Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Dyfnant a Phwll Fairwood Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dychwelyd o’r eglwys ar fore heulog a fy meddyliau ar baned o espresso yn yr ardd ond wrth gwblhau'r rwdl-mi-ri o baratoi'r hylif cryf a chic mul o gaffîn cofiais am daith Edward Llwyd ddoe. Yr un gyntaf at ôl egwyl yr haf, egwyl o ddim ond mis ond er hynny rhai ohonom ni wedi bod yn dioddef o symptomau diddyfnu, ambell blycied pob hyn a hyn. Roedd hyn yn golygu bod rhaid i mi eistedd i lawr o flaen y gliniadur i ysgrifennu hanes y daith. A dyma fi. Doedd dim rhaid gadael y yn gynnar y tro hyn achos roedd y daith ar stepen y drws - o Ddyfnant i gomin Fairwood ac yn ôl i’r man cyfarfod trwy goed Cwm Clun. Cyrraedd y maes parcio a gweld bod y lle bron yn llawn o geir aelodau’r Gymdeithas, braf iawn - hen bryd i ni gael y profiad o gymryd rhywbeth drosodd am newid. Clonc cyn cychwyn fel arfer, wedyn ffwrdd â ni ar lôn dawel ac mewn ychydig o amser dyma ni allan ym mhen pellaf Cilâ Uchaf. Siawns i gymryd mantais o’r cyfleusterau cyfleus - dim ond cuddfannau naturiol bydd o’n blaenau ni o hyn ymlaen. Heibio llyn llawn lilis y dŵr a hefyd yn gartref i ddau alarch ac arwydd yn y canol yn ein rhybuddio doedd dim hawl i bysgota. Yn sydyn dyma ni yn cerdded wrth ochr gofod enfawr tu ôl i ffens diogelwch. Frâmiau pyst gôliau symudol gwyn yn daclus ar yr ochrau a gwair perffaith, gwyrdd. Dyma gae hyfforddiant ein clwb pêl droed adnabyddus. A finnau heb wybod dim amdano o’r blaen! Gweld Llyn Fairwood wedyn a cheisio penderfynu a yw’r llyn yma yn fwy na Broad Pool, islaw Cefn Bryn. Yr ateb dw i’n meddwl yw mai Fairwood yw’r mwyaf ond Broad Pool yw’r llyn naturiol mwyaf ar Benrhyn Gwyr. Felly mae pawb yn gywir ond yn eu ffordd eu hunain, da te! Yn sydyn roedden ni ar ben ein byd bach ni ac yn edrych i lawr at Abertawe a’i gyffiniau, gresyn nad oedd y golau’n well ond bydd siawns arall ar ddiwrnod gwell. Eirian wedi gwneud gwyrthiau a chael ni at ein lle picnic am un o’r gloch ar ei ben a dyna ni’n eistedd ar y ddwy ochr o’r llwybr yn cysgodi o dan y rhedyn ac yn gwledda. Pob hyn a hyn roedd thwac yn cael ei glywed wrth i belen golff cael ei daro, ond nid i’n cyfeiriad ni. Yn amlwg mae cwrs golff Fairwood yn un amlddefnydd a’r ceffylau yn gorfod rhannu eu tir efo’r golffwyr. Roedd pier Mwmbwls i’w weld yn y pellter ond fydd gwell golwg nes ymlaen. Gadael y comin rŵan a gwneud ein ffordd tuag at goed Cwm Clun a rhyfeddu unwaith eto am faint y coed yma. Byddech chi’n cofio i ni fynd trwy ran o’r coed ar daith Liz Jones ar ffordd amgen i Mwmbls yn y Gwanwyn, dyma ni yn rhan arall o’r coed. Yn sydyn dyma Eirian yn pwyso yn erbyn hen goeden ac yn cuddio rhywbeth efo’i law, beth sydd yn mynd ymlaen tybed? Yn amlwg doedd dim yn mynd i gael ei ddatgelu tan i’r holl aelodau ddod at ei gilydd - tydi amser yn symud yn araf tra bod chi ar bigau’r draen eisio gwybod rhywbeth! O’r diwedd roedd pawb wedi cyrraedd ac aeth Eirian ati i ddweud y stori. “Roeddwn i ar y recce dydd Llun diwethaf ac wedi cyrraedd fan hyn a phenderfynu bydd yn lle da i gael fy mrechdanau caws a phicil” meddai. Pwyntiodd i ryw lecyn cyfforddus. Dyna oedd y lle. “Roedd chwant bwyd arna i a dyma fi’n claddu i mewn i’r brechdanau yn hapus iawn fy myd pan godais fy mhen a gweld rhywbeth od iawn ar ochr goeden. Dyma fo” meddai a thynnu ei law i ffwrdd (cofiwch, tra oedd yn dweud hyn roedd o’n pwyso yn erbyn y goeden ac yn cuddio rhywbeth efo’i law, cadwch i fyny da chi!) Ar ochr y goeden, dan ei law roedd wyneb wedi cael ei greu a wig lliw melyn ar ei phen, roedd gan y wyneb llygaid a cheg. Clyfar dros ben. Rhodd Eirian ei gap ar y llawr a mynnu mai ei waith ei hun oedd hyn. Roedd wedi gwneud argraff arbennig arnon ni i gyd ac nad oedd yr un ohonon ni heb roi cyfraniad yn yr het. Dywedodd Julie bydd stêc ar y bwrdd yn ystod yr wythnos i ddod. Unwaith eto, da te! Yn fuan iawn wnaethon ni sylweddoli ein bod ni ’n cerdded yn agos iawn i lwybr beiciau mynydd, darn o’r trac yn edrych yn debyg iawn i’r Cresta Run, ond heb yr eira wrth gwrs. Pob hyn a hyn roedden ni’n gweld beic a beiciwr yn codi i’r awyr wrth iddo fynd dros ramp uchel. Mae ’na amseroedd pan dw i’n teimlo’n ddiolchgar fy mod i wedi cyrraedd fy oedran yn ddiogel a does dim rhaid i mi bellach wneud pethau peryglus, ond hefyd cyffroes! Allan o’r coed ac ar y trac seiclo sydd yn rhedeg o Black Pill i Dre-gŵyr a throi tuag at Ddyfnant a’r man cychwyn. Cyn gorffen a gaf i dynnu eich sylw at y ffaith mai Dunvant yw’r lle yn Saesneg ond Dyfnant yn Gymraeg. Mae ystyr i’r enw Cymraeg ond nid oes i’r enw Saesneg. Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn - pam bod Dyfnant yn anodd i bobl Saesneg ynganu, dim ond gwneud y tipyn lleiaf o ymdrech sydd rhaid! Rant drosodd. Yn ôl at y daith, taith ddiddorol, tywydd yn berffaith ar gyfer cerdded, llawer o bethau diddorol ar y ffordd ac, fel bob tro, pobl ddifyr i gloncio efo. Diolch Eirian am yr holl waith baratoi ac am arwain pawb yn ddiogel ar daith bleserus dros ben. A rŵan dw i’n mynd amdani a chael yr espresso dw i wedi gaddo i fi fy hun. Hwyl fawr! Rhybudd - nid yw’r manylion yn yr adroddiadau yma yn hollol gywir pob tro .
Geirfa Dychwelyd - to return Plycied - a tick, nervous twitch Hylif - liquid Cic mul - mule kick Egwyl - a break Symptomau diddyfnu - withdrawal symptoms Gliniadur - laptop Cuddfan - hiding place Gofod - a space Ffens diogelwch - security fence Frâm pyst gôl symudol - moveable goal post Ceisio - to try Cyffiniau - environs Ar ei ben - on the dot Gwledda - to feast Amlddefnydd - multi-use Ffordd amgen - alternative way Datgelu - to reveal Ar bigau’r draen - on tenterhooks Cyfraniad - a contribution Ynganu - to pronounce
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Dyfnant a Phwll Fairwood Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Dychwelyd o’r eglwys ar fore heulog a fy meddyliau ar baned o espresso yn yr ardd ond wrth gwblhau'r rwdl-mi- ri o baratoi'r hylif cryf a chic mul o gaffîn cofiais am daith Edward Llwyd ddoe. Yr un gyntaf at ôl egwyl yr haf, egwyl o ddim ond mis ond er hynny rhai ohonom ni wedi bod yn dioddef o symptomau diddyfnu, ambell blycied pob hyn a hyn. Roedd hyn yn golygu bod rhaid i mi eistedd i lawr o flaen y gliniadur i ysgrifennu hanes y daith. A dyma fi. Doedd dim rhaid gadael y yn gynnar y tro hyn achos roedd y daith ar stepen y drws - o Ddyfnant i gomin Fairwood ac yn ôl i’r man cyfarfod trwy goed Cwm Clun. Cyrraedd y maes parcio a gweld bod y lle bron yn llawn o geir aelodau’r Gymdeithas, braf iawn - hen bryd i ni gael y profiad o gymryd rhywbeth drosodd am newid. Clonc cyn cychwyn fel arfer, wedyn ffwrdd â ni ar lôn dawel ac mewn ychydig o amser dyma ni allan ym mhen pellaf Cilâ Uchaf. Siawns i gymryd mantais o’r cyfleusterau cyfleus - dim ond cuddfannau naturiol bydd o’n blaenau ni o hyn ymlaen. Heibio llyn llawn lilis y dŵr a hefyd yn gartref i ddau alarch ac arwydd yn y canol yn ein rhybuddio doedd dim hawl i bysgota. Yn sydyn dyma ni yn cerdded wrth ochr gofod enfawr tu ôl i ffens diogelwch. Frâmiau pyst gôliau symudol gwyn yn daclus ar yr ochrau a gwair perffaith, gwyrdd. Dyma gae hyfforddiant ein clwb pêl droed adnabyddus. A finnau heb wybod dim amdano o’r blaen! Gweld Llyn Fairwood wedyn a cheisio penderfynu a yw’r llyn yma yn fwy na Broad Pool, islaw Cefn Bryn. Yr ateb dw i’n meddwl yw mai Fairwood yw’r mwyaf ond Broad Pool yw’r llyn naturiol mwyaf ar Benrhyn Gwyr. Felly mae pawb yn gywir ond yn eu ffordd eu hunain, da te! Yn sydyn roedden ni ar ben ein byd bach ni ac yn edrych i lawr at Abertawe a’i gyffiniau, gresyn nad oedd y golau’n well ond bydd siawns arall ar ddiwrnod gwell. Eirian wedi gwneud gwyrthiau a chael ni at ein lle picnic am un o’r gloch ar ei ben a dyna ni’n eistedd ar y ddwy ochr o’r llwybr yn cysgodi o dan y rhedyn ac yn gwledda. Pob hyn a hyn roedd thwac yn cael ei glywed wrth i belen golff cael ei daro, ond nid i’n cyfeiriad ni. Yn amlwg mae cwrs golff Fairwood yn un amlddefnydd a’r ceffylau yn gorfod rhannu eu tir efo’r golffwyr. Roedd pier Mwmbwls i’w weld yn y pellter ond fydd gwell golwg nes ymlaen. Gadael y comin rŵan a gwneud ein ffordd tuag at goed Cwm Clun a rhyfeddu unwaith eto am faint y coed yma. Byddech chi’n cofio i ni fynd trwy ran o’r coed ar daith Liz Jones ar ffordd amgen i Mwmbls