Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Pwynt Whitford Un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Ar y 3ydd o Dachwedd roedd ein taith o Gwm Ivy i Bwynt Whitford ac yn ôl, taith oedd yn agos iawn i fy nghartref yn Abertawe ond dim ond mewn pryd nes i gyrraedd. Roedd rheswm da, wrth gwrs, ond does dim rhaid egluro ac mae stori yn aros i gael ei ddweud. Clem Lewis oedd yn arwain y daith a gan ei fod wedi treulio llawer o’i amser yn yr ardal roedd ganddo hanes diddorol i ddatgelu. Mae’n ddigon siŵr bod llawer ohonoch chi ddim wedi profi’r pleser o gerdded ar draeth Whitford gan nad yw lonydd cul Gŵyr yn rhedeg yn ddigon agos. Ond os edrychwch ar yr OS a darganfod Porth Tywyn, symudwch eich bys i lawr i’r De a gwelwch y traeth hir, dwy filltir a hanner, o Broughton i Bwynt Whitford. Efallai eich bod chi’n cofio blynyddoedd yn ôl pan oedd Bwrdd Twristiaid Iwerddon yn prysur annog pobl i ymweld â’u gwlad - roedden nhw’n pwysleisio ar y traethau hir, gwag. Traeth i chi’ch hun! Mae traeth Whitford fel hyn ac er bod safleoedd carafanau yn agos, hyd yn oed yn yr haf mae digon o le i bawb. Dewch i weld ond cadwch y gyfrinach! O’r maes parcio yng Nghwm Ivy aethon ni i’r chwith ac i fyny’r allt, troi i’r dde wrth eglwys Llanmadog ac i lawr y lôn a dros y twyni i gyrraedd y gwynt ym mae Broughton (Bryffton, gyda llaw). Mae’r traeth yn draeth agored dros ben. Roedd y gwynt tu ôl i ni, diolch byth, a’r tywod sych yn nadreddu i ffwrdd o’n blaenau ni mewn ymdrech diobaith i gyrraedd cysgod a thawelwch. A beth sydd yna yn y pellter? Mae’n edrych fel siarc ifanc wedi cael ei olchi fyny ar y traeth ond natur dwyllodrus oedd yn chwarae hen driciau arnom - dim ond cerrig! Doedd dim posibilrwydd cyrraedd y goleudy y tro yma ond os ydych yn digwydd bod yn gwneud y daith yn y dyfodol a’r llanw allan mae’n werth cerdded dros y cerrig ond cofiwch gadw llygaid ar y llanw. M ae ’r goleudy yn bellach nag ydych yn meddwl ac yn dalach hefyd. Cafodd ei adeiladu ym 1865 ac oedd yn gweithio tan 1926, erbyn hyn mae wedi gwrthsefyll moroedd gwyllt am bron can mlynedd. Roedden nhw’n gwybod sut i adeiladu yn yr hen ddyddiau. A phwy yw’r dyn yna efo’r gwarfag trwm ar ei gefn a thrybedd dan ei gesail? Wel neb arall na fy neintydd ond roedd o wedi pasio cyn i mi sylweddoli. Cael diwrnod gwell ar ôl treulio pum diwrnod yn edrych ‘down in the mouth’! Dod ar draws lle cyfleus i gael ein picnic a chael siawns i stôcio fyny cyn ail hanner y daith. Gweld llawer o biod-y-mor yn codi o ochr y dŵr a chreu siapiau yn yr awyr cyn disgyn unwaith eto. Tonnau’r môr yn torri a’r gwynt yn chwythu’r crib i greu cesig gwynion. Tydi lan y môr yn braf, tydi bywyd yn braf! Troi i mewn i’r tir rŵan ac ynys Barges ar ein chwith, mae’r coed yn cynnig cysgod i ni a dyn ni’n gwerthfawrogi. Mae’r llwybr yn fwy agored rŵan a chyn bo hir dyn ni wedi cyrraedd pen y sarn a wnaeth dioddef oherwydd môr garw dwy flynedd yn ôl, y dŵr wedi torri trwodd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi penderfynu peidio â’i ail godi ac mae natur y rhan sydd yn cael ei ddyfrio dwywaith y dydd wedi newid mewn ffordd ddiddorol. Mae ymdrech ar waith i godi arian er mwyn creu pont dros y bwlch ac ail sefydlu’r llwybr troed. Beth nesaf, codi arian i lenwi’r tyllau yn y ffyrdd? Dw i’n dweud dim! Cyrraedd y giât ac yn ôl ar y Tarmac, o’n blaenau ni yw’r ‘peth dringo’ yn nisgrifiad y daith ond dim ond pennau i lawr a phlod sydd rhaid ac mewn dim dyma ni yn ôl at ein ceir. Diolch yn fawr i Clem am yr holl drefniadau a’r wybodaeth wnaeth o rannu efo ni ar y daith. Geirfa Egluro – to Explain Annog – to encourage Pwysleisio – to emphasise Nadreddu – to snake Diobaith – no hope Twyllodrus – deceieving Gwrthsefyll – to withstand Gwarfag – rucksack Thrybedd – tripod Dan ei gesail – under his arm Piod-y-môr - oystercatchers Crib – crest Cesig gwynion – white horses Sarn - causeway
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen