Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau
I mi roedd Nain yn dŵad o Ddolgellau ond yn ddiweddar dw i wedi dysgu gwnaeth hi gael ei geni yng Ngellilydan ger Trawsfynydd. Fy nghyfnither Gwylan (neu Gwylan C. Gyl i roi ei henw llawn iddi) oedd wedi datgelu hyn ac roedd hi’n gwybod yr union le. Erbyn hyn mae safle’r hen dy o dan dŵr Llyn Trawsfynydd ond mae olion i’w gweld pan mae’r dŵr yn isel. Roedd ei thad yn adeiladu pontydd i’r rheilffordd ac yn gweithio ar y lein rhwng Blaenau a’r Bala. Tua mis yn ôl aeth y ddau ohonon ni i weld y lle. Mae Gwylan yn byw yn Sir Fôn ac mae digon o le i barcio’r gamperfan tu allan i’w thŷ. Handi iawn achos alla i gysgu yn y fan a sleifio i ffwrdd yn gynnar yn y bore, heb ei styrbio hi, i ffeindio rywle i dynnu lluniau o’r wawr. Wnaethon ni ddewis diwrnod a oedd yn weddol sych a ffwrdd a ni dros y bont ac anelu at Dremadog, wedyn Carreg ac ymlaen at Groesor. Gyda llaw os dach chi’n meddwl am ddilyn y ffordd yma mae’n rhaid i mi eich rhybuddio chi bod y ffordd yn gul heb lawer o lefydd i basio ond gan fy mod i naill yn ddewr neu yn ddwl ofnadwy es i ymlaen. Cyrraedd y groesffordd yng Nghroesor a throi i’r dde tuag at Benrallt. Roedd Wncl John ac Anti Nanw yn byw ar fferm Penrallt ac roedd fy chwaer a finnau yn treulio wythnos yna pob gwyliau Pasg. Mae’r tŷ yn dal yna ac, o’r tu allan, does dim llawer wedi ei newid, er dw i’n siŵr bod tapiau dŵr oer a phoeth yna erbyn hyn, trydan a thoiled tu mewn. Yn ein dyddiau ni roedd y dŵr yn dŵad o bistyll tu allan, roedd golau gyda’r nos diolch i ganhwyllau a lamp olew, a’r toiled - tu allan wrth gwrs mewn cwt ar ochr yr iard ac yn oer iawn pan oedd y gwynt o’r gogledd. Mae amddifadiad yr hen oes wedi gwneud fi’n galed ac yn gryf. Roedd Wncl John yn cadw defaid ar y mynydd a dau neu dri o wartheg er mwyn i Anti Nanw gorddi menyn. Roedd crochan yn y llaethdy wedi ei gorchuddio gan lechen ac ar ei ben roedd mwg enamel. Pleser mawr oedd ei lenwi efo’r llaeth enwyn oer - blasus dros ben. Ar y lôn uwchben y fferm roedd gorlan ac un diwrnod aeth Wncl John a finnau yna ac ar y rhan wastad o flaen y gorlan roedd hen lori yn prysur rydu ac oeddwn i wrth fy modd yn eistedd yn y cab yn ei ddreifio, ddoth Wncl John o’r gorlan a gofynnodd i mi faswn i’n hoffi ei yrru go iawn. Doedd dim angen iddo ofyn, wrth gwrs byswn i! “Reit” medda fo “mi wna i roi bwsh-start i ti, felly rho’r injan mewn gêr a phan dw i’n dweud, gollynga’r brêc, iawn?” “Iawn” medda fi llawn cyffro. “Rŵan!” medda fo “ydi o’n symud?” “Na” Medda fi. “Wna i drio eto” medda fo. Roeddwn i’n cael cymaint o hwyl yn y cab ac yn edrych ymlaen at y siawns i’w yrru go iawn nes i ddim sylwi bod popeth yn ddistaw tu ôl i’r lori, edrychais allan o’r ffenest a dyna lle'r oedd Wncl John yn cerdded yn hamddenol i lawr y lôn yn chwerthin wrth ei hun. Roedd o’n un ofnadwy am dynnu coes! Cyn cyrraedd Penrallt mae pont dros yr afon a dyna wrth y bont oedden ni’n syllu ar y tŷ pan ddoth fan y post. Gan nad oedd digon o le iddi fynd heibio ni roedd rhaid i ni fynd ymlaen a dyna ni wedyn yn cyrraedd golygfa oedd yn edrych i lawr dros y gwastatir mawr tu ôl i Gob Porthmadog a’r môr tu draw. Roedd dynes y post wedi troi i lawr lôn gul at ryw fferm anghysbell ac mi wnaeth hi basio ni tra oedden ni’n gwerthfawrogi’r olygfa Yr unig ffordd rŵan oedd i lawr ond doedd cyflwr y ffordd dim yn dda ond gorau po gyntaf i ni gyrraedd y gwaelod achos petaswn i’n cyfarfod car arall mi fydd rhaid i un ohonon ni bacio - dydw i ddim yn meindio bacio ond ar y lôn yma roedd yn well i mi beidio gorfod. Mae’n anodd iawn i ddal eich anadl tra bod chi’n gyrru, yn enwedig pan dach chi’n cael eich bownsio ar wyneb garw'r lôn ond, diolch byth, wnaethon ni gyrraedd ei ddiwedd mewn pryd i weld car yn dechrau ar y daith. Tybed sut wnaethon nhw ymdopi? Phew! Ymlaen heibio gwesty’r Oakeley Arms (lle maen nhw’n siarad Cymraeg, gyda llaw) i Gellilydan i weld ble gafodd Nain ei geni. Parcio mewn culfan a cherdded yn ôl dipyn ar ochr ffordd brysur a swnllyd, anodd iawn i siarad tan gyrraedd llwybr a oedd yn mynd tuag at y llyn. Cyrraedd y lle ond welsem ni ddim byd wrth gwrs ar ôl gyfnod o law trwm ond mae 'na fath o le picnic yna a bydd yn lle braf i ail-ddarganfod ar ddiwrnod braf. Cerdded tipyn bach ymhellach wedyn a gweld bod ni’n reit agos at atomfa Traws, y maes parcio a’r caffi a sylweddoli doedd dim rhaid i ni gerdded ar ochr y ffordd brysur yna! Drat! Dydy o ddim yn swnio fel rhywbeth pwysig i’w wneud ond ryw bererindod bersonol oedd hi i ni’n dau ac mae’n bwysig gwybod eich cefndir yntydi. A hefyd roedden ni wedi cael siawns i fwynhau ychydig o harddwch Cymru unwaith eto. Does dim byd yn bod efo hynny!