yn y Gwanwyn, dyma ni yn rhan arall o’r coed. Yn sydyn dyma Eirian yn pwyso yn erbyn hen goeden ac yn cuddio rhywbeth efo’i law, beth sydd yn mynd ymlaen tybed? Yn amlwg doedd dim yn mynd i gael ei ddatgelu tan i’r holl aelodau ddod at ei gilydd - tydi amser yn symud yn araf tra bod chi ar bigau’r draen eisio gwybod rhywbeth! O’r diwedd roedd pawb wedi cyrraedd ac aeth Eirian ati i ddweud y stori. “Roeddwn i ar y recce dydd Llun diwethaf ac wedi cyrraedd fan hyn a phenderfynu bydd yn lle da i gael fy mrechdanau caws a phicil” meddai. Pwyntiodd i ryw lecyn cyfforddus. Dyna oedd y lle. “Roedd chwant bwyd arna i a dyma fi’n claddu i mewn i’r brechdanau yn hapus iawn fy myd pan godais fy mhen a gweld rhywbeth od iawn ar ochr goeden. Dyma fo” meddai a thynnu ei law i ffwrdd (cofiwch, tra oedd yn dweud hyn roedd o’n pwyso yn erbyn y goeden ac yn cuddio rhywbeth efo’i law, cadwch i fyny da chi!) Ar ochr y goeden, dan ei law roedd wyneb wedi cael ei greu a wig lliw melyn ar ei phen, roedd gan y wyneb llygaid a cheg. Clyfar dros ben. Rhodd Eirian ei gap ar y llawr a mynnu mai ei waith ei hun oedd hyn. Roedd wedi gwneud argraff arbennig arnon ni i gyd ac nad oedd yr un ohonon ni heb roi cyfraniad yn yr het. Dywedodd Julie bydd stêc ar y bwrdd yn ystod yr wythnos i ddod. Unwaith eto, da te! Yn fuan iawn wnaethon ni sylweddoli ein bod ni ’n cerdded yn agos iawn i lwybr beiciau mynydd, darn o’r trac yn edrych yn debyg iawn i’r Cresta Run, ond heb yr eira wrth gwrs. Pob hyn a hyn roedden ni’n gweld beic a beiciwr yn codi i’r awyr wrth iddo fynd dros ramp uchel. Mae ’na amseroedd pan dw i’n teimlo’n ddiolchgar fy mod i wedi cyrraedd fy oedran yn ddiogel a does dim rhaid i mi bellach wneud pethau peryglus, ond hefyd cyffroes! Allan o’r coed ac ar y trac seiclo sydd yn rhedeg o Black Pill i Dre-gŵyr a throi tuag at Ddyfnant a’r man cychwyn. Cyn gorffen a gaf i dynnu eich sylw at y ffaith mai Dunvant yw’r lle yn Saesneg ond Dyfnant yn Gymraeg. Mae ystyr i’r enw Cymraeg ond nid oes i’r enw Saesneg. Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn - pam bod Dyfnant yn anodd i bobl Saesneg ynganu, dim ond gwneud y tipyn lleiaf o ymdrech sydd rhaid! Rant drosodd. Yn ôl at y daith, taith ddiddorol, tywydd yn berffaith ar gyfer cerdded, llawer o bethau diddorol ar y ffordd ac, fel bob tro, pobl ddifyr i gloncio efo. Diolch Eirian am yr holl waith baratoi ac am arwain pawb yn ddiogel ar daith bleserus dros ben. A rŵan dw i’n mynd amdani a chael yr espresso dw i wedi gaddo i fi fy hun. Hwyl fawr! Rhybudd - nid yw’r manylion yn yr adroddiadau yma yn hollol gywir pob tro .
Geirfa Dychwelyd - to return Plycied - a tick, nervous twitch Hylif - liquid Cic mul - mule kick Egwyl - a break Symptomau diddyfnu - withdrawal symptoms Gliniadur - laptop Cuddfan - hiding place Gofod - a space Ffens diogelwch - security fence Frâm pyst gôl symudol - moveable goal post Ceisio - to try Cyffiniau - environs Ar ei ben - on the dot Gwledda - to feast Amlddefnydd - multi-use Ffordd amgen - alternative way Datgelu - to reveal Ar bigau’r draen - on tenterhooks Cyfraniad - a contribution Ynganu - to pronounce