Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Cwm Elan a’r Fawddach Mae hi wedi bod dros flwyddyn ers i mi fynd i ffwrdd go iawn yn y camperfan. Rhwng un peth a’r llall dw i wedi bod mor brysur a doedd y tywydd bendigedig dyn ni wedi cael yr haf yma ddim yn help chwaith, llawer rhy boeth i mi. Pwy sydd yn gallu cysgu mewn popty hefyd? Peidiwch â chamddeall, dw i ddim yn cwyno am y tywydd ond pan mae hi mor boeth dw i’n gorfod newid trefn y diwrnod a bod yn y cysgod pan mae hi’n boeth. Wythnos diwethaf roedd cyfarfod Cymdeithas Ceredigion ar bnawn Llun ac ychydig o ddyddiau braf i ddilyn. Bore dydd Mawrth roedd y bagiau a’r camera yn y fan a’r beic ar y cefn. Y bwriad oedd anelu at Gwm Elan a seiclo o gwmpas y llynnoedd, mynd ymlaen i Benmaen-pŵl ger Dolgellau a seiclo ar ochr y Mawddach a draw i Bermo. Byddaf yn siŵr o dynnu lluniau hefyd. Cyrraedd Cwm Elan a pharcio yn yr hen chwarel wrth ochr argae Caban Coch a newid i fy leicra, na, na dydw i ddim yn gwisgo leicra ond dw i yn gwisgo top efo’r Ddraig Goch drosto i gyd. Beth, dach chi’n meddwl fy mod i eisiau tynnu sylw i’r ffaith mod i’n Gymro? Wrth gwrs mod i! Seiclo ymlaen at y bont fawr a sylwi bod y golau mor dda a phopeth mor dawel roedd rhaid newid fy meddwl a defnyddio’r camera yn hytrach na’r beic. Mynd yn ôl, rhoi’r beic ar gefn y fan, dim amser newid fy nillad a ffwrdd â fi i dynnu lluniau ond yn gwisgo dillad seiclo, mae’n neis drysu pobl! Ar y ffordd i gronfa Glaerwen nes i dynnu i mewn wrth ochr yr afon ble mae’r afon yn rhaeadru trwy’r creigiau. Disgyn allan o’r fan a rhoi fy nhroed dde ar ryw wyrddni heb sylweddoli bod y gwyrddni yn prysur guddio nant fechan. Aeth fy nhroed i lawr at fy mhigwrn a llenwi fy sgidiau â dŵr oer - neis! Tynnu llun o’r afon, penderfynu bod yn gall a newid i’r dillad cerdded, rŵan bydda i’n sych ac na fydd yr ymwelwyr yn drysu rhagor! Dyna le o’n i'n potian o gwmpas wrth argae Claerwen a chlywais sŵn awyren a dyma oedd awyren fawr y llu awyr yn hedfan yn isel dros yr argae, tynnais y llun yn rhy fuan ond dw i’n gwneud pethau gwirion pan dw i mewn panig. Ond doeddwn i ddim mewn panig pan nes i dynnu’r ail lun, gweld yr awyren yn troi’n osgeiddig a dilyn yr afon allan o’r cwm. Lyfli! Ymlaen rŵan at Gronfa Ddŵr Craig Goch a lliwiau’r Hydref ym mhob man, cyrraedd man lle'r oedd olygfa dda o’r traethau sydd fel arfer yn anweledig ac roedd rhaid tynnu llun. Cael y pleser mawr o yrru ar yr hen ffordd tuag at Aberystwyth yn yr haul, trwy Gwmystwyth a Phontarfynach ac anelu at Fachynlleth a dewis y ffordd trwy Gorris y tro yma, trwy Ddolgellau ac ymlaen i Benmaen-pŵl. Does dim llawer ym Mhenmaen-pŵl os dach chi’n meddwl am nifer o dai a phethau fel ‘na ond mae’n lle hyfryd. Mae hen focs signal yn dyddio o’r cyfnod cyn Beeching, mae tollbont ac mae’r dafarn The George III. Yn bwysicach i mi oedd y ffaith bod lle cyfleus i barcio’r fan dros nos yna ac, er i mi gyrraedd tua 4.00 roedd llawer yna o’m mlaen i. Dim ond camperfan sydd gen i felly doedd gan berchnogion y motorhomes ddim diddordeb ynof fi ond nad oeddwn i’n poeni. Roedd y diwrnod dal yn braf a wnes i grwydro o gwmpas yn tynnu lluniau pob hyn a hyn i dreulio’r amser cyn i mi gael y siawns i giniawa yn y George III. Ond roedd y lle yn anghyfforddus o dawel ac er bod papur wedi ei binio ar y drws yn dweud bod y bar ar ben y grisiau ar agor doedd hynny ddim yn edrych fel oedd yn dweud y gwir. Holais y ferch oedd yn casglu’r tollau ar y bont “Oh they’re closed till Easter” medde hi. “Well I don’t think I can wait that long” atebais. Diolchais iddi hi a mynd yn ôl at y fan, bydd rhaid gweld beth oedd gan Ddolgellau i’w gynnig. Parciais ar y maes parcio ble oedd y Marian unwaith ac roeddwn i’n eistedd yn gwrando ar Radio Cymru, doth cnoc ar y ffenest. Gyrrwr un o’r lorïau oedd wedi parcio am y nos oedd yna eisiau newid newid am bishyn bunt. Siaradwr Cymraeg hefyd. Rois y bunt iddo a ffwrdd â fo i fwydo’r peiriant. Diolch byth bod hi’n amhosib cael tocyn cyflym y dyddiau hyn o achos yr holl rwdl-mi-ri sydd ynghlwm â’r broses. Y peth oedd roedd hi ar ôl 6.00 a doedd dim rhaid iddo dalu. Es i allan a dweud wrtho a rhoi gwên fawr ar ei wyneb. Os allech chi helpu rhywun ar eich siwrne trwy fywyd ynte! Es i i’r Royal Ship am bryd o fwyd a mwynhau cymaint ces i’r pwdin hefyd ac ar ôl llond bol (yn llythrennol) es i nôl i Benmaen-pŵl er mwyn roi fy mhen i lawr am y noson. Cysgu fel log ac ar ôl cael brecwast da ym Mhopty’r Dre ro’n i’n barod am dipyn o seiclo. Mae gwely’r hen reilffordd wedi cael ei wneud yn llwybr seiclo a cherdded, roedd y llanw i mewn ac yn uchel a dim gwynt o gwbl. Golygfeydd hyfryd i bob cyfeiriad a ches i reid hamddenol, taflu ‘Bore da’ at bawb a chael llawer o ‘Good mornings’ yn ôl. Cyrraedd pont y rheilffordd ac roedd rhaid cael y profiad arbennig o seiclo drosti a, chyn i chi boeni, na doeddwn i ddim ar y trac - mae llwybr wrth ei ochr. Wel dyma fi’n mynd yn hamddenol, yn rhydd o bwysau’r byd, bron yn whistlan tan i mi weld rhywbeth i sbwylio popeth! Arwydd yn dangos yn glir bod rhaid talu toll os croesi’r holl ffordd! Beth i’w wneud? Sdim angen gofyn, cydio yn y beic a’i throi i wynebu’r ffordd arall, a seiclo yn ôl i’r pen arall. Efallai eich bod chi’n gofyn pam dw i’n dweud hyn wrthych, wedi’r cwbl dydy o ddim yn adlewyrchu’n dda arnaf fi ond mae rheswm da. Chi’n gweld dw i eisiau dysgu gair newydd i chi a’r gair yw crintachlyd, yr ystyr – miserly. A dyna eich gwobr am ddarllen hyd at y diwedd – cofiwch y gair! Geirfa Argae – dam Drysu – to confuse Gwyrddni – green stuff Pigwrn – ankle Llu awyr – air force Gosgeiddig – graceful Anweledig – invisible Tollbont – toll bridge Ciniawa – to dine Grisiau – steps Rwdl-mi-ri – rigmarole Yn llythrennol – literally Adlewyrchu – to reflect Crintachlyd - miserly
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Cwm Elan a’r Fawddach Mae hi wedi bod dros flwyddyn ers i mi fynd i ffwrdd go iawn yn y camperfan. Rhwng un peth a’r llall dw i wedi bod mor brysur a doedd y tywydd bendigedig dyn ni wedi cael yr haf yma ddim yn help chwaith, llawer rhy boeth i mi. Pwy sydd yn gallu cysgu mewn popty hefyd? Peidiwch â chamddeall, dw i ddim yn cwyno am y tywydd ond pan mae hi mor boeth dw i’n gorfod newid trefn y diwrnod a bod yn y cysgod pan mae hi’n boeth. Wythnos diwethaf roedd cyfarfod Cymdeithas Ceredigion ar bnawn Llun ac ychydig o ddyddiau braf i ddilyn. Bore dydd Mawrth roedd y bagiau a’r camera yn y fan a’r beic ar y cefn. Y bwriad oedd anelu at Gwm Elan a seiclo o gwmpas y llynnoedd, mynd ymlaen i Benmaen- pŵl ger Dolgellau a seiclo ar ochr y Mawddach a draw i Bermo. Byddaf yn siŵr o dynnu lluniau hefyd. Cyrraedd Cwm Elan a pharcio yn yr hen chwarel wrth ochr argae Caban Coch a newid i fy leicra, na, na dydw i ddim yn gwisgo leicra ond dw i yn gwisgo top efo’r Ddraig Goch drosto i gyd. Beth, dach chi’n meddwl fy mod i eisiau tynnu sylw i’r ffaith mod i’n Gymro? Wrth gwrs mod i! Seiclo ymlaen at y bont fawr a sylwi bod y golau mor dda a phopeth mor dawel roedd rhaid newid fy meddwl a defnyddio’r camera yn hytrach na’r beic. Mynd yn ôl, rhoi’r beic ar gefn y fan, dim amser newid fy nillad a ffwrdd â fi i dynnu lluniau ond yn gwisgo dillad seiclo, mae’n neis drysu pobl! Ar y ffordd i gronfa Glaerwen nes i dynnu i mewn wrth ochr yr afon ble mae’r afon yn rhaeadru trwy’r creigiau. Disgyn allan o’r fan a rhoi fy nhroed dde ar ryw wyrddni heb sylweddoli bod y gwyrddni yn prysur guddio nant fechan. Aeth fy nhroed i lawr at fy mhigwrn a llenwi fy sgidiau â dŵr oer - neis! Tynnu llun o’r afon, penderfynu bod yn gall a newid i’r dillad cerdded, rŵan bydda i’n sych ac na fydd yr ymwelwyr yn drysu rhagor! Dyna le o’n i'n potian o gwmpas wrth argae Claerwen a chlywais sŵn awyren a dyma oedd awyren fawr y llu awyr yn hedfan yn isel dros yr argae, tynnais y llun yn rhy fuan ond dw i’n gwneud pethau gwirion pan dw i mewn panig. Ond doeddwn i ddim mewn panig pan nes i dynnu’r ail lun, gweld yr awyren yn troi’n osgeiddig a dilyn yr afon allan o’r cwm. Lyfli! Ymlaen rŵan at Gronfa Ddŵr Craig Goch a lliwiau’r Hydref ym mhob man, cyrraedd man lle'r oedd olygfa dda o’r traethau sydd fel arfer yn anweledig ac roedd rhaid tynnu llun. Cael y pleser mawr o yrru ar yr hen ffordd tuag at Aberystwyth yn yr haul, trwy Gwmystwyth a Phontarfynach ac anelu at Fachynlleth a dewis y ffordd trwy Gorris y tro yma, trwy Ddolgellau ac ymlaen i Benmaen-pŵl. Does dim llawer ym Mhenmaen-pŵl os dach chi’n meddwl am nifer o dai a phethau fel ‘na ond mae’n lle hyfryd. Mae hen focs signal yn dyddio o’r cyfnod cyn Beeching, mae tollbont ac mae’r dafarn The George III. Yn bwysicach i mi oedd y ffaith bod lle cyfleus i barcio’r fan dros nos yna ac, er i mi gyrraedd tua 4.00 roedd llawer yna o’m mlaen i. Dim ond camperfan sydd gen i felly doedd gan berchnogion y motorhomes ddim diddordeb ynof fi ond nad oeddwn i’n poeni. Roedd y diwrnod dal yn braf a wnes i grwydro o gwmpas yn tynnu lluniau pob hyn a hyn i dreulio’r amser cyn i mi gael y siawns i giniawa yn y George III. Ond roedd y lle yn anghyfforddus o dawel ac er bod papur wedi ei binio ar y drws yn dweud bod y bar ar ben y grisiau ar agor doedd hynny ddim yn edrych fel oedd yn dweud y gwir. Holais y ferch oedd yn casglu’r tollau ar y bont “Oh they’re closed till Easter” medde hi. “Well I don’t think I can wait that long” atebais. Diolchais iddi hi a mynd yn ôl at y fan, bydd rhaid gweld beth oedd gan Ddolgellau i’w gynnig. Parciais ar y maes parcio ble oedd y Marian unwaith ac roeddwn i’n eistedd yn gwrando ar Radio Cymru, doth cnoc ar y ffenest. Gyrrwr un o’r lorïau oedd wedi parcio am y nos oedd yna eisiau newid newid am bishyn bunt. Siaradwr Cymraeg hefyd. Rois y bunt iddo a ffwrdd â fo i fwydo’r peiriant. Diolch byth bod hi’n amhosib cael tocyn cyflym y dyddiau hyn o achos yr holl rwdl-mi-ri sydd ynghlwm â’r broses. Y peth oedd roedd hi ar ôl 6.00 a doedd dim rhaid iddo dalu. Es i allan a dweud wrtho a rhoi gwên fawr ar ei wyneb. Os allech chi helpu rhywun ar eich siwrne trwy fywyd ynte! Es i i’r Royal Ship am bryd o fwyd a mwynhau cymaint ces i’r pwdin hefyd ac ar ôl llond bol (yn llythrennol) es i nôl i Benmaen-pŵl er mwyn roi fy mhen i lawr am y noson. Cysgu fel log ac ar ôl cael brecwast da ym Mhopty’r Dre ro’n i’n barod am dipyn o seiclo. Mae gwely’r hen reilffordd wedi cael ei wneud yn llwybr seiclo a cherdded, roedd y llanw i mewn ac yn uchel a dim gwynt o gwbl. Golygfeydd hyfryd i bob cyfeiriad a ches i reid hamddenol, taflu ‘Bore da’ at bawb a chael llawer o ‘Good mornings’ yn ôl. Cyrraedd pont y rheilffordd ac roedd rhaid cael y profiad arbennig o seiclo drosti a, chyn i chi boeni, na doeddwn i ddim ar y trac - mae llwybr wrth ei ochr. Wel dyma fi’n mynd yn hamddenol, yn rhydd o bwysau’r byd, bron yn whistlan tan i mi weld rhywbeth i sbwylio popeth! Arwydd yn dangos yn glir bod rhaid talu toll os croesi’r holl ffordd! Beth i’w wneud? Sdim angen gofyn, cydio yn y beic a’i throi i wynebu’r ffordd arall, a seiclo yn ôl i’r pen arall. Efallai eich bod chi’n gofyn pam dw i’n dweud hyn wrthych, wedi’r cwbl dydy o ddim yn adlewyrchu’n dda arnaf fi ond mae rheswm da. Chi’n gweld dw i eisiau dysgu gair newydd i chi a’r gair yw crintachlyd, yr ystyr miserly. A dyna eich gwobr am ddarllen hyd at y diwedd cofiwch y gair! Geirfa Argae – dam Drysu – to confuse Gwyrddni – green stuff Pigwrn – ankle Llu awyr – air force Gosgeiddig – graceful Anweledig – invisible Tollbont – toll bridge Ciniawa – to dine Grisiau – steps Rwdl-mi-ri – rigmarole Yn llythrennol – literally Adlewyrchu – to reflect Crintachlyd - miserly