastad uwchben, syniad da meddyliais ac roedd popeth yn iawn i ddechrau ond pan mae’ch sgidiau yn dechrau colli gafael a does dim byd i gydio dach chi mewn trwbl. Yn araf deg roedd fy nhraed yn nesáu at y dibyn, roeddwn i wedi colli rheolaeth yn llwyr ond os oeddwn i yn mynd i wneud rhywbeth trawiadol roedd rhaid cael cynulleidfa. Felly wnes i waedd uchel wrth ddisgyn i’r ffos, un arall pan wnes i daro fy ochr yn galed ar y ffordd i lawr. Lithro ar y llaca fel petai, ydi hynny’n eich atgoffa chi am gân Geraint Jarman o bell yn ôl? Na, meddwl am Siglo ar y Siglen o’n i. Roeddwn dal mewn un pishyn wrth gwrs heblaw am frifo fy hunan barch ac roedd y poen wedi distewi erbyn amser cinio dydd Sul! Diolch am ofyn. Dach chi’n sylweddoli bod chi wedi bod yn cerdded mewn cylch pan dach chi’n gweld pethau cyfarwydd unwaith eto ac yn sydyn roedden ni o fewn milltir o’r diwedd. Roedd y dafarn yn rhy agos i’r ceir i ni osgoi cael rhywbeth i yfed a chymdeithasu o gwmpas fwrdd cyn mynd am adref. Ia, roedd hi’n wlyb ond byth yn oer, roedden ni i gyd wedi gweld rhan fach newydd o Gymru ac wedi curo’r tywydd unwaith eto. Fel dw i wedi dweud o’r blaen mae’r cwmni wastad yn dda, diolch i bawb am hynny ond diolch yn arbennig i Richard am ei waith caled yn ei drefnu. Tan y tro nesaf - hwyl fawr a beth am ddod efo ni! Geirfa Cronfeydd dŵr – reservoirs Gwalltgof – mad Trafnidiaeth – traffic Borden flaen – dashboard Edmygu – to admire Briallu – primroses Eirlysiau – snowdrops To gwellt – thatched roof Cyraeddiadau – potential Gosgeiddigrwydd – gracefulness Sgerbydau – skeletons Delweddau rhithiol – ghostly images Coed bedw arian – silver birch trees Maen hir – standing stone Gorchuddio – to cover Mwsogl trwchus – thick moss Hela – to hunt Tocio – to prune, lop, coppice Boncyff – tree trunk Ysu – to long for Llaca – mud, slime Trafodaeth – discussion Gwirioni – to dote on Rhyddhad mawr – great relief Colli gafael – to lose grip Trawiadol – striking Cynulleidfa – audience Hunan barch – self esteem Distewi – to ease