Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Dolennau Cyswllt Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Diwrnod yn yr Eisteddfod Ro’n i’n gwybod mod i ar y trywydd iawn pan wnaeth rywun ddod ataf fi dros y penwythnos a dweud ei fod o wedi cael llawer o nosweithiau heb gwsg yn trio meddwl beth oedd y gair Cymraeg am ‘rigmarole’. Mi wnaeth o ysgwyd fy llaw a mynegi ei ddiolchgarwch am i mi gynnwys y gair ‘rwdl-mi-ri’ yn y stori ddiwethaf ‘Gwylio Dŵr yn Rhedeg’. Wel, o’n i mor falch mod i wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i’w fywyd! ‘If you can help somebody’, ynte, chwedl y Sais! Ac, wrth gwrs dw i’n gobeithio bod fy straeon diymhongar yma yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch bywydau chi hefyd. Beth bynnag, am beth ydw i’n mynd i sôn amdano heddiw? Wel dw i’n mynd i ddweud wrthoch chi am fy niwrnod yn yr Eisteddfod. Chi’n gweld roeddwn i ar ddyletswydd ar stondin Cymdeithas Edward Llwyd. Bore dydd Mercher oedd hyn ac o’n i ar ddyletswydd rhwng 10.00 y bore tan 2.00 y prynhawn. Doeddwn i ddim eisiau mynd i Gaerdydd yn y car achos fy mod i’n osgoi gyrru yn ein prifddinas ar ôl cael fy nal yn gyrru yn lôn y bysiau. Mae’n stori hir ond os ydych chi wedi dychwelid adref o wythnos bleserus yn yr Eisteddfod ac wedi cael diryw o £60 ar ôl mentro i Customs House Lane cysylltwch â fi. Mae gen i luniau o’r arwyddion yn dangos yn glir ei bod nhw yn eich denu chi i’r lôn waharddedig er mwyn cael eich arian. Bydd y lluniau yn sicrhau ni fydd rhaid i chi dalu. Er fy holl ymdrechion i gael y Cyngor i gael gwared â’r arwyddion twyllodrus maen nhw dal yna ac mae’r Cyngor yn dal i elwa. Roedd rhaid i mi ddal y bws o Abertawe am 8.15 a cherdded i lawr i’r Bae o’r Ddinas ac roedd y siwrne’n bleser, dim llawer o bobl ar y bws felly ces i’r cyfle i edmygu golygfeydd godidog o Port Talbot yn haul y bore! Roedd rhagolygon y tywydd yn addo cawodydd ysbeidiol ac roeddwn i wedi dod ar draws hen gôt blastig - nid yn union fel pacamac ond un dach chi’n gallu stwffio i mewn i un o’i bocedi. Y noson gynt o’n i wedi ei dynnu allan o’i boced er mwyn sicrhau ei fod dal yn iawn ac mi oedd e wedi crymplo’n ofnadwy a doedd dim ffordd i gael y peth i edrych yn daclus. Am funud gwirion meddyliais am redeg yr haearn smwddio drosti ond roedd hynny yn syniad hollol wallgof. Mae’n rhaid i mi ddweud roedd y Gymdeithas wedi gosod y stondin yn union y lle iawn achos yn ystod fy nghanllath olaf wnaeth hi ddechrau bwrw glaw, dim ond sbotio ond yn cynyddu. Roedd fy nhraed newydd gyrraedd llawr y stondin pan wnaeth hi ddechrau tywallt i lawr ac o’n i wir yn ddiolchgar bod y stondin wedi cael ei roi yn yr union le er mwyn i mi gyrraedd yn sych. Y peth cyntaf roedd rhaid i mi wneud oedd mynd i adeilad y Pierhead, ble'r mae’r dysgwyr yn casglu, er mwyn rhoi taflenni o gwmpas y lle ac wrth wneud hynny mi wnes i fwynhau sgyrsiau difyr. A dyna sut wnes i fwynhau gweddill fy niwrnod hefyd, ddoth llawer o bobl i mewn i bori trwy ein llyfrau neu er mwyn cael paned ac, ar adegau cael cysgod rhag y glaw. Roedd yna bobl oeddwn i’n sicr fy mod i’n adnabod ac roedd rhaid twrio yn ôl yn fy meddwl i gofio pwy oedden nhw. Dau yn mynd yn ôl bron ugain mlynedd pan oeddwn i’n gweithio i CYD a phan o’n i’n astudio am y radd allanol yn Aberystwyth, na nes i ddim dal ati am yn hir, ond mi nes i fwynhau'r profiad. Roedd fy shifft drosodd am 2.00 ac roeddwn i’n bwriadu dal y bws 2.35 o’r Ddinas a dyna le o’n i yn mwynhau sgwrs pan nes i edrych ar yr amser – bron 2.20. Brensiach! Bydd rhaid i mi frysio ac ar ôl esgusodi fy hun, fy ngwarfag ar fy nghefn roeddwn i ar y ffordd. Cyrraedd Bute Street a dyn a’i fab yn cerdded dipyn o ‘mlaen i, y gwynt yn chwythu a het y bachgen yn codi oddi ar ei ben, cipiaf yr het a’i roi ar fy mhen a’i roi i’r bachgen wrth i mi ei basio. “Diolch” medda fo ond o’n i'n prysuro i ffwrdd. Sylweddolais fy mod i’n fyr ofnadwy o amser ac roedd rhaid i mi wneud cymysgedd o redeg a cherdded. Roeddwn i’n gweld pont ‘Brains’ yn y pellter ac roedd hynny yn sicrhau mod i’n canolbwyntio ar fy nghyflymder. Doedd dim eiliad i’w golli ond bron ar ddiwedd y ras roedd rhaid i mi groesi ffordd ac roedd y traffic yn rhedeg. Edrych ar yr amser, dim ond dwy funud i fynd, yn sydyn roedd y ffordd yn glir a ffwrdd â fi, ffwl pelt, fy ngwarfag yn teimlo’n drwm, fy nghoesau yn sgrechian. Gweld y bws o fy mlaen a phawb yn eistedd arno yn amyneddgar, cyflymu ac o fewn llathenni mi wnaeth ferch ifanc neidio oddi ar un o’r meinciau o’mlaen i, nes i ddal hi rhag iddi syrthio, neidio, ac roeddwn i ar y bws yn chwys i gyd, slapio’r pass ar wyneb y teclyn a mynd am sedd. “Just made it mate,” meddai un dyn doeth wrth i mi fynd heibio. Doedd gen i ddim anadl i’w ateb. Eisteddais a meddyliais am y campwaith roeddwn i wedi cyflawni a dechrau teimlo balchder mod i dal yn gallu gwneud y fath beth. Go dda ynte! Ond mae diolch i Gymdeithas Edward Llwyd am gadw fi’n heini dros y flwyddyn ddiwethaf! Cyrraedd adref ac roedd dwy lori tu allan - dynion y sgaffald, doeddwn i ddim yn disgwyl nhw tan y diwrnod wedyn, roedden nhw ar fin mynd. Mae’r sgaffald wedi diflannu o flaen ac o un ochr o’r tŷ, heddiw bydd y gweddill wedi mynd. Erbyn hyn mi fyddech chi wedi sylweddoli mod i wedi bod yn absennol am awr. Y rheswm am hynny yw bod y dynion wedi bod yma unwaith eto. Roedd rhaid i mi wneud 7 baned o goffi iddyn nhw a pherswadio nhw i fynd â hen blanciau sgaffald sydd wedi bod yn y garej ers oes pys. Roedd un wedi cymryd ffansi am hen feic dw i byth yn defnyddio ac felly yn y ffordd yn y garej, mae hwnna wedi diflannu hefyd, diolch byth. Mae’r tŷ yn glir o’r sgaffald rŵan ac yn edrych yn dda, mae gen i ddau ddiwrnod i dacluso a chynllunio bwyd i lysieuwyr achos mae fy mab a’r teulu yma am ychydig o ddyddiau o ddydd Sul ymlaen. Tydi bywyd yn brysur!
Geirfa Chwedl y Sais - as the English would say Diymhongar - humble Diryw - a fine Denu - to lead you into Lôn gwaharddedig - forbidden lane Arwyddion twyllodrus - deceiving signs Haearn smwddio - an iron Gwallgof - silly, mad Taflenni - leaflets Pori - to browse Brensiach - good heavens! Gwarfag - rucksack Cipio - to grab Amyneddgar - patiently Anadl - breath Campwaith - masteriece, achievement Cyflawni - to fulfil Oes pys - a very long time
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen

Geirfa Chwedl y Sais - as the English would say Diymhongar - humble Diryw - a fine Denu - to lead you into Lôn gwaharddedig - forbidden lane Arwyddion twyllodrus - deceiving signs Haearn smwddio - an iron Gwallgof - silly, mad Taflenni - leaflets Pori - to browse Brensiach - good heavens! Gwar fag - rucksack Cipio - to grab Amyneddgar - patiently Anadl - breath Campwaith - masteriece, achievement Cyflawni - to fulfil Oes pys - a very long time