Gydangilydd.cymru

Ardal Bow Street

Roedd ein taith dydd Sadwrn yn ardal Bow Street, dros 70 milltir o Abertawe ond roeddwn i’n hapus i wneud y daith er mwyn cael y cyfle i grwydro ardal doeddwn i ddim wedi crwydro ynddo o’r blaen. Felly gadael y cyn 8.00 i adael digon o amser i gyrraedd. Pan dach chi’n gwneud siwrne mor hir dach chi ddim eisio cyrraedd pan mae pawb wedi gadael. Yn amlwg mae rhan fwyaf o bobl yn aros yn eu gwlâu ar ddydd Sadwrn ar ôl wythnos galed o waith felly ysgafn iawn oedd y drafnidiaeth. Mi nes i gyrraedd y man cyfarfod toc wedi 10.00, digon o amser ac roedd criw reit dda o gerddwyr wedi cyrraedd yn barod. Mae trigolion Bow Street wedi gorfod dioddef llawer yn y misoedd diwethaf efo gwaith rhoi wyneb newydd ar y ffordd trwy’r pentref, dw i’n cofio gorfod aros yn hir pan o’n i ar fy ffordd i lawr o’r gogledd ym mis Rhagfyr ac mae goleuadau yn dal yna. Wrth i ni ddechrau ein taith roedd cwmni Tarmac yn brysur yn rhoi haen daclus o Tarmac ar y pafin wrth i ni fynd rhwng y tai at y drws cefn allan o’r pentref. Croesi’r rheilffordd a cherdded i fyny’r cau tuag at fferm Ruel Uchaf a gwneud ein ffordd trwy fuarth mwdlyd - dyma ni yn y mwd unwaith eto! Dringo mwy a chyrraedd safle Castell Gwallter. Roedd y castell yn un o tua 500 a chafodd ei adeiladu yn yr ardal er mwyn cadw ein cyndeidiau dan reolaeth. Meddyliwch am hynny! Yn amlwg roedden ni’n ddigon dewr i roi cur pen i’r Normaniaid. Cafodd y castell ei adeiladu gan y marchog Walter de Bec â oedd yn byw bywyd dedwydd yna tan i Owain Gwynedd gnocio ar ei ddrws ym 1136 a’i daflu allan. Fo pia’r lle tan i Arglwydd Rhys a’i frodyr daflu fo allan ym 1153. Dw i’n gwybod maen nhw’n dweud “An Englishman’s home ...” ac yn y blaen ond mae’n rhaid dweud ein bod ni’n cael mwy o sicrwydd efo’n heiddo'r dyddiau yma nag oedden nhw. Cyn belled â bod ni’n gallu talu’r morgais, wrth gwrs! Mae’r holl gerrig wedi diflannu erbyn hyn - roedd ailgylchu yn boblogaidd iawn adeg hynny. Yn ddiweddar mae rhywun wedi clirio’r llwybr i ben y twmp ac i fanna aeth y 35 ohonom ni er mwyn gwerthfawrogi’r olygfa, wel roedd rhaid defnyddio dychymyg mae gen i ofn. Yn anffodus doedden ni ddim yn gallu gweld yn bell o achos y niwl ond roeddem ni’n gallu gweld safle Caer Pwll Glas ar y bryn tri chwarter milltir i ffwrdd. Caer o’r oes haearn oedd hi, doedden ni ddim yn gallu gweld dim byd achos mae pen y bryn dan goed bytholwyrdd. Yn agos iawn i fan hyn aethon ni heibio safle ble roedd hen beiriannau amaethyddol, peiriannau bydda’r ffermwr yn gorfod troi efo handlen, gwaith caled iawn. Ond roedd wedi cael ateb i’r broblem ac wedi gosod teclyn ble mae ceffyl yn cerdded mewn cylch a siafft o’r teclyn i’w gysylltu â’r peiriannau. Gobeithio eich bod chi’n gwybod beth dw i’n trio dweud. Roedd fel ein bod ni’n sefyll ar safle Chwyldro Amaethyddol, yr arwyddocâd ar goll i lawer sy’n cerdded heibio. Cerdded yn bellach i lawr y ffordd rŵan tan i ni gyrraedd cornel. Allwn ni delio efo corneli, dim trafferth ond roedd dyfnder o ddŵr yn ymestyn o un ochr i’r llall a llaid ar yr ochrau. Roedd rhai yn picio eu ffordd trwodd yn barod a’u ‘sgidiau yn mynd yn ddwfn i’r dŵr - roedd rhaid i ninnau fentro hefyd. Ar y ffordd i Lanfihangel Genau’r Glyn rŵan, cyrraedd cornel a gweld Borth a’r Afon Lefi islaw ni ond eto methu gweld Aberdyfi trwy’r niwl. Piti garw, ar ddiwrnod gwell bydd y daith yma wedi ein gwobrwyo gan olygfeydd ysblennydd - all neb reoli’r tywydd! Cymryd llwybr i’r dde a disgyn i lawr trwy goed, cyrraedd llidiart a chael ein hunain mewn hen fynwent wedi ei greu ar ochrau serth ofnadwy ac ymysg coed mawr. Anodd credu bod rhywun wedi penderfynu ddechrau’r fath prosiect. Fel wnaethon ni ddarganfod wythnos diwethaf mae mynwentydd yn llefydd arbennig i gael picnic. Ymlaen trwy Dol y Bont a dros gaeau i Glan Frêd ble gafodd Edward Llwyd ei eni cyn cerdded trwy Lanfihangel Genau’r Glyn unwaith eto ac yn ôl at y ceir. Ar ôl daith o ddwy awr bob ffordd roedd yn ddiwrnod hir i mi ond, er nad oeddem yn gallu gweld yn bell oedd yn braf iawn i ddefnyddio’r dychymyg a gweld golygfeydd godidog. Diolch yn fawr i Rees Thomas am yr holl waith paratoi, yr hanes, i gyflwyno ni i fynwent unigryw a hen gartref Edward Llwyd. Diolch i bawb am yr holl sgyrsiau difyr ac am y cwmni da. Tan y tro nesaf – Hwyl!

Geirfa

Trafnidiaeth – traffic Buarth mwdlyd – muddy farmyard Bywyd dedwydd – a blissful life Pia – to own Sicrwydd – certainty Eiddo – possessions Cyn belled â – as long as Dychymyg – imagination Coed bytholwyrdd – evergreen trees Chwyldro amaethyddol – agricultural revolution Arwyddocâd – significance Llaid – mud Gwobrwyo – to reward Piti garw – a great shame