Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Cwmdu Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Y   tro   yma   mi   nes   i   adael   y   tŷ   mewn   digon   o   amser,   doeddwn   i   ddim   eisiau   bod   yn   hwyr.   Dydd   Sadwrn diwethaf   roeddwn   i   wedi   gwneud   cawlach   go   dda   o   bethau   a’r   canlyniad   oedd   cyrraedd   y   man   cyfarfod   10 munud   ar   ôl   i   bawb   gadael   ar   y   bws   i’r   fan   cychwyn.   Dw   i’n   byw   yn   Abertawe   ac   roeddwn   i’n   anelu   at   Dale   yn sir   Benfro,   digon   hawdd,   dw   i’n   nabod   y   lle   yn   iawn.   Wrth   gyrraedd   St   Clears   mae   ‘na   ddewis   o’ch   blaen, mynd   i   Ddoc   Benfro   a   chroesi’r   bont   i   Neyland   neu   anelu   at   Hwlffordd.   Fel   arfer   bydda   i’n   dewis   Doc   Benfro ond   fel   dach   chi’n   gwybod   roedd   Tywysog   Harri’n   priodi   Angela   Merkel   ar   y   diwrnod   hwnnw   felly   roedd debygrwydd   bod   pawb   eisiau   stocio   fyny   efo   bwyd   a   diod.   Bydd   hynny'n   achosi   tagfa   fawr   ar   y   cylchdro   jest cyn   y   bont.   Hwlffordd   amdani   felly.   A   dyma   fi   ar   gyrion   Hwlffordd   a’r   Sat   Naf   eisio   i   mi   fynd   heibio   Broad Haven   a   finnau,   y   dyn   sydd   yn   meddwl   bod   o’n   gwybod   pob   beth,   yn   penderfynu   anelu   at   Aberdaugleddau. Aeth   pethau’n   waeth,   roeddwn   i   wedi   gadael   y   tŷ   yn   rhy   hwyr   yn   y   lle   cyntaf   ond   wedi   gwneud   yn   dda   i   gael yr   amser   yn   ôl.   Dyma   fi   rŵan   ar   lonydd   cul   a’r   holl   amser   sbâr   wedi   diflannu,   yn   waeth   byth   roedd   hen   dryc picyp   yn   cario   dau   paled   o   ddim   byd   yn   mynd   yr   un   ffordd   a   fi,   petasai   fo   wedi   bod   tu   ôl   i   mi   fydda   ddim problem ond yn anffodus roedd o flaen.   Ond   nad   ydw   i   yma   i   sôn   am   wythnos   diwethaf   a   dw   i   wedi   cael   digon   o   hunan   fflangellu   am   y   tro   felly   beth am   daith   Helen   Morgan   yn   ardal   Cwmdu   ger   Tretŵr?   Mi   wna   i   ddechrau   wrth   eich   sicrhau   fy   mod   i   wedi cyrraedd   mewn   pryd   ac   mi   oedd   13   ohonom   ni   yn   gyfan   gwbl.   Roedd   y   diwrnod   yn   sych   ond   roedd   cwmwl bygythiol   yn   gorwedd   yn   dawel   uwchben   y   bryn,   gwrthrych   ein   taith.   Roedd   aelod   newydd   yn   ein   mysg   ond dim   ond   aelod   newydd   i   ni,   mae   Mary   Jones   o   Ddolgellau   fel   arfer   yn   cerdded   efo’r   Gymdeithas   yn   y   gogledd orllewin, roedd croeso mawr iddi wrth gwrs. Amser   cychwyn   a   ffwrdd   â   ni   i   lawr   lôn   dawel,   blodau   gwyn   y   ddraenen   ddu   yn   eu   llawn   gogoniant   ym mhob   man.   Trwy   gae,   dros   bont   a   chyrraedd   gwaelod   y   bryn   a   dechrau’r   gwaith   dringo.   Wrth   fynd   yn   uwch ac   yn   uwch   dylen   ni   gallu   gweld   golygfa   wych   tu   ôl   i   ni   ond   roedd   y   diwrnod   braidd   yn   niwlog.   Roedd   yr   awel yn   gymedrol   ac   yn   fwyn   a’r   glaw   yn   cadw   draw   ac   roedd   yr   ehedydd   anweledig      yn   brysur   ganu   ei   gan   rywle uwch   ein   pennau.   Yn   sydyn   ddoth   y   gawod   a   phawb   yn   twrio   lawr   i’w   sachau   am   gôt   ond   wnaeth   y   glaw ddim   para.   Cyn   dim   roedden   ni   wedi   cyrraedd   y   pen   a   chael   cerdded   yn   hamddenol   i   le   cyfleus   i   gael   ein picnic   wrth   ochr   Llwybr   y   Bannau.   Yma   ges   i’r   siawns   i   siarad   efo   Mary   a   dweud   wrthi   am   fy   nghysylltiad   â Dolgellau,   Nain   a   Thaid   yn   cadw   Siop   Newydd   yn   Sgwâr   Eldon.   Ia,   roedd   hi’n   cofio   Nain   a   hefyd   Anti   May   a chawson   ni   sgwrs   ddifyr   iawn   am   y   dref   lle   nes   i   dreulio   llawer   o   amser   efo   Nain,   Nain   annwyl   a   oedd   yn sbwylio   ni   gymaint.   Braf   iawn   yw   meddwl   yn   ôl   ac   ail-gofio   pethau   sydd   wedi   disgyn   mor   bell   i’r   isymwybod. Un   peth   oedd   yn   ddiddorol   oedd   iddi   ofyn   a   oeddwn   i’n   mynd   i   siop   barbwr   Spratts   i   gael   torri’n   wallt   yn ystod   fy   ymweliadau   ac   mi   nes   i   gadarnhau   yr   oeddwn   i.   Y   peth   yw   dydw   i   ddim   yn   cofio   mynd   i   unrhyw   le arall   i   gael   torri   gwallt.   Doedd   unlle   ym   Moelfre   hyd   y   gwn   i   ac   nad   ydw   i’n   cofio   mynd   i   Benllech   chwaith, ond   mae   gen   i   ryw   gof   o   lawer   o   fechgyn   y   pryd   efo’r   un   steil.   Y   fath   o   steil   lle   mae   rhieni   yn   rhoi   bowlen pwdin   wyneb   i   waered   ar   eich   pen   a   thorri   math   o   'Celtic   fringe'   o   gwmpas   y   pen.   Dyna   oedd   steil   yr   oes   ac mae’n   debyg   iawn   roedd   Nain   yn   cymryd   piti   drosom   ni   a   thalu   i   ni   gael   job   go   dda   i’w   wneud   ar   ein   pennau. Efallai’n wir er mwyn i ni fod yn daclus pan oedd hi’n mynd a ni i’r capel, ia, dyna fo mae’n debyg! Ond   y   peth   mwyaf   od   oedd   i   Mary   ddweud   ei   bod   hi’n   nabod   rhywun   o   Marianglas   a   oedd   yn   Ysgol   Dr Williams   efo   hi,   merch   o’r   enw   Sioned.   Wel   roedd   Sioned   yn   byw   drws   nesaf   i   ni,   tybed   yr   un   hogan?   Roedd hi   a   fy   chwaer   Rhian   yn   cael   gwersi   marchogaeth   gyda’i   gilydd   a   Sioned   wedi   cael   damwain   a   niwed   difrifol i’w   braich.   Doedd   y   niwed   byth   wedi   gwella   felly   nes   i   ofyn   a   oedd   rywbeth   yn   bod   efo’i   braich.   Oedd   medda hi,   felly   gawson   ni   sgwrs   am   Sioned   a’i   hanes.   Roedd   cyfnither   Sioned   yn   Ysgol   Dr   Williams   hefyd   ond   doedd Mary   ddim   yn   cofio’n   iawn   beth   oedd   ei   enw   “Gwerfyl”   medda   fi,   a   ro’n   i’n   iawn.   Mae’n   syndod   beth   sydd   yn dal   yna   yn   eich   isymwybod,   enw   rhywun   nad   oeddech   chi’n   nabod   yn   dda   o   gwbl   a   dros   chwe   deg   o flynyddoedd   wedi   mynd   heibio.   Mae   maint   y   stordy   yn   eich   pen   yn   llawer   mwy   nag   yn   eich   cyfrifiadur   a does   dim   ond   rhaid   cael   y   glicied   iawn   i   gael   nhw   yn   ôl   i’ch   cof.   Sgwrs   ddiddorol   a   phleserus   dros   ben.   Ond pam   oedd   Mary   wedi   dweud   bod   Sioned   o   Farianglas?   Wel   roedd   tad   Sioned   yn   bensaer   a   thua’r   un   amser   i ni   symud   i   lawr   i’r   De   roedd   o’n   adeiladu   tŷ   ym   Marianglas.   QED,   fel   oedd   y   Rhufeiniaid   a   Phythagoras   yn dweud! Roedden   ni   mewn   lle   anghysbell   ac   yn   gallu   gweld   yn   bell   a   doedd   dim   tŷ   na   phobol   i’w   gweld   yn   unman.   Yn sydyn   roedd   criw   reit   fawr   o   bobl   ifanc   yn   dod   i’r   golwg   ar   y   gorwel   mewn   dillad   llachar,   roedden   nhw’n ysgafn   ar   eu   traed   ac   yn   dod   tuag   atom   ni’n   gyflym.   Ddaru   nhw   stopio   am   sgwrs,   wel   nid   sgwrs,   cawson   nhw eu   holi   wrth   gwrs,   wedi’r   cwbl   Cymry   ydan   ni   a   dan   ni   eisio   gwybod   hanes   pobl   ynte!      Roedden   nhw   o   ryw goleg   ac   yn   hyfforddi   darllen   mapiau   neu   rywbeth   tebyg,   esgusodwch   fi   am   nad   ydw   i’n   hollol   glir   am   y pwrpas   ond   roeddwn   i’n   brysur   yn   tynnu   lluniau.   Dw   i’n   siŵr   y   bydden   nhw’n   iawn,   o   leiaf   wnaethon   nhw gyrraedd   y   gorwel   arall.   Amser   yn   mynd   ymlaen   a   digwyddais   weld   cwmwl   yn   codi   trwy   gwm   islaw.   Waw, dyna   beth,   mi   ydan   ni   wedi   bod   yn   cerdded   uwchben   y   cymylau!   Beth   nesaf?   Cymdeithas   Edward   Llwyd   yn cerdded yn y gofod? Roedd    ambell    i    blanhigfa    ar    yr    ochr    arall    i    wal    gerrig,    criafolennau    mae’n    debyg,    efallai    maen    nhw’n cynllunio   plannu   coed   ar   yr   ochrau.   Os   ydyn   nhw’n   llwyddo   yn   y   blanhigfa   mi   fydden   nhw’n   iawn   ar   yr ochrau   achos   roedd   y   blanhigfa   ar   yr   ochrau,   os   dach   chi’n   deall   beth   dw   i’n   feddwl.   Wrth   dynnu’r   lluniau roeddwn   i   wedi   cael   fy   ngadael   ar   ôl   dipyn   ond   doedd   hi   ddim   yn   anodd   eu   dal   nhw   i   fyny,   beth   bynnag roedden   nhw   wedi   casglu   mewn   grŵp   ac   yn   sgwrsio.   Ymunais   a   nhw   â   gweld   wyneb   cyfarwydd   yn   eu   mysg, wyneb   nad   oedd   efo   ni   ar   y   cychwyn,   wyneb   efo   gwên   fawr   gyfeillgar,   dyn   barfog   efo   ffon.   Pwy   oedd   o?   Wel, neb   llai   na   John   Harri   a   oedd   wedi   dod   i   fyny   i’n   cyfarfod   ni.   Braf   ei   weld,   a   wnaeth   o   gerdded   yn   ôl   efo   ni   tan i ni gyrraedd y lôn lle wnaethon ni droi i’r chwith a fynta droi i’r dde ac yn ôl i’w gar.  Dilyn   llwybr   trwy   gaeau   wedyn   a’r   haul   wedi   penderfynu,   ar   ôl   amser   hir   o   bendroni,   i   ddangos   ei   hwyneb. Gresyn   nad   oedd   hi   wedi   gwneud   y   penderfyniad      ynghynt   er   mwyn   i   ni   fwynhau   golygfeydd   ysblennydd   o ben   y   mynydd.   Ond   er   hynny   roedd   y   daith   yn   hyfryd   a   sgyrsiau   diddorol   efo   llawer   o’r   aelodau.   Roedd   y wybodaeth   am   frwdfrydedd   am   yr   iaith   Gymraeg   sydd   yn   cynyddu   yn   ardal   Y   Fenni   yn   codi   fy   nghalon. Mae’r   Fenni   yn   dangos   y   ffordd   i   ni   i   gyd,   diolch   yn   fawr   iddyn   nhw.   A   diolch   yn   fawr   iawn   i   Helen   hefyd   am yr   holl   waith   o   baratoi   er   mwyn   i   ni   gael   diwrnod   pleserus   yn   yr   awyr   iach   efo   ffrindiau   diddorol   trwy gyfrwng Iaith y Nefoedd. Diolch Helen.
Geirfa Cawlach go dda - a real botch Man cyfarfod - meeting point Man cychwyn - starting point Tebygrwydd - probability, likelyhood Tagfa - traffic jam Cylchdro - roundabout Ar gyrion - on the outskirts Paled - pallet Hunan fflangellu - self flagellation Cwmwl bygythiol - threatening cloud Yn ein mysg - in our midst Draenen ddu - blackthorn Ehedydd - skylark Anweledig - unseen Twrio - to rummage Cysylltiad - connection Isymwybod - subconscious Cadarnhau - to confirm Unlle - nowhere Hyd y gwn i - as far as I know Wyneb i waered - upside down Clicied - trigger Pensaer - architect Anghysbell - remote Yn y gofod - in space Planhigfa - plant nursery Criafolen - mountain ash Dyn barfog - bearded man Pendroni - to mull over
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen
Cwmdu Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Y    tro    yma    mi    nes    i    adael    y    tŷ    mewn    digon    o    amser, doeddwn    i    ddim    eisiau    bod    yn    hwyr.    Dydd    Sadwrn diwethaf    roeddwn    i    wedi    gwneud    cawlach    go    dda    o bethau   a’r   canlyniad   oedd   cyrraedd   y   man   cyfarfod   10 munud   ar   ôl   i   bawb   gadael   ar   y   bws   i’r   fan   cychwyn.   Dw i’n   byw   yn   Abertawe   ac   roeddwn   i’n   anelu   at   Dale   yn   sir Benfro,   digon   hawdd,   dw   i’n   nabod   y   lle   yn   iawn.   Wrth gyrraedd   St   Clears   mae   ‘na   ddewis   o’ch   blaen,   mynd   i Ddoc    Benfro    a    chroesi’r    bont    i    Neyland    neu    anelu    at Hwlffordd.   Fel   arfer   bydda   i’n   dewis   Doc   Benfro   ond   fel dach   chi’n   gwybod   roedd   Tywysog   Harri’n   priodi   Angela Merkel   ar   y   diwrnod   hwnnw   felly   roedd   debygrwydd   bod pawb   eisiau   stocio   fyny   efo   bwyd   a   diod.   Bydd   hynny'n achosi   tagfa   fawr   ar   y   cylchdro   jest   cyn   y   bont.   Hwlffordd amdani   felly.   A   dyma   fi   ar   gyrion   Hwlffordd   a’r   Sat   Naf eisio   i   mi   fynd   heibio   Broad   Haven   a   finnau,   y   dyn   sydd yn    meddwl    bod    o’n    gwybod    pob    beth,    yn    penderfynu anelu   at   Aberdaugleddau.   Aeth   pethau’n   waeth,   roeddwn i   wedi   gadael   y   tŷ   yn   rhy   hwyr   yn   y   lle   cyntaf   ond   wedi gwneud   yn   dda   i   gael   yr   amser   yn   ôl.   Dyma   fi   rŵan   ar lonydd   cul   a’r   holl   amser   sbâr   wedi   diflannu,   yn   waeth byth   roedd   hen   dryc   picyp   yn   cario   dau   paled   o   ddim   byd yn   mynd   yr   un   ffordd   a   fi,   petasai   fo   wedi   bod   tu   ôl   i   mi fydda ddim problem ond yn anffodus roedd o flaen.   Ond   nad   ydw   i   yma   i   sôn   am   wythnos   diwethaf   a   dw   i wedi   cael   digon   o   hunan   fflangellu   am   y   tro   felly   beth   am daith   Helen   Morgan   yn   ardal   Cwmdu   ger   Tretŵr?   Mi   wna   i ddechrau   wrth   eich   sicrhau   fy   mod   i   wedi   cyrraedd   mewn pryd   ac   mi   oedd   13   ohonom   ni   yn   gyfan   gwbl.   Roedd   y diwrnod   yn   sych   ond   roedd   cwmwl   bygythiol   yn   gorwedd yn   dawel   uwchben   y   bryn,   gwrthrych   ein   taith.   Roedd aelod   newydd   yn   ein   mysg   ond   dim   ond   aelod   newydd   i ni,    mae    Mary    o    Ddolgellau    fel    arfer    yn    cerdded    efo’r Gymdeithas   yn   y   gogledd   orllewin,   roedd   croeso   mawr iddi wrth gwrs. Amser   cychwyn   a   ffwrdd   â   ni   i   lawr   lôn   dawel,   blodau gwyn   y   ddraenen   ddu   yn   eu   llawn   gogoniant   ym   mhob man.   Trwy   gae,   dros   bont   a   chyrraedd   gwaelod   y   bryn   a dechrau’r   gwaith   dringo.   Wrth   fynd   yn   uwch   ac   yn   uwch dylen   ni   gallu   gweld   golygfa   wych   tu   ôl   i   ni   ond   roedd   y diwrnod   braidd   yn   niwlog.   Roedd   yr   awel   yn   gymedrol   ac yn    fwyn    a’r    glaw    yn    cadw    draw    ac    roedd    yr    ehedydd anweledig      yn   brysur   ganu   ei   gan   rywle   uwch   ein   pennau. Yn    sydyn    ddoth    y    gawod    a    phawb    yn    twrio    lawr    i’w sachau   am   gôt   ond   wnaeth   y   glaw   ddim   para.   Cyn   dim roedden    ni    wedi    cyrraedd    y    pen    a    chael    cerdded    yn hamddenol   i   le   cyfleus   i   gael   ein   picnic   wrth   ochr   Llwybr   y Bannau.   Yma   ges   i’r   siawns   i   siarad   efo   Mary   a   dweud wrthi    am    fy    nghysylltiad    â    Dolgellau,    Nain    a    Thaid    yn cadw   Siop   Newydd   yn   Sgwâr   Eldon.   Ia,   roedd   hi’n   cofio Nain   a   hefyd   Anti   May   a   chawson   ni   sgwrs   ddifyr   iawn   am y   dref   lle   nes   i   dreulio   llawer   o   amser   efo   Nain,   Nain annwyl    a    oedd    yn    sbwylio    ni    gymaint.    Braf    iawn    yw meddwl   yn   ôl   ac   ail-gofio   pethau   sydd   wedi   disgyn   mor bell   i’r   isymwybod.   Un   peth   oedd   yn   ddiddorol   oedd   iddi ofyn    a    oeddwn    i’n    mynd    i    siop    barbwr    Spratts    i    gael torri’n     wallt     yn     ystod     fy     ymweliadau     ac     mi     nes     i gadarnhau   yr   oeddwn   i.   Y   peth   yw   dydw   i   ddim   yn   cofio mynd   i   unrhyw   le   arall   i   gael   torri   gwallt.   Doedd   unlle   ym Moelfre   hyd   y   gwn   i   ac   nad   ydw   i’n   cofio   mynd   i   Benllech chwaith,   ond   mae   gen   i   ryw   gof   o   lawer   o   fechgyn   y   pryd efo’r   un   steil.   Y   fath   o   steil   lle   mae   rhieni   yn   rhoi   bowlen pwdin   wyneb   i   waered   ar   eich   pen   a   thorri   math   o   'Celtic fringe'   o   gwmpas   y   pen.   Dyna   oedd   steil   yr   oes   ac   mae’n debyg   iawn   roedd   Nain   yn   cymryd   piti   drosom   ni   a   thalu   i ni   gael   job   go   dda   i’w   wneud   ar   ein   pennau.   Efallai’n   wir er   mwyn   i   ni   fod   yn   daclus   pan   oedd   hi’n   mynd   a   ni   i’r capel, ia, dyna fo mae’n debyg! Ond   y   peth   mwyaf   od   oedd   i   Mary   ddweud   ei   bod   hi’n nabod   rhywun   o   Marianglas   a   oedd   yn   Ysgol   Dr   Williams efo   hi,   merch   o’r   enw   Sioned.   Wel   roedd   Sioned   yn   byw drws   nesaf   i   ni,   tybed   yr   un   hogan?   Roedd   hi   a   fy   chwaer Rhian   yn   cael   gwersi   marchogaeth   gyda’i   gilydd   a   Sioned wedi   cael   damwain   a   niwed   difrifol   i’w   braich.   Doedd   y niwed   byth   wedi   gwella   felly   nes   i   ofyn   a   oedd   rywbeth   yn bod   efo’i   braich.   Oedd   medda   hi,   felly   gawson   ni   sgwrs am   Sioned   a’i   hanes.   Roedd   cyfnither   Sioned   yn   Ysgol   Dr Williams    hefyd    ond    doedd    Mary    ddim    yn    cofio’n    iawn beth    oedd    ei    enw    “Gwerfyl”    medda    fi,    a    ro’n    i’n    iawn. Mae’n   syndod   beth   sydd   yn   dal   yna   yn   eich   isymwybod, enw   rhywun   nad   oeddech   chi’n   nabod   yn   dda   o   gwbl   a dros   chwe   deg   o   flynyddoedd   wedi   mynd   heibio.   Mae maint   y   stordy   yn   eich   pen   yn   llawer   mwy   nag   yn   eich cyfrifiadur   a   does   dim   ond   rhaid   cael   y   glicied   iawn   i   gael nhw   yn   ôl   i’ch   cof.   Sgwrs   ddiddorol   a   phleserus   dros   ben. Ond     pam     oedd     Mary     wedi     dweud     bod     Sioned     o Farianglas?   Wel   roedd   tad   Sioned   yn   bensaer   a   thua’r   un amser   i   ni   symud   i   lawr   i’r   De   roedd   o’n   adeiladu   tŷ   ym Marianglas.   QED,   fel   oedd   y   Rhufeiniaid   a   Phythagoras   yn dweud! Roedden   ni   mewn   lle   anghysbell   ac   yn   gallu   gweld   yn   bell a   doedd   dim   tŷ   na   phobol   i’w   gweld   yn   unman.   Yn   sydyn roedd   criw   reit   fawr   o   bobl   ifanc   yn   dod   i’r   golwg   ar   y gorwel   mewn   dillad   llachar,   roedden   nhw’n   ysgafn   ar   eu traed   ac   yn   dod   tuag   atom   ni’n   gyflym.   Ddaru   nhw   stopio am   sgwrs,   wel   nid   sgwrs,   cawson   nhw   eu   holi   wrth   gwrs, wedi’r   cwbl   Cymry   ydan   ni   a   dan   ni   eisio   gwybod   hanes pobl   ynte!      Roedden   nhw   o   ryw   goleg   ac   yn   hyfforddi darllen    mapiau    neu    rywbeth    tebyg,    esgusodwch    fi    am nad    ydw    i’n    hollol    glir    am    y    pwrpas    ond    roeddwn    i’n brysur   yn   tynnu   lluniau.   Dw   i’n   siŵr   y   bydden   nhw’n   iawn, o   leiaf   wnaethon   nhw   gyrraedd   y   gorwel   arall.   Amser   yn mynd    ymlaen    a    digwyddais    weld    cwmwl    yn    codi    trwy gwm    islaw.    Waw,    dyna    beth,    mi    ydan    ni    wedi    bod    yn cerdded    uwchben    y    cymylau!    Beth    nesaf?    Cymdeithas Edward Llwyd yn cerdded yn y gofod? Roedd   ambell   i   blanhigfa   ar   yr   ochr   arall   i   wal   gerrig, criafolennau   mae’n   debyg,   efallai   maen   nhw’n   cynllunio plannu   coed   ar   yr   ochrau.   Os   ydyn   nhw’n   llwyddo   yn   y blanhigfa    mi    fydden    nhw’n    iawn    ar    yr    ochrau    achos roedd   y   blanhigfa   ar   yr   ochrau,   os   dach   chi’n   deall   beth dw   i’n   feddwl.   Wrth   dynnu’r   lluniau   roeddwn   i   wedi   cael   fy ngadael   ar   ôl   dipyn   ond   doedd   hi   ddim   yn   anodd   eu   dal nhw   i   fyny,   beth   bynnag   roedden   nhw   wedi   casglu   mewn grŵp    ac    yn    sgwrsio.    Ymunais    a    nhw    â    gweld    wyneb cyfarwydd    yn    eu    mysg,    wyneb    nad    oedd    efo    ni    ar    y cychwyn,   wyneb   efo   gwên   fawr   gyfeillgar,   dyn   barfog   efo ffon.   Pwy   oedd   o?   Wel,   neb   llai   na   John   Harri   a   oedd   wedi dod    i    fyny    i’n    cyfarfod    ni.    Braf    ei    weld,    a    wnaeth    o gerdded   yn   ôl   efo   ni   tan   i   ni   gyrraedd   y   lôn   lle   wnaethon ni droi i’r chwith a fynta droi i’r dde ac yn ôl i’w gar.  Dilyn   llwybr   trwy   gaeau   wedyn   a’r   haul   wedi   penderfynu, ar   ôl   amser   hir   o   bendroni,   i   ddangos   ei   hwyneb.   Gresyn nad   oedd   hi   wedi   gwneud   y   penderfyniad      ynghynt   er mwyn    i    ni    fwynhau    golygfeydd    ysblennydd    o    ben    y mynydd.   Ond   er   hynny   roedd   y   daith   yn   hyfryd   a   sgyrsiau diddorol   efo   llawer   o’r   aelodau.   Roedd   y   wybodaeth   am frwdfrydedd   am   yr   iaith   Gymraeg   sydd   yn   cynyddu   yn ardal   Y   Fenni   yn   codi   fy   nghalon.   Mae’r   Fenni   yn   dangos   y ffordd   i   ni   i   gyd,   diolch   yn   fawr   iddyn   nhw.   A   diolch   yn fawr   iawn   i   Helen   hefyd   am   yr   holl   waith   o   baratoi   er mwyn    i    ni    gael    diwrnod    pleserus    yn    yr    awyr    iach    efo ffrindiau diddorol trwy gyfrwng Iaith y Nefoedd. Diolch Helen.
Geirfa Cawlach go dda - a real botch Man cyfarfod - meeting point Man cychwyn - starting point Tebygrwydd - probability Tagfa - traffic jam Cylchdro - roundabout Ar gyrion - on the outskirts Paled - pallet Hunan fflangellu - self flagellation Cwmwl bygythiol - threatening cloud Yn ein mysg - in our midst Draenen ddu - blackthorn Ehedydd - skylark Anweledig - unseen Twrio - to rummage Cysylltiad - connection Isymwybod - subconscious Cadarnhau - to confirm Unlle - nowhere Hyd y gwn i - as far as I know Wyneb i waered - upside down Clicied - trigger Pensaer - architect Anghysbell - remote Yn y gofod - in space Planhigfa - plant nursery Criafolen - mountain ash Dyn barfog - bearded man Pendroni - to mull over