Gydangilydd.cymru
Mewn Cyfyng-gyngor Yn ôl yn 1954 oherwydd i fy nhad cael ei apwyntio i fod yn ficer ym mhlwyf St Isel yn Saundersfoot symudon ni o sir Fôn i sir Benfro. Roedd fy nhad yn arddwr brwd a diolch byth am hynny neu bydden ni, ei deulu, wedi byw bywyd llwglyd dros ben. Doedd Dad ddim yn ofni gwaith caled chwaith. Symudon ni ym mis Chwefror felly doedd dim llawer o amser i drawsnewid yr anialwch o chwyn a mieri i fod yn ardd gynhyrchiol unwaith eto. Hanner y gwaith yw dechrau maen nhw’n dweud a, chwarae teg aeth Dad yn syth ati ac roedd cynhaeaf o lysiau yn y flwyddyn gyntaf. Ond yng nghanol yr holl anialwch roedd llawer o goed afalau a chyffroes iawn oedd torri llwybrau trwy’r mieri er mwyn casglu’r ffrwyth. Roedd yr afalau yn cael eu cadw yn y ‘dairy’, ystafell oer wrth ochr y gegin, ac ar gael tan o leiaf mis Chwefror. Doedden ni’n blant lwcus iawn! Wrth ysgrifennu’r darn yma dw i wir yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pendantrwydd a dyfalbarhad fy nhad. A dyna pam, dw i’n meddwl, dw i wedi gwireddu fy mreuddwyd o gael perllan fy hun. Ond mae llawer o waith gofalu mae'n rhaid i chi wneud. Yn ystod yr haf cyntaf roedd rhaid adweithio’n gyflym i unrhyw argyfwng a’r broblem fwyaf oedd pryfed gleision. Mae'r rhain yn bwydo ar y dail ond ar yr un pryd yn gadael hylif melys arnyn nhw. Mae morgrug wedyn yn bwydo ar yr hylif yma. Y ffordd gorau i gael gwared ohonyn nhw yw chwistrellu’r dail sydd wedi cael ei effeithio efo dwr a bach o hylif golchi llestri ynddo. Ar ôl gwneud hynny mae’n hawdd cael gwared â’r pla wrth ddefnyddio bys a bawd a, wel, ei gwasgu nhw i farwolaeth. Braidd yn ych a fi i ddechrau ond mae rhywun yn dod i arfer a’r peth. Ond nid dim ond unwaith dach chi’n gorfod gwneud, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus a’i wneud bob tro sydd angen. Roeddwn i wedi cael dipyn o drefn ar y peth ac roedd popeth yn edrych yn dda - tan i mi sleisio pen fy mawd. Roedd hyn yn gwneud y gwaith mor boenus aeth bythefnos heibio heb i mi ei wneud. Mae’r bawd wedi gwella rŵan ac roeddwn i ar fin ailddechrau ond roedd rhaid cael paned o goffi cyn dechrau. Dyna le o’n i yn eistedd yn yr haul a gwrando ar yr adar pan sylweddolais fy mod i’n gallu clywed sŵn arall hefyd. Sŵn gwenyn! Roedd y sŵn yn dod o gyfeiriad y coed afalau. Od iawn gan fod nhw wedi mynd trwy’r cyfnod blodeuo a llawer ohonyn nhw wedi dechrau ffrwytho. Es i at y coed ac efo mawr syndod welais i lawer o wenyn yn mynd o gwmpas y dail sydd wedi cael eu heffeithio. I ddechrau roeddwn i’n meddwl bod hyn yn ffordd naturiol o gael gwared â’r pryfed gleision ond wrth ail feddwl dim ond ar ôl yr hylif melys oedd y gwenyn. Wythnos diwethaf dim ond dwy o fuchod coch cwta oedd i’w weld. Mae'r rhain yn bwyta’r pryfed gleision ac yn bwysig iawn er mwyn cadw nhw lawr. Ond mae angen mwy na dwy. Hefyd maen nhw’n symud yn ofnadwy o araf deg ac yn wir, y bore yma welais i ddwy yn cael hoe fach efo’i gilydd. Dw i’n dweud hoe fach er mwyn fod yn boleit achos roedden nhw’n agos iawn at ei gilydd. Dw i’n hapus iawn iddyn nhw stopio am ychydig os yw hynny’n golygu bydd mwy ohonyn nhw cyn bo hir ond wrth feddwl ymhellach dw i rŵan mewn cyfyng gyngor go iawn. A dyma pam. Ar hyn o bryd does dim digon ohonyn nhw i gadw’r pryfed gleision dan reolaeth felly mae'n rhaid i mi fynd ymlaen efo’r chwistrellu a defnyddio fy mys a bawd. Ond mi fydd y fuwch goch gota yn gorfod dodwy wyau yn rywle ac yn reit debyg bydda i’n eu dinistrio nhw heb eu gweld. Ar y llaw arall os yw’r coed yn gryf ni fydd y pryfed gleision yn ymosod arnyn nhw. Dw i wedi penderfynu chwistrellu’r holl dail efo hylif gwymon er mwyn bwydo’r goeden trwy’r dail. Hefyd dw i’n mynd i dywallt yr un hylif ar waelod pob coeden er mwyn bwydo’r gwreiddiau. Beth fyddech chi’n gwneud? Geirfa Cyfyng-gyngor – quandary Plwyf – parish Llwglyd – hungry Trawsnewid – to transform Anialwch – wilderness Chwyn – weeds Mieri – brambles Cynhyrchiol – productive Cynhaeaf – harvest Gwerthfawrogi – to appreciate Pendantrwydd – determination Dyfalbarhad – perseverance Gwireddu fy mreuddwyd – fulfil my ambition Perllan – orchard Adweithio – to react Argyfwng – emergency Pryfed gleision – greenfly Hylif melys – sweet liquid Morgrug – ants Chwistrellu – to spray Hylif golchi llestri – washing up liquid Gwyliadwrus – observant Sleisio pen fy mawd – cut the top of my thumb Gwenyn – bees Buchod coch cwta – ladybirds Hoe fach – a rest Dan reolaeth – under Control Dodwy – to lay Dinistrio – to destroy Hylif gwymon – seaweed liquid (feed) Gwreiddiau - roots
Mewn Cyfyng-gyngor Yn ôl yn 1954 oherwydd i fy nhad cael ei apwyntio i fod yn ficer ym mhlwyf St Isel yn Saundersfoot symudon ni o sir Fôn i sir Benfro. Roedd fy nhad yn arddwr brwd a diolch byth am hynny neu bydden ni, ei deulu, wedi byw bywyd llwglyd dros ben. Doedd Dad ddim yn ofni gwaith caled chwaith. Symudon ni ym mis Chwefror felly doedd dim llawer o amser i drawsnewid yr anialwch o chwyn a mieri i fod yn ardd gynhyrchiol unwaith eto. Hanner y gwaith yw dechrau maen nhw’n dweud a, chwarae teg aeth Dad yn syth ati ac roedd cynhaeaf o lysiau yn y flwyddyn gyntaf. Ond yng nghanol yr holl anialwch roedd llawer o goed afalau a chyffroes iawn oedd torri llwybrau trwy’r mieri er mwyn casglu’r ffrwyth. Roedd yr afalau yn cael eu cadw yn y ‘dairy’, ystafell oer wrth ochr y gegin, ac ar gael tan o leiaf mis Chwefror. Doedden ni’n blant lwcus iawn! Wrth ysgrifennu’r darn yma dw i wir yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pendantrwydd a dyfalbarhad fy nhad. A dyna pam, dw i’n meddwl, dw i wedi gwireddu fy mreuddwyd o gael perllan fy hun. Ond mae llawer o waith gofalu mae'n rhaid i chi wneud. Yn ystod yr haf cyntaf roedd rhaid adweithio’n gyflym i unrhyw argyfwng a’r broblem fwyaf oedd pryfed gleision. Mae'r rhain yn bwydo ar y dail ond ar yr un pryd yn gadael hylif melys arnyn nhw. Mae morgrug wedyn yn bwydo ar yr hylif yma. Y ffordd gorau i gael gwared ohonyn nhw yw chwistrellu’r dail sydd wedi cael ei effeithio efo dwr a bach o hylif golchi llestri ynddo. Ar ôl gwneud hynny mae’n hawdd cael gwared â’r pla wrth ddefnyddio bys a bawd a, wel, ei gwasgu nhw i farwolaeth. Braidd yn ych a fi i ddechrau ond mae rhywun yn dod i arfer a’r peth. Ond nid dim ond unwaith dach chi’n gorfod gwneud, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus a’i wneud bob tro sydd angen. Roeddwn i wedi cael dipyn o drefn ar y peth ac roedd popeth yn edrych yn dda - tan i mi sleisio pen fy mawd. Roedd hyn yn gwneud y gwaith mor boenus aeth bythefnos heibio heb i mi ei wneud. Mae’r bawd wedi gwella rŵan ac roeddwn i ar fin ailddechrau ond roedd rhaid cael paned o goffi cyn dechrau. Dyna le o’n i yn eistedd yn yr haul a gwrando ar yr adar pan sylweddolais fy mod i’n gallu clywed sŵn arall hefyd. Sŵn gwenyn! Roedd y sŵn yn dod o gyfeiriad y coed afalau. Od iawn gan fod nhw wedi mynd trwy’r cyfnod blodeuo a llawer ohonyn nhw wedi dechrau ffrwytho. Es i at y coed ac efo mawr syndod welais i lawer o wenyn yn mynd o gwmpas y dail sydd wedi cael eu heffeithio. I ddechrau roeddwn i’n meddwl bod hyn yn ffordd naturiol o gael gwared â’r pryfed gleision ond wrth ail feddwl dim ond ar ôl yr hylif melys oedd y gwenyn. Wythnos diwethaf dim ond dwy o fuchod coch cwta oedd i’w weld. Mae'r rhain yn bwyta’r pryfed gleision ac yn bwysig iawn er mwyn cadw nhw lawr. Ond mae angen mwy na dwy. Hefyd maen nhw’n symud yn ofnadwy o araf deg ac yn wir, y bore yma welais i ddwy yn cael hoe fach efo’i gilydd. Dw i’n dweud hoe fach er mwyn fod yn boleit achos roedden nhw’n agos iawn at ei gilydd. Dw i’n hapus iawn iddyn nhw stopio am ychydig os yw hynny’n golygu bydd mwy ohonyn nhw cyn bo hir ond wrth feddwl ymhellach dw i rŵan mewn cyfyng gyngor go iawn. A dyma pam. Ar hyn o bryd does dim digon ohonyn nhw i gadw’r pryfed gleision dan reolaeth felly mae'n rhaid i mi fynd ymlaen efo’r chwistrellu a defnyddio fy mys a bawd. Ond mi fydd y fuwch goch gota yn gorfod dodwy wyau yn rywle ac yn reit debyg bydda i’n eu dinistrio nhw heb eu gweld. Ar y llaw arall os yw’r coed yn gryf ni fydd y pryfed gleision yn ymosod arnyn nhw. Dw i wedi penderfynu chwistrellu’r holl dail efo hylif gwymon er mwyn bwydo’r goeden trwy’r dail. Hefyd dw i’n mynd i dywallt yr un hylif ar waelod pob coeden er mwyn bwydo’r gwreiddiau. Beth fyddech chi’n gwneud? Geirfa Cyfyng-gyngor – quandary Plwyf – parish Llwglyd – hungry Trawsnewid – to transform Anialwch – wilderness Chwyn – weeds Mieri – brambles Cynhyrchiol – productive Cynhaeaf – harvest Gwerthfawrogi – to appreciate Pendantrwydd – determination Dyfalbarhad – perseverance Gwireddu fy mreuddwyd – fulfil my ambition Perllan – orchard Adweithio – to react Argyfwng – emergency Pryfed gleision – greenfly Hylif melys – sweet liquid Morgrug – ants Chwistrellu – to spray Hylif golchi llestri – washing up liquid Gwyliadwrus – observant Sleisio pen fy mawd – cut the top of my thumb Gwenyn – bees Buchod coch cwta – ladybirds Hoe fach – a rest Dan reolaeth – under control Dodwy – to lay Dinistrio – to destroy Hylif gwymon – seaweed liquid (feed) Gwreiddiau - roots