Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Dolennau Cyswllt Atyniadau
Ail Gydio yn yr Iaith
Geirfa
Datrys y broblem - to solve the problem Ar fin - on the brink of Rheithor - rector Ifancach - youngest Iaith yr aelwyd - language of the family Perthnasau - relatives Busnes argraffu - printing business Yn fy nghlymu fi - to tie me Casglu llwch - gathering dust
Fy arddegau - my teenage years Dychwelid - to return Ymdopi hebddo - to cope without Cymeiriadau - characters Cael gafael go dda - to have a good grasp Cyd-destun - context Ar y trywydd iawn - on the right track
Mae’r erthygl yma ar gyfer dysgwyr ond hefyd yn berthnasol i Gymry Cymraeg sydd eisiau codi eu hyder yn yr iaith. Y peth i gofio ydy ein bod ni gyd yn dysgu ein hiaith yn dawel bach trwy gydol ein bywyd hyd yn oed ein hiaith Saesneg. Mi ydan ni’n gwneud hynny trwy ddarllen, trwy wrando a thrwy siarad ond, os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i siarad, peidiwch â phoeni - darllenwch i fwynhau a gwrandewch ar Radio Cymru i fwynhau hefyd. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn deall popeth yn syth, bydd hynny yn digwydd yn araf deg. Dw i’n addo! Mae hyder yn gwneud siarad yr iaith yn rhywbeth arbennig, yn rhywbeth gwerthfawr. Roeddwn i’n 35 ar y pryd ac yn byw yn Lloegr a heb siarad Cymraeg yn rheolaidd am 25 o flynyddoedd, roedd rywbeth yn fy mhoeni fi mwy a mwy ac nad oeddwn i’n gwybod sut i fynd ati i ddatrys y broblem a lleihau’r poen. Roeddwn i ar fin colli fy iaith. I fynd yn ôl at y dechrau ces i fy ngeni yn sir Fôn lle'r oedd yr iaith Gymraeg ym mhob man, doedd dim llawer o angen siarad Saesneg. Rheithor oedd fy nhad ym mhlwyf Llanallgo ger Moelfre ond pan oeddwn i’n 10 mlwydd oed cafodd o ei apwyntio yn ficer Saundersfoot yn sir Benfro. Does dim Cymraeg yn ne sir Benfro a fy mrawd ifancach heb ddim Saesneg felly roedd rhaid troi iaith yr aelwyd i Saesneg. Ar y pryd doedd neb yn gweld llawer o fygwth i’r iaith Gymraeg a phob hyn a hyn roedden ni’n cael y siawns i siarad Cymraeg pan oeddem ni’n gweld perthnasau, doedd hynny ddim yn ddigon ond doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd. Ar ôl gadael yr ysgol es i i weithio yn y banc ond ar ôl tair blynedd symudais i ganolbarth Lloegr i weithio ac erbyn i mi fod yn 35 roeddwn i wedi dechrau busnes argraffu a hynny yn fy nghlymu fi i’r ardal. Doedd dim dosbarthiadau nos yna, wel nid i ddysgu Cymraeg yn sicr ac roedd trio dysgu trwy lyfrau ‘Teach Yourself’ dim yn help o gwbl. Go brin byddech chi wedi clywed am y fath lyfrau, dw i’n siŵr roedd llawer ohonyn nhw yn cael eu prynu ond ar ôl dim o amser roedden nhw’n eistedd ar silffoedd yn casglu llwch. Beth i’w wneud? Yn fy meddwl es i’n ôl i’r amser pan o’n i’n ddeg mlwydd oed a sylweddoli o’r adeg yna ddylwn i ddechrau. Roeddwn i wedi colli’r cyfle i ddarllen llyfrau Cymraeg yn fy arddegau felly efallai dyna oedd y lle i ddechrau. Dyma fi wedyn ar y ffordd i Siop y Pethau yn Aberystwyth ac yn dychwelid efo llond braich o lyfrau. I ddechrau roeddwn i’n eu darllen efo geiriadur wrth fy ochr ond roedd hynny yn rhwystro'r pleser o ddarllen. Trïais i ymdopi hebddo ac yn reit fuan sylweddoli fy mod i’n cael syniad go dda o’r stori, trio ail lyfr yn yr un ffordd ac yn dechrau teimlo’n gyfforddus am y peth. Wedyn mi nes i ailddarllen y cyntaf a sylweddoli bod pethau’n llawer haws yr ail dro, y peth oedd pan nes i ddarllen y tro cyntaf roeddwn i wedi dysgu pwy oedd y cymeriadau a chael gafael go dda am y plot. Roedd hynny yn golygu bod gen i syniad da o’r cyd-destun ac yn ei dro roedd y cyd-destun yn rhoi awgrym i’r geiriau diarth yn y brawddegau. Dyna sut mae plant ifanc yn dysgu iaith, dydy rhieni ddim yn eistedd nhw i lawr a rhoi gwersi iddyn nhw, dysgu nhw am ferfau a threigladau – mae hynny yn cael ei ddysgu yn naturiol, wrth wrando, wrth siarad. Roeddwn i ar y trywydd iawn a ches i lawer o bleser wrth ddarllen llyfr ar ôl llyfr. Doedd hyn ddim fel dysgu. Ond doedd gen i ddim digon o hyder i siarad a dyna oedd yr anfantais o ailddysgu heb gael gwersi. Os nad oes gen i rywbeth gwell i ddweud mi wna i ddweud wrthoch chi sut nes i ddod dros hynny y tro nesaf! Cadwch lygad ar y gofod yma!
