Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl
Ardal Castell Rhaglan Un o Deithiau Cymdeithas Edward Llwyd Roedd pobl y tywydd wedi rhybuddio diwrnod Sadwrn gwlyb, rhywbeth mawr yn dod dros mor yr Iwerydd ond “Peidiwch â phoeni, sôn am y tywydd ydan ni nid Mr Trump!” medden nhw. Roedd rhaid twrio trwy’r wardrôb i chwilio am fy nillad glaw - mae’n oes pys ers i mi orfod gwisgo nhw. Tydan ni wedi cael haf braf! Mae Rhaglan ar ffiniau ein gwlad fach ni a’r ffordd gorau i’w gyrraedd yw’r A465, ffordd Blaenau’r Cymoedd ac roedd awr a hanner yn hen ddigon. Roedd y ffyrdd yn wlyb a’r glaw yn disgyn a phethau ddim yn edrych yn dda ond os nad oedd siawns i gerdded bydd siawns i siarad. Cyrraedd Rhigos yn fuan iawn a dim llawer o drafnidiaeth yn ardal Merthyr, o leiaf na fydda i’n hwyr. Wel sôn am siarad yn rhy fuan, roedd rhan helaeth o’r ffordd wedi cau achos y gwaith mawr sydd yn cael ei wneud rhwng ardal Rasau a Gilwern ac roedd rhaid dilyn arwyddion melyn. Roeddwn i’n colli amser yn gyflym ac yn waeth byth pan wnes i gyrraedd yr A465 unwaith eto a gorfod cymryd y trydydd troad ar y cylchdro ar gyrion Y Fenni mi wnes i sylweddoli fy mod i’n dda i ddim am gyfri i fyny at dri. Yn rhy hwyr roeddwn i ar y ffordd i Gasnewydd. Wrth gwrs mae dynes y SatNav yn dda iawn at greu planiau B ac yn fuan iawn roedd hi’n argymell troad i’r chwith. Roedd y ffordd braidd yn gul a lawnt reit dda yn rhedeg i fyny’r canol, roeddwn i’n disgwyl gweld defaid yn pori! Ond wrth gwrs mae hi’n iawn pob tro ac mewn dim roeddwn i ar y ffordd ddeol ac yn anelu at Rhaglan ychydig o filltiroedd i ffwrdd. Diolch yn fawr Sandra SatNav! Ydw i wedi dweud wrthoch chi roedd hi’n bwrw glaw? Wel roedd hi dal yn bwrw a grŵp bach y ffyddlon a dewr yn barod am fynd. Cawsom amser i feddwl am Gareth Beynon bu farw dros y penwythnos gynt, dyn arbennig, tawel ond llawn brwdfrydedd am Gymru, ei chefn gwlad a’r iaith. Gan fy mod i’n defnyddio’r camera ar y teithiau roeddwn i’n tueddu cerdded yng nghefn y rhes efo Gareth a ches i lawer o fwynhad yn ei gwmni. Mi nes i dynnu’r llun yma ar hap pan oedden ni ar daith Ena Morris yn ardal Glanfa Goetre, roedden ni’n cerdded ar drac mwdlyd a serth a Gareth yn cymryd ei amser. Clywsom sŵn beiciau modur ac mi wnaeth un fynd heibio ni, roedd mwy ar y ffordd felly dringais yr ochr i dynnu llun wrth iddyn nhw fynd heibio. Ar yr un eiliad i mi wasgu’r botwm wnaeth Gareth droi, ei wyneb yn llawn gwên - roedd o wedi cael ei gyffroi a’i bleser yn amlwg. Rŵan dw i wedi bod yn tynnu lluniau ar y teithiau cerdded yma am dipyn dros flwyddyn a dyma’r unig un o’r fath dw i wedi tynnu. Llun lwcus a llun sydd yn dangos cymeriad Gareth i’r dim. Roedd Gareth yn ŵr bonheddig yn wir ystyr y geiriau ac mae o’n golled fawr i’n teithiau. Diolch am bob munud o’i gwmni. Heddwch i’w lwch. Cyn i ni ddechrau’r daith wnaeth Olwen ein rhybuddio am geffylau busneslyd fydden ni’n gweld ar y daith, gwartheg hefyd. Cyn i ni gael y siawns i anghofio’r rhybudd dyma ni yng nghanol cae wedi cael ein hamgylchynu gan nifer o geffylau hyfryd a’r cwestiynau! Peidiwch â son! “Pwy ydach chi?” “O le dach chi’n dod?” “Ble dach chi’n mynd?” “Dach chi’n digwydd siarad Cymraeg?” Roedd Olwen wir yn llygaid ei lle - roedden nhw’n ofnadwy o fusneslyd! Allan o’r caeau rŵan ac Olwen yn dangos i ni o’r enw ‘The Hand’ ac esbonio mai tafarn oedd y yn wreiddiol ac yn reit debyg roedd y llwybr oedden ni wedi bod yn cerdded yn llwybr roedd y sychedig yn defnyddio er mwyn cael peint neu ddwy, neu mwy. Nes ymlaen roedd wedi ei rannu i ddau mawr a oedd ar un adeg yn ysgol, a dyma ni yn gweld llwybr oedd y plant ysgol wedi defnyddio blynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn dyn ni’n eu defnyddio mewn ffordd hamddenol, mor wahanol i’r bobl yn brysio i gael diod feddwol a’r plant yn ofn bod yn hwyr i’r ysgol. Symud ymlaen a dechrau teimlo bod y glaw yn gostegu a dod ar draws eglwys Penrhos a chymryd mantais o’i phorth cyfleus a oedd yn ddigon mawr i eistedd 8 o gerddwyr diolchgar ond dim mwy. Da ynte! I wneud yn siŵr bod ni’n teimlo’n gartrefol roedden nhw wedi addurno’r llwybr efo pompiynau lliwgar. Croesawgar iawn ac mi fydden nhw’n gosod y tôn am y gwasanaeth diolchgarwch y diwrnod wedyn hefyd. Gwneud ein ffordd yn ôl rŵan a chyrraedd y cae lle oedd y ceffylau ac ia, roedden nhw llawn cwestiynau unwaith eto. Ond roedd Olwen wedi gaddo gwartheg busneslyd hefyd, ble oedden nhw? Gwelsom ni nhw o bell ond am ryw reswm roedden nhw’n brysur drio dianc o’n golwg ni. Aethom ni i gaffi Castell Rhaglan wedyn a chael dipyn o luniaeth a chlonc. Roedd hi wir wedi bod yn daith i fwynhau er holl fygythiadau’r tywydd ac mae gwers yna - peidiwch â gadael i ragolygon y tywydd rhwystro chi rhag cerdded. Maen nhw’n anghywir yn aml ac os oes gynnoch chi ddillad ac esgidiau da byddech chi’n iawn. Diolch i bawb am y cwmni da ac yn enwedig i Olwen am yr holl waith paratoi ac am daith gofiadwy. Geirfa Twrio – to rummage Oes pys – a long time Trafnidiaeth – traffic Rhan helaeth – a large part (of) Argymell – to suggest Ar hap – by chance Gwr bonheddig – a gentleman Yn wir ystyr – in the real sense Amgylchynu – to surround Llygaid ei lle – absolutely correct Sychedig – thirsty Diod feddwol – alcoholic drink Porth – porch Pompiynau – gourds Gwasanaeth diolchgarwch – harvest festival service
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen