Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau
Diwrnod Arbennig o Dda
Geirfa
Llygredd - pollution Didrugaredd - merciless Gwenwyno - to poison Dyn dŵad - Newcomer Tirlun - landscape Adfeilion - ruins, remains Tywysydd - leader Cynefin - area Unedau diwydiant - Industrial units Anghyfarwydd - unfamiliar
Cyfarwydd - familiar Dychmygu - to imagine Gwefreiddiol - thrilling Darganfod - to discover Gwendidau - weaknesses Casgliad - collection Cyffro - Excitement Golau llachar - bright lights O fewn trwch blewyn - by a hair’s breadth Difaru - to regret
Dydd Sadwrn diwethaf oedd hi, diwrnod braidd yn wyntog ac yn oer ond roedd daith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd yn fy ardal i'r wythnos yma. Y lleoliad oedd yr hen ardal gopr, lle a oedd mor bwysig pan oedd y gwaith ar ei hanterth. Yn y dyddiau hynny Abertawe oedd y prif le yn y byd am gynhyrchu’r metel, y lle yn byrlymu o longau, ffwrnesi, simneiau ym mhob man yn chwistrellu llygredd i’r awyr yn ddidrugaredd ac yn gwenwyno’r tir o gwmpas. Gan am ddim ond pymtheg mlynedd dw i wedi byw yma dyn dŵad ydw i a theimlai braidd o dan anfantais nad ydw i’n cofio pethau fel yr oedd. Erbyn hyn mae dyn a natur wedi gweithio i wella’r tirlun a heblaw am ychydig o hen adfeilion ar ochr yr afon Tawe ger y ‘Park and Ride’ does dim llawer yn y golwg. Thema’r daith oedd ‘Copperopolis’ a’n tywysydd oedd Eirian Davies, y man cyfarfod oedd maes pacio Llyn y Fendrod ac ar ôl sgwrs fer dechreuon ni ar hyd llwybr a oedd yn sydyn yn mynd a ni trwy gynefin hollol wahanol i’r unedau diwydiant roedden ni wedi gadael. Cyn bo hir mi wnaethon ni ddod allan o’r coed i groesi’r ffordd fawr cyn diflannu unwaith eto i fyd anghyfarwydd. Bellach roeddem yn cerdded ar wely hen reilffordd ac, er dim ond tua hanner canllath o ffordd hollol gyfarwydd roedd hi’n anodd dychmygu yn union ein lleoliad. Mae wastad yn wefreiddiol darganfod ffordd neu ardal newydd ond mae mwy o ddyfnder i’r wefr pan mae’r darganfyddiad yn eich ardal eich hun. Cawsom lawer o wybodaeth werthfawr a diddorol ar ein taith a mawr ddiolch i Eirian am rannu ei wybodaeth efo ni. Un o fy ngwendidau yw fy mod i’n or-hoff o lyfrau, sydd dim yn beth drwg o bell ffordd, ond roedd Eirian wedi dangos llyfr i ni o’r enw ‘Copperopolis’ ac mae rhaid i mi gael un yn fy nghasgliad ond, hyd yn hyn, nad ydw i wedi gweld un ar werth yn unlle! Ond nid hynny oedd diwedd y diwrnod arbennig achos roedd gêm gyntaf y Chwe Gwlad ar y teledu yn y prynhawn ac roeddwn i adref mewn digon pryd. Am gêm ynte! Er y sgôr derfynol roedd hi’n galed a’n tîm ni yn codi balchder yn ein calonnau maen siŵr. Da yw ennill y gêm gyntaf. Ond doedd dim amser i ni ymlacio wedyn chwaith achos roeddem ni’n mynd i’r theatr yn Rhydaman nes ymlaen i weld Rhodri Miles yn ei sioe un dyn am Dylan Thomas. Gan fy mod i’n casáu bod yn hwyr i unrhyw achlysur dw i’n tueddu gadael ar fy nhaith yn rhy gynnar weithiau ac yn sicr roedd hynny’n wir am y tro yma. Roedd bron tri chwarter awr gennym ni i fwynhau cyffro a golau llachar y dref. Aethon ni i’r dafarn dros y ffordd, lle llawn a swnllyd, ond cawsom lle mewn cornel tawelach o flaen ryw deledu. Mae rhywbeth am sgrin deledu sydd yn gwneud i chi ei wylio a chyn bo hir nes i sylweddoli mai munudau olaf y gêm Iwerddon yn erbyn Ffrainc oedd hi. Ar ben hynny roedd Ffrainc ar y blaen ond roedd hi’n agos dros ben, Iwerddon yn ymladd yn ddewr ac yn araf bach yn ennill tir. Am densiwn wir! Roedd y cloc ar y sgrin wedi troi’n goch a’r gêm yn mynd ymlaen yn ffyrnig. Beth oedd yn mynd i ddigwydd? Ond yn sydyn roedd y bel wedi cael ei basio i Jonathan Sexton a gydag un gic roedd popeth drosodd ac Iwerddon wedi ennill o fewn drwch blewyn! Ond unwaith eto doedd y diwrnod ddim drosodd. Roedd y theatr yn galw. Ew, roedd hi’n sioe dda! Sioe un dyn a’r dyn yn eithriadol o dda ac yn llwyddo dod a’r hen Dylan yn fyw. Os ydych chi’n digwydd gweld hysbyseb o’r sioe yn eich ardal gwnewch yn siŵr o gael tocyn, fyddech chi ddim yn difaru . Yn ogystal â sioe Dylan Thomas mae hefyd yn gwneud un am Sheiloc a Richard Burton. Gwerth ei weld. Mae hi’n bwrw glaw yn drwm heddiw a diolch byth i ddweud y gwir achos mae hi wedi rhoi cyfle i mi gael y stori yma ar bapur. Bore dydd Sadwrn yw hi a nes ymlaen mi fydd ein hogiau allan unwaith eto i chwarae yn erbyn ‘Yr Hen Gelyn’ – pwy bynnag ydyn nhw. Pob lwc iddyn nhw!  (Hynny yw, ein hogiau ni wrth gwrs.)
Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl Gwrandewch
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau
Diwrnod Arbennig o Dda
Geirfa
Llygredd - pollution Didrugaredd - merciless Gwenwyno - to poison Dyn dŵad - Newcomer Tirlun - landscape Adfeilion - ruins, remains Tywysydd - leader Cynefin - area Unedau diwydiant - Industrial units Anghyfarwydd - unfamiliar Cyfarwydd - familiar Dychmygu - to imagine Gwefreiddiol - thrilling Darganfod - to discover Gwendidau - weaknesses Casgliad - collection Cyffro - Excitement Golau llachar - bright lights O fewn trwch blewyn - by a hair’s breadth Difaru - to regret
Dydd Sadwrn diwethaf oedd hi, diwrnod braidd yn wyntog ac yn oer ond roedd daith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd yn fy ardal i'r wythnos yma. Y lleoliad oedd yr hen ardal gopr, lle a oedd mor bwysig pan oedd y gwaith ar ei hanterth. Yn y dyddiau hynny Abertawe oedd y prif le yn y byd am gynhyrchu’r metel, y lle yn byrlymu o longau, ffwrnesi, simneiau ym mhob man yn chwistrellu llygredd i’r awyr yn ddidrugaredd ac yn gwenwyno’r tir o gwmpas. Gan am ddim ond pymtheg mlynedd dw i wedi byw yma dyn dŵad ydw i a theimlai braidd o dan anfantais nad ydw i’n cofio pethau fel yr oedd. Erbyn hyn mae dyn a natur wedi gweithio i wella’r tirlun a heblaw am ychydig o hen adfeilion ar ochr yr afon Tawe ger y ‘Park and Ride’ does dim llawer yn y golwg. Thema’r daith oedd ‘Copperopolis’ a’n tywysydd oedd Eirian Davies, y man cyfarfod oedd maes pacio Llyn y Fendrod ac ar ôl sgwrs fer dechreuon ni ar hyd llwybr a oedd yn sydyn yn mynd a ni trwy gynefin hollol wahanol i’r unedau diwydiant roedden ni wedi gadael. Cyn bo hir mi wnaethon ni ddod allan o’r coed i groesi’r ffordd fawr cyn diflannu unwaith eto i fyd anghyfarwydd. Bellach roeddem yn cerdded ar wely hen reilffordd ac, er dim ond tua hanner canllath o ffordd hollol gyfarwydd roedd hi’n anodd dychmygu yn union ein lleoliad. Mae wastad yn wefreiddiol darganfod ffordd neu ardal newydd ond mae mwy o ddyfnder i’r wefr pan mae’r darganfyddiad yn eich ardal eich hun. Cawsom lawer o wybodaeth werthfawr a diddorol ar ein taith a mawr ddiolch i Eirian am rannu ei wybodaeth efo ni. Un o fy ngwendidau yw fy mod i’n or-hoff o lyfrau, sydd dim yn beth drwg o bell ffordd, ond roedd Eirian wedi dangos llyfr i ni o’r enw ‘Copperopolis’ ac mae rhaid i mi gael un yn fy nghasgliad ond, hyd yn hyn, nad ydw i wedi gweld un ar werth yn unlle! Ond nid hynny oedd diwedd y diwrnod arbennig achos roedd gêm gyntaf y Chwe Gwlad ar y teledu yn y prynhawn ac roeddwn i adref mewn digon pryd. Am gêm ynte! Er y sgôr derfynol roedd hi’n galed a’n tîm ni yn codi balchder yn ein calonnau maen siŵr. Da yw ennill y gêm gyntaf. Ond doedd dim amser i ni ymlacio wedyn chwaith achos roeddem ni’n mynd i’r theatr yn Rhydaman nes ymlaen i weld Rhodri Miles yn ei sioe un dyn am Dylan Thomas. Gan fy mod i’n casáu bod yn hwyr i unrhyw achlysur dw i’n tueddu gadael ar fy nhaith yn rhy gynnar weithiau ac yn sicr roedd hynny’n wir am y tro yma. Roedd bron tri chwarter awr gennym ni i fwynhau cyffro a golau llachar y dref. Aethon ni i’r dafarn dros y ffordd, lle llawn a swnllyd, ond cawsom lle mewn cornel tawelach o flaen ryw deledu. Mae rhywbeth am sgrin deledu sydd yn gwneud i chi ei wylio a chyn bo hir nes i sylweddoli mai munudau olaf y gêm Iwerddon yn erbyn Ffrainc oedd hi. Ar ben hynny roedd Ffrainc ar y blaen ond roedd hi’n agos dros ben, Iwerddon yn ymladd yn ddewr ac yn araf bach yn ennill tir. Am densiwn wir! Roedd y cloc ar y sgrin wedi troi’n goch a’r gêm yn mynd ymlaen yn ffyrnig. Beth oedd yn mynd i ddigwydd? Ond yn sydyn roedd y bel wedi cael ei basio i Jonathan Sexton a gydag un gic roedd popeth drosodd ac Iwerddon wedi ennill o fewn drwch blewyn! Ond unwaith eto doedd y diwrnod ddim drosodd. Roedd y theatr yn galw. Ew, roedd hi’n sioe dda! Sioe un dyn a’r dyn yn eithriadol o dda ac yn llwyddo dod a’r hen Dylan yn fyw. Os ydych chi’n digwydd gweld hysbyseb o’r sioe yn eich ardal gwnewch yn siŵr o gael tocyn, fyddech chi ddim yn difaru . Yn ogystal â sioe Dylan Thomas mae hefyd yn gwneud un am Sheiloc a Richard Burton. Gwerth ei weld. Mae hi’n bwrw glaw yn drwm heddiw a diolch byth i ddweud y gwir achos mae hi wedi rhoi cyfle i mi gael y stori yma ar bapur. Bore dydd Sadwrn yw hi a nes ymlaen mi fydd ein hogiau allan unwaith eto i chwarae yn erbyn ‘Yr Hen Gelyn’ – pwy bynnag ydyn nhw. Pob lwc iddyn nhw!  (Hynny yw, ein hogiau ni wrth gwrs.)
Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen Gwrandewch