Gydangilydd.cymru
Hanes Cymru mewn 95 Dudalen Dw i’n cofio un dro pan o’n i’n byw yn Lloegr rywun ddechrau siarad efo fi am Owain Glyndŵr, Sais oedd o a ro’n i’n teimlo braidd yn anghyfforddus achos, er o’n i wedi clywed am Owain Glyndŵr doeddwn i’n gwybod dim amdano. Dyna pryd nes i sylweddoli nad oedden ni wedi cael gwersi hanes Cymru o gwbl yn yr ysgol. Pa fath o Gymro sydd yn anwybodus o hanes ei wlad? Ond dyna oedd y drefn, doedd cael gwersi am ein hanes ddim yn bwysig, yn wir doedd o ddim yn beth da i ni wybod. Pan o’n i’n diwtor Cymraeg i Oedolion yn ardal Llanandras roedd ddynes yn y dosbarth a oedd wedi cymryd diddordeb yn hanes lleol yr ardal. Dynes ddiddorol dros ben ac un noson wnaeth hi roi llyfr i mi a dweud wrthyf y byddaf yn ei fwynhau. Enw’r llyfr oedd ‘Here be Dragons’ gan Sharon Penman - 800 o dudalennau. Ar y pryd roeddwn i’n brysur ofnadwy efo’r dosbarth nos, cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle, Sadyrnau Siarad a’r Ysgol Haf a dim amser i ddechrau darllen llyfr mor hir. Mae gen i gywilydd i ddweud gwnaeth y ddynes farw cyn i mi ei ddarllen. Wnaeth y llyfr newid fy mywyd, trist iawn ces i ddim cyfle i ddweud hynny wrthi. Mae’r llyfr yn adrodd hanes Llewelyn Fawr ac unwaith ddechreuais ddarllen roedd yn anodd ei roi i lawr. Es i ymlaen wedyn i ddarllen ‘Falls the Shadow’ am Simon de Montford ac wedyn ‘The Reckoning’ am fywyd a marwolaeth Llewelyn ein Llyw Olaf. Yn sydyn roeddwn i’n ysu am wybod mwy o’n hanes ac, ar yr un pryd, deall pam roedd addysg am ein hanes yn cael ei gadw oddi wrthon ni. Dw i’n credu bod hynny wedi newid erbyn hyn. Dyna yw un o fanteision cael ein Cynulliad. Dyma’r llyfr i’ch tywys o’r Celtiaid i’r presennol yn rhoi hanes y Rhufeiniadi, Cristnogaeth, Y Brenin Arthur, Y Tywysogion, Normaniaid, Owain Glyndŵr, y chwyldro diwydiannol a’r brwydrau am hawliau dynol. Mae wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd ysgafn ac yn hollol ddealladwy. Mae hanes fel jig-so ac efallai byddech yn ddigon hapus gyda’r wybodaeth sydd ynddo ond byddwch yn ofalus, efallai fyddech chi am drio cael yr holl ddarnau at ei gilydd. Felly os ydych yn chwilio am lyfr a fydd yn rhoi digon o flas am ein hanes er mwyn i chi osgoi'r embaras roeddwn i’n teimlo blynyddoedd yn ôl ac ar yr un pryd cael eich llenwi gan falchder am ein gwlad fechan dyma’r lle i ddechrau. Ac ia, dim ond y dechrau fydd y llyfr yma, byddech chi hefyd yn ysu am fwy. A does dim byd yn bod efo hynny! Highlights from Welsh History gan Emrys Roberts - Y Lolfa £3.99 Geirfa Anwybodus o - to be ignorant of Cywilydd - shame Ysu - to long for Manteision - advantages Tywys - to lead Chwyldro Diwydiannol - the Industrial Revolution Brwydrau - battles Hawliau dynol - human rights