Ymlaen Ymlaen Yn ôl Yn ôl Gwrandewch
Gydangilydd.cymru Cartref Amdanaf Blasu Cymru Amrywiaeth Atyniadau
Ail Gydio yn yr Iaith
Geirfa
Datrys y broblem - to solve the problem Ar fin - on the brink of Rheithor - rector Ifancach - youngest Iaith yr aelwyd - language of the family Perthnasau - relatives Busnes argraffu - printing business Yn fy nghlymu fi - to tie me Casglu llwch - gathering dust Fy arddegau - my teenage years Dychwelid - to return Ymdopi hebddo - to cope without Cymeiriadau - characters Cael gafael go dda - to have a good grasp Cyd-destun - context Ar y trywydd iawn - on the right track
Mae’r erthygl yma ar gyfer dysgwyr ond hefyd yn berthnasol i Gymry Cymraeg sydd eisiau codi eu hyder yn yr iaith. Y peth i gofio ydy ein bod ni gyd yn dysgu ein hiaith yn dawel bach trwy gydol ein bywyd hyd yn oed ein hiaith Saesneg. Mi ydan ni’n gwneud hynny trwy ddarllen, trwy wrando a thrwy siarad ond, os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i siarad, peidiwch â phoeni - darllenwch i fwynhau a gwrandewch ar Radio Cymru i fwynhau hefyd. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn deall popeth yn syth, bydd hynny yn digwydd yn araf deg. Dw i’n addo! Mae hyder yn gwneud siarad yr iaith yn rhywbeth arbennig, yn rhywbeth gwerthfawr. Roeddwn i’n 35 ar y pryd ac yn byw yn Lloegr a heb siarad Cymraeg yn rheolaidd am 25 o flynyddoedd, roedd rywbeth yn fy mhoeni fi mwy a mwy ac nad oeddwn i’n gwybod sut i fynd ati i ddatrys y broblem a lleihau’r poen. Roeddwn i ar fin colli fy iaith. I fynd yn ôl at y dechrau ces i fy ngeni yn sir Fôn lle'r oedd yr iaith Gymraeg ym mhob man, doedd dim llawer o angen siarad Saesneg. Rheithor oedd fy nhad ym mhlwyf Llanallgo ger Moelfre ond pan oeddwn i’n 10 mlwydd oed cafodd o ei apwyntio yn ficer Saundersfoot yn sir Benfro. Does dim Cymraeg yn ne sir Benfro a fy mrawd ifancach heb ddim Saesneg felly roedd rhaid troi iaith yr aelwyd i Saesneg. Ar y pryd doedd neb yn gweld llawer o fygwth i’r iaith Gymraeg a phob hyn a hyn roedden ni’n cael y siawns i siarad Cymraeg pan oeddem ni’n gweld perthnasau, doedd hynny ddim yn ddigon ond doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd. Ar ôl gadael yr ysgol es i i weithio yn y banc ond ar ôl tair blynedd symudais i ganolbarth Lloegr i weithio ac erbyn i mi fod yn 35 roeddwn i wedi dechrau busnes argraffu a hynny yn fy nghlymu fi i’r ardal. Doedd dim dosbarthiadau nos yna, wel nid i ddysgu Cymraeg yn sicr ac roedd trio dysgu trwy lyfrau ‘Teach Yourself’ dim yn help o gwbl. Go brin byddech chi wedi clywed am y fath lyfrau, dw i’n siŵr roedd llawer ohonyn nhw yn cael eu prynu ond ar ôl dim o amser roedden nhw’n eistedd ar silffoedd yn casglu llwch. Beth i’w wneud? Yn fy meddwl es i’n ôl i’r amser pan o’n i’n ddeg mlwydd oed a sylweddoli o’r adeg yna ddylwn i ddechrau. Roeddwn i wedi colli’r cyfle i ddarllen llyfrau Cymraeg yn fy arddegau felly efallai dyna oedd y lle i ddechrau. Dyma fi wedyn ar y ffordd i Siop y Pethau yn Aberystwyth ac yn dychwelid efo llond braich o lyfrau. I ddechrau roeddwn i’n eu darllen efo geiriadur wrth fy ochr ond roedd hynny yn rhwystro'r pleser o ddarllen. Trïais i ymdopi hebddo ac yn reit fuan sylweddoli fy mod i’n cael syniad go dda o’r stori, trio ail lyfr yn yr un ffordd ac yn dechrau teimlo’n gyfforddus am y peth. Wedyn mi nes i ailddarllen y cyntaf a sylweddoli bod pethau’n llawer haws yr ail dro, y peth oedd pan nes i ddarllen y tro cyntaf roeddwn i wedi dysgu pwy oedd y cymeriadau a chael gafael go dda am y plot. Roedd hynny yn golygu bod gen i syniad da o’r cyd- destun ac yn ei dro roedd y cyd-destun yn rhoi awgrym i’r geiriau diarth yn y brawddegau. Dyna sut mae plant ifanc yn dysgu iaith, dydy rhieni ddim yn eistedd nhw i lawr a rhoi gwersi iddyn nhw, dysgu nhw am ferfau a threigladau – mae hynny yn cael ei ddysgu yn naturiol, wrth wrando, wrth siarad. Roeddwn i ar y trywydd iawn a ches i lawer o bleser wrth ddarllen llyfr ar ôl llyfr. Doedd hyn ddim fel dysgu. Ond doedd gen i ddim digon o hyder i siarad a dyna oedd yr anfantais o ailddysgu heb gael gwersi. Os nad oes gen i rywbeth gwell i ddweud mi wna i ddweud wrthoch chi sut nes i ddod dros hynny y tro nesaf! Cadwch lygad ar y gofod yma!
Yn ôl Ymlaen Yn ôl Ymlaen