Gydangilydd.cymru
Llandeilo Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd hi’n ddiwrnod y Sioe Awyr yma yn Abertawe a, gan fy mod i’n byw yn agos at y môr, bydd yr ardal yma yn debyg o fod yn ofnadwy o brysur efo pobl yn chwilio am lefydd i barcio. Achos hyn i gyd roeddwn i’n hapus dros ben bod taith maes Cymdeithas Edward Llwyd o fy mlaen i. Well i mi ychwanegu fy mod i wastad yn hapus pob bore dydd Sadwrn i fynd ar daith. Oedd wir raid i mi ddweud hynny? Alun Voyle oedd â’r fraint i’n harwain ni a dw i’n meddwl roedd 27 o’n haelodau yn bresennol er mae wastad yn anodd cyfri’r aelodau gan eu bod nhw’n symud trwy’r amser! Y man cyfarfod oedd maes parcio gorsaf reilffordd Landeilo. Mae’r orsaf yn brysur dros ben gyda phedwar trên i fyny a phedwar i lawr pob dydd. Diolch byth na wnaeth Dr Beeching benderfynu defnyddio ei gyllell ar y lein yma achos mae’r daith yn brofiad arbennig a’r golygfeydd yn wych. Mae’n siwrne gwerth ei wneud. Wir yr! Croesi’r trac oedd yr her gyntaf ac yn lwcus iawn roeddem yn gwneud hynny ar amser tawel. Croesi’r afon Tywi a chael profiad tebyg i’r ‘waltzers’ yn y ffair wrth i’n niferoedd cynyddu ar y bont. Pont droi go iawn heblaw am y ffaith roedd y ddau ben yn sownd yn y ddaear. Llawer o hwyl! (Roedd y bont yn siglo braidd!) Cyn bo hir roeddem ni yng nghoed Tregib sydd dan ofal Coed Cadw. Mae gwaith wedi cael ei wneud i hwyluso’r profiad o gerdded yma yn ddiweddar gyda llwybrau pren i’ch codi uwchben y rhannau gwlyb. Llawer o gerfluniau o fyd natur o gwmpas y lle. Allan o’r coed ac anelu at Ffairfach a cherdded tuag at y bont ac edmygu’r rhes o dai lliwgar ar ochr y ffordd yn dringo tuag at dref Llandeilo. Troi i’r chwith wnaethon ni yn union ar ôl y bont i gerdded wrth ochr yr afon. Gweld Crëyr Glas yn codi’n urddasol o’r dŵr wrth i ni agosáu at ei ffefryn lyn. Roedd topiau castell Dinefwr i’w weld uwchben y coed yn bell uwch ein pennau cyn i ni gerdded ar lwybr trwy’r coed. Aros i edmygu golygfa o adar ar lyn islaw guddfan gyfleus cyn gwneud ein ffordd drwy ddolau a choed i gyfeiriad Newton. Roedd y yn gartref i’r teulu Rhys, disgynyddion yr Arglwydd Rhys. Wedi ei adeiladu yn 1660 mae dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Roedd lle cyfleus i edrych i lawr ar y yn eistedd yn ei ysblander, ceirw yn ymlacio yn yr haul ac, yn y pellter, cipolwg o’r gyr o wartheg gwyn sydd wedi bod yn nodweddiadol o’r lle am ganrifoedd. Erbyn hyn roedd y dringo drosodd a dim ond dwy sticill ar ôl felly taith hamddenol yn ôl at y ceir unwaith eto. Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod delfrydol i gerdded, yn sych ac yn gynnes ond nid yn ormod o boeth. Finnau wedi bod yn ddigon lwcus i osgoi holl brysurdeb y Sioe Awyr, ond dim ond dros dro, wrth gwrs. Wrth agosáu at adref roeddwn i wedi penderfynu gwneud gwyriad er mwyn cyrraedd y yn dawel. Wrth wneud nes i sylweddoli nad yw’r gwylanod yn gyfforddus efo holl sŵn a chyffro awyrennau mor agos ac mae hyn yn achosi iddyn nhw wneud pethau annisgwyl. O fewn chwarter milltir o ddiwedd y daith des i’n ymwybodol o effaith hyn arnyn nhw wrth i sblatiau o rywbeth cyfarwydd daro ffenest flaen y car. Peidiwch â thrio fy nghysuro wrth fynnu bod hyn yn lwcus, bydda i’n anghytuno’n llwyr! Y peth cyntaf roedd rhaid gwneud ar ddiwedd y daith oedd glanhau’r car efo beipen dŵr. Wrth i mi wneud hynny roedd y Red Arrows yn dechrau eu hail ymosodiad ar y bae. Chwedl y Sais “if you can’t beat them, join them” felly eistedd yn ôl yn yr ardd gefn a thrio gweld nhw trwy’r coed. Digwydd bod, mae fy nhŷ yn union o dan lwybr hedfan un o’r awyrennau pan maen nhw’n gwahanu o’i gilydd. Rhywbeth i’w wneud â’r ffaith mod i wedi peintio “Cofiwch Dryweryn” yn fawr ar y to siŵr o fod. Cyffrous iawn! Mae’r Sioe Awyr yn adloniant i ni ond mae'n rhaid cofio bod pethau’n wahanol i rai pobl sydd wedi ffoi i’n gwlad o wledydd lle mae sŵn awyren y lluoedd awyr yn golygu rhywbeth hollol wahanol. Ond doedd ein diwrnod ddim ar ben chwaith achos yn yr hwyr roedd hwyl i gael yn y bae gyda pyrotechnegai, dynion dewr â pharasiwtiau yn neidio o awyrennau a balwnau awyr poeth yn dawnsio i gerddoriaeth. Ia, roedd tasg y balwnau yn rhy uchelgeisiol mae gen i ofn, ond chwarae teg beth bynnag. Arddangosfa wych o dân gwyllt o ganol y bae wedyn ac roedd hi’n agos iawn at hanner nos cyn i ni gyrraedd adref. Diwrnod llawn dros ben! Ond, er hyn i gyd ein taith oedd uchafbwynt y diwrnod felly dewch yn ôl mewn amser efo fi at ddiwedd ein taith unwaith eto er mwyn dweud diolch i Alun Voyle am drefnu’r daith ac am ein harwain, i Peter Evans am gadw ni wrth ein gilydd ac i’r holl aelodau am eu cwmni da fel arfer. Tan y tro nesaf! Geirfa Siglo – to sway Pont droi – swing bridge Cerfluniau – carvings Yn union ar ôl – straight after Crëyr glas – heron Urddasol – dignified, stately Ffefryn lyn – favourite lake Cuddfan – (bird) hide Dolau – meadows Disgynyddion – decendants Ysblander – splendour Ceirw – deer Cipolwg – glance Nodweddiadol – typical Sticill – stile (N) sticil (S) Sblatiau – splatters Rhywbeth cyfarwydd – something familiar Tân gwyllt - fireworks