Hel Atgofion
Geirfa
Yn ddiweddar - lately Cyfnither - cousin (female) Yr union le - the very place Olion - traces Sleifio i ffwrdd - to sneak away Heb ei styrbio hi - without disturbing her Anelu at - to aim for Rhybuddio - to warn Treulio - to spend (time) Camwyllau - candles Amddifadiad - deprivation Corddi menyn - to churn butter Crochan - crock Llaethdy - dairy Gorchuddio gan lechen - covered with a slate Llaeth enwyn - buttermilk
Corlan - sheepfold Yn brysur rhydu - busily rusting Gollynga’r brêc - release the brake (a command) Yn hamddenol - leisurely Tynnu coes - leg pulling Syllu - to stare Anghysbell - remote Dal eich anadl - to hold your breath Wyneb garw - rough surface Ymdopi - to cope Cyfnod o law trwm - period of heavy rain Ail-ddarganfod - to re-acquaint oneself Atomfa - nuclear power station Pererindod - a pilgrimage Cefndir - background
Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl Gwrandewch
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau
I mi roedd Nain yn dŵad o Ddolgellau ond yn ddiweddar dw i wedi dysgu gwnaeth hi gael ei geni yng Ngellilydan ger Trawsfynydd. Fy nghyfnither Gwylan (neu Gwylan C. Gyl i roi ei henw llawn iddi) oedd wedi datgelu hyn ac roedd hi’n gwybod yr union le. Erbyn hyn mae safle’r hen dy o dan dŵr Llyn Trawsfynydd ond mae olion i’w gweld pan mae’r dŵr yn isel. Roedd ei thad yn adeiladu pontydd i’r rheilffordd ac yn gweithio ar y lein rhwng Blaenau a’r Bala. Tua mis yn ôl aeth y ddau ohonon ni i weld y lle. Mae Gwylan yn byw yn Sir Fôn ac mae digon o le i barcio’r gamperfan tu allan i’w thŷ. Handi iawn achos alla i gysgu yn y fan a sleifio i ffwrdd yn gynnar yn y bore, heb ei styrbio hi, i ffeindio rywle i dynnu lluniau o’r wawr. Wnaethon ni ddewis diwrnod a oedd yn weddol sych a ffwrdd a ni dros y bont ac anelu at Dremadog, wedyn Carreg ac ymlaen at Groesor. Gyda llaw os dach chi’n meddwl am ddilyn y ffordd yma mae’n rhaid i mi eich rhybuddio chi bod y ffordd yn gul heb lawer o lefydd i basio ond gan fy mod i naill yn ddewr neu yn ddwl ofnadwy es i ymlaen. Cyrraedd y groesffordd yng Nghroesor a throi i’r dde tuag at Benrallt. Roedd Wncl John ac Anti Nanw yn byw ar fferm Penrallt ac roedd fy chwaer a finnau yn treulio wythnos yna pob gwyliau Pasg. Mae’r tŷ yn dal yna ac, o’r tu allan, does dim llawer wedi ei newid, er dw i’n siŵr bod tapiau dŵr oer a phoeth yna erbyn hyn, trydan a thoiled tu mewn. Yn ein dyddiau ni roedd y dŵr yn dŵad o bistyll tu allan, roedd golau gyda’r nos diolch i ganhwyllau a lamp olew, a’r toiled - tu allan wrth gwrs mewn cwt ar ochr yr iard ac yn oer iawn pan oedd y gwynt o’r gogledd. Mae amddifadiad yr hen oes wedi gwneud fi’n galed ac yn gryf. Roedd Wncl John yn cadw defaid ar y mynydd a dau neu dri o wartheg er mwyn i Anti Nanw gorddi menyn. Roedd crochan yn y llaethdy wedi ei gorchuddio gan lechen ac ar ei ben roedd mwg enamel. Pleser mawr oedd ei lenwi efo’r llaeth enwyn oer - blasus dros ben. Ar y lôn uwchben y fferm roedd gorlan ac un diwrnod aeth Wncl John a finnau yna ac ar y rhan wastad o flaen y gorlan roedd hen lori yn prysur rydu ac oeddwn i wrth fy modd yn eistedd yn y cab yn ei ddreifio, ddoth Wncl John o’r gorlan a gofynnodd i mi faswn i’n hoffi ei yrru go iawn. Doedd dim angen iddo ofyn, wrth gwrs byswn i! “Reit” medda fo “mi wna i roi bwsh-start i ti, felly rho’r injan mewn gêr a phan dw i’n dweud, gollynga’r brêc, iawn?” “Iawn” medda fi llawn cyffro. “Rŵan!” medda fo “ydi o’n symud?” “Na” Medda fi. “Wna i drio eto” medda fo. Roeddwn i’n cael cymaint o hwyl yn y cab ac yn edrych ymlaen at y siawns i’w yrru go iawn nes i ddim sylwi bod popeth yn ddistaw tu ôl i’r lori, edrychais allan o’r ffenest a dyna lle'r oedd Wncl John yn cerdded yn hamddenol i lawr y lôn yn chwerthin wrth ei hun. Roedd o’n un ofnadwy am dynnu coes! Cyn cyrraedd Penrallt mae pont dros yr afon a dyna wrth y bont oedden ni’n syllu ar y tŷ pan ddoth fan y post. Gan nad oedd digon o le iddi fynd heibio ni roedd rhaid i ni fynd ymlaen a dyna ni wedyn yn cyrraedd golygfa oedd yn edrych i lawr dros y gwastatir mawr tu ôl i Gob Porthmadog a’r môr tu draw. Roedd dynes y post wedi troi i lawr lôn gul at ryw fferm anghysbell ac mi wnaeth hi basio ni tra oedden ni’n gwerthfawrogi’r olygfa Yr unig ffordd rŵan oedd i lawr ond doedd cyflwr y ffordd dim yn dda ond gorau po gyntaf i ni gyrraedd y gwaelod achos petaswn i’n cyfarfod car arall mi fydd rhaid i un ohonon ni bacio - dydw i ddim yn meindio bacio ond ar y lôn yma roedd yn well i mi beidio gorfod. Mae’n anodd iawn i ddal eich anadl tra bod chi’n gyrru, yn enwedig pan dach chi’n cael eich bownsio ar wyneb garw'r lôn ond, diolch byth, wnaethon ni gyrraedd ei ddiwedd mewn pryd i weld car yn dechrau ar y daith. Tybed sut wnaethon nhw ymdopi? Phew! Ymlaen heibio gwesty’r Oakeley Arms (lle maen nhw’n siarad Cymraeg, gyda llaw) i Gellilydan i weld ble gafodd Nain ei geni. Parcio mewn culfan a cherdded yn ôl dipyn ar ochr ffordd brysur a swnllyd, anodd iawn i siarad tan gyrraedd llwybr a oedd yn mynd tuag at y llyn. Cyrraedd y lle ond welsem ni ddim byd wrth gwrs ar ôl gyfnod o law trwm ond mae 'na fath o le picnic yna a bydd yn lle braf i ail-ddarganfod ar ddiwrnod braf. Cerdded tipyn bach ymhellach wedyn a gweld bod ni’n reit agos at atomfa Traws, y maes parcio a’r caffi a sylweddoli doedd dim rhaid i ni gerdded ar ochr y ffordd brysur yna! Drat! Dydy o ddim yn swnio fel rhywbeth pwysig i’w wneud ond ryw bererindod bersonol oedd hi i ni’n dau ac mae’n bwysig gwybod eich cefndir yntydi. A hefyd roedden ni wedi cael siawns i fwynhau ychydig o harddwch Cymru unwaith eto. Does dim byd yn bod efo hynny!
Hel Atgofion
Geirfa
Yn ddiweddar - lately Cyfnither - cousin (female) Yr union le - the very place Olion - traces Sleifio i ffwrdd - to sneak away Heb ei styrbio hi - without disturbing her Anelu at - to aim for Rhybuddio - to warn Treulio - to spend (time) Camwyllau - candles Amddifadiad - deprivation Corddi menyn - to churn butter Crochan - crock Llaethdy - dairy Gorchuddio gan lechen - covered with a slate Llaeth enwyn - buttermilk Corlan - sheepfold Yn brysur rhydu - busily rusting Gollynga’r brêc - release the brake (a command) Yn hamddenol - leisurely Tynnu coes - leg pulling Syllu - to stare Anghysbell - remote Dal eich anadl - to hold your breath Wyneb garw - rough surface Ymdopi - to cope Cyfnod o law trwm - period of heavy rain Ail-ddarganfod - to re-acquaint oneself Atomfa - nuclear power station Pererindod - a pilgrimage Cefndir - background
Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen Gwrandewch