Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Gwibdaith i Dyddewi ac Ymlaen Roedd   diwrnod   ein   gwibdaith   wedi   cyrraedd   a   finnau’n   gobeithio   y   bydd   pawb   yn   y   lle   iawn   i   ddal   y bws.   Diolch   bydd   roedd   y   tywydd   yn   ffafriol   ac   yn   gaddo   fod,   os   nad   yn   braf,   yn   sych   beth   bynnag.   Roedd pum   man   ble   oedden   ni’n   codi’r   teithwyr   lwcus   a   phawb   yn   aros   yn   amyneddgar   amdanom.   Mewn   ychydig o   amser   roedden   ni   ar   y   draffordd,   35   o   Gymry   cyffrous   a’r   gyrrwr,   Dylan   heb   sylweddoli   yn   union   beth oedd   o’i   flaen.   Mwy   am   hynny   nes   ymlaen.   Yn   ein   plith   roedd   o   leiaf   naw   o   ddysgwyr,   dw   i’n   cyfeirio   atyn nhw   fel   dysgwyr   ond   nad   ydw   i’n   hoff   iawn   o’r   disgrifiad,   wedi’r   cwbl   os   oedden   nhw   ar   ein   taith   mae’n   siŵr eu   bod   nhw   wedi   croesi’r   ffin   erbyn   hyn.   Rhywbryd   yn   ystod   y   dydd   wnaeth   rywun   cynnig   y   disgrifiad   ‘Cymry Newydd’   a   dw   i’n   meddwl   bod   y   disgrifiad   hynny   yn   siwtio   nhw   i’r   dim.   Meddyliwch   roedd   35   ohonom   ni   ar   y daith   a   9   yn   Gymry   Newydd,   hebddyn   nhw   na   fydden   ni   wedi   gallu   trefnu’r   daith.   Dyna   pa   mor   bwysig   yw’r Cymry Newydd i ddyfodol ein hiaith. Mawr ddiolch iddyn nhw. Cyrraedd   Hwlffordd   ac   anelu   at   Niwgwl.   Yn   anffodus   doedd   y   diwrnod   ddim   yn   glir   a   heulog   a   doedd yr   olygfa   o   ben   y   bryn   uwchben   y   pentref   ddim   ar   ei   orau   ond   doedd   dim   rhaid   cael   llawer   o   ddychymyg   i werthfawrogi   un   o   olygfeydd   gorau   Cymru.   Pentref   bach   Solfach   wedyn,   y   llanw   allan   a’r   cychod   yn   gorwedd yn   segur   ar   y   traeth,   siawns   i   dalu   teyrnged   i’r   canwr   enwog   Meic   Stevens   a   oedd   mor   ddylanwadol   ar   ganu pop Gymraeg. Braidd   yn   hwyr   yn   cyrraedd   Tŷ   Ddewi,   nid   o   achos   ein   bod   ni   wedi   bod   yn   gwastraffu   amser   ar   y ffordd   ond   gan   fy   mod   i   wedi   camgyfrif   y   pellter.   Roedd   ein   tywysydd   yn   aros   yn   amyneddgar   amdanom ond   roedd   11.00   wedi   hir   mynd   heibio   a   phawb   yn   ysu   am   baned.   Bydd   rhaid   i   mi   gofio   hynny   y   tro   nesaf neu   na   fydda   i’n   cael   yr   hawl   i   drefnu   pethau   eto!   Roedd   popeth   yn   iawn   a   wnaethon   ni   eistedd   i   lawr   a dysgu   am   hanes   yr   Eglwys   cyn   cael   ein   tywys   o   gwmpas   a   gweld   corffddelwau   Arglwydd   Rhys   a   Gerallt Gymro.   Aethon   ni   i   weld   Capel   y   Canoniaid,   y   rhan   gyntaf   i   gael   ei   adeiladu,   roeddwn   i   wedi   bod   yna   llawer gwaith   ac   yn   mwynhau   pob   ymweliad   achos   roeddwn   i’n   gwybod   ble   roedd   fy   nhad   yn   eistedd   pan   oedd   y canoniaid yn cyfarfod. Fy nhad wedi dweud wrthon ni gyda balchder roedd sedd y Frenhines ar ei law dde! Amser   gadael   a   rhoi   diolch   i   Elaine   am   ein   tywys   cyn   gwneud   ein   ffordd   yn   ôl   i   ganol   y   ddinas   a Brethonig   a   finnau   wedi   llwyddo   i   gyrraedd   pen   y   grisiau,   mynd   trwy’r   bwa   ac   wrth   fynd   heibio’r   siop   lyfrau sylweddoli   roedd   car   tu   ôl   i   ni.   