Gydangilydd.cymru
Brechfa ac Abergorlech Roedd dydd Sadwrn diwethaf dipyn bach yn arbennig, diwrnod ein taith olaf cyn y Nadolig ond hefyd diwrnod ein cinio Nadolig. Mi ydan ni rywsut yn byw mewn cyfnod o ddyddiau glawog, un ar ôl y llall, efo un sych a heulog pob hyn a hyn. Roedden ni'n lwcus dros ben i fwynhau un o'r dyddiau sych a heulog prin. Roedd y daith i fod yn ardal Brechfa ond roedd newid meddwl ar y funud olaf, cyflwr y llwybrau, siŵr o fod, ond roedd y daith yn ardal Abergorlech yn gadarn dan draed ar y mwyaf. Pobl fywiog iawn yw aelodau'r Gymdeithas, byth yn sefyll yn stond ac mae hynny yn gwneud y gwaith o gyfri nhw yn anodd ond roedd o gwmpas 33 ohonom ni. Llawer mwy nag arfer. Rhannu ceir er mwyn cyrraedd Abergorlech. Dyma ble mae'r afon Gorlech yn gollwng ochenaid o ryddhad wrth gwblhau ei siwrne 4.7 milltir hir a throellog trwy'r goedwig i ymuno â'r afon Cothi. Bydd y Cothi yn cludo ei ddyfroedd yr holl ffordd i'r afon Tywi ac ymlaen i gyrraedd diwedd y daith yn Llansteffan a'r môr. Mae pob afon yn cyrraedd y môr yn y pen draw. Yn ystod ein taith roedd y Gorlech mewn golwg yr holl amser ac ar ôl yr holl law roedd disgwyl gweld afon fwdlyd, tywyll ond nid fel yna roedd. Roedd yr afon yn glir ac yn y llefydd tawel roedd gwaelod i'w weld yn glir, llechi lliwgar yn disgleirio trwy'r dŵr. Anodd iawn i bysgod guddio. Roedden ni wedi croesi'r afon ac wedi dringo'n raddol ond yn ddigon uchel i weld y bryniau moel tu draw dros y coed. Roedd llawer o'r coed wedi cwympo ac wedi cael eu gadael yn eu lle. Erbyn hyn roedden nhw wedi eu gorchuddio gan fwsogl trwchus ac yn rhan o'r isdyfiant, cartref tawel i lawer o drigolion y goedwig. Disgyn eto a chyrraedd yr afon unwaith eto. A dyna ble oedden ni'n syllu ar y dŵr yn llifo'n gyflym o'n blaenau, yn rhy ddwfn a chryf i ni groesi. Mi wnaeth llawer wneud ymdrech fawr i rannu'r dyfroedd wrth daro eu ffyn o flaen y dŵr ond yn anffodus na wnaeth hyd yn oed y mwyaf sanctaidd ohonom ni lwyddo. Oes rhaid i ni fynd yr holl ffordd yn ôl? Tynnu ein coesau ni oedd Ann a dyma hi'n ein harwain at bont arall i ni groesi tra chadw'n traed yn sych. Anelu'n ôl at y man cychwyn rŵan, pawb wedi defnyddio digon o egni i godi chwant bwyd. Yn ôl at Frechfa a'r Fforest Arms ble roedd llawer o hen ffrindiau yn disgwyl amdanon ni. Roedd pethau wedi cael ei drefnu yn arbennig o dda. Roedd pawb wedi gwneud eu dewis o'r fwydlen o flaen llaw a llawer wedi ei anghofio yn syth. Ond roedd Ann wedi rhagweld hyn ac efo cymorth cardiau Merched y Wawr wedi rhoi ein henwau a'n dewis ar y cefn. Efallai tipyn bach o 'belt a bresys' oedd rhoi ein henwau ar y cardiau, roedd rhan fwyaf ohonon ni'n cofio'n henwau! Roedd y bobl oedd yn gweini yn drefnus, ac yn gwrtais hefyd - clywais lawer o 'ddiolch' a 'chroeso'. Roedd y bwyd yn ardderchog, mi wnes i fwynhau fy quiche, eog a 'llanast Eton' yn fawr iawn. Roedd y cwmni'n dda hefyd, braf iawn yw cael pawb at ei gilydd. Doth yr amser i fynd, yr alwad i fynd yn ôl at yr hyrli byrli o bethau i'w wneud. Rhai yn gorfod mynd adref i sortio allan yr addurniadau, neu trimmings' fel dyn ni'n dweud yn y gogledd. Eraill yn anelu adref yn llawn cyffro i ofalu am eu coed Nadolig! Diolch yn fawr i Ann Philips am drefnu, nid yn unig y daith ond y cinio hefyd ac i wneud hynny mor dda. Diolch i Wyn am gadw ni at ein gilydd. Diolch i'r cerddwyr am eu cwmni da a braf oedd gweld ein ffrindiau nad oedd yn cerdded. Nadolig Llawen i chi i gyd a, phan ddaw, Blwyddyn Newydd Dda! Pob hwyl. Geirfa Pob hyn a hyn – every now and then Ar y mwyaf – for the most part Gollwng ochenaid o ryddhad – to breathe a sigh of relief Cludo – to carry Dyfroedd – waters Llechi lliwgar – colourful slates Disgleirio – to shine Bryniau moel – bald hills Mwsogl trwchus – thick moss Isdyfiant – undergrowth Syllu – to stare Rhannu’r dyfroedd – to part the waters Taro eu ffyn – to strike their sticks Y mwyaf sanctaidd – the most saintly Rhagweld – to foresee Efo cymorth – with the aid of Llanast Eton – Eton Mess Llawn cyffro – full of excitement
Ymlaen