Gydangilydd.cymru
Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed Doeddwn i ddim yn mynd i fod ar y daith yma achos roedd taith yn y gogledd yn ardal y Waun Fawr yng Ngwynedd. Dw i’n mwynhau cael taith efo ein grŵp yn y gogledd pob hyn a hyn, fel maen nhw’n dweud “Mae pob newid yn change” ynte! Felly dyna le o’n i yn ardal Porthmadog yn barod am y diwrnod, roedd hi’n fore dydd Gwener a phobl y tywydd wedi gaddo bydd y glaw yn clirio cyn hanner dydd. Digon o amser i mi bicio draw i’r dre cyn mynd tuag at Gaernarfon i wneud dipyn o seiclo. Chwilio am fy nghot. Chwilio yn y garafán - dim golwg, chwilio yn y fan - dim golwg. Rhaid mod i wedi ei gadael hi adref. Beth i’w wneud? Prynu un arall efallai? Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny achos dyna beth dw i wedi gwneud o’r blaen ac mae’r got nes i brynu adref yn Abertawe. Dw i bron wedi corneli’r farchnad mewn cotiau cerdded! Felly nes i wneud fy ffordd adref yn hamddenol. Dyna pam dw i’n ysgrifennu am y daith yma, taith ddiddorol ac un nes i fwynhau. Cyrhaeddais i’r man cyfarfod ychydig o funudau ar ôl deg o’r gloch ac roedd bron pawb yna yn barod, chi’n gweld pobl gymdeithasol ydan ni. Mae’r hanner awr o gael clonc yn un o bleserau ein teithiau. Roedd y tywydd yn sych ond roedd glaw trwm wedi bod dros y dyddiau diwethaf, cawn ni weld sut fydd hi dan draed. Gwnaeth Alan Williams, ein harweinydd esbonio y bydden ni’n dechrau efo taith fer trwy’r coed i ben y bryn er mwyn cael golwg oddi uchod o’r cwm. Bydden ni’n rhannu ceir a pharcio yn y pentref, nid achos ein bod ni’n ddiog ond achos doedd dim pafin a’r ffordd yn brysur. Ymddiheuriadau i bobl y pentref ond welsom ni ddim llawer o gwmpas. Ffwrdd â ni dros bont yr afon Ddulais a dechrau dringo’n raddol. Roedd yr afon go iawn yn rhedeg yn is i lawr ar ein chwith ond roedd afon arall yn rhedeg ar ochr ddeol y ffordd hefyd ac yn cael ei fwydo gan raeadr brysur yn disgyn o’r coed. Fel o’n i’n dweud mae hi wedi bod yn wlyb iawn yn ddiweddar. Mae troad o’n blaenau ni a dyma ble mae’r Tarmac yn dod i ben a does dim ffordd i ni osgoi cael ein ‘sgidiau yn wlyb. Mewn gwirionedd dyn ni’n cerdded i fyny afon, gofal pia hi felly achos mae’r gwaelod braidd yn ansefydlog a hyd yn oed yn llithrig mewn llefydd. Wrth gymryd ein hamser mae pawb yn cyrraedd y pen yn ddiogel ac mae golygfeydd i fwynhau. Mae Alan yn enwi’r topiau yn y pellter, Fan Gyhirych, Fan Nedd, a Fan Frynych, pob un a het wen. Yn is i lawr mae Creunant, Blaendulais (cartref honedig i saith chwaer), ac Onllwyn yn bellach i ffwrdd. Tu ôl i ni mae adfail, hen ffermdy, siŵr o fod, yn ei ddydd yn adeilad mawr ond hyd y gwelwn ni dim ffordd go iawn i’w gyrraedd. Roedd yn amser i fynd felly yn ôl yr un ffordd at y ceir a’r amgueddfa i gael ein brechdanau a chael ein tywys o gwmpas. Yn wahanol i’r arfer, gan ein bod ni’n cael ein cinio yn y caffi mae paneidiau go iawn ar gael a dewis da o gacennau - moethusrwydd i fwynhau! Cawson hanes y pwll glo oddi wrth Owain a dysgu ei fod yn fab i Alan (roedd Alan yn gwybod hyn o flaen llaw, wrth gwrs). Wedyn aeth rhai ymlaen i’r galeri a chael profiad o sut oedd gweithio dan ddaear tra bod y lleill yn cael eu tywys o gwmpas yr adeiladau. Y peth cyntaf oedd y peiriant weindio, nid dim ond un segur ond un oedd yn gweithio, peth enfawr efo pistwn hir a drwm anferth yn y blaen. Yn sydyn dyma hi’n dechrau gweithio, y pistwn yn dechrau symud, y chwylolwyn a’r drwm yn troi. Gwaith trwm, peiriannau mawr. Ar ôl gweld hen dram nwy Castell- nedd a chael y cyfle i grwydro trwyddi a chael atgofion o’r profiad go iawn neu, i’r ifancaf cael y profiad cyntaf, aethon i’r boilerdy ble roedd yr ager yn cael ei gynhyrchu i redeg y peiriant weindio. Chwech ohonyn nhw a phob un yn dal ugain tunnell o ddŵr. Na allaf ddweud wrthoch chi am y galeri achos nad ydw i’n mwynhau bod o ddan ddaear ond roedd y rhai a aeth wedi mwynhau. Mae’r amgueddfa yma ar ochr yr A4109 rhwng Aberdulais a Blaendulais ac maen werth gweld. Maen rhad ac am ddim i fynd i mewn ac mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr brwdfrydig. Roedden nhw wedi agor yn arbennig ar ein cyfer ni ac, am hynny, mi ydan ni’n ddiolchgar iawn. Cawsom hwyl a chael ein haddysgu ar yr un pryd. Y tro nesaf dach chi yn yr ardal peidiwch â mynd heibio, ewch i mewn ac mi fyddech chi’n sicr o gael mwynhad mawr. Roedd 24 ohonom ni yn gyfan gwbl a chroeso mawr iddyn nhw a oedd wedi dod o ardal Crughywel, mae pob tro yn braf cael eu cwmni nhw. Yr un peth i ddweud am Wil oedd wedi dod yr holl ffordd o Wokingham. Diwrnod i fwynhau, dal i fyny efo hen ffrindiau a chael hwyl. Diolch yn fawr i bawb. Diolch arbennig i’r Williamsau, Alan ac Owain am yr holl waith paratoi ac am drosglwyddo gymaint o wybodaeth i ni gyd. O.N. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch chi, pan nes i agor y bag cefn i roi fy mrechdanau ynddo dach chi’n gallu dyfalu peth oedd ynddo? Fy nghot! Ond petaswn i wedi edrych yn y bag ddoe na fyddaf wedi bod ar y daith heddiw a bydd hynny wedi bod yn golled fawr! Geirfa Golwg oddi uchod – a bird’s eye view Dringo’n raddol – climbing steadily Ochr ddeol – right hand side Bwydo – to feed Troad – a turning Gofal pia hi – to take care Ansefydlog – unsteady Adfail – a ruin Hyd y gwelwn ni – as far as we could see Moethusrwydd – luxury Peiriant weindio – winding machine Pistwn hir – a long piston Drwm anferth – a huge drum Chwylolwyn – flywheel Ager - steam
Gydangilydd.cymru
Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed Doeddwn i ddim yn mynd i fod ar y daith yma achos roedd taith yn y gogledd yn ardal y Waun Fawr yng Ngwynedd. Dw i’n mwynhau cael taith efo ein grŵp yn y gogledd pob hyn a hyn, fel maen nhw’n dweud “Mae pob newid yn change” ynte! Felly dyna le o’n i yn ardal Porthmadog yn barod am y diwrnod, roedd hi’n fore dydd Gwener a phobl y tywydd wedi gaddo bydd y glaw yn clirio cyn hanner dydd. Digon o amser i mi bicio draw i’r dre cyn mynd tuag at Gaernarfon i wneud dipyn o seiclo. Chwilio am fy nghot. Chwilio yn y garafán - dim golwg, chwilio yn y fan - dim golwg. Rhaid mod i wedi ei gadael hi adref. Beth i’w wneud? Prynu un arall efallai? Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny achos dyna beth dw i wedi gwneud o’r blaen ac mae’r got nes i brynu adref yn Abertawe. Dw i bron wedi corneli’r farchnad mewn cotiau cerdded! Felly nes i wneud fy ffordd adref yn hamddenol. Dyna pam dw i’n ysgrifennu am y daith yma, taith ddiddorol ac un nes i fwynhau. Cyrhaeddais i’r man cyfarfod ychydig o funudau ar ôl deg o’r gloch ac roedd bron pawb yna yn barod, chi’n gweld pobl gymdeithasol ydan ni. Mae’r hanner awr o gael clonc yn un o bleserau ein teithiau. Roedd y tywydd yn sych ond roedd glaw trwm wedi bod dros y dyddiau diwethaf, cawn ni weld sut fydd hi dan draed. Gwnaeth Alan Williams, ein harweinydd esbonio y bydden ni’n dechrau efo taith fer trwy’r coed i ben y bryn er mwyn cael golwg oddi uchod o’r cwm. Bydden ni’n rhannu ceir a pharcio yn y pentref, nid achos ein bod ni’n ddiog ond achos doedd dim pafin a’r ffordd yn brysur. Ymddiheuriadau i bobl y pentref ond welsom ni ddim llawer o gwmpas. Ffwrdd â ni dros bont yr afon Ddulais a dechrau dringo’n raddol. Roedd yr afon go iawn yn rhedeg yn is i lawr ar ein chwith ond roedd afon arall yn rhedeg ar ochr ddeol y ffordd hefyd ac yn cael ei fwydo gan raeadr brysur yn disgyn o’r coed. Fel o’n i’n dweud mae hi wedi bod yn wlyb iawn yn ddiweddar. Mae troad o’n blaenau ni a dyma ble mae’r Tarmac yn dod i ben a does dim ffordd i ni osgoi cael ein ‘sgidiau yn wlyb. Mewn gwirionedd dyn ni’n cerdded i fyny afon, gofal pia hi felly achos mae’r gwaelod braidd yn ansefydlog a hyd yn oed yn llithrig mewn llefydd. Wrth gymryd ein hamser mae pawb yn cyrraedd y pen yn ddiogel ac mae golygfeydd i fwynhau. Mae Alan yn enwi’r topiau yn y pellter, Fan Gyhirych, Fan Nedd, a Fan Frynych, pob un a het wen. Yn is i lawr mae Creunant, Blaendulais (cartref honedig i saith chwaer), ac Onllwyn yn bellach i ffwrdd. Tu ôl i ni mae adfail, hen ffermdy, siŵr o fod, yn ei ddydd yn adeilad mawr ond hyd y gwelwn ni dim ffordd go iawn i’w gyrraedd. Roedd yn amser i fynd felly yn ôl yr un ffordd at y ceir a’r amgueddfa i gael ein brechdanau a chael ein tywys o gwmpas. Yn wahanol i’r arfer, gan ein bod ni’n cael ein cinio yn y caffi mae paneidiau go iawn ar gael a dewis da o gacennau - moethusrwydd i fwynhau! Cawson hanes y pwll glo oddi wrth Owain a dysgu ei fod yn fab i Alan (roedd Alan yn gwybod hyn o flaen llaw, wrth gwrs). Wedyn aeth rhai ymlaen i’r galeri a chael profiad o sut oedd gweithio dan ddaear tra bod y lleill yn cael eu tywys o gwmpas yr adeiladau. Y peth cyntaf oedd y peiriant weindio, nid dim ond un segur ond un oedd yn gweithio, peth enfawr efo pistwn hir a drwm anferth yn y blaen. Yn sydyn dyma hi’n dechrau gweithio, y pistwn yn dechrau symud, y chwylolwyn a’r drwm yn troi. Gwaith trwm, peiriannau mawr. Ar ôl gweld hen dram nwy Castell-nedd a chael y cyfle i grwydro trwyddi a chael atgofion o’r profiad go iawn neu, i’r ifancaf cael y profiad cyntaf, aethon i’r boilerdy ble roedd yr ager yn cael ei gynhyrchu i redeg y peiriant weindio. Chwech ohonyn nhw a phob un yn dal ugain tunnell o ddŵr. Na allaf ddweud wrthoch chi am y galeri achos nad ydw i’n mwynhau bod o ddan ddaear ond roedd y rhai a aeth wedi mwynhau. Mae’r amgueddfa yma ar ochr yr A4109 rhwng Aberdulais a Blaendulais ac maen werth gweld. Maen rhad ac am ddim i fynd i mewn ac mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr brwdfrydig. Roedden nhw wedi agor yn arbennig ar ein cyfer ni ac, am hynny, mi ydan ni’n ddiolchgar iawn. Cawsom hwyl a chael ein haddysgu ar yr un pryd. Y tro nesaf dach chi yn yr ardal peidiwch â mynd heibio, ewch i mewn ac mi fyddech chi’n sicr o gael mwynhad mawr. Roedd 24 ohonom ni yn gyfan gwbl a chroeso mawr iddyn nhw a oedd wedi dod o ardal Crughywel, mae pob tro yn braf cael eu cwmni nhw. Yr un peth i ddweud am Wil oedd wedi dod yr holl ffordd o Wokingham. Diwrnod i fwynhau, dal i fyny efo hen ffrindiau a chael hwyl. Diolch yn fawr i bawb. Diolch arbennig i’r Williamsau, Alan ac Owain am yr holl waith paratoi ac am drosglwyddo gymaint o wybodaeth i ni gyd. O.N. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch chi, pan nes i agor y bag cefn i roi fy mrechdanau ynddo dach chi’n gallu dyfalu peth oedd ynddo? Fy nghot! Ond petaswn i wedi edrych yn y bag ddoe na fyddaf wedi bod ar y daith heddiw a bydd hynny wedi bod yn golled fawr! Geirfa Golwg oddi uchod – a bird’s eye view Dringo’n raddol – climbing steadily Ochr ddeol – right hand side Bwydo – to feed Troad – a turning Gofal pia hi – to take care Ansefydlog – unsteady Adfail – a ruin Hyd y gwelwn ni – as far as we could see Moethusrwydd – luxury Peiriant weindio – winding machine Pistwn hir – a long piston Drwm anferth – a huge drum Chwylolwyn – flywheel Ager - steam