Aethon   ni   i’r   ochr   ond   wnaeth   y   car   aros   a   ddoth   y   ffenest   i   lawr   a   dyna   le oedd Elaine ein tywysydd yn cynnig lifft i ni. Roedden ni’n ddiolchgar iawn, dyna beth neis i wneud ynte! Erbyn   hyn   roedd   bron   pawb   rywle   o   gwmpas   y   safle   bws   ac   roedd   yr   haul   bron   allan,   rhai   ohonom   ni yn   brysur   yn   rhannu   papur   newydd   a   phan   nes   i   dynnu   sylw   at   y   peth   wnaethon   nhw   gyfaddef   nid   ei phapur   newydd   nhw   oedd   o   chwaith.   Doeddwn   i   ddim   eisiau   gwybod   mwy!   Bws   yn   cyrraedd   ond   yn   methu aros   yn   y   safle   achos   rhyw   4x4   wedi   cymryd   hanner   y   lle.   Ffwrdd   â’r   bws   a   ffwrdd   â   ni   wedyn   i’r   sgwâr   a chael   ein   huno   gyda’r   bws   unwaith   eto.   Amser   gwregys   a   bresys   cyn   mynd   ymlaen.   Roedd   yn   edrych   fel llond   bws   ond   gwell   peidio   cymryd   yn   ganiataol   bod   pawb   yn   bresennol.   Doedd   gofyn   “pwy   bynnag   sydd dim   yma,   codwch   eich   llaw   os   gwelwch   yn   dda”   ddim   yn   mynd   i   weithio   ac   roedd   rhaid   mynd   trwy’r   broses hir   o   siecio.   Oedd,   roedd   dau   ar   goll!   Roeddwn   i’n   gwybod   bydd   rhaid   i   mi   chwilio   amdanyn   nhw   ond   sut   yn y   byd   byddwn   i’n   dod   ar   eu   traws   yng   nghanol   ddinas   mor   fawr?   Roedd   rhaid   defnyddio'r   ychydig      brêns sydd   gen   i   er   mwyn   penderfynu   ble   i   ddechrau,   y   safle   bws   cyntaf   efallai?   Ac   yn   wir   dyna   le   oedden   nhw   yn eistedd   yn   gyfforddus   yn   yr   haul   tu   allan   i   gaffi   gyferbyn   yn   cadw   llygaid   allan   am   y   bws.   Efallai   bydd   yn syniad   da   i   ddod   a   chŵn   defaid   efo   ni’r   tro   nesaf.   Pawb   yn   croesawu’r   meibion   afradlon   yn   ôl   a   rhywun   yn cynnig   cynnau’r   Preimys   er   mwyn   paratoi’r   llo   pasgedig.   Ffwrdd   â   ni   at   Felin   Tregwynt,   Dylan   yn   poeni   braidd am   ba   ffordd   i   fynd   ond,   mewn   gwirionedd,   doedd   dim   llawer   o   ddewis   gan   fod   y   ddwy   ffordd   mor hunllefus   â’i   gilydd.   Doedd   dim   rhaid   iddo   boeni   wrth   gwrs   achos   roedd   35   ohonom   ni   yna   i’w   gefnogi   a’i gysuro.   Gwneud   y   troad   a   gyrru   ar   hyd   lôn   gul   a   ninnau’n   cael   y   siawns   i   edmygu   ffrwyth   y   llwyni,   cyrraedd   y groesffordd   a   dyma   ble   wnaeth   Dylan   ddangos   ei   ddoniau   fel   gyrrwr   bws.   Amhosib   gwneud   y   troad,   roedd pawb   yn   gallu   gweld   hynny   ond   a   oeddem   ni’n   poeni?   Nag   o’n   siŵr   roedd   meistr   wrth   y   llyw!   Wnaeth   o   fynd heibio’r   groesffordd   wedyn   bacio   i’r   lôn   gyferbyn   a’r   lôn   oedd   eisiau   mynd   i   lawr   a   dyna   ni,   yn   sydyn   Bob’s your   Uncle,   panic   over!   Cyrraedd      Melin   Tregwynt,   braidd   yn   hwyr   ond   yn   barod   am   gael   ein   tywys   o gwmpas. Am ryw reswm roedd Dylan yn gorwedd i lawr yn dawel ar y bws. Mae   Melin   Tregwynt   yn   ddiddorol   iawn   a   lle   ardderchog   i   brynu   anrhegion   gwahanol   ar   gyfer   pen- blwydd neu’r Nadolig, pob peth o Gymru fach! Mae bwyd ardderchog yn y caffi hefyd. Pori   dros   y   map   wedyn   i   benderfynu   pa   ffordd   i   fynd   i’r   Tafarn   Sinc   a   theimlo   mai’r   ffordd   gorau,   heb syrpreisys,   bydd   trwy   Abergwaun,   Trefdraeth   a   chyrchu   at   y   lle   o   gyfeiriad   y   gogledd.   Bydden   nhw   ddim   yn disgwyl   hynny,   ond   mi   oedden   nhw’n   ein   disgwyl   ni,   yn   amyneddgar   ac   yn   groesawgar   hefyd.   Sortio   pawb   a’i byrddau   wedyn   a   chael   gwledd   flasus,   clonc   a   hwyl.   Ar   ôl   y   bwyd   David   yn   awgrymu   i   ni   ganu   Calon   Lân   a phawb   yn   cytuno   ond,   yn   ddigyfeiliant?   Dim   probs,   roedd   David   yn   hapus   iawn   i’n   dechrau   ni,   ei   lais   crisial yn   rhoi   hyder   i   ni’r   llai   mentrus.   Roedden   ni   mewn   cymaint   o   hwyl   yn   yr   emyn   roedd   ‘na   beryg   i   strwythur   y dafarn.   Pwysau’r   tandem   oedd   yn   hongian   o’r   nenfwd   wnaeth   ein   cadw   ni’n   ddiogel   yn   y   pendraw.   Doedd pethau   ddim   drosodd   o   bell   ffordd   achos   roedd   David   yn   hapus   i’n   diddanu   ni   unwaith   eto   wrth   ddweud   y jôc   am   y   Capel   Sinc   a’r   teliffon   i’r   nefoedd,   mae   o’n   mynd   fel   hyn   -   O   dach   chi   wedi   ei   glywed   yn   barod?   Wna   i ddim ei ddweud felly a diolch byth hefyd achos bydda i ddim yn gallu ei ddweud cystal â David. Diolch   yn   fawr   iawn   i   bawb   yn   y   Dafarn   Sinc   a   phob   lwc   yn   eich   mentr,   does   dim   lle   tebyg   yng Nghymru, un o’n trysorau! Diolch   i   bawb   a   ddoth   efo   ni,   diolch   am   eich   cefnogaeth,   eich   cwmni   a’r   hwyl.   Yr   her   fawr   rŵan   yw penderfynu rywle i fynd y flwyddyn nesaf. Cynigion ar gerdyn bost os gwelwch yn dda! Mi   fyddech   chi   wedi   sylwi   mai’r   enw   oedd   yn   codi   tro   ar   ôl   tro   yw   enw   Dylan   y   Dreifar.   Allaf   i   ddim credu   bydd   neb   arall   wedi   gwneud   yn   well   a   chadw   ei   synnwyr   digrifwch   hefyd,   chwarae   teg   iddo   felly   Hip Hip Hwre iddo, ac eto, ac eto! Hwyl tan y tro nesaf!
Geirfa Segur - idle Gwerthfawrogi - to appreciate Teyrnged - tribute Dylanwadol - Influential Camgyfrif - miscalculate Tywysydd - (a) guide Amyneddgar - patiently Ysu am - longing for Corffddelwau - effigies Gyda balchder - with pride Meibion afradlon - prodigal sons Llo pasgedig - fatted calf Hunllefus - nightmareish Cysuro - to comfort Ffrwyth y llwyni - hedgerow fruits Dangos ei ddoniau - to show his talents Wrth y llyw - at the wheel Pori - to browse Cyrchu at - to advance on Croesawgar  - welcoming Digyfeiliant - unaccompanied (musically) Crisial - crystal (crystal clear) Cynigion - suggestions
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen