Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Gwarchodfa Natur Carmel Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Mae Gwarchodfa Natur Carmel ar y dde pan dach chi’n teithio o Cross Hands i Landeilo ac mae arwyddion brown i’ch hysbysebu. Mae’r warchodfa ar y ddau ochr o’r ffordd ac yn enfawr. Llawer gwaith wrth deithio dw i wedi gwneud nodyn yn fy mhen i fynd yno, crwydro a gweld beth sydd yno. Pa mor aml 'dyn ni’n gwneud hynny deudwch? Ond does dim ots mod i wedi anwybyddu’r cof nodyn achos roedd y lle ar restr teithiau Cymdeithas Edward Llwyd. Mae’n annod parhau i fod yn ddiog pan dach chi wedi talu am eich aelodaeth! Dysgais nad lle pitw yw’r warchodfa ac mae amrywiaeth o bethau i’w gweld yn cynnwys golygfeydd godidog o’r mannau uchaf. Gill ac Alun Griffiths oedd yn arwain ein taith, tua ugain o gerddwyr brwd wedi dod allan i fwynhau’r gwres llethol unwaith eto. I ddechrau wnaethon ni groesi’r ffordd a dilyn lôn gul tuag at un o’r mastiau ble roedd ‘trig point’ ac mae hynny golygu lle uchel ac, yn ei dro, golygfa! Yn anffodus roedd wedi ei amgylchynu gan bentwr o gerrig mawr a chyn i mi gerdded drostyn nhw roedd synnwyr cyffredin yn dweud y dylwn i roi’r camera yn ddiogel yn y bag. Dewisaf le i dynnu llun ond anodd oedd sefyll yn stond ac roedd rhaid i mi fynd ar fy nghwrcwd, doedd hynny ddim yn hawdd chwaith ond mi wnes i lwyddo. Dyna le oeddwn i, ar fy nghwrcwd, pobl o’m cwmpas a finnau’n methu codi. Ond mi nes i yn y pendraw a gobeithiaf nad oedd neb wedi sylwi ar fy anhawster. Rhoi’r camera yn ôl yn y bag unwaith eto a dechrau picio fy ffordd yn ôl at le tipyn bach mwy gwastad. O’n i’n meddwl o’n i’n gwneud yn reit dda ond mi rois fy nhroed chwith ar ryw garreg o’n i wedi dewis a dethol yn ofalus ond pan nes i godi fy nhroed dde sylweddolais fod y garreg braidd yn simsan. Mewn llai ’nag eiliad roeddwn i fel bwndel blêr ar y cerrig. Mae eich greddf yn dweud wrthych am godi’n syth cyn bod neb wedi eich gweld ac wedyn ymddwyn fel bod dim byd wedi digwydd ond doeddwn i ddim yn gallu dod ar draws un garreg wastad. Rhy hwyr beth bynnag achos roedd pobl efo’u breichiau allan yn helpu fi i godi, diolch yn fawr iawn iddyn nhw. A chyn i chi boeni roeddwn i’n iawn, dim niwed, dim cleisiau ac yn gorfforol doeddwn i ddim wedi fy mrifo. Dim ond fy malchder oedd yn brifo, yn ofnadwy! Ond mae’n rhaid i rywun darparu’r adloniant yndoes! Mynd yn ôl dipyn ar y lôn tan gyrraedd mynegiant i’r warchodfa a cherdded i lawr trwy’r caeau er syndod mawr i ychydig o loi Ffrisiaid a oedd yn mwynhau’r tawelwch gynt. Roedden ni’n anelu at y chwarel rŵan ac yn dilyn llwybrau trwy’r mieri, caeau a lonydd tawel i gyrraedd darn o goed. Yn sydyn dyna oedd y chwarel, twll enfawr wedi ei wneud yn y bryn a ninnau yn ei chanol. Cerrig enfawr wedi eu gosod er mwyn cadw cerbydau allan ond yn ddelfrydol i grŵp o gerddwyr a oedd yn ysu am agor eu pecynnau bwyd. Doedd y rhain ddim yn sigledig o gwbl! Wedi ein hadfywio aethon ni ymlaen i weld Pant y Llyn, llyn sydd yn gwneud daearyddiaeth Cymru yn wahanol i ddaearyddiaeth yr Alban a, hyd yn oed, Lloegr. Llyn Tymhorol, neu yn Saesneg - Turlough, yw Pant y Llyn, hynny yw does dim afon yn ei lenwi a does dim afon yn ei wagio chwaith. Mae lefel y llyn yn dilyn lefel naturiol y dŵr sydd yn y creigiau o danom ni - y ‘water table’ yn Saesneg ond nid y ‘Bwrdd Dwr’ yn Gymraeg wrth gwrs. Yn naturiol ar ôl y sychder anghyfarwydd dyn ni wedi mwynhau roedd y lefel yn isel a thyfiant o wair dros y llyn i gyd Ar ôl gyfnod hir o law bydd yr holl dyfiant o dan y dŵr. Gan fod y lefel yn isel roedd yn hawdd i ni fynd at ochr y llyn a chael golwg go dda arni, roedd wyneb y dŵr yn fyw o fursennod gosgeiddig yn rhuthro ar frys i bob man a’u lliwiau glas yn llachar yng ngolau’r haul. Uwchben rhain i gyd roedd gwas y neidr yn fflitian yn swnllyd yma ac acw fel ei fod yn cadw golwg arnyn nhw. Braf iawn! Ymlaen wedyn at le da i edrych i lawr ar y llyn cyn i ni orfod dringo grisiau hir a chael y wefr o weld tirlun Cymru mor hyfryd o’m blaenau ni. Ymhen dipyn roedden ni yn sefyll uwchben y chwarel a chael golwg gwahanol. Nes ymlaen bydden ni’n gweld sawl odyn calch ac adfeilion wedi eu gorchuddio dan eiddew i’n hatgoffa ni am hen ddiwydiant oedd yn bodoli yn yr ardal. Natur yn prysur guddio pob tras. Dod allan ar y lôn wedyn a’i ddilyn a mynd heibio tri dy grand, yr un yn y canol yn amlwg yn perthyn i Sais, fel rhosyn coch Lloegr rhwng dwy ddraig goch Cymru! Roedd y ceir ychydig o gaeau i ffwrdd rŵan, aethon ni drwy goed ac yn sydyn dyna le oeddem ni, yn ôl yn y dechrau unwaith eto. Diolch i Gill ac Alan am yr holl waith paratoi, am daith ddiddorol, ac i mi, mewn lle hollol anghyfarwydd.
Geirfa Gwarchodfa Natur - nature reserve Parhau - to continue Pitw - small Llethol - heavy Ar fy nghwrcwd - squatting Anhawster - difficulty Dewis a dethol - to select carefully Simsan - shaky Greddf - instinct Ymddwyn - to behave Balchder - pride Mynegiant - entrance Lloi Frisiaid - Friesian calves Mieri - brambles, briers Sigledig - shaky Adfywio - to revive Mursennod - damselflies Gosgeiddig - elegant Gwas y neidr - dragonfly Eiddew - ivy Bodoli - to exist
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen