Gydangilydd.cymru

Copperopolis II

Dyma’r ail waith i mi gael fy sbwylio'r flwyddyn yma a dim ond dechrau mis Chwefror yw hi. Sut? Taith gerdded ar stepen y drws! Wythnos diwethaf cymerodd ddwy awr i gyrraedd y man cyfarfod, ddoe - deg munud hawdd. Roedden ni’n cerdded yn ardal Llansamlet/Treforys. Eirian oedd yn ein harwain a chawsom lawer o hanes difyr yr ardal a thrît arbennig i orffen. Roedden ni’n cyfarfod yn y maes parcio wrth ochr y llyn yn Llansamlet ac roedd 22 ar y daith, tywydd sych ond wyntog. Cerddon ni i lawr i’r llwybr beicio sydd yn dilyn yr afon Tawe a chroesi’r bont i gyrraedd yr ochr orllewinol a cherdded i gyfeiriad Stadiwm Liberty. Ar y topiau pell roedden ni’n gweld adfeilion Castell Morys, allech chi weld yr adfeilion o lawer o lefydd ond peth hollol wahanol oedd dod o hyd i’r lle go iawn. Heddiw, am y tro cyntaf, bydda i’n cael y siawns i sefyll yna a chael yr hanes. Arhoswn ni o dan bont y rheilffordd, pont oedd wedi cael ei gynllunio gan Isambard Kingdom Brunel. Mae’r bont yn ymestyn o un ochr y cwm i’r llall yn urddasol ac yn uchel iawn. Roedd adeiladau yn cael eu codi i bara yn y dyddiau yna! Croesi’r ffordd ddeuol brysur a cherdded i fyny Ffordd Siloh tuag at Frynhyfryd heibio capeli pwysig yn eu pryd ond gwag, cyrraedd Ffordd Cwm Lefel i ddisgyn i’r gwaelod a throi tuag at fynwent Cwmgelli. Dw i wedi bod yn byw yn Abertawe ers pymtheg mlynedd erbyn hyn ond dyma fi yn gweld rhan o’r ddinas am y tro cyntaf ac mi fyddaf yn gweld llawer mwy erbyn diwedd y daith. Dyma ni’n dilyn llwybr i mewn i Barc Llywelyn, wedi cael ei enwi ar ôl John Dilwyn Llywelyn, diolch byth am hynny hefyd. Tasa’r parc wedi cael ei enwi ar ôl Llywelyn ein Llyw Olaf bydd rywun wedi ei newid i ‘Prince of Wales Park’ erbyn hyn! Wrth fynd i mewn i’r parc roedden ni yn sydyn allan yn y wlad fel petai yn cerdded ar lwybr estyllod (na Leighton, dydw i ddim wedi gwneud y gair i fyny. Mae’n golygu ‘boardwalk’). Islaw mae pyllau dŵr llawn grifft - mae’r gwanwyn ar y ffordd. Mynd ymlaen ac allan o’r parc a dilyn llwybr cul a chyrraedd pen y bryn i weld adfeilion Castell Morys a chael ein croesawu gan wynt cryf. Rŵan mae’n amser fod yn onest, nid castell sydd fan hyn er mae’n edrych fel castell o bell. Beth sydd yma yw adfeilion dau dŵr o bedwar gwreiddiol a chafodd eu hadeiladu tua 1770 gan John Morris. Dyma’r dyn roddodd y Morris yn Morriston, neu Treforys. Roedd gan bob tŵr bedwar llawr a phob llawr yn fflat i’w weithwyr. Mae’n debyg mai dyma oedd un o’r enghreifftiau cyntaf o ddarparu fflatiau i weithwyr, dyn o flaen ei amser yn wir. Maen nhw’n edrych i lawr ar ardal fechan oedd yn cynhyrchu mwy o gopr nag unrhyw le arall yn y byd. Roedd y Llyngesydd Nelson wedi ymweld â’r ardal ac roedd copr o Abertawe yn cael ei ddefnyddio ar waelod llongau’r llynges. Roedd hyn yn eu gwneud yn fwy cyflym yn y dŵr achos roedd gwyddau môr ddim yn tyfu ar gopr. Roedd y cyfnod hynny yn cynrychioli oes aur Cymru. Roedd gwynt cryf yn gwneud hi’n anodd iawn sefyll wrth ochr yr adfeilion ac yn siŵr bydd golch y trigolion yn sychu’n gyflym iawn yn y gwynt, cyn belled â bod y dillad wedi cael eu clymu’n dynn ar y lein! Yn ôl i Barc Llywelyn rŵan i gael ein picnic a dyna ble welais, trwy sgerbwd y coed, ceffylau yn rhedeg o gwmpas yn chwareus yn y pellter. Dw i’n cofio meddwl pa mor lwcus oedden ni bod nhw mor bell i ffwrdd, mae ceffylau yn rhedeg o gwmpas yn codi ofn ar rywun. Eisteddais yn ôl yn hapus fy myd. Ond nes ymlaen nes i sylweddoli bod Eirian yn mynd â ni i’r union gyfeiriad yna, oes angen poeni dwedwch? Wrth feddwl am hyn am beth amser mi wnes i berswadio fy hun bod Eirian y fath o berson allech chi ddibynnu arno i edrych ar eich olau. Roedd fy ymresymiad yn iawn! Doedd dim trafferth, pam oeddwn i’n poeni? Ar ôl y ceffylau roedden ni’n ôl ar gyrion y dre ac aethon i mewn i barc Treforys ac yn fuan roedden ni yn Nhreforys a Chapel y Tabernacl o’n blaenau. Cyn i’r ffordd newydd gael ei adeiladu roedd pawb yn gyrru heibio’r Tabernacl ar y ffordd i Gwm Tawe a hyd yn oed rŵan mae’n siŵr bod gan bawb delwedd o’r capel yn eu cof. Mae’n un o eiconau Abertawe. Heddiw roedden ni’n cael y fraint o weld tu fewn, roeddwn i’n gwybod beth i ddisgwyl ond roedd cerdded trwy’r drws yn wefreiddiol, y nenfwd uchel, y galerïau a’r seddau. Popeth mewn pren glan, golau yn sgleinio’n urddasol, fel newydd. Dim sôn am damprwydd, plaster yn plicio, marciau budr. Mae rhywun yn teimlo’r balchder a’r cariad sydd yn cadw’r capel yma fel y mae. Cawsom hanes diddorol y capel gan David Gwyn John. Mawr ddiolch iddo - hynod o ddiddorol. Mae’r Tabernacl yn rhestredig Gradd 1 a does dim syniad, mae llawer o wybodaeth, lluniau hefyd, ar https://morristontabernacl.org/index_cy.ph mae’n werth ei weld. Roedd ein taith bron drosodd ond roedd un peth arbennig ar ôl ac wrth nesáu at y bont troed dros y ffordd ddeuol dyma ni yn cerdded ar y trac seiclo a’r trac yma yn dilyn ffordd yr hen gamlas. Fel cael ceiriosen ar ben y gacen dyma’r hen bont a oedd yn croesi’r gamlas. Y bont troed haearn cyfoes a’r hen bont yn yr un lle, dyna wahaniaeth! Mae’r daith yma wedi bod yn arbennig. Fel dyn dŵad does gen i ddim llawer o syniad am sut oedd fy ninas fabwysiedig yn amser ei phrysurdeb diwydiannol. Ar ôl y daith yma mae rhannau newydd o’r jig mewn lle a dw i’n ddiolchgar iawn am hynny. Felly diolch i Eirian am yr holl waith paratoi, trefnu’r ymweliad a phob peth er mwyn agor ein llygaid i ran o Abertawe bydden ni’n annhebygol o weld hebddo. Diolch i bawb am y cwmni difyr a’r siawns unwaith eto i siarad iaith y nefoedd. Ac yn olaf, diolch i’r glaw am gadw i ffwrdd! O.N. Mae Eirian wedi rhoi linc ar Facebook ble allech chi weld sut oedd pethau yn yr ardal yma. Cliciwch yma https://www.youtube.com/watch?v=waKKaIaS6ZA

Geirfa

Adfeilion – ruins Para (parhau) – to last Ffordd ddeuol – dual carriageway Llwybr estyllod – boardwalk Grifft – frogspawn Llyngesydd – Admiral Llynges – fleet Gwyddau môr – barnacles Cynrychioli – to represent Golch – the washing Dibynnu – to depend (on) Ymresymiad – reasoning Delwedd – image Gwefreiddiol – thrilling Nenfwd – ceiling Rhestredig – listed Ceiriosen – cherry Dyn dŵad – incomer Mabwysiedig – adopted Ymweliad